Y Broblem Ddwyieithog yn yr Ysgol Uwchradd yng Nghymru/Cynlluniau Gwaith
| ← Astudio Iaith | Y Broblem Ddwyieithog yn yr Ysgol Uwchradd yng Nghymru gan Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg |
Cyfrwng Hyfforddiant → |
3
Cynlluniau Gwaith
WRTH DREFNU CYNLLUNIAU GWAITH YN GYMRAEG AR GYFER POB MATH o ysgolion uwchradd, dylid cadw mewn cof y sylwadau canlynol; amrywia'r pwyslais, yn ôl teip yr ysgol, ond erys yr egwyddorion sylfaenol yn wir, beth bynnag fo'r teip.
A. Cymraeg fel Iaith Gyntaf
(a) Tybir yn aml nad oes eisiau hyfforddiant arbennig mewn siarad Cymraeg ar blant sydd beunydd yn siarad Cymraeg gartref. Anaml y gellir cyfiawnhau hyn. Y mae dysgu'r plentyn i siarad yn eglur, yn gywir ac yn swynol, yn rhan o'r hyfforddiant iaith y dylid ei roi iddo. Dylai'r cwrs gynnwys, felly, hyfforddiant ymadrodd cyson, ymarferion dramatig cyffredinol, a hefyd hyfforddiant mewn darllen yn uchel ddarnau o farddoniaeth a rhyddiaith.
Y mae hyfforddiant o'r fath yn angenrheidiol ymhob ysgol uwchradd. Yn yr ardaloedd cymysg eu hiaith, yn arbennig, rhaid gosod pwyslais neilltuol ar ddatblygu ymadrodd clir a rhwydd mewn gwaith llafar cyffredinol ac mewn darllen. Yn yr ysgol fodern, rhaid gofalu wrth ddethol llyfrau darllen, yn enwedig ar gyfer y grwpiau isel eu cyraeddiadau. Yn y dosbarthiadau hyn, darllen mewn grwpiau a fydd yn debyg o fod fwyaf boddhaol, a golyga hyn fwy o amrywiaeth mewn llyfrau darllen ychwanegol. Erbyn hyn, y mae gennym fwy o lyfrau darllen Cymraeg addas i'r ysgol fodern, ond y mae eisiau llawer eto. Yn yr ysgolion hyn, ac yn arbennig yn y dosbarthiadau y cyfeiriwyd atynt uchod, dibynna llawer ar fywiogrwydd ac amrywiaeth y gwaith llafar. Dylai'r darllen, y gwaith llafar, a'r gwaith ysgrifennu ddal perthynas agos â'i gilydd, a dylai'r holl waith mewn iaith gael ei gysylltu gymaint ag sy'n bosibl â holl gefndir bywyd y plentyn, â'i weithgareddau yn yr ysgol yn gyffredinol, a thu allan iddi. Ynglŷn â hyn, byddai'n ddymunol i'r athrawon ymgyfarwyddo â thechneg dull y "project.'
(b) Dylai'r cyrsiau hefyd gynnwys astudiaeth o waith llenorion enwog Cymru, yn rhyddiaith a barddoniaeth; dylai'r plant ddarllen mwy o waith prif ysgrifenwyr rhyddiaith Cymru. Er na fydd yn bosibl, efallai, i ddarllen testunau cyfain, gellir gwneud llawer trwy ddewis yn ddoeth, a thrwy grynhoi a defnyddio detholion. Mewn barddoniaeth ni ddylid ystyried unrhyw gwrs yn gyflawn heb astudiaeth o'r mesurau caeth, a heb ryw astudiaeth, pa mor elfennol bynnag, o egwyddorion y Gynghanedd. Y mae cynlluniau gwaith, fel rheol, yn darparu ar gyfer dysgu ar gof ddarnau helaeth o farddoniaeth: nid yw'r arfer o ddysgu ar gof ddarnau o ryddiaith urddasol mor gyffredin, er ei fod yr un mor werthfawr.
(c) Ni fyddai astudiaeth o ryddiaith Gymraeg yn gyflawn yn yr ysgol nac mewn unrhyw fan arall, heb ei fod yn cynnwys rhywfaint o'r Beibl. Bu dylanwad y Beibl yn ddwfn ar ryddiaith a barddoniaeth Cymru, ac ar dwf cyffredinol diwylliant Cymru. Mae'n wir hefyd i'r Beibl Saesneg ddylanwadu'n drwm ar ddatblygiad bywyd a llenyddiaeth Lloegr, a gallai plentyn ddysgu llawer am hanes y ddwy wlad trwy gymharu'r modd y dylanwadodd y Beibl ar fywyd a llenyddiaeth y naill a'r llall.
Efallai mai buddiol weithiau fyddai cymharu darnau o'r Argraffiad Awdurdodedig o'r Beibl Cymraeg a'r Argraffiad diweddar o'r rhannau hynny a gyhoeddwyd eisoes gan Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Dylid son hefyd am yr Argraffiad o'r Testament Newydd a wnaed yn orgraff Gymraeg heddiw.
(d) Heb feistroli o leiaf elfennau ei gramadeg, nid oes unrhyw astudiaeth fuddiol o'r Gymraeg yn bosibl. Wrth ddysgu gramadeg, rhaid defnyddio dulliau anwythiad (induction) a diddwythiad (deduction).
