Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Yr Alltud
| ← Eryri | Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill gan Dewi Emrys |
Gofuned → |
YR ALLTUD.
Draw, draw mae cribog fro a gerais i,
Hen fro'r bugeiliaid a'r tyddynnod mân.
Mawrygais gysgod ei mynyddoedd hi,
A'u balchder difraw yn y twrf a'r tân;
A chenais, cyn im' brofi siom a chlwy,
Am gewri a naddwyd o'u cadernid hwy.
Yno y clywais i hyfrydlais mam,
Yno daeth syndod gynta' i'r llygaid hyn;
Yno y crwydrais i yn fyr fy ngham
I'm dychryn gan y rhaeadr yn y glyn.
Bum ganwaith wedyn uwch ei wynder broch,
A staen y llus a'r syfi ar fy moch.
Yno bu breuddwyd hardd fy mebyd mwyn
A sibrwd y cyfrinion tlysa' erioed;
Yno bu clychau'r lloer ar gangau'r llwyn,
A'r tylwyth teg yn dawnsio yn y coed.
Yno y llemais gyda'r ŵyn a'r myllt,
A'r nant yn chwerthin gyda'r rhosyn gwyllt.
Mi welais Ionor hy, â'i ddwrn o ia,
Yn taro'r dyfroedd â mudandod oer;
Gwelais ei farrug ar delynau'r ha',
A hithau'r nant yn fudan dan y lloer ;
Ond miwsig gwell na cherddi'r haf, bryd hyn,
Oedd miri'r llithro llawen ar y llyn.
Cofiaf yr hedd ddilynai gyda'r hwyr,
A'r fflam yn datod cân hen foncyff crin;
Cofiaf fy mlinder yn diflannu'n llwyr
Lle llifai'r chwedlau difyr megis gwin.
Dihunai'r fflam hen leisiau'r llwyn a'r ddôl,
A'r chwedl yn galw yr oesoedd pell yn ol.
Dychwelai Arthur Fawr o'i ogof gudd,
A mellt ei enaid tanbaid ar ei gledd ;
Dychwelai'r dirgel heliwr Gwyn ap Nudd,
Ag olion nosau geirwon ar ei wedd.
Dychwelai Olwen, bun y bardd erioed,
A gwynder meillion lle bu sang ei throed.
Cofiaf y pader bach a'i ddwyfol swyn,
A mam yn sôn am ryw Baradwys fry.
Lle plygem yng ngoleuni'r gannwyll frwyn,
Mor agos oedd y Nefoedd at y tŷ !
Mi gredwn, pan ddôi chwarae'r dydd i ben
Mai Gwalia arall oedd y Nefoedd Wen.
Cofiaf y cusan mwyn ar derfyn dydd,
A'm cloi mewn clydwch dan y cwrlid trwm;
Cofiaf y chwiban nwydus yn y gwŷdd,
A'r twrf carlamus obry yn y cwm.
Meddyliwn am yr heliwr Gwyn ap Nudd,
Y glew ag ôl y ddrycin ar ei rudd.
A mi mewn nyth o wlân yn gwrando 'n syn,
A'r chwedl yn trechu cwsg am ennyd awr,
Melys oedd nodau'r corwynt yn y glyn,
A chri'r llifogydd ar y mynydd mawr.
Ap Nudd oedd obry'n chwiban yn y glaw,
A'i gŵn yn ateb ar y llechwedd draw!
Cyn hir, a'r blin amrannau'n mynnu cau,
Gwelwn yr helgwn chwim yn croesi'r lli,
Yntau Ap Nudd o'r fforest yn neshau,
A'i law yn estyn bwa mawr i mi.
Dychwelais yn y bore lawer gwaith
O hela gydag ef drwy'r ddunos faith!
Hen fro fy mebyd, hendre'r neint a'r twyni!
Os hwyliais ymaith o'i chynteddoedd hi,
Mae llanw pell fy ngwanwyn yn ei llwyni
Yn murmur eto yn fy enaid i.
Pêr oedd y pibau arian yn ei choed,
A santaidd oedd ei daear dan fy nhroed.
