Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill (testun cyfansawdd)
← | Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill (testun cyfansawdd) gan Dewi Emrys |
→ |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill |

Y CWM UNIG
A Chaniadau Eraill.
Y Cwm Unig
A Chaniadau Eraill.
GAN
D. EMRYS JAMES.
LLANELLI:
Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan James Davies and Co., Ltd.,
Gwasg Deheudir Cymru.
1930.
AT Y DARLLENYDD.
Fe gynnwys y Gyfrol hon gryn nifer o ddarnau buddugol; eithr ni thybiwyd bod angen nodi'r gwahanol Eisteddfodau lle rhodded iddynt y blaen o bryd i bryd. Un peth yw ennill mewn cystadleuaeth; peth arall yw cynhyrchu gwaith sydd yn ei gymeradwyo'i hun ar gyfrif ei werth llenyddol.
Caiff y Cerddi hyn, bellach, siarad drostynt eu hunain mewn llys lletach na'r Eisteddfod; a'm gwobr bennaf, o'i chaffael, fydd dedfryd ffafriol y sawl a gyfuno wybodaeth addfed a chwaeth gymwys ym myd celfyddyd y bardd.
Rhwym arnaf ddiolch i Olygydd gwlatgar y Western Mail am ganiatâd i adargraffu darnau y talodd ef am danynt; i Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol am yr un rhyddid ynglŷn â detholion a wobrwywyd yn yr Wyl Flynyddol; i Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1926 (drwy law Mr. Talog Williams), am oddef imi ail-godi'r gân dafodieithol, "Pwll Deri"; i'm cyfaill medrus, Brynallt, am gynhorthwy gwerthfawr gyda'r proflenni ; ond, yn bennaf oll, i'r Cyhoeddwyr am roddi gwisg mor drwsiadus i'r Cerddi.
Uchelgais James Davies a'i Gwmni yw cyflwyno i'r cyhoedd lyfrau Cymraeg sydd yn deilwng o orau crefft yr argraffydd; ac i Werin Cymru, od yw'n chwennych i'r heniaith flodeuo, y perthyn y rhwymedigaeth o roddi iddynt y gefnogaeth a haeddant.
Digon yw ychwanegu nad ar gais "lliaws of gyfeillion" yr argreffir y casgliad bychan hwn o'm barddoniaeth, oddigerth, feallai, "Y Cwm Unig," awdl Cadair Powys am y flwyddyn 1929, a Chywydd "Efa," a fwriadwyd ar gyfer yr Awdl i Ddafydd ap Gwilym, oni buasai i'r gerdd honno orfod cydymffurfio â nifer penodol o linellau.
Hydref, 1930.
CYNNWYS
At Gyfaill
Yr Heliwr
Y Merbwll
Cloch y Llan
Cwsg
Edn y Mynydd
Y Bompren
Na'd-fi'n-Angof
Y Pysgotwr Bach
Y Cwm Unig
Y Bwthyn Uncorn
Rhywun
Carreg Fedd
Min y Llwyn
Eryri
Yr Alltud
Gofuned
Hiraeth
Noson Loergan
Rhagfyr
Llef o'r Lofa
Yr Anwylyd
Y CWM UNIG A CHANIADAU ERAILL.
AT GYFAILL.
Mi gefais ganlyn ffrwd dy faes,
A cheisio mwy na gwyrth ei chân.
Mi chwiliwn am bysgodyn mawr,
A gorfod godde'r pysgod mân.
Tafler y llith â chywrain law
I'r dyfroedd brasaf yn y byd,
Ceir cant a mwy o bysgod mân
Am bob pysgodyn mawr o hyd.
Cei yma ganlyn ffrwd fy nghân,
A'r maes yn rhydd o glawr i glawr.
Goddefa dithau'r pysgod mân
Wrth chwilio am bysgodyn mawr!
YR HELIWR.
Ei hoffter, gyda'i ddryll a'i gi,
Oedd chwilio encilfeydd y fro;
Ond gwyddwn fod Anelydd cudd
Yn gwylio'i gam o dro i dro.
Gadawodd ei ergydion chwyrn.
Gelanedd lawer yn y coed,
Ac yntau'r hen Anelydd cudd
Yn dal i ddilyn ôl ei droed.
Mi welaf heddiw'r ffesant ffals
Yn diystyrru'r prysglwyn praff,
A'r geinach nerfus yn y cwm
Yn pori wrth wely'r heliwr craff.
Er sicred ei ergydion chwyrn,
A'i ddryll yn tarfu bryn a dôl,
Fe wyddai'r hen Anelydd cudd
Fod saeth gyfrwysach eto'n ol.