Dyry'r dull anwythiad hyfforddiant gwerthfawr dros ben mewn sylwi a dosbarthu. Yr un mor werthfawr ydyw'r defnydd a wneir o ddiddwythiad i sicrhau arferion ysgrifennu cywir. Rhaid wrth y ddau fethod i gael y gorau allan o astudio gramadeg.
Dadleuir na ellir cymhwyso'r ymarferion diddwythiad hyn fel y'u defnyddir wrth ddysgu'r clasuron, at ddysgu iaith fodern, gan mai drwy gyfieithu'n unig y gwneid yr ymarferion hyn, ac na byddai hyn yn gyson â dulliau diweddar, yn enwedig os ydys am lynu'n ddiwyro wrth y Method Union. Nid oes grym yn y ddadl hon, gan nad cyfieithu yw'r unig ddull o ymarfer felly. Y mae dysgu'r Ffrangeg fel mamiaith yn ysgolion Ffrainc, yn enwedig y defnydd a wneir o ddiddwythiad wrth drin gramadeg er mwyn sicrhau cyfansoddi naturiol, clir a chywir, yn cyrraedd safon uwch nag a geir yn unlle arall: ond rhaid gwneud hyn oll, o angenrheidrwydd, drwy gyfrwng yr iaith ei hun. Y mae'r hyn a wneir yn Ffrainc yn yr iaith gyntaf, yn bosibl hefyd yn Gymraeg.
Rhaid ymarfer gymaint ag sy'n bosibl â chymhwyso rheolau cystrawen wrth gyfansoddi: felly hefyd rhaid wrth ymarferion dril i gymathu nodweddion ffurfiant. Ychydig a welwyd yn ddiweddar o ddefnyddio ymarferion dril er mwyn dysgu ar gof ffurfiau safonol rhediad gwahanol rannau ymadrodd, a diflanasant yn llwyr o rai ysgolion. Cododd hyn eto, a hynny drwy gamgymeriad hollol, o'r lle blaenllaw a roddwyd i ffurfiant yn y Gramadegau hŷn, a'r dull o'i gyflwyno. Oherwydd rhoi'r gorau i'r dull traddodiadol o gyflwyno ffurfiant, ymddengys bod llawer o ysgolion wedi casglu hefyd nad oes bellach angen am ddysgu rhediadau'n drwyadl. Y mae'n bwysig cadw'r ymarferion hyn, a'u gwneud yn rhan hanfodol o'r cyflwyniad newydd sy'n nodweddu'r dull modern o ddysgu iaith.
Rhydd y Gymraeg gyfle i amryw ymarferion o'r fath, a phan gysylltir hwy'n ofalus a'r gwaith cyffredinol, nid yn unig rhoddant hwb ymlaen i astudiaeth o'r iaith, ond hefyd rhoddant i'r plant weithgareddau sydd wrth eu bodd. Dylai'r mwyafrif o'r gwersi Cymraeg yn ystod y ddwy flynedd gyntaf gynnwys ymarfer dril am bum neu ddeng munud.
(e) Bydd y ddawn i ysgrifennu Cymraeg idiomatig yn datblygu i'r graddau y bo cysylltiad rhwng dysgu gramadeg a darllen. Dylid yn rheolaidd osod ymarferion ysgrifennu yn unig swydd er mwyn sicrhau cywirdeb a gwybodaeth idiom. Nid oes rhaid iddynt fod ar ffurf cyfieithu, er y gall cyfieithu o'i ddefnyddio'n ofalus, fod yn offeryn effeithiol at gyrraedd yr amcan hwn, ac y mae iddo hawl i'w le wrth ymarfer â dulliau diweddar.
Dylid gofalu dewis testunau addas i'r ymarferion ysgrifennu, a rhagbaratoi'r deunydd yn fanwl. Dylai'r ymarferion ddilyn fwy neu lai yn syth o'r gwaith llafar, pa un ai gwers ymddiddan yw ai trafodaeth ar ddarn a ddarllenwyd, ac fe ddylai fod ymdrech fwriadol ar ran yr athro i gael gan y plant ddefnyddio mwy a mwy o'r eirfa oddefol yn yr ysgrifau hyn. Trafoder yn fanwl eiriau newydd, a phob gair nad yw ei ystyr eto wedi ei gwbl ddirnad, a defnyddiol fyddai i'r athro a'r dosbarth gyda'i gilydd benderfynu'n fras ymlaen llaw beth y bwriedir ei ddweud, a'r lle a'r pwysigrwydd a roddir i'r gwahanol rannau yn y cyfanwaith. Er nad ydyw'r ysgrif yn Gymraeg wedi datblygu fel ffurf lenyddol i unrhyw raddau tebyg i'r ysgrif Saesneg, eto y mae digon o batrymau ar gael, ac fe haedda rhai o'r ysgrifau Cymraeg diweddaraf astudiaeth ofalus.
Y mae'n anodd ac efallai mai di-fudd fyddai ceisio awgrymu sut i feddiannu'r arbenigrwydd unigol hwnnw, a'r rhagoriaeth mewn ysgrifennu a elwir yn arddull. Ond y mae modd, serch hynny, i'r mwyafrif o'r plant drwy gyfrwng hyfforddiant deallus gyrraedd safon o ysgrifennu clir a pherthynol a rydd fwynhad i'r neb a'i darlleno. Os ceir rhywbeth tebyg i hyn gan y mwyafrif o'r plant ar ôl iddynt ddarllen yn ystyriol y patrymau gorau, a chael digon o ymarferion addas mewn rhyddiaith, yna yr ydys yn cyflawni gwaith da iawn. Dros ben hyn, try'r ddawn i ysgrifennu yn beth arbennig unigol o dan ddylanwad ac arweiniad elfennau personol na ellir eu pwyso na'u mesur.