Clywais yn fore am yr eira glân
A wridodd ar ei bryniau yn y nos;
A chlywais hefyd fod y defaid mân,
Yn tramwy llwch ei dewrion ar y rhos.
Mi synnwn, lanc breuddwydiol, at y stori
Wrth wylio'r praidd yn nhangnef hon yn pori.
Lle'r oedai'r glasniwl ar yr hesg a'r brwyn,
Deallwn lafar ei gwylltineb hi;
A rhyw beroriaeth uwch peroriaeth llwyn
Oedd lleisiau'r gweundir yn fy nghalon i.
Ni chriai edn wrth ddianc dros y ffin
Nad oedd ei enw yn ebrwydd ar fy min.
Mi hoffwn ado'r afon yn y coed,
A'i chwrddyd fry ym mrwyn y rhostir maith.
Chwimwth y codai'r giach dan fy nhroed,
A gwibio draw fel saeth drwy'r niwlen laith.
Araf y trôi'r cornicyll yn y nudd,
A thrymder ffarwel yn ei chwiban prudd.
Cofiaf y petris uwch yr annedd wen
Yn ffoi ar drystiog ffrwst o gŵysi'r yd,
A'r hebog craff yn hofran yn y nen,
A'i lygad ar y g'lomen wen o hyd.
Druan o honi, obry'n goch ei bron,
Rhoed creulon doll ar ddiniweidrwydd hon.
Cofiaf y deri'n gwegian yn y cwm,
Ac ysbryd gwae yn hedfan drwy'r wybrennau;
Cofiaf y bryniau'n gwatwar cystwy trwm
Y dymestl fawr, a'r mellt yn wallt i'w pennau'
A'r gwyddau gwylltion fry yn entrych nef
Yn brysio ymaith rhag y ddrycin gref.
Hir syllwn ar y clogwyn uwch y marian
Yn hyrddio'r don yn drochion hyd y nen,
A hithau'n syrthio'n ôl yn gawod arian,
A'i gladdu dan y lluwch o'i wadn i'w ben;
Yntau'n ymnoethi eilwaith megis cawr,
Wawdiwr godidog y rhyferthwy fawr.
Cofiaf ei fynwes gan friallu'n frith,—
Gwobrwyon Olwen wedi'r twrf a'r tân,
A'r rhwydi gwawn yn hongian dan y gwlith
Fel brodwaith arian dros yr egin mân;
A phwy oedd obry'n gynnar gyda'r wawr
Yn arogldarthu yn y fforest fawr?
Hyfryd oedd gweld y gaeaf draw ar ffo,
A'r claf yn gwenu wedi'r gorthrwm hir,
A gwrando'r utgyrn aur yng nghoed y fro
Yn galw'r fyddin werdd yn ôl i'r tir,
A'r milfil blagur, wedi'r brwydro maith,
Yn cychwyn fel concwerwyr ar eu taith.
Cofiaf y chwa yn canu clychau'r grawn,
A'r hedydd uwch y gwenith yn caroli,
A minnau'r bugail bach ar falmaidd nawn
Yn gwylio'r fro, a'm henaid arni'n ffoli.
Ym mangre'r cymun pêr mi wylwn bron
Gan lawnder swyn: "Pa wlad mor deg â hon?"
Yno bu'r Awen, ferch y dibris ennill,
Yn hudo'r bugail ar ddisberod llwyr ;
A hyfryd oedd corlannu yn ei bennill
Y suon ddôi i'w enaid gyda'r hwyr ;
Ond nid mor hyfryd, wedi'r sobri syn,
Oedd chwilio'r defaid coll o fryn i fryn.
Cofiaf y graig yn pefrio yn y gwres,
A thawch y mintys gwyllt yn cymell cwsg,
A'r gwenyn yn llesmeirio yn y tes
Gan lawnder mêl yng ngerddi'r mill a'r mwsg,
A'r gôg, fel hoeden wamal ar ei thro,
Yn taeru ei bod hithau yn y fro.
II.
Cynnar y syllais ar ei thegwch hi,
Y ferch a'r annhrefn ddifai yn ei gwallt,
Y ferch a lamai'r dorlan gyda mi,
A'i deufin fel y syfi yn yr allt.
