Neidio i'r cynnwys

Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Gofuned

Oddi ar Wicidestun
Yr Alltud Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill

gan Dewi Emrys

Hiraeth

GOFUNED.

O na chawn dy esgyll di,
Fronfraith lon,
Ffown yn ebrwydd ati hi
Dros y don.

Lle ceid rhyngof â'r un fwyn
Bellter maith,
Trwy'r wybrennydd rhedai swyn
Pen y daith.

Gwn na ddenai gwinllan fras
F'enaid blin;
Uwch pob perllan cofiwn flas
Addfed fin.

O na chawn dy esgyll di,
Fronfraith lon,
Ffown yn ebrwydd ati hi
Dros y don.


Nodiadau

[golygu]