Neidio i'r cynnwys

Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Llef o'r Lofa

Oddi ar Wicidestun
Rhagfyr Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill

gan Dewi Emrys

Yr Anwylyd

LLEF O'R LOFA.

Fy mrodyr carnog uwch fy mhen,
A'ch llwybrau'n glir dan heulog nen!
Hiraeth yw'r ffenestr sydd i mi
Lle syllaf heddiw arnoch chwi,
A'ch dulliau fel ysbrydion pell
Yn mynd a dyfod trwy fy nghell:
Rhai'n trotian draw ar wastad ffyrdd,
Eraill yn pori'r llechwedd gwyrdd;
Rhai'n llyfnu'r maes dan awyr glir,
A llonder gwanwyn yn y tir;
Rhai'n llamu'r nant ar frysiog hynt,
A miwsig helgwn yn y gwynt;
Rhai'n araf dynnu cerbyd du
I'r fan lle cwsg fforddolion lu;
Rhai'n llusgo coed hyd lawr y cwm,
Rhai'n dringo'r allt dan lwythi trwm;
Rhai'n cywain ffrwythau'r wlad i'r dref,
Rhai'n dwyn i'r wlad genhadau'r nef;
Rhai'n gado cylch rhedegfa lem,
A balchder concwest yn eu trem;
Un balchach fyth ar heol lefn,
A marchog arfog ar ei gefn,
A hwylus gyrn y seindorf hoyw
Yn ennyn dawns ei garnau gloyw,

Ei fyclau'n fflam dan haul y nen,
A thorf o ddeutu'r heol wen;
Minnau'n dihoeni dan y ffos
Lle nad yw'r dydd ond darn o'r nos.

Na chŵyned neb o honoch dro
Cyn profi myllni'r pyllau glo,
A chwithau oll, wrth fwth a phlas,
Yn yfed ffresni'r bore glas.
Cofiwch na chyfyd gwlithyn llon
I loywi nos yr uffern hon.
Pe cawn ond dracht o'ch awyr chwi,
Ni ffrwynid fy ngorfoledd i.
Carlamwn draw hyd gyrion bro
Yn ddigon pell o dawch y glo.

Na ffromwch dan yr wybren deg
Rhag blas y chwip ac ambell reg.
Pa un o honoch chwi a grŷn
Dan ddyrnod diawl ar ddelw dŷn?
Lle disgyn lach eich gyrrwr gwaethaf,
A chwi'n egnio hyd yr eithaf,
A welsoch chwi erioed eich gwaed
Yn rhuddo'r hoelion dan ei draed?

A ffoes o'ch pennau lun y ffordd
Dan ergyd megis ergyd gordd?
Cofiwch nad gwiail main a ffyn
A geir hyd ochrau'r "hewlydd" hyn.

Mynych dros bymtheg awr o'r bron
Y gweithiaf yn y fallgyrch hon.
Pan dry fy ngyrrwr tua thre,
A minnau'n gorffwys yn fy lle,
Daw halier arall at ei waith,
Ai fryd ar ladd yr wythawr faith.
Prin y caf brofi blas y gwair
Cyn dilyn hwn heb yngan gair;
Ac nid yn aml yr hola'r gwr
Pa bryd y cefais ddracht o ddwr ;
Ond gŵyr yn dda wrth gyrchu'r ffâs
Y tynnaf i fy ngorau glas.
Gwobrwy yr ufudd was o hyd
Yw goddef beichiau tryma'r byd.

Sawl gwaith y syrthiais dan y cam,
Fy nghorff yn friw, a'm genau'n fflam,
A'm tafod, wedi'r syched maith,
Yn chwilio'r llwch am lychyn llaith?


Chwithau dan lesni'r awyr loyw
Yn drachtio rhin yr afon groyw,
A'm gyrrwr dan y fryntaf nen
Yn poeri llwon ar fy mhen,
A'm cnawd lluddedig, megis plwm,
Yn goddef ei ergydion trwm,
A minnau'n ceisio dweud o hyd
Fod teimlad gan greadur mud.
Fan honno yn fy hyd ar lawr,
Fy malm yw marw am ennyd awr.

Ni fynnwn i, y nef a ŵyr,
Feio fy halier ffrom yn llwyr.
Yma yn nhwrf y gwancus frys,
Isel y prisir gwaed a chwŷs;
Ac ofer yr amddiffyn ef
Fy mlinder â thosturiol lef.

Mae iddo yntau yrwyr llym
A grêd mai chwip sy'n ennyn grym.
Bygythiant ef â'r newyn hir
A lŷn wrth ddiwaith blant y tir.
A'r ffordd i safio'i groen ei hun
Yw dyrnu croen ei geffyl blin.
Rhaid iddo halio mwy o lo
Neu lwgu ar foeldiroedd bro;

A'u cyngor iddo ger y ffas
Yw troi a "bwrw f'ened mas";
A minnau'n ceisio dirnad pwy
A wêl fod enaid ganddynt hwy.
Gweddus i'r rhain, pan ddêl y Sul,
Yw sôn am rodio'r "llwybyr cul."

Daw gwyliedyddion ar eu taith
I holi hynt ceffylau'r gwaith;
Ond gŵyr gofalwyr pydew'r glo
Yr awr y deuant ar eu tro.
Fe'm cuddir innau dan fy nghlwy,
A'r caethion iach a welant hwy.

Na chŵynwch mwy, fy mrodyr ffodus,
Uwch oesol nos hen was trallodus.
Diolchwch am yr heol wen,
Am awyr las a haul uwchben.
Diolchwch am y gwynt a'r glaw
Wrth gofio'r tawch a'r llwch islaw.
Llemwch y nant yng ngolau'r mellt
Pan fflamio'r wybren megis gwellt.
Gwell nos o wae ar foeldir bro
Na'r waedd dragywydd: "Mwy o lo !"


Nodiadau

[golygu]