(f) Er hyn i gyd, y mae'n bwysig iawn i'r plentyn yn yr ysgol uwchradd beidio â dod i ystyried astudiaeth o'r famiaith fel cyfres o ymarferion ffurfiol, pa enwau bynnag a roddir iddynt wrth eu cyflwyno. Os ydyw agwedd y plentyn at iaith ar ôl iddo adael ysgol, i fod yn fyw, yn ymholgar ac yn feirniadol, yn hytrach nag yn oddefol ac yn ddifater, yna rhaid i'r ysgolion uwchradd, gramadeg a modern, efelychu'r ysgol fabanod a'r ysgol iau yn y ffordd y maent hwy'n pwysleisio ac yn datblygu'r agwedd greadigol honno ar astudio iaith. Y mae'n hynod ein bod ni'n disgwyl ac yn cymeradwyo gwaith creadigol mewn celfyddyd a chrefft, a cherddoriaeth, ac eto, ar y cyfan, yn tueddu i bwysleisio'r agweddau ffurfiol mewn iaith, yr un gweithgaredd hwnnw y mae gan bawb ohonom ran ynddo. Peth anghyffredin, er enghraifft, yw ystyried prydyddu yn ddim mwy na rhywbeth y gall ambell blentyn ymddiddori ynddo ar brydiau, ac eto y mae prydyddu—a pheth ohono'n haeddu gwell enw—wedi bod yn un o adloniannau nodweddiadol y Cymry. Dylid annog y plant i ymarfer â phob math o ysgrifennu creadigol, pa un ai mewn rhyddiaith ai mewn barddoniaeth. Dylid rhoi llyfr arbennig iddynt i'r pwrpas hwn, er mwyn cadw ymarferion ffurfiol ar wahan i'r darnau ysgrifennu hynny sy'n rhoi rhyddid i'w dychymyg.
(g) Y mae penodi arbenigwyr i ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion uwchradd wedi talu'n llawn. Weithiau, bydd gan yr athro Cymraeg ystafell Gymraeg,' ac yno y daw pob dosbarth yn ei dro i gael eu gwersi. I'r ystafell hon, cesglir lluniau, llyfrau, llawysgrifau, modelau o wrthrychau nodweddiadol Gymreig, a phob math posibl o "realien" Cymraeg. Y mae'r defnyddiau dysgu yn gyfleus wrth law, ac effaith cael ystafell felly ydyw ennyn diddordeb ac ymdrech.
Er cystal manteision yr ystafell Gymraeg,' y mae un perygl, fodd bynnag, ynglŷn â hi, sef yw hwnnw, cadw'r Gymraeg ar ei phen ei hun. Fe geisia'r mwyafrif o'r ysgolion osgoi'r perygl hwn yn eu gwaith bob dydd. Mewn ardaloedd Cymraeg, peth cyffredin ydyw cael bod llawer, onid y mwyafrif, o'r athrawon yn siarad Cymraeg, a manteisiant ar bob cyfle i ddefnyddio'r famiaith, er mai Saesneg ydyw cyfrwng hyfforddi'r pwnc a ddysgant. Y mae rhai Prifathrawon sy'n annog eu disgyblion i siarad â hwy yn Gymraeg pryd bynnag y dont i'w gweld hefyd, cynydda'r parch sy'n ddyledus i'r iaith, os clyw'I plant yr athrawon yn siarad â'i gilydd yn Gymraeg.
Y mae ffyrdd eraill o greu awyrgylch Gymreig y tu allan i'r wers a'r ystafell ddysgu. Y mae nifer y llyfrau Cymraeg yn y llyfrgell, a'r amlygrwydd a roddir i gyfraniadau Cymraeg yng nghylchgrawn yr ysgol yn cael cryn effaith. Y mae chwarae dramau Cymraeg, canu caneuon Cymraeg, cynnal eisteddfodau Cymraeg, a chyfarfodydd rheolaidd Cymdeithas Gymraeg, ymarfer â dawnsio gwerin—y mae hyn oll yn cyfrannu at yr awyrgylch. Yn bennaf oll, mae cynnal y gwasanaeth borëol yn Gymraeg yn nodedig o effeithiol.
(b) Un anghenraid mawr ymhob ysgol uwchradd ydyw rhoi cefndir daearyddol i wybodaeth y plant am Hanes a Llenyddiaeth Cymru. Byddai'r mwyafrif o blant Cymru yn ansicr wrth geisio dangos, ar fap o Gymru, leoliad y rhan fwyaf o fannau a chartrefi fel y Lasynys, Cefn Brith, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Llanddowror, Llangeitho, Ystrad Fflur, Llanymddyfri, Llanbrynmair, Llanarmon-dyffryn-Ceiriog, Cynfal, Pont-y-meibion, a Maentwrog. Dyma enwau y bu iddynt yn sicr ddod ar eu traws yng nghwrs eu darllen, ac nid yw'r rhain ond ychydig ymhlith y llu mawr o enwau sy'n dwyn cysylltiad agos â llenyddiaeth Gymraeg.
