Neidio i'r cynnwys

Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Yr Anwylyd

Oddi ar Wicidestun
Llef o'r Lofa Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill

gan Dewi Emrys

Efa

YR ANWYLYD.

Paham y'th hoffais, ddihafal fun?
Gofyn i'r clogwyn ar drothwy'r wawr;
Gofyn i'r eithin ar fin y nant,
Wyt ferch y mynydd a'r oriau mawr.

Saf, fel cynt, ar y palmant pell,
A'r grug yn llaes ar dy fynwes brudd ;
Saf, a'th ddistawrwydd yn freuddwyd serch,
A mi'n ysbeilio'r gyfrinach gudd.

Saf yr awron ym min y rhos,
A glas dy lygaid fel glas y nef;
Saf yng nghorlan murmuron maes,
A'th felltith fythol ar dwrf y dref.

Dehongli suon yr hesg a'r brwyn,
Dëelli lafar y machlud hardd ;
A chlir i'th galon, lle siffrwd llwyn,
Yw'r gân sy'n ddistaw ym mron dy fardd.


Aros, fy Mhrydferth, yn hir, yn hir,
A balm dy wefus yn dofi clwy,
A'th fardd ar goll ym mhellterau hud,
Heb ofyn cysgod magwyrydd mwy.

Paham y'th hoffais, ddihafal fun?
Gofyn i'r clogwyn ar drothwy'r wawr;
Gofyn i'r eithin ar fin y nant,
Wyt ferch y mynydd a'r oriau mawr.


Nodiadau

[golygu]