Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/At Gyfaill
Gwedd
| ← Cynnwys | Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill gan Dewi Emrys |
Yr Heliwr → |
Y CWM UNIG A CHANIADAU ERAILL.
AT GYFAILL.
Mi gefais ganlyn ffrwd dy faes,
A cheisio mwy na gwyrth ei chân.
Mi chwiliwn am bysgodyn mawr,
A gorfod godde'r pysgod mân.
Tafler y llith â chywrain law
I'r dyfroedd brasaf yn y byd,
Ceir cant a mwy o bysgod mân
Am bob pysgodyn mawr o hyd.
Cei yma ganlyn ffrwd fy nghân,
A'r maes yn rhydd o glawr i glawr.
Goddefa dithau'r pysgod mân
Wrth chwilio am bysgodyn mawr!