Ni chawsom eto atlas llenyddol o Gymru, ond yn y cyfamser, gallai'r ysgolion achub y blaen arno i raddau drwy baratoi mapiau i ddarlunio rhai o ffeithiau pwysicaf llenyddiaeth. Er enghraifft, byddai map syml yn darlunio "Yn y Wlad," "Cartrefi Cymru," "Tro Trwy'r De," a "Tro Trwy'r Gogledd" yn fuddiol iawn i leoli gwybodaeth y plant am lawer o'r llenyddiaeth y maent yn ei hastudio. Gellid llunio map diddorol a defnyddiol yn delio'n unig ag emynwyr Cymru. Gellid gwneud mapiau yn darlunio'r gwahanol ganrifoedd, neu gellid eu seilio ar symudiadau neu ddatblygiadau llenyddol. Ynglŷn â hyn, dylid sôn am y map llenyddol a hanesyddol defnyddiol iawn o Sir Ddinbych, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ynghŷd â llawlyfr, gan yr Awdurdod Addysg Lleol.
B. Cymraeg fel Ail Iaith
(a) Rhaid gwahaniaethu rhwng yr amodau sy'n penderfynu dysgu Cymraeg fel ail-iaith mewn ardaloedd lle siaredir Saesneg yn bennaf, a'r amodau hynny sy'n rheoli dysgu Saesneg fel ail iaith yn yr ardaloedd Cymraeg.
Yn gyntaf, nid yr un yw'r nôd yn y ddau achos. Ymhlith rhesymau eraill, dysgir Saesneg fel ail iaith drwy'r ysgol gynradd mewn ardaloedd Cymraeg er mwyn ei defnyddio fel cyfrwng hyfforddi ar ôl hynny. Mewn ysgolion o'r fath, felly, rhoddir lle amlycach i'r Saesneg fel ail iaith, nag i'r Gymraeg fel ail iaith yn yr ysgolion cynradd di- Gymraeg..
Eto, y mae'n haws dysgu Saesneg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd na dysgu Cymraeg fel ail iaith yn ystod yr un cyfnod, gan fod y dylanwadau o'r tu allan i'r ysgol sydd o blaid dysgu'r Saesneg fel ail iaith, yn rymusach o lawer na'r dylanwadau hynny sydd o blaid dysgu'r Gymraeg fel ail-iaith. Rhoddir mwy o amser i Saesneg, ac y mae'r athrawon, fel corff, mewn gwell ffordd i ddelio â dysgu Saesneg fel ail-iaith na Chymraeg fel ail-iaith, gan mai Saesneg bron yn gyfangwbl ydyw cyfrwng addysg yr Ysgol Uwchradd, y Coleg Hyfforddi, a'r Brifysgol yng Nghymru. Y canlyniad yw bod gan y plentyn Cymraeg sydd dros un-ar-ddeg lawer gwell gafael ar Saesneg nag sydd gan y plentyn Saesneg o'r un oed ar Gymraeg, hyd yn oed pan gafodd y Gymraeg fel ail iaith fwy o sylw nag arfer yn yr ysgol gynradd.
Dyma'r gwahaniaethau y mae'n rhaid eu cydnabod a'u hystyried, cyn y gellir cymharu cyraeddiadau plant o unrhyw oedran yn Gymraeg fel ail iaith, ac yn Saesneg fel ail iaith.
(b) Rhaid yn gyntaf, beth bynnag fo natur yr ardal, drefnu dosbarthiadau tebyg o ran iaith. Y mae dosbarthu ar sail iaith yn hanfodol er mwyn sicrhau gwaith effeithiol. Hwyrach mai anodd fydd trefnu dosbarthiad felly mewn rhai ysgolion, gan na fydd digon o rif efallai, yn y grwp Cymraeg neu'r grwp di-Gymraeg i ffurfio dosbarth ar wahan. Efallai hefyd y bydd anhawster oherwydd prinder athrawon angenrheidiol neu oherwydd diffyg lle. Pan ddigwyddo hyn, y mae dysgu'r ddau grwp yr un pryd, neu o leiaf yn yr un wers yn yr un dosbarth, yn wir anodd. Ond, hyd yn oed wedyn, y mae'n fuddiol ac yn angenrheidiol i rannu'r dosbarth, oherwydd nid yn aml y mae'n fanteisiol i hyfforddi'r ddau grwp gyda'i gilydd. Os ydyw'r dysgu'n ddigon syml i'r plentyn di-Gymraeg ei ddeall, yna y mae'n amlwg na all, gan amlaf, ddiddori'r plentyn Cymraeg. Ar y llaw arall, os bydd y safon yn ddigon uchel i ateb anghenion y plentyn Cymraeg, fel arfer ymhell o gyrraedd y llall. Felly, rhaid cael rhyw fath o ddosbarthu. Y ffordd orau yw rhannu'r ysgol, gan ddod â phlant o'r un iaith at ei gilydd (vertical classification), ond os methir à gwneud hyn, oherwydd gofynion yr amserlen neu brinder athrawon, yna rhaid rhannu pob dosbarth yn ôl gwybodaeth y plant o'r Gymraeg (horizontal classification).