Y MERBWLL.
Heddiw i bellter maes a môr
Y syllant gyda mi;
A gwn na chred y llygaid balch
Fod tegwch ynot ti.
I'th ymyl, dan lumanau'r haf,
Daeth llawer pasiant gwych,
A thithau'n fryntach nag erioed
Dan ddibris garn yr ych.
Amgenach neithiwr oedd dy wedd
Dan wrid y machlud mawr,
Fel pe syrthiasai darn o'r nef
Yn santaidd dlws i'r llawr.
Is tyrau fel colofnau tân,
Blodeuai mawredd môr,
A minnau'n gweld dy ddiffaith ddrych
Yn dal gogoniant Iôr.
Heddiw i bellter maes a môr
Y syllant gyda mi;
A gwn na chred y llygaid balch
Fod tegwch ynot ti.
CLOCH Y LLAN.
Clywch ei llais! Mae cloch y llan—yn uno
Deuddyn hoenus weithian:
"Bellach, dirwgnach fo'ch rhan,
Cofiwch nad mêl y cyfan."
Clywch ei llais! Mae cloch y llan—yn tywys
Y minteioedd weithian:
"Moliennwch, rhoddwch eich rhan,
Cofiwch pwy biau'r cyfan."
Clywch ei llais Mae cloch y llan,—yn nhy'r bedd,
Yn rhybuddio weithian:
"Purion eich rhwysg, prin eich rhan,
Cofiwch rhaid gado'r cyfan."
CWSG.
Ni'm dawr lle'm gorddiwes cwsg,—
Ar glawdd neu mewn gwely clyd;
Y fan lle medraf anghofio 'mhoen
Yw'r nyth bereiddiaf o hyd.
Ceisier mewn sidan a phlu
Ddefnyddiau sy'n esmwythau,
Ba rith o wely pan syllo'r diawl
I'r llygaid sy'n gwrthod cau!
Galwer at erchwyn teyrn
Ffisigwyr enwocaf gwlad,
Mor ddrud y tâl am a gaffwyf i
Ar fwdwl o wellt yn rhad!
Os maen sy'n obennydd im'
Heno ar ddyrys rawd,
Ba wâl amgenach dan ofal Cwsg,
Hen feddyg y truan tlawd?
Ni'm dawr lle'm gorddiwes cwsg,—
Ar glawdd neu mewn gwely clyd;
Y fan lle medraf anghofio 'mhoen
Yw'r nyth bereiddiaf o hyd.
EDN Y MYNYDD.
Seraff bach yr unigeddau,
Yn y grug a'r hesg,
Ar y mynydd yn telori
Heb un nodyn llesg.
Oer yw min yr awel heddiw,
Noeth yw llethrau'r twyn,
Tithau'n cadw y gân yn gynnes
Yn dy fynwes fwyn.
Wele'r haf yn nychu, nychu
Weithion dan dy droed,
Hydref gyda'i bwyntil gwawdus
Obry yn y coed.
Aros yn dy gartref uchel,
Cân uwch storm a chlwy';
Pe cawn i dy ryddid heddiw,
Ni ddisgynnwn mwy.
Y BOMPREN.
Ar ganllaw'r bompren neithiwr
Mi roddais bwys fy mhen.
Blodeuai'r ffrydiau nwyfus
Dan lewych lleuad wen;
A minnau uwch eu tegwch hwy
Yn cofio am brydferthwch mwy.
Mi glywn yr afon droeog
Yn canu yn y coed;
Ac ni bu salm bereiddiach
Ar wefus nant erioed.
Gwae imi brofi rhywbeth gwell
Ar wefus meinir oedd ymhell.
Fan honno ar y bompren,
A mi yn wylaidd wr,
Y medrais ddal i syllu
I'w threm yn nrych y dwr;
Ond neithiwr, lle bu wyneb Men
Nid oedd ond wyneb lleuad wen.
Aeth Men i ffwrdd i'r Aber
Dros lawer milltir faith;
Ac yno mae yr afon
Yn cyrraedd pen ei thaith;
Ond gŵyr y bompren ar y ddôl
Fod serch yn medru llifoʼn ôl.
NA'D-FI'N-ANGOF.
Gelwid hi yn hen ferch unig,
Hen ferch unig wyneb prudd,
A rhyw lafn o'i thlysni cynnar
Eto'n oedi ar ei grudd.
Gwn nad llanw y maith flynyddoedd
Roes yr ewyn yn ei gwallt.
Onid digon gaeaf unnos
I farugo tresi'r allt?
