Neidio i'r cynnwys

Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Yr Heliwr

Oddi ar Wicidestun
At Gyfaill Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill

gan Dewi Emrys

Y Merbwll

YR HELIWR.

Ei hoffter, gyda'i ddryll a'i gi,
Oedd chwilio encilfeydd y fro;
Ond gwyddwn fod Anelydd cudd
Yn gwylio'i gam o dro i dro.

Gadawodd ei ergydion chwyrn.
Gelanedd lawer yn y coed,
Ac yntau'r hen Anelydd cudd
Yn dal i ddilyn ôl ei droed.

Mi welaf heddiw'r ffesant ffals
Yn diystyrru'r prysglwyn praff,
A'r geinach nerfus yn y cwm
Yn pori wrth wely'r heliwr craff.

Er sicred ei ergydion chwyrn,
A'i ddryll yn tarfu bryn a dôl,
Fe wyddai'r hen Anelydd cudd
Fod saeth gyfrwysach eto'n ol.


Nodiadau

[golygu]