Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Mawrth
Gwedd
| ← Wedi'r Storm | Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill gan Dewi Emrys |
Poen → |
MAWRTH.
Od yw'r lôr yn Dad a rif—Ei rai bach
Ym merw byd a'i genllif,
Ei law fo heno ar lif,
A'i ddeheulaw ar ddylif.
Rhoed i'r twyn anadl fwynach—na'r mawrwynt,
Rhoed i'r morwr gilfach,
Hyder hefyd i'r afiach,
A thirion berth i'r oen bach.