Neidio i'r cynnwys

Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Cloch y Llan

Oddi ar Wicidestun
Y Merbwll Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill

gan Dewi Emrys

Cwsg

CLOCH Y LLAN.

Clywch ei llais! Mae cloch y llan—yn uno
Deuddyn hoenus weithian:
"Bellach, dirwgnach fo'ch rhan,
Cofiwch nad mêl y cyfan."

Clywch ei llais! Mae cloch y llan—yn tywys
Y minteioedd weithian:
"Moliennwch, rhoddwch eich rhan,
Cofiwch pwy biau'r cyfan."

Clywch ei llais Mae cloch y llan,—yn nhy'r bedd,
Yn rhybuddio weithian:
"Purion eich rhwysg, prin eich rhan,
Cofiwch rhaid gado'r cyfan."


Nodiadau

[golygu]