O cheid weithiau ar ei gwefus
Nwyfiant difyr blaen y lli,
Gwyddwn dro nad iaith y dyfnder
Oedd ei chwerthin oriog hi.
Dewr oedd ffug ei difaterwch
Lle doluriai'r atgof blin,
Dim ond newyn yn ei chalon,
Dim ond llwch y breuddwyd crin.
Fe ddôi Sul y Blodau heibio
Gyda'i wlith ar aethus wedd.
Galwai llais o'r hendre ddistaw
Lawer câr at fin y bedd;
Ond bu'r hen ferch unig yno
Cyn i'r dwyrain wrido draw,
Hen gyfamod ar ei gwefus,
"Na'd-fi'n-Angof" yn ei llaw.
Y PYSGOTWR BACH.
Mi welaf grwt penfelyn
Ar fin yr afon fach,
A chollen ystwyth yn ei law,
A llinyn hir a bach.
Mae chwerthin lond ei fynwes
Wrth weld y pysgod mân
Yn gwylltio rhag ei gysgod ef
Yn nrych yr afon lân.
Na syrthied llun yfory
Ar antur plentyn llon;
Fe'i sobrir yn rhy gynnar
Wrth afon fwy na hon.
Y CWM UNIG.
I.
Oedwn neithiwr, garwr gwŷdd,—yn y gwyll,
Uwch hen gwm dihysbydd,
Meingwm unig y manwydd,
Cwm dychryn ar derfyn dydd.
Obry, gwynder aberoedd—chwyrn, disglair,
Oleuai'r creigleoedd.
Hafn goediog, agennog oedd,
Anoddun rhwng mynyddoedd.
Hen geunant troellog is grugog greigiau,
Affan y dryswch a'r mwrllwch mawr,
Lleithder diferchwys i'w echrys ochrau,
Hen chwedlau bro yn goleuo'i lawr.
Lle ni welwyd llun heulwen—ar un wedd,
Eithr lliw'r nos anorffen;
Lle galar, lle gwatwar gwên,
A lle tywyll gwyllt awen.
Hendre'r anghrist a'r tristwch,—lle ni ddôi
Llawen ddydd hyfrydwch;
Lle diserch y traserch trwch,
Llety ellyll tywyllwch.
*******
Oedai cysgod trallod trwm—ar ael hwyr,
Ar loriau glyn noethlwm.
Crugiwyd esgyrn cedyrn cwm
Gyda mangoed y meingwm.
Wedi'r haf daeth hydrefwynt—i hyrddio
Irddail i le'r cerrynt.
Daeth i'r gwŷdd daith oer y gwynt
A rhu gofar gaeafwynt.
Sarnwyd aur parthau'r perthi,—gwae a ddaeth
I'w gwedd hithau'r gelli.
Wrth odre'r anfwyn dwyni
Nithiwyd llwch ei harddwch hi.
Isod, yn nhref ddigysur—yr adwyth,
Clywn drydar y durtur.
Yn ei chŵyn troes man ei chur
Yn ddiffaith dalaith dolur.
Rhywle yn nos ceuffos cwm,—dôi i'w llais
Nodau lleddf y gorthrwm.
Hi chwiliai wyll llety llwm,
A'i nythle'n furddun noethlwm.
A'r heulwen yn ffarwelio,—a mynydd
A mawnog yn llwydo,
Dôi'r hebog o'i dwr heibio,
A'i drem yn melltennu dro.
Dôi oer ias dros y drysi,—sŵn wylo,
Sŵn alaeth a chyni;
Ac o'r wern dôi oerllyd gri
Dylluanod y llwyni.
Hyd erchwyn anial edrychwn innau,
A chwydro'n glaf yn null araf llyry.
Hon oedd tref Hendad y Dychryniadau,
Ei ffau'r hen labrinth uffernol obry.
Is trwch y dryswch hydr isod,—yn nhwll
Y nych a'r bwganod,
Ni wynnai'r haul mwyn na'r ôd
Ddulawr ei nos ddiwaelod.
I'w lethrau nid oedd, gwm achrwm, ochrog,
Hoen adar difyr na gwynder defaid.
Codai uwch trobwll y ceudwll coediog
Ddychryn i fynydd, a chrynai f'enaid.
Gerwin ei greithiau is cyrrau ceyrydd,
Olion eryrod a difrod dyfroedd,
Ei wyneb dan noethni llwyni llonydd,
A dwndwr dŵr yng nghraidd ei ddyfnderoedd.
Hen ddyfnffos dunos dan wgus dwyni,
Heb liw addfwynder na mwynder mawl;
Hen gwm direswm y tawch a'r drysi,
Hen gŵys anorles a dorres diawl.