Hi chwarddai gyda'r nentydd, a pha dafod
Na soniai am brydferthwch Gwen yr Hafod?
Gwynnach na blodau'r drain oedd mwnwgl hon,
Cochach na'r crawel oedd ei deurudd hardd ;
Glasach na'r crinllys oedd eu llygaid llon,
Mwynach ei llais na'r awel yn yr ardd;
A phylai eurlliw hwyrddydd ar y lli
Yn ymyl pelydr ei llywethau hi.
Cofiaf y dydd y rhoddes dirgel glefyd
Ryw glo helbulus ar fy llafar i;
Cofiaf y dydd yr anfodlonais hefyd
Fod cymaint chwerthin ar ei gwefus hi;
A thybiais dro, heb wybod sut i'w thrafod,
Mai callestr ydoedd calon Gwen yr Hafod.
Syllwn i'r llygaid glas, ymbiliwr tawel,
Heb ganfod ateb yn eu llonder hwy;
A chenfigennwn beunydd wrth yr awel
A chwythai'r rhaffau aur" i ddryswch mwy.
A wyddai'r greulon fod yr awel ffri
Yn plethu'r rhaffau am fy enaid i?
Sawl gwaith y trois i'r buarth gyda hon
Ar derfyn dydd a'm mynwes megis pair?
Yr eisiau mawr yn llefain yn fy mron,
A'm genau ffôl yn gwrthod llunio gair!
Hi lamai at y tŷ âg ysgafn droed,
A'i chwerthin yn greulonach nag erioed.
Cofiaf y dydd, a hwnnw yn ddydd cymylau,
Y cefais gorn yr aradr dan fy llaw.
O, falched oeddwn i o'm par ceffylau,
A balchach fyth fod llygaid Gwen gerllaw!
Chwibanwn gyda'r gwynt wrth greithio'r ddôl,
A gosgordd o wylanod ar fy ôl.
Dringwn i'r braenar beunydd gyda'r wawr
Heb glywed llef y gwynt na thwrf y don.
Ofer y curai oerni'r mynydd mawr
Ar wres y cariad cyfrin yn fy mron;
A chywir oedd fy nghŵys mewn gwynt a glaw
O deimlo'r llygaid glas yn canlyn draw.
Hi giliodd dymor byr i'r ddinas fawr,
A chiliodd tlysni'r henfro yr un pryd.
Ar estron wlad y syllwn gyda'r wawr,
Ac ymbalfalu mewn rhyw ddieithr fyd;
A dyna'r pryd y gwybu f'enaid i
Nad oedd fy mro ond ffrâm o'i chwmpas hi.
Eithr wedi hyn datododd sêl fy serch,
A thafod rhwym y mudan a lefarodd.
Gwelais fy Ngwen yn gorffwys, rwyfus ferch,
Yn fodlon iawn ar fron y llanc alarodd.
Mi brofais hefyd, wedi'r syched hir,
Fod ffrwythau gwell na'r syfi yn y tir.
Finfin â'n gilydd obry yn yr allt,
Ba wynfyd mwyach fel ein gwynfyd ni?
Cleddais fy wyneb droeon yn ei gwallt,
Drechtiais o newydd win ei gwyrfdod hi.
Daeth hithau'r lloer (hen arfer hon erioed)
I wrando'r mwyn gyfamod yn y coed.
*******
Fe gofir yn y pentref amser hir
Y dydd y'n hunwyd wrth yr allor lân.
Gorffwysai'r ôg a'r aradr ar y tir,
A safai'r efail heb na thinc na thân.
Ni chwyrnai rhôd y felin is y llyn,
Ac ni chwibanai hwsmon ar y bryn.
I ffwrdd â'r offer gwaith, i lawr â'r pwn!
Rhoed yntau'r crydd ei ffedog heibio dro!
Rhaid cyrchu'r llan bob un ar ddydd fel hwn,
Rhaid gweld priodas geneth lana'r fro;
Rhaid gweld y bugail, heriwr craig a thon,
Mewn dryswch yng nghadwyni tegwch hon.
