Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Y Merbwll
Gwedd
| ← Yr Heliwr | Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill gan Dewi Emrys |
Cloch y Llan → |
Y MERBWLL.
Heddiw i bellter maes a môr
Y syllant gyda mi;
A gwn na chred y llygaid balch
Fod tegwch ynot ti.
I'th ymyl, dan lumanau'r haf,
Daeth llawer pasiant gwych,
A thithau'n fryntach nag erioed
Dan ddibris garn yr ych.
Amgenach neithiwr oedd dy wedd
Dan wrid y machlud mawr,
Fel pe syrthiasai darn o'r nef
Yn santaidd dlws i'r llawr.
Is tyrau fel colofnau tân,
Blodeuai mawredd môr,
A minnau'n gweld dy ddiffaith ddrych
Yn dal gogoniant Iôr.
Heddiw i bellter maes a môr
Y syllant gyda mi;
A gwn na chred y llygaid balch
Fod tegwch ynot ti.