Hen geuffos creigleoedd aberoedd barus
Yn llyncu hafddydd llawenydd llinos,
Yn dirwyn fel afanc bolrwth, gwancus,
Yn ddiog, llosgyrnog i drig hirnos.
Ymblethai fel barn am dwyn a charnedd,
A throi a dilyn hyd eitha'r dalaith;
Ac uwch dryswch ei dduwch diddiwedd,
Aeliau mynyddoedd yn fflamio'n oddaith.
Mi welwn o'i fin cethrin, ysgythrog,
Hen geudod affwys rhyw gadau diffaith,
Hen lynclyn diddel Y Grifft ufelog,
Cul, addoer geubwll lle cleddir gobaith.
Yno 'roedd tlysni dan oerni hirnych,
Gwae newyn oer yn gwenwyno hiraeth;
Hen Annwfn dudew rhyw hil ddilewych,
A'i lethrau mor welw â threm marwolaeth.
Lle'r serch a gollwyd, hen aelwyd niwloedd,
Hendy anafus breuddwydion ofer;
Lle tynnu'n groes, lle cwerylon oesoedd,
Lle dyddiau adwyth, lle diwedd hyder.
Preswylfa'r wrach loerig, hen drig dreigiau,
Lle rhincian dannedd ac anwedd cyni;
Lle poeri malltod ar ienctid blodau,
Lle rhuthr y drain, lle aruthr drueni.
*******
II.
Dihoenai heulwen ar donnau heli,
A chwerwai murmuron eigion agos.
Daeth rhyw weddnewid anfwyn i dwyni,
Dros noethni mieri oerni hirnos.
O'r wybrennydd hyll-dremiai'r bryniau
Hyd wefus y cwm crcenllwm, crinllyd,
Eu ffrom hacrwch mal duwch duwiau,
Duwch rhyw hunllef oer dychrynllyd.
Draw, draw, a'i arswydus, echrys ochrau
Yn llenwi weithion eigion unigedd,
Trôi lefiathan hirgrwm y glannau
Yn hacrach, dduach i'r gwyll diddiwedd.
Trymhaodd agweddau gwyrthiau'r gorthaw,
Agweddau llwydion hen dystion distaw.
Cyffro nid oedd namyn allwyn llwyni
A duw distawrwydd yn dweud ei stori.
Eithr allan o geuffos y nos a'r nych
Daeth sŵn megis cyni ymboeni byw,
Sŵn storm o ddagrau, nid seiniau sych
Clindarddach crinddail a gwiail gwyw.
A minnau yno dan goed yn oedi
Uwch safn yr oer hafn, yn hanner ofni,
I'r lan o le tywyll gwyll y gelli
Daeth gwr a ddug allwyn nos y llwyni,
Henwr ysig yn nhresi—trychineb,
A'i wyllt, oer wyneb ail lliw trueni.
Gwelwn yn hwn, a'i ofni ennyd,
Bennaeth traglud y dyfnder dudew,
Ysbryd yr hengwm hirllwm, oerllyd,
Perwr lliw hydref, poerwr llwydrew.
Nychlyd ei lun, megis llun y llwyni,
Sain ei drueni fel sŵn dwyreinwynt,
Ei wadnau clytiog yn goch o'u trochi
Yng ngwaed yr haf lle blingai hydrefwynt.
Fe'm gwanodd drwodd, dan lwydwawr riwiau,
A threm dywyll, mor dywyll â dial,
Gwaith erydr Y Gethern ar ei gernau,
Gwallt hir ei henaint fel gwellt yr anial.
O dre siom enaid fe droes i'm hannerch,
A gorne llidiog i'w rannau llwydion;
Eithr o'm caffael yn ddiddan ar lannerch,
Daeth mwynder hafau i'w eiriau oerion.
Ail drysni'r cwm hirllwm, oerllyd,—wr hen,
Oedd ei druth cymysglyd,
Truth truan llwyd a gwanllyd
Allan o'i bwyll yn y byd.
Eithr aml y tarddai o bair ei eiriau
Ryw air a oleuai'r anial leoedd.
Dôi allan o'r dryslwyn swyn rhosynnau,
Gwawr rhamant gudd o nudd ei flynyddoedd.
Taenodd, wr gerwin, â'i ddwys ddewiniaeth
Dristwch ar ddrysni mieri marian.
I'r gwiail a'r dail rhoes ysbryd alaeth,
Dwyster ei enaid i stori anian.
Malpai llid yn ei erlid i dorlan,
Ymwasgodd ataf fel llong i hafan,
Môr ei eiriau'n dwyn amlder mererid
O ddyfnion fannau gaeafau gofid:
"Ar waun a doldir murmuron hiraeth
Yw nodau'r afar lle chwyth hydrefwynt.