Mewn cwmwl o wynebau cerddwn i,
A hithau'n gwrido'n fwyn ar fraich ei gwr.
Disgleiriai'r heulwen ar ei modrwy hi,
A'r gloch yn dawnsio'n wallgof yn y twr;
Ac yn y fynwent werdd lle clywsom wylo,
Clywn londer mawr, a'r coed yn curo'u dwylo.
Estynnwyd i'm hanwylyd bwysi hardd,
A darlun oedd o burdeb ei blynyddoedd.
Rhoed ynddo flodyn pêr o lawer gardd,
Ac ambell flodyn gwyllt o'r pell fynyddoedd ;
Ond tystiai'r hen fugeiliaid yn gytun
Mai'r blodyn harddaf ydoedd Gwen ei hun.
III.
Fry ar y fawnog beunydd gyda hi,
A'r hedydd uwch ein cartref yn telori,
Fy nefoedd oedd y tyddyn uwch y lli,
A'r defaid mân o gylch ei furiau'n pori.
Dedwyddach oeddwn i na gwr y plas,
A chwbl ei enaid yn ei ddoldir bras.
Dringwn fel cynt i'r dalar gyda'r wawr,
A'r wylan yn fy nilyn draw o'r traeth.
Gollyngwn innau'n rhydd i'r gwynt yn awr
Y serch a gelwyd fel aderyn caeth.
Telorai yntau yn ei newydd fyd,
A chanai'r hen fynyddoedd yr un pryd.
Prysurwn adre'n sionc ar derfyn dydd
Heb deimlo briw na chofio'r oriau maith.
Croeswn y ceunant dwfn tan ddryswch gwŷdd,
A'm henaid yn caroli ar y daith.
Ni allai fod na draenen yn y coed
Na charreg erwin chwaith o dan fy nhroed.
Ni allai fod na nam na cham na chŵyn,
Na phall na syrffed chwaith lle canwn i,
Dim ond prydferthwch Gwen ar ddôl a thwyn,
A minnau'n frenin ar ei chalon hi,
Dim ond gorfoledd serch o hyd, o hyd,
A hithau'r fawnog yn baradwys byd.
Rhyfeddais wedi hyn, a'm gwar yn grwm,
Mor hurt y gwas na theimlai bwys yr iau.
Ni chreffais, pan ymrwystrais yn y cwm,
I'r ffordd erwino am i serch bellhau;
Yn unig teimlo drysi yn y coed,
A theimlo cerrig llymion dan fy nhroed.
IV.
Creulon fu'r deffro a'r ymwybod drud,
Gweled mai breuddwyd oedd fy ngwynfyd oll,
Gweled fy nhreulio megis ysgrubl mud,
A'm troi i furddun fy mharadwys goll,
A gweled bro fy mebyd gyda'r hwyr
Yn araf hacru a mynd ar goll yn llwyr.
Ba hwyr oedd hwn? Nid hwyr y ffarwel hir
A'm galwodd ymaith i wynebu'r drin.
Anwylach y pryd hwnnw oedd y tir
Lle'r wylai Gwen, a'm henw ar ei min;
A hawdd oedd diolch obry yn y glyn
Fod golau yn yr annedd ar y bryn.
Ni'th flinaf heddiw, ffrind, â stori'r ffos,
A'r cyrff a fathrwyd megis gwellt dan draed.
Digon am byth fu'r gwae a chwerwai'r nos,
A'r llaid a droes cyn hir yn gorbwll gwaed;
Ond trymach gwae i filwr, barna di,
Fu'r llythyr dienw a ddaeth i'm dwylo i.
Darllenais ef, a'r llaid o'm cylch yn tasgu
Gan hwrdd a gorddwy chwyrn yr erydr tân;
Darllenais ef, a rhywbeth poeth yn gwasgu
Fy llwnc fel gefyn dur, a'm tagu'n lân.
Darllenais lawer gwaith, a'm gruddiau'n lli,
"Nid ffyddlon mwyach ydyw Gwen i ti.
Dychwelais wedi'r drin i hedd fy ngwlad,
A dyna'r hwyr a'm canfu'n wael fy llun.