(c) Wrth sôn am y nôd neu'r safon mewn perthynas à dysgu'r Gymraeg fel ail iaith, gwell felly fydd eu hystyried o safbwynt y minimwm mewn perthynas â'r plentyn di-Gymraeg mewn ysgol lle mae dylanwadau allanol y Gymraeg yn wan. Bydd beth bynnag a ellir ei wneud dros ben hynny mewn ardaloedd lle mae'r dylanwadau Cymraeg yn drymach, yn amrywio o le i le.
A bwrw nad yw ym mwriad y plentyn i astudio'r pwnc yn y Brifysgol, yr amcan cyntaf yw iddo allu dod i ddarllen Cymraeg a'i deall, ac yn fuan wedyn i ddeall Cymraeg llafar, ac i siarad Cymraeg. Nid anwybyddu na bychanu gwerth y gallu i ysgrifennu Cymraeg yw hyn; ond os mai galluogi'r plentyn di-Gymraeg, ar ôl iddo adael yr ysgol, i gyfranogi o wahanol agweddau y bywyd Cymreig ydyw nôd ac amcan dysgu ail iaith, yna, y mae'n fwy angenrheidiol iddo fedru darllen Cymraeg, a'i deall a'i siarad hi, nag yw iddo fedru ei hysgrifennu i'r un graddau. Os gall ddarllen Cymraeg a'i deall ar lafar, y mae ganddo'r moddion i gael budd a mwynhad allan o lenyddiaeth Cymru, ac, er mantais iddo ef ei hun, i ddilyn yr amryw gyfarfodydd cymdeithasol, crefyddol ac addysgol hynny, y gall y bywyd Cymreig eu cynnig iddo- cyfarfodydd fel yr Eisteddfodau Cenedlaethol, a'r Eisteddfodau Lleol, dramâu Cymraeg, a'r amryw gyfarfodydd llenyddol a chymdeithasol a gynhelir o dan nawdd capeli ac eglwysi a mudiadau ieuenctid. Gall ei gynorthwyo hefyd mewn llawer o ardaloedd gwledig i gymryd ei le yn fwy esmwyth ar fyrddau cyhoeddus. Ofnir bod llawer o blant yr ysgol uwchradd (hyd yn oed plant yr ysgolion gramadeg) o hyd heb y manteision hyn, er iddynt lwyddo i basio'r arholiadau presennol mewn Cymraeg fel ail iaith, ac oherwydd eu hanallu i fanteisio ar y cyfleusterau o fewn eu cyrraedd, y mae eu diddordeb yn yr iaith yn gwanhau, a'u gafael arni'n llacio. Rhaid cael ychydig o ymarfer ysgrifennu, y mae'n wir, er mwyn ymgydnabyddu â dulliau idiomatig, ac i feithrin cywirdeb ymadrodd, a hyd yn oed i ddeall yr hyn a ddarllenir, ac fe fydd amser a chyfle i gynnwys ymarferion felly.
I'r plant sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith, dylai'r cwrs felly anelu'n bennaf at ddeall Cymraeg llyfr a llafar, a chysylltu hynny â'r gallu i'w siarad hi: ac wedyn, ceisio datblygu cyn belled ag sy'n bosibl, y gallu i ysgrifennu'r iaith. I gyrraedd hyn, arbedir amser ac egni, a bydd gwell cynnydd, os cysylltir y deunydd darllen gymaint ag sy'n bosibl â'r iaith a ddefnyddir i ddatblygu'r gallu i siarad. Dylid seilio'r gwaith ysgrifennu o hyd ar y darllen a'r siarad.
(d) Llyfrau Darllen a Geirfa: y cnewyllyn cyffredinol. Y mae dewis llyfrau darllen, felly, yn fater pwysig iawn. Cafwyd cryn welliant yn
ddiweddar yn y llyfrau darllen Cymraeg ar gyfer gwaith dosbarth, ac y mae'r gynhysgaeth a'r amrywiaeth o lyfrau diddorol ar gyfer darllen ychwanegol wedi cynyddu'n fawr yn ystod y pymtheg neu'r ugain mlynedd diwethaf. Y mae'n amheus serch hynny a gafwyd eto lyfr darllen o'r math mwyaf pwrpasol ar gyfer y plentyn sy'n gorfod dysgu'r Gymraeg fel ail iaith a hynny gydag ychydig o hyfforddiant ac o fewn amser cyfyngedig. Y mae'r gwelliant angenrheidiol felly yn dibynnu ar ddethol geirfa fwy addas, neu'n hytrach ar gael datblygiad organig yn yr eirfa mewn cyfres o lyfrau olynol.
Gwyddys mai bychan yw'r eirfa sydd yn angenrheidiol i'r dyn cyffredin er mwyn medru deall ac ymddiddan yn ei ymgyfathrach bob-dydd yn wir, mae hi'n llawer llai nag a sylweddolir yn gyffredin. Fel bo'r cysylltiadau cymdeithasol a chyffredinol yn cynyddu, bydd galw am eirfa changach, ond y minimwm o eirfa a ddefnyddir gan y dyn cyffredin yw cnewyllyn pob geirfa arall bob amser pa mor eang bynnag yr elo. Bydd pob geirfa, wrth gwrs, yn amrywio yn ôl fel datblyga dermau gyda gwahanol weithgareddau a galwedigaethau, ond y mae'r elfen sy'n gyffredin i bob un ohonynt yn fwy o lawer nag unrhyw wahaniaeth sydd rhyngddynt.
