Neidio i'r cynnwys

Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Y Pysgotwr Bach

Oddi ar Wicidestun
Na'd-fi'n-Angof Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill

gan Dewi Emrys

Y Cwm Unig

Y PYSGOTWR BACH.

Mi welaf grwt penfelyn
Ar fin yr afon fach,
A chollen ystwyth yn ei law,
A llinyn hir a bach.

Mae chwerthin lond ei fynwes
Wrth weld y pysgod mân
Yn gwylltio rhag ei gysgod ef
Yn nrych yr afon lân.

Na syrthied llun yfory
Ar antur plentyn llon;
Fe'i sobrir yn rhy gynnar
Wrth afon fwy na hon.


Nodiadau

[golygu]