Neidio i'r cynnwys

Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Y Bwthyn Uncorn

Oddi ar Wicidestun
Y Cwm Unig Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill

gan Dewi Emrys

Rhywun

Y BWTHYN UNCORN.

Un tân oedd dan ei gronglwyd,
A ninnau'n gylch cytun.
Fe ddaliai'r bwthyn uncorn
Gynghanedd yn ei lun.
Gwn heddiw beth a gollais i
Lle'r aeth y tân yn ddau neu dri.

Daeth bwlch i'r hen gyfeillach
Fu dan y cwrlid cawn;
Ac eofn yw'r mieri
Ar lwch y tanllwyth mawn;
Alle bu twll y simnai fawr
Rhy aml y sêr i'w rhifo'n awr.

Ymffrostied Cymru heddiw
Fod iddi lanach tai,
Tan amlder ei simneiau
Aeth undeb gwlad yn llai.
Gŵyr hithau beth a gollodd hi
Lle'r aeth y tân yn ddau neu dri.


Nodiadau

[golygu]