Neidio i'r cynnwys

Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Edn y Mynydd

Oddi ar Wicidestun
Cwsg Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill

gan Dewi Emrys

Y Bompren

EDN Y MYNYDD.

Seraff bach yr unigeddau,
Yn y grug a'r hesg,
Ar y mynydd yn telori
Heb un nodyn llesg.

Oer yw min yr awel heddiw,
Noeth yw llethrau'r twyn,
Tithau'n cadw y gân yn gynnes
Yn dy fynwes fwyn.

Wele'r haf yn nychu, nychu
Weithion dan dy droed,
Hydref gyda'i bwyntil gwawdus
Obry yn y coed.

Aros yn dy gartref uchel,
Cân uwch storm a chlwy';
Pe cawn i dy ryddid heddiw,
Ni ddisgynnwn mwy.


Nodiadau

[golygu]