Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Eryri
Gwedd
| ← Min y Llwyn | Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill gan Dewi Emrys |
Yr Alltud → |
ERYRI.
(Gyda'r hwyr, Mawrth 11eg, 1930).
Dduw anian, dy ddaioni-a welaf
Ar foelydd Eryri.
Os anfwyn yw'r clogwyni,
Daw yno dân dy wên di.
Gwelaf odidog olud-dy law fawr
Ar dalfeydd y machlud,
Mireinder trumau'r hendud,
Aruthredd eu mawredd mud.
Eurwawr yr uchelderau-a erys
Ar geyrydd diflodau,
Lliwiau perl ar gestyll pau,
Gemau haul ar gymylau.
Caf weithion dystion distaw-i'th allu
A'th ewyllys ddifraw,
Dy anferth nerth dan orthaw,
Dy rym yn ddilafar draw.
Addfwyn y deil lliw'r gwyddfid—ar eu gwedd
Dy dragwyddol ienctid;
A darn o'th fawr gadernid
Yw'r uchel lethr a chwâl lid.
Rhwysg aneirif ganrifoedd—a giliodd
O'r golwg i'r niwloedd;
Eithr uwch dyfnfor yno'r oedd.
Diofn wedd dy fynyddoedd.