Neidio i'r cynnwys

Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Emyn Gwyl Ddewi

Oddi ar Wicidestun
Hiraeth am Gymru Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill

gan Dewi Emrys

EMYN GWYL DDEWI.

Benllywydd mawr! O'th orsedd lân
r Wlad y Bryniau edrych Di;
A boed Dy ddeddfau eto'n gân
Ar ffyrdd ei hen allorau hi.

O, cofia'i phlant ymhell o dref,
Bendithia hwy ar dir a môr.
Na chaffer Cymro dan y nef
Heb ffydd ei dadau, Arglwydd Iôr.

Byth na ddiffodded mewn sarhâd
Y gred sy'n addo'r euraid oes.
O nos i nos ar fryniau'n gwlad
Disgleiried golau Bryn y Groes.

Gwna Walia Wyllt yn drigfan hedd
A'i maes o hyd yn aelwyd sant.
Rho goncwest fwy na choncwest cledd
Yn ymffrost ar wefusau'n plant.


Os cawsom y mynyddoedd mawr
Yn nodded rhag ystorm a chlwy',
Dwg ni yng ngolau'r newydd wawr
I gysgod gwell na'u cysgod hwy.

O, Graig yr Oesoedd, atat Ti
Ymwasgwn rhag y ddrycin gref;
Ac yn Dy ymyl cadwer ni
Pan na bo cwmwl yn y nef.


Nodiadau

[golygu]