Gan mai prin yw'r amser a roddir fel arfer i ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith o'i gymharu â maint y gorchwyl, y mae'n bwysig iawn canolbwyntio i ddechrau ar yr elfen gyffredin hon mewn geirfa. Wedyn, dylai'r gwaith o roi i'r plentyn wir afael ar yr eirfa hon gael ei drefnu'n ofalus iawn, er mwyn sicrhau cynnydd organig yn hytrach nag un amberthnasol o flwyddyn i flwyddyn yn ystod y cwrs.
Rhaid rhoi'r un ystyriaeth hefyd i'r darllen. Yr eirfa sylfaenol mewn ymddiddan a ddylai fod yn fframwaith i'r llyfr darllen, yn arbennig i'r llyfrau darllen cyntaf, a dylid ystyried yn fanwl bob gair a chwanegir at y fframwaith hwn.
Rhaid gofalu hefyd wrth ystyried geirfa'r llyfrau darllen ychwanegol, ac yn arbennig eirfa'r llyfrau gosod i blant sy'n astudio'r Gymraeg fel ail iaith. Yr anhawster pennaf wrth gyfansoddi gwaith gwreiddiol i'r plant hyn ydyw defnyddio iaith sy'n ddigon syml iddynt, ac ar yr un pryd, gadw rhag cynnwys deunydd nad yw'n debyg o ddiddori neb ond darllenwyr llawer iau.
Y mae geirfa rhai o'r llyfrau Cymraeg a ddefnyddir yn yr ysgolion uwchradd yn galw am feirniadaeth. Cynhwysant ormod o eiriau na ellir eu cysylltu â'r cnewyllyn organig hwnnw y gellir yn rhesymol ddisgwyl fod y plentyn wedi'i feddiannu ar y pryd. Os derbynnir yr. amcan cymdeithasol, a nodwyd eisoes, sydd i ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith, yna byddai'n fwy buddiol i'r disgybl di-Gymraeg roi'r amser a dreulir wrth geisio meistroli geiriau llai adnabyddus y llyfrau, i gael gwell gafael ar yr eirfa bob-dydd. Byddai paratoad mwy trwyadl a phrawf manylach o fewn terfynau geirfa lai yn fwy ymarferol. Gall plentyn wybod ystyr llawer o'r geiriau y daw ar eu traws mewn llyfrau heb chwanegu llawer wrth hynny at ei feistrolaeth weithredol o'r iaith, nac ychwaith chwanegu llawer at ei ddealltwriaeth o Gymraeg llafar na llyfr, gan na châi gyfle i ddefnyddio'r geiriau hyn yn ddigon aml i'w helpu. Wrth gwrs, i ddeall yr hyn a ddarllenir, rhaid wrth eirfa ehangach nag sy'n angenrheidiol i ddeall yr iaith lafar: ond y mae terfynau i faint yr eirfa ehangach yma wrth ddysgu'r Gymraeg i'r plentyn di-Gymraeg, a phenderfynir y terfynau hyn yn fwyaf arbennig gan yr amser y gellir ei dreulio'n fuddiol i gael gafael ar ffiniau pellaf geirfa, ac ar yr un pryd ddiogelu'r maes oddi mewn. Defnyddiwyd y gair "geirfa " droeon yn yr awgrymiadau hyn a byddai gystal dweud y golygir wrtho rywbeth llawer mwy na chasgliad o eiriau yr ydys yn gwybod eu hystyr i raddau mwy neu lai. Golyga, o leiaf, y grwpiau geiriau hynny, homologau bron, sy'n frith yn yr iaith bob-dydd, a'r ymadroddion idiomatig hynny sydd bron yn gyson eu harwyddocad, ac sy'n rhan o bob deunydd darllen, hyd yn oed y deunydd symlaf.[1]
Unwaith y daw'r plentyn i ddarllen y tu allan i gylch llyfrau gosod y dosbarth, fe fydd o anghenraid rai geiriau, ac efallai, nifer fawr, y gall eu deall orau am beth amser yn nhermau ei iaith gyntaf: ac am hynny, y mae perygl iddynt aros yn eiriau ar eu pennau eu hunain, hynny yw, ni fydd yn hawdd eu cysylltu â'r grwpiau geiriau hynny sy'n ffurfio unedau ymadrodd neu briod-ddulliau, yn yr ail iaith. Bydd rhyw ymyl allanol o eiriau goddefol yn bod o hyd, tra pery'r astudio, ac nid oes achos i'w ofni, ond iddo beidio â thyfu'n ormodol mewn perthynas â'r rhan honno o'r iaith sydd o dan feistrolaeth weithredol. I sicrhau cynnydd cyson wrth ddysgu iaith, dylid bod o hyd yn troi cyfran o'r eirfa oddefol yn gyfrwng gweithredol, ac i ba raddau bynnag y gwneir hyn, bydd rhagor i'w wneud o hyd, cyhyd ag y deil y plentyn i ddarllen. Prin y mae angen chwanegu bod eisiau llawer mwy o lyfrau darllen ar gyfer y plant sy'n cymryd Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol uwchradd.