Ba ennill ydoedd trechu yn y gâd,
A cholli'r cyfan yn fy mro fy hun?
Nid oedd na chri croesawus yn y glyn
Na golau yn yr annedd ar y bryn.
Er hyn, mi fentrais amau'r llythyr hy,
A throi i ganu obry yn y glyn.
Os na ddôi llewych o'r hen dyddyn fry,
'Roedd llusern fach fy ngobaith eto 'n nghynn;
A thyngais ganwaith ar hen lwybr y rhos
Y llamai Gwen i'm cwrddyd ar y clôs.
Llefais ei henw rhwng y muriau llaith,
Ond ni ddôi ateb namyn llef y gwynt.
Chwiliais am dani hyd y rhostir maith,
Cwynais, "Ai dyma'r wlad a gerais gynt?
O, na chawn heno oddef bryntni'r gelyn
Rhag gorfod goddef sawr yr eithin melyn!"
Trist, trist y pwysais drannoeth ar y ddôr,
A thwymyn o ddychmygion yn fy mhen.
Tlws, tlws, dan rosliw'r wawr, y gwridai'r môr,
A'r bryniau'n fflamio'n oddaith hyd y nen;
Ond yn yr annedd wâg uwch hedd y lli,
Hen ffrâm heb ddarlun oedd fy ngwlad i mi.
Weithian, fel gwr a wêl ddinoethi twyll
Dewines ffals a'i meddwodd ef â'i swyn,
Y sobrais i, a phrofi chwerwedd pwyll
Lle bu'r gyfaredd a'r gwirioni mwyn.
Dechreuais guro ar y fro lle'm ganed,
A synnu im' ei gweld erioed cyn laned.
Mwyach, lle darfu'r serch a'm dallodd c'yd,
Mor hawdd oedd rhifo'r creithiau yn fy nghnawd!
Mor hawdd oedd llidio a rhifo 'mlaen o hyd,
A thaeru, "Hyn yw tâl y Werin dlawd!
Os hi sy'n trin y maes dan ffrewyll gaeaf,
Nid hi sy'n medi golud y cynhaeaf.
"Heued fy Ngwerin ddwl ei chwŷs a'i gwaed,
Ymgrymed dan yr iau o fore hyd nawn;
Sathred y gwinwydd beunydd dan ei thraed,
Ond nad ymgrymed byth i brofi'r grawn.
Os hi sy'n gwasgar gyda'r briw ryfelwyr,
Nid hi sy'n casglu gyda'r llon fedelwyr.
"Os hi sy'n cynnal tân yr hen allorau,
Ewinedd hon sy'n teimlo min y rhew;
Os hi sy'n gyrru'r gân i'r pell ororau,
Gwae hon sydd drymaf pan lueddo'r glew.
Gwelais ei gwaed yn rhuddo'r rhiwiau geirwon,
Gwelais yr ych yn sarnu llwch ei meirwon.
"Clywais ei mawl i'r Ffydd nad yw'n diffoddi,
Ac unais innau'n gynnar yn y gân;
Gwelais yr hen gadwyni dur yn toddi,
Fel tresi cŵyr, yng ngwres y dwyfol dân;
Ond trannoeth wele'r iau yn deffro'r cur,
Ac oerni'r anial yn caledu'r dur."
Dihunais, do, a gweld, a'm gruddiau'n llaith,
Mor hurt fu'r crymu heb na chŵyn na chri;
Ond caredicach oedd fy nellni maith
Na'r golau tanbaid ddaeth i'm llygaid i.
Mi fynnwn chwerthin yn y gwyll bob awr
Rhag gorfod wylo yn y golau mawr.
Mi welwn gleisiau dwfn fy nhad o'm blaen,
A'r prinder oer fu'n gwawdio'i hawl i fyw,
A'i fedd rhy gynnar obry fel ystaen
Rhyfygus ar santeiddrwydd erw Duw.
Bu raid im' syllu'n ol dros lwch ei fedd
Cyn gweld fod olion gorthrwm ar ei wedd.
Odid y cariad sydd yn esmwythau
A'i cadwodd mor ddi-gŵyn dan iau'r caethiwed.
