Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Y Bompren
Gwedd
| ← Edn y Mynydd | Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill gan Dewi Emrys |
Na'd-fi'n-Angof → |
Y BOMPREN.
Ar ganllaw'r bompren neithiwr
Mi roddais bwys fy mhen.
Blodeuai'r ffrydiau nwyfus
Dan lewych lleuad wen;
A minnau uwch eu tegwch hwy
Yn cofio am brydferthwch mwy.
Mi glywn yr afon droeog
Yn canu yn y coed;
Ac ni bu salm bereiddiach
Ar wefus nant erioed.
Gwae imi brofi rhywbeth gwell
Ar wefus meinir oedd ymhell.
Fan honno ar y bompren,
A mi yn wylaidd wr,
Y medrais ddal i syllu
I'w threm yn nrych y dwr;
Ond neithiwr, lle bu wyneb Men
Nid oedd ond wyneb lleuad wen.
Aeth Men i ffwrdd i'r Aber
Dros lawer milltir faith;
Ac yno mae yr afon
Yn cyrraedd pen ei thaith;
Ond gŵyr y bompren ar y ddôl
Fod serch yn medru llifoʼn ôl.