(e) Gosodwyd llawer o bwyslais ar yr angen am ddatblygiad organig mewn ennill geirfa a meistrolaeth ar yr iaith, o flwyddyn i flwyddyn drwy gydol yr amser yr ydys yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Y mae'r un mor angenrheidiol, felly, ddangos mor bwysig ydyw cadw cysylltiad naturiol rhwng gwaith yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. Oni bydd gan yr Athro Cymraeg yn yr ysgol uwchradd amgyffred lled sicr o'r hyn a wnaed gan y plant yn Gymraeg cyn iddynt ddod ato, ni all ddatblygu'r wybodaeth sydd ganddynt yn y ffordd fwyaf priodol. Boddhaol yw sylwi bod yr ysgol uwchradd mewn rhai ardaloedd yn cael gwybodaeth weddol gyflawn ar y pwynt hwn gan yr ysgolion cynradd cyfrannol, a pheth da fyddai gwneud hyn yn gyffredinol.
C. Dysgu Saesneg yn Ysgolion Cymru
Nid oes angen ysgrifennu'n helaeth ar y cwrs Saesneg fel iaith gyntaf mewn unrhyw fath o ysgol uwchradd. Ni fydd gwahaniaeth hanfodol rhwng y cwrs hwnnw a'r un a geir mewn ysgol uwchradd debyg yn Lloegr, ac fe ddylid darllen yr adroddiadau diweddar ar y pwnc, oni wnaed hynny eisoes. Rhaid, serch hynny, ychwanegu rhywbeth ar ddysgu'r Saesneg fel ail iaith.
(a) Saesneg fel Ail Iaith. Yn gyntaf, dylai'r athrawon sy'n dysgu Saesneg mewn ysgolion uwchradd gofio mai ail iaith yw'r Saesneg i blant Cymraeg, nad ydynt yn debyg o fod wedi dechrau dysgu Saesneg cyn bod yn saith oed, ac felly mai elfennol iawn yw eu gwybodaeth o'r Saesneg hyd yn hyn, a bod llawer o'u hyfforddiant cyffredinol hyd yma wedi ei dderbyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly y dylai fod, wrth gwrs, a dylai'r athrawon mewn Saesneg, yn lle gofidio am hyn, lawenhau bod y plant hyn wedi cael sylfaen gadarn mewn iaith fel y cyfryw.
Y mae'n hanfodol yn gyntaf wybod yn gywir beth yw cylch gwybodaeth y plentyn pan ddaw i mewn i'r ysgol. Nid digon i'r pwrpas hwn yw ei "farciau yn Saesneg yn yr Arholiad, neu sylwadau fel "Da iawn "neu "Gweddol " gan ei athrawon blaenorol. Yr hyn sydd eisiau yw gwybodaeth fanwl ynglŷn â maint geirfa'r plentyn, y llyfrau a ddarllenodd yn y dosbarth a'r dulliau a ddefnyddiwyd i ddysgu Saesneg iddo. Y ffordd orau i gael gwybod hyn ydyw drwy i athrawon y ddwy ysgol gwrdd â'i gilydd, ac i sicrhau hyn dylid trefnu cynadleddau cyson rhwng athrawon Saesneg yr ysgolion uwchradd ac athrawon ysgolion cynradd cyfrannol. Ni ellir pwysleisio gormod ar y ffaith fod y cysylltiad sydd rhwng yr ysgolion cynradd a'r ysgolion uwchradd ar hyn o bryd yn hollol annigonol. Y mae'r canlyniadau'n amlwg—sef diffyg cydymdeimlad, colli unoliaeth mewn nôd a dulliau rhwng y naill a'r llall nes peri niwed mawr i'r plentyn, a digalonni athrawon da pryd y gellid osgoi hynny.
Yn ail, y mae'n hanfodol sylweddoli'n eglur yr amcanion sydd i ddysgu Saesneg fel ail iaith yn yr ysgol uwchradd. Yr amcan cyntaf ydyw datblygu geirfa weithredol a goddefol y plentyn mewn cynifer o gyfeiriadau ag sy'n bosibl : rhaid i'r datblygiad hwn fod yn drefnus, ac wedi ei seilio ar y feistrolaeth sydd gan y plentyn ar eirfa pan ddaw i mewn i'r ysgol. Yr ail amcan ydyw meithrin gallu'r plentyn i siarad Saesneg dylid rhoddi sylw dyledus i ynganiad, i acen, ac yn arbennig, i oslef, sydd yn aml yn cael ei esgeuluso fwyaf. Y trydydd amcan ydyw gwneud y plentyn yn ymwybodol o gefndir diwylliant Saesneg. Dylai sylweddoli'r amcan hwn yn glir gael dylanwad mawr iawn ar y llyfrau a ddarllenid a'r dulliau o'u darllen hwy. Yn y cyfnod cynnar hwn, llawer mwy gwerthfawr na gweithiau mwy dyrys a haniaethol llenorion Saesneg ydyw'r llyfrau am fywyd gwlad a thref yn Lloegr—llyfrau teithio, bywgraffiadau, hunangofiannau enwogion Lloegr, yn arbennig ei champwyr, llyfrau yn ymdrin â chwaraeon, llên gwerin, a diwylliant materol Lloegr. Y mae rhyddiaith Saesneg yn bwysicach na barddoniaeth Saesneg ac efallai mai priodol fyddai awgrymu nad ydyw gweithiau Shakespeare yn anhepgor mewn cwrs Saesneg yn y cyfnod hwn. Dylid ystyried yn ofalus pa faint y dylid ei ddarllen. Nid oes eisiau rhoddi llawer o sylw i fanion yn y cyfnod hwn: dylid amcanu at gael y plant i ddarllen cymaint ag sy'n bosibl heb eu gorlwytho, ac mor gyflym ag sy'n bosibl heb eu gorflino.