Mi wn nad treth ar ofal rhadlon ddau
Oedd celu'r pryder rhag eu plant diniwed;
Ond pan ddaeth yntau'r mab i brofi'r clwy,
Mor hawdd oedd gweld y llen yn syrthio'n ddwy!
Gwelwn y faenor draw yng nghoed y cwm,
Gwelwn fy nhad yn ddeiliad megis cynt;
Gwelwn y truan tlawd, a'i war yn grwm,
Yn trin y maes dan waetha'r glaw a'r gwynt.
Gwelwn mor ddrud cedd erwau'r doldir bras,
Gwelwn mor rhad oedd chwŷs a gwaed y gwas.
Sawl gwaith y llwybrodd hyd y gweundir oer
Heb lewych dydd i'w dywys ar ei daith?
Sawl gwaith y dringodd heb oleuni'r lloer
I'w arwain adref wedi'r llafur maith?
Sawl nos a'i canfu'n gado'r faenor draw,
A'i bymtheg ceiniog yn ei greithiog law?
Gwelwn fy mam yn tolio'i thamaid sych
Er cadw'r newyn oer rhag cwrdd â'i phlant ;
Gwelwn y brithyll mwyth yn llamu'r crych,
A'r crëyr obry'n glythu yn y pant;
Ond beth pe cerddai deiliad llwm y plas
I fedi'r dyfroedd gyda'r creyr glâs?
V.
Gwneuthum ddiofryd weithian wrth fy nôr
Y dygwn boen fy neffro chwerw i ben.
Mi gyrchwn decach gwlad tu hwnt i'r môr,
Yfwn o'i gwinoedd nes anghofio Gwen;
Ond cyn fy mynd, un peth a fynnwn i:
Cael cwrdd â'r adyn ffals a'i llithiodd hi.
Holais o faes i faes, o ddôr i ddôr,
Ffroenais bob hollt ac agen fel bytheiad.
Cwrddasom ar y clogwyn uwch y môr,
Safasom drem wrth drem yng ngolau'r lleuad.
Dechreuais, "Lwynog aflan, gwêl dy dâl,
Y dyfnder isod heno fydd dy wâl."
Bachodd fy mysedd yn ei fwnwgl main,
A grym gwallgofrwydd yn fy ngafael den;
Gwesgais ei ben i lawr i wely'r drain,
Syllais i'w lygaid gyda'r lleuad wen.
Llefais, "A oes it' heno ddadl neu gri
Namyn y celwydd sydd i'th enaid di?"
"Hyn," beichiai ef, "na roddais ennyd awr
I galon Gwen y gwin sy'n llawenhau.
Ni'm mynnai ond i ddofi'r hiraeth mawr,
Diwair ei henaid, er i'w chnawd lescau;
A gwybydd hyn O ffrwyth dy lwynau di
Y sugnai wrth ymollwng gyda mi."
Llewygodd. Rhywfodd, gwelwn innau'r sêr
Yn troi o'm cwmpas yn filiynau mân.
Ymgollwn wedyn mewn rhyw freuddwyd pêr,
A chlywed canu'n llenwi'r nefoedd lân.
Dadebrais, eithr ni fynnwn oedi'n hwy,-
Pa les dialedd ond i chwerwi clwy?
Dadebrodd yntau'n awr âg oerllyd gri,
A deffro'r morfrain yn y graig islaw;
Syllodd o'i gylch nes cwrdd â'm llygaid i,
Llithrodd yn ôl a'i wedd yn wyn gan fraw;
A chlywn ei gorff yn dal i dreiglo i lawr,
A gorffen rywle yn y gwagle mawr.
Sefais yn hurt a syfrdan uwch y lli,
A'r tonnau'n ocheneidio ar y marian.
Edrychai'r lleuad ar fy mhenbleth i,
A'r môr fel mynwent dan ei blodau arian;
Ac fel ysbrydion gwae yn tramwy'r nos,
Criai gwylanod gwynion uwch y rhos.
Obry, lle duai'r gwymon lesni'r dwr,
Mi welwn weithian lafn o wynder oer,
Llafn crwn o ewyn, ynte wyneb gwr
Yn rhythu'n welw yng ngoleuni'r lloer.
