Neidio i'r cynnwys

Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill/Yr Oes Olau Hon

Oddi ar Wicidestun
Boanerges Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill

gan Dewi Emrys

Towyn

YR OES OLAU HON.

Oes canu maswedd wedi gwledda,
Oes a'i harwyr yn fyr o fara,
Oes erlid pêl ac elwa-ar ffyliaid,
Oes hurtio enaid â chonsertina.


Nodiadau

[golygu]