Ymdrinia'r paragraff uchod yn fras â'r hyn a ddylai fod yn gyffredin i'r ysgol ramadeg a'r ysgol fodern, ac efallai y caniateir dangos y gwahaniaeth rhyngddo a'r hyn y daethpwyd i'w ystyried yn gwrs "traddodiadol " yn Saesneg yn yr ysgolion hyn. Yn gyntaf, y mae'n gosod pwyslais ar bwysigrwydd datblygu geirfa weithredol o Saesneg bob-dydd. Yr un yn ei hanfod yw'r broblem a'r hyn a ystyriwyd wrth drin dysgu'r Gymraeg fel ail iaith, ac ni chafwyd ateb boddhaol iddi yn yr ysgolion uwchradd, gan mai drwy lenyddiaeth "bur," yn ddieithriad bron, yr aethpwyd ati i ddysgu Saesneg. Drwy ryddhau'r cwrs oddi wrth y duedd hon agorir y ffordd i'r cylch ehangach o ddeunydd darllen a awgrymwyd uchod, ac i chwanegu ato gellir dewis o'r amrywiaeth helaeth o lyfrau Saesneg diweddar ar wyddoniaeth. Yn ail, gosodir pwyslais ar feithrin siarad Saesneg clir a chywir. Rhaid peidio ag ystyried hyn yn rhywbeth sy'n codi o'r darllen a'r gwaith llafar yn unig yn ogystal â hyn, rhaid cael hyfforddiant uniongyrchol, ac ymarfer beunyddiol a ddylai gynnwys dril priodol. Nid oes eisiau chwanegu y dylai siarad yr athrawon osod safon uchel yn hyn o beth. Yn drydydd, pwysleisir y berthynas sydd rhwng astudio unrhyw iaith—Saesneg yn y cyswllt hwn yn awr a'r prif elfennau yn niwylliant a thraddodiad y bobl sy'n siarad yr iaith honno. Felly gosodir sylfaen gadarn i astudio llenyddiaeth, ond ni ellir pwysleisio gormod mai wedi gadael cyfnod y Dystysgrif Ysgol y dylai'r plentyn ddechrau astudio llenyddiaeth "bur" ail iaith o ddifrif.
Fe welir y gellir cymhwyso'r egwyddorion cyffredinol hyn yn yr un modd at gynllun yr ysgol ramadeg a'r ysgol fodern fel ei gilydd, a hynny am resymau da. Y radd yn hytrach na'r math fydd yn gwahaniaethu felly yn yr ysgolion. Efallai y bydd hi'n bosibl i'r ysgol ramadeg ymdrin yn fwy manwl ag agweddau ffurfiol a dadansoddol astudio iaith, ac y bydd yn rhaid i'r ysgol fodern gymryd mwy o amser i feistroli rhai agweddau ar y medrusrwydd sylfaenol. Y mae'r gwahaniaethau hyn yn amherthnasol; yr hyn sydd yn perthyn yn agos i'r broblem ydyw y dylai pob ysgol sylweddoli'r elfennau angenrheidiol mewn astudio ail iaith, a'u trefnu yn ôl eu pwysigrwydd.
(b) Y Plentyn Is-Normal. Y mae un broblem, fodd bynnag, yn wynebu'r ysgol fodern—a honno'n broblem na ddaw ond yn anaml, os o gwbl, i ran yr ysgol ramadeg, sef problem y plentyn o gyraeddiadau meddyliol isel. Y mae ceisio dyfalu i ba raddau y dylai neu y gall y fath blentyn ddilyn unrhyw astudiaeth ffurfiol yn yr ail iaith, yn peri llawer o bryder yn aml, ac anodd ydyw cynnig ateb pendant gan na wnaed ymchwiliad i'r pwnc hyd yn hyn. Ar y lefel isaf, wrth gwrs, y mae'r ateb yn amlwg. Y mae'r plentyn sydd heb feistroli elfennau darllen ac ysgrifennu yn ei famiaith, yn analluog i wneud astudiaeth ffurfiol o ail iaith, pa un ai Cymraeg, ai Saesneg fo'r iaith honno. Ond anaml y mae'r broblem mor syml å hyn: yn amlach rhaid penderfynu pa faint o astudio ail iaith a fydd yn fuddiol i'r plentyn, a beth fydd y llwybr gorau i'r astudiaeth honno. Wrth eu hystyried yn eu perthynas â phob plentyn yn unigol y gellir ateb y cwestiynau hyn, ond gellir awgrymu dau beth yn gyntaf, dylid cofio mai anaml y metha cynllun o waith llafar, sydd wedi'i lunio'n ofalus ag ennyn diddordeb mewn ail iaith, yn arbennig pan gysylltir ef â gweithgareddau corfforol â chrefftau ac â cherddoriaeth a drama. Yn ail, er na bo hi'n bosibl, efallai, i ymgymryd ag astudiaeth ffurfiol o ail iaith, gellir gwneud llawer drwy ddarlun a stori i ddiddori'r plentyn yn niwylliant y genedl sy'n siarad yr iaith honno.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gweler, er enghraifft, y geirfâu a gyhoeddwyd mewn cysylltiad â darllediadau y B.B.C.; "Early Stages in Welsh."