Neidio i'r cynnwys

Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Hiraeth am Gymru

Oddi ar Wicidestun
Baban Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill

gan Dewi Emrys

Emyn Gwyl Ddewi

HIRAETH AM GYMRU.

Ymhell o'i ffridd, anniddan—wyf o hyd,
Gofidus ym mhobman;
Haf cyflawnaf cofl anian
Yw golud gwych Gwlad y Gân.

O ddrws Duw i ddyrys daith—yr euthum,
Lle'm brathodd Anobaith ;
Gwybum dlodi ffordd ddiffaith
A niwl mawr yr anial maith.

O, dirion Dad, arwain Di—fy enaid
I'th fwynaf oleuni.
Rho heulwen bro fy ngeni
O'r niwl mawr yn ol i mi.


Nodiadau

[golygu]