Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Na'd-fi'n-Angof
Gwedd
| ← Y Bompren | Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill gan Dewi Emrys |
Y Pysgotwr Bach → |
NA'D-FI'N-ANGOF.
Gelwid hi yn hen ferch unig,
Hen ferch unig wyneb prudd,
A rhyw lafn o'i thlysni cynnar
Eto'n oedi ar ei grudd.
Gwn nad llanw y maith flynyddoedd
Roes yr ewyn yn ei gwallt.
Onid digon gaeaf unnos
I farugo tresi'r allt?
O cheid weithiau ar ei gwefus
Nwyfiant difyr blaen y lli,
Gwyddwn dro nad iaith y dyfnder
Oedd ei chwerthin oriog hi.
Dewr oedd ffug ei difaterwch
Lle doluriai'r atgof blin,
Dim ond newyn yn ei chalon,
Dim ond llwch y breuddwyd crin.
Fe ddôi Sul y Blodau heibio
Gyda'i wlith ar aethus wedd.
Galwai llais o'r hendre ddistaw
Lawer câr at fin y bedd;
Ond bu'r hen ferch unig yno
Cyn i'r dwyrain wrido draw,
Hen gyfamod ar ei gwefus,
"Na'd-fi'n-Angof" yn ei llaw.