Yna daeth gwaedd, "O ffrwyth dy lwynau di
Y sugnai wrth ymollwng gyda mi."
Ni wyddwn yn fy nychryn pwy lefarodd,
Ai f'enaid chwil, ai llais o'r dwfn islaw;
Ond gwyddwn, er fy mhenbleth, pwy alarodd
Wrth frysio ymaith dros y gweundir draw:
"O, fro fy mebyd! Gwel fy aethus hynt!
Ai dyma fangre'r mwyn gyfamod gynt?"
Mi lechais hyd y bore yn yr hesg,
A chyrchu'r dibyn eilwaith gyda'r wawr ;
A gwelwn ef, fy ngelyn briw a llesg,
Yn dringo'n araf hyd y clogwyn mawr.
Mi wyddwn bellach, wrth ei ddilyn draw,
Nad oedd ei waed yn aros ar fy llaw.
VI.
Mi drois fy nghefn ar henfro'r hesg a'r cawn,
A llefain yn fy medd-dod ar y don :
"Byth na'm dilyned mwy na mwg dy fawn
Na'r serch a'm llonnodd ennyd ar dy fron!"
Ond gwybu f'enaid sobr yn nharth y lli
Mor anodd ydoedd ffoi o'i golwg hi.
Os pawr y ddafad ar ei bryniau tawel
Heb grwydro gyda mi i'r allfro draw,
Hi glyw hen glychau pêr y nant a'r awel
Heb fodd i'w phoeni ganddynt ddydd a ddaw.
Trois innau i ffwrdd tan sôn i'm cariad oeri,
A'r clychau'n dal i ddilyn heb ddistewi !
Yng ngherddi'r môr dilynai su'r afonydd,
Dilynai hefyd lais fel llais y Nef;
Ac ymhob storm mi glywn hen aelwyd lonydd
Yn galw yr alltud dwys yn ôl i dref.
Gwn heddiw nad oes bellter ar y blaned
All ddal yn ôl hen leisiau'r fro lle'm ganed.
O'm ceir mewn cornel yn rhy hen a blin
I gofio'r filltir olaf yn y byd,
Bydd stori'r filltir gyntaf ar fy min,
Ac oriau mebyd fydd yr oriau i gyd.
Adwedd plentyndod fydd yr olaf wên
A welir yn fy llygaid, druan hen.
Ni chofiaf yno rym y ddrycin fawr
A'm chwythodd draw o dref fel deilen grin.
Caf ddrachtio'r serch a gollais ennyd awr,
Ac ni bydd blas y wermod ar y gwin;
A mynnwn, pan ddirwyno f'oes i ben,
Fy nwyn yn ôl i'r fan lle gorwedd Gwen.
Mi glywais iddi grwydro'r mynydd mawr,
A chrio f'enw ganwaith hyd y rhos;
A chlywais fod ei chwerthin gyda'r wawr
Yn ddycnach fil na'i llefain yn y nos.
Daeth Amwyll, feddyg rhad, i ddofi'r clwy,
Hi chwarddai am na fedrai grio mwy.
Tawodd ei chwerthin gwallgof, fel ei chri,
Tawodd fy enw ar ei gwefus dlos.
Deil clo tragywydd ei chyfrinach hi,
A bydd yr allwedd mwy yng nghadw'r nos.
Mae'r barrug heno dros ei gwely'n drwch,
Ai osteg oer ar wefus sydd yn llwch.
Casgler fy esgyrn blin i'w hymyl hi,
Darfydded pob ymryson yn y llan;
Ac yn y fro a wybu'n gwynfyd ni,
Boed inni ail-briodas yn y man;
Ac o bydd ddistaw'r gloch a ganodd gynt,
Telored clychau'r nant a phibau'r gwynt.
Syrthied y crinddail ar ein trigfa'n drwch,
Malled y fodrwy wedi'r pall a'r clwy,
Cawn yno gylch yr enfys am ein llwch
Yn rhwym cyfamod nas datodir mwy;
Ac ni ddaw chwerwedd siom na dannod bai
I darfu hedd ein holaf dŷ o glai.