Neidio i'r cynnwys

Y Broblem Ddwyieithog yn yr Ysgol Uwchradd yng Nghymru/Cyfrwng Hyfforddiant

Oddi ar Wicidestun
Cynlluniau Gwaith Y Broblem Ddwyieithog yn yr Ysgol Uwchradd yng Nghymru

gan Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg

Atodiad

4
Cyfrwng Hyfforddiant

HYD YN HYN, DELIWYD Â'R SAESNEG A'R GYMRAEG FEL PYNCIAU YN UNIG yn y maes llafur. Rhaid ystyried, yn awr, i ba raddau y gellir defnyddio'r naill a'r llall fel cyfrwng hyfforddiant.

Nid oes dim i'w ofni ynghylch y Saesneg. Y mae iddi le parchus, ac yn y mwyafrif o'r ysgolion uwchradd hi biau'r unig le, fel cyfrwng hyfforddi. Felly, i'r defnydd a wneir o'r Gymraeg fel cyfrwng y mae eisiau rhoddi sylw, ac i'r rhesymau paham y dylid rhoi mwy o le i'r Gymraeg fel cyfrwng hyfforddi yn yr ysgolion lle bo'r Gymraeg yn famiaith i'r plant i gyd, neu bron i gyd.

Yn gyntaf, dyna'r fantais amlwg a ddaw i ran plant felly. Y mae eu gwybodaeth o'r iaith yn ehangu, ac fe ddaw yn gyfrwng mynegiant mwy hydwyth ac ystwyth iddynt. Cynydda eu parch at yr iaith: yn lle bod yn unig yn gyfrwng ymddiddan bob dydd yn y cartref ac ar y stryd, ac yn colli ei min trwy fod mor gynefin, fe ddaw'r iaith yn gyfrwng ysgolheictod a diwylliant ehangach, ac fe'i defnyddir nid yn unig gan yr athro Cymraeg sydd yn rhinwedd ei swydd yn gorfod ei defnyddio, ond hefyd gan athrawon eraill ar y staff. Yn ail, bydd y plant yn eu blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol yn debycach o ddeall egwyddorion sylfaenol y pynciau eraill, yn arbennig y pynciau newydd sy'n cael eu trin. Ni bydd ganddynt eto ddigon o Saesneg at hyn, ac annheg â hwynt yw peidio â defnyddio eu mamiaith. Sylweddolwyd hyn gan rai ysgolion uwchradd yn yr ardaloedd Cymraeg, a disgwylir i athrawon a benodir i ddysgu'r dosbarthiadau isaf, feddu gwybodaeth o'r Gymraeg. Wrth symud i fyny drwy'r ysgol bydd yn bosibl i'r plant gael eu hyfforddi drwy gyfrwng y Saesneg a'r Gymraeg, a bydd eu gwybodaeth o'r ddwy iaith ar ei hennill wrth hyn. Yn drydydd, dyna'r fantais i'r iaith Gymraeg ei hunan. Cyhyd ag y cyfyngir yr iaith fel cyfrwng mynegiant yn fwyaf arbennig i feysydd gwybodaeth fel Llenyddiaeth ac Addysg Grefyddol, y mae'n amlwg mai cyfyng fydd ei chylch. Anaml y defnyddir y Gymraeg i ddysgu Gwyddoniaeth a phynciau tebyg, ac eto dyma'r pynciau sy'n cael mwyaf o sylw heddiw. Heb yn wybod inni daethom i dderbyn y sefyllfa ymha un y rhoddir i'r naill iaith a'r llall ei phriod gylch o ddylanwad. Erys y Gymraeg yn iaith llenyddiaeth, yn iaith yr eisteddfod a'r pulpud a'r capel, tra datblyga'r Saesneg yn iaith naturiol i fusnes a gwyddoniaeth. Dyma gyfyngu anffodus ar swyddogaeth iaith. Y mae'r iaith na all ymdrin â phob agwedd ar ei byd cyfoes, yn dechrau colli tir. Rhaid i iaith, os ydyw am fyw, ddal i ehangu, i ymgyfaddasu, i gyfleu gwybodaeth newydd mewn meysydd newydd, i lunio geiriau newydd, i fenthyca oddi ar ieithoedd eraill, i gryfhau ei thafodieithoedd sydd yn rhoi bywyd newydd yn yr iaith lenyddol, ac i wneud yr iaith lenyddol honno yn gyfrwng ystwyth i gyfleu gwybodaeth a syniadau. Rhaid felly i'r iaith Gymraeg dyfu yn y ffordd hon, fel yn wir y gwnaeth yn y gorffennol. A chan fod yr ysgolion uwchradd a sefydliadau addysg uwchradd yn ganolfannau i ledaenu gwybodaeth a diwylliant efallai mai hwy i raddau helaeth a fydd yn penderfynu tynged yr iaith Gymraeg. Anawsterau geirfa, a gofynion arholiadau yw'r rhesymau a roddir yn aml dros beidio â defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu pynciau modern. Nid ydyw'r cyntaf mor anodd ag y dywedir yn aml ei fod: y mae geirfa gwyddoniaeth i raddau helaeth yn gyd-wladol, ond lle nad oes geiriau cymwys rhaid i'r Gymraeg ddilyn esiampl y Saesneg ac ieithoedd eraill, a llunio ei geiriau ei hunan, neu fenthyca. Yn nwylo'r athrawon y mae'r moddion i wella'r ail beth: rhaid iddynt beidio â derbyn yn wylaidd yr hyn y mae gofynion arholiad yn ei orchymyn : swydd pob cyfundrefn arholi ydyw gwasanaethu ei chymdeithas a'i hysgolion, yn hytrach na dirwasgu bywyd y ddau gymaint nes eu gwanhau a llesteirio eu datblygiad unigol grymus.

Efelychu a fu hanes ysgolion uwchradd Cymru o'r cychwyn bron. Bu llawer gormod o ddilyn patrwm yr ysgol ramadeg yn Lloegr, mewn maes llafur ac mewn dulliau, heb roddi llawer o ystyriaeth i broblemau eu hiaith eu hun. Rhaid peidio ag anghofio nad oedd gennym gyfundrefn addysg genedlaethol y gellid gwneud yr ysgolion uwchradd gramadeg yn rhan ohoni, ac mai nôd materol cyfyng oedd gan ei sefydlwyr (er y gallai'r ysgol gynradd fod wedi cael patrwm da yn yr Ysgol Sul Gymraeg). Byddai'n beth da inni ganolbwyntio ein sylw nid yn gymaint ar feirniadu arferion ddoe a heddiw o fan ffafriol rhyw ragoriaeth helaeth, ond yn hytrach ar ofyn i ni ein hunain a roddodd ein cyfleusterau ehangach weledigaeth gyfatebol glir i ni ar y broblem ddyrys hon. A fedrwn ni ddweud bod yr ysgol uwchradd mewn gwirionedd wedi symud, yn ei hamcanion a'i dulliau, i unrhyw raddau sylweddol oddiwrth y ffyrdd efelychol a thraddodiadol, a'i bod yn ei chymhwyso'i hun at y gwaith o ddiogelu genedigaeth fraint plant Cymru heb esgeuluso'i rhwymedigaeth i'w paratoi ar gyfer galwadau'r byd modern? Gan fod addysg uwchradd, bellach, yn cael ei hestyn i bawb, cyhoeddwyd y pamffled hwn i fynegi'r broblem, i awgrymu atebion posibl ac i wahodd ymdrechion pellach.

Nodiadau

[golygu]