Y Carw

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Tydi’r caerwrch ffwrch ffoawdr,
Rhediad wybren, lwydwen lawdr,
Dwg hyn o lythr talmythrgoeth
Er Duw nef ar dy din noeth.
Cyflymaf wyd cofl lemain,
Negesawl cywyddawl cain.
Rho Duw, iwrch rhaid yw erchi
Peth o lateieth I ri.


Grugwal goruwch y greigwen,
Gweirwellt a bawr gorwyllt ben.
Talofyn gwych teuluaidd,
Llamwr allt, llym yw ei raidd,
Llama megis bonllymoen
I’r rhiw, teg ei ffriw a’i ffroen.
Fy ngwas gwych, ni’th fradychir,
Ni’th ladd cŵn, hardd farwn hir.
Nod fawlgamp, n’ad i filgi
Yn ôl tes d’oddiwes di.
Nac ofna di saeth lifaid,
Na ch yn ôl chai naid.
Gochel Bali ci coesgoch,
Adlais hued a gredir
O dôn’ yn d’ôl Dywyn dir.
Ymochel rhag dy weled,
Dros fryn i lwyn rhedyn rhed.
Neidia goris hen adwy
I’r maes ac nac aro mwy.
Fy llatai wyd anwdael,
A’m bardd at Ddyddgu hardd hael.
Dwg dithau, deg ei duthiad,
Y daith hon i dŷ ei thad.
Dos er llid, dewiswr lludd,
Dwall afael dull Ofydd.
Dabre’r nos gerllaw’r ffosydd,
Dan frif y goedwig a’i gwŷdd,
A chusan yn, ni’m sym seth,
Dyddgu liw gwynblu geinbleth
Cyrch yno’r caeriwrch hynod;
Carwn, dymunwn fy mod.
Ni’th fling llaw; bydd iach lawen
Nid â dy bais am Sais hen,
Na’th gyrn, f’annwyl, na’th garnau,
Na’th gig ni chaiff Eiddig au.


Duw i’th gadw, y doeth geidwad,
A braich Cynfelyn rhag brad.
Minnau wnaf, o byddaf ben,
Dy groesi, bryd egroesen.