Lliw nwyd diwala yw gwyndra gwendraeth,
A gweddi cariad yw gwaedd y corwynt.
"Grudd rhyw wyrf agos yw petal rhosyn
Ar lawr y wern, a pherl y wawr arno;
Wyneb a lwydodd yw gwywder blodyn,
A thon enaid ydyw'r gwlithyn yno.
"Mynnit holi is llwyni llannerch
Fy hynt dan oerwynt maes yr awron.
I wr a golles deyrnas traserch,
Hawdd yw oedi ar lwch breuddwydion.
"Tan noethni llwyni llonydd,
Hen lannerch serch obry sydd.
Yno, gâr, mae camfa'r coed,
Arwydd angerdd ieuengoed,
Cysegr teimlad difrad dau,
Eden fy Men a minnau.
"Bu ryw hir gymundeb rhôm,
A dryswaith rhoslwyn drosom;
Drachtio gwin deufin dwyfol,
Dal naws ymadael yn ôl ;
Ymglymu, sychedu o hyd,
Mynnu einioes mewn ennyd;
Rhoi i gymod gysgod gwŷdd,
Ac wylo gyda'n gilydd.
"Os siom oedd brysio ymaith
I dymhestloedd moroedd maith,
Down trwy eu rhuthr aruthr hwy
Adref i hafan modrwy.
"Draw ar faith dalaith dyli,
Hardded oedd fy mreuddwyd i!
Awel ysgawn ar lasgoed,
Mwyn drydar uwch camfa'r coed,
A bun hawddgar yn aros
Yno'n hir ym min y nos.
"Mae fy Men? Nid yw heno
Yn wridog is deiliog dô.
Huno mae ym min y môr
Dan oerni meini mynor.
Anwar don rua dani,
Rhua heb ei deffro hi;
I minnau yng nghwm henoed,
Man galar yw camfa'r coed.
"Ond dan lasgoed yn oedi
Caf o hyd ei hysbryd hi.
Hi gwyd o'r berth tan chwerthin,
A heulwawr mêl ar ei min;
A gwelir uwch creigle'r allt
Ar ael hwyr liw ei heurwallt.
Ceir i'r llwyn swyn rhosynnau,
Ceir hafddydd i ddedwydd ddau,
Llawenydd oriau llawnion.
A chymun serch mwyn ei sôn.
"Yma yr oedaf yn fy mharadwys
Lle llonnir f'esgyrn gan utgyrn atgof.
Yma y rhoddaf fy nghorff i orffwys
Hyd byth, a chwrlid y drysi drosof."
Ar hyn ei fin a grynodd,
Ai dân fel nudden a dôdd.
Gwrandewais, synnais innau,
A sêr nos hir yn neshau.
Dôi oer sŵn ar draws enaid,
Gwestl a gorllwyn anfwyn haid,
Is y geulan sŵn annos
A chabledd dan oerwedd nos,
Sŵn germain cwn yn y coed,
Udo agos dan dewgoed.
Daeth nos o ofn weithion drosto'n dristwch,
Sobrwydd distawrwydd dros lanw ei stori.
Cripiodd eilwaith i hafn y diffeithwch,
I lawr i dwll tywyll gwyll y gelli.
Hyd ddrinc, a'i gêr yn tincial,
Daeth o'r cwm deyrn tewdrwm, tal,
Porthor cry gwallgofdy gwael,
Cerlyn gefyn a gafael,
Hen ringyll hyll, a'i allwedd
Wrth ei glun fel diwarth gledd,
Rhyw allwedd oerwedd ddiryw,
Allwedd bedd y meirwon byw.
Daeth i'r ffordd, a'i osgordd ddu
Ar foelydd yn trafaelu,
Yntau'n holi tan wylio
Y llwybrau hawdd dan wyll bro.
Dynesodd yn dân iaswyn,
A rhuo'n awr hyd lawr glyn,
Troi'n aruthr ffrom o'i siomi
Nad bwyd gwaedgwn oeddwn i%;B
Wedyn egluro'n nwydwyllt
Y rhegi a'r gweiddi gwyllt.
Ceisient gorff cerpyn gorffwyll,
Tarfwr bro heb iddo bwyll,
Delff hudwg, dwl ffoadur,
Lletywr maes, holltwr mur.
Mynnent, myn diawl, eu hawliau,
Ei gael o belli gell gau,
A'i weld is haul Duw a'i sêr
Yn noswylio mewn seler,
Wrthnysig, loerig gleryn,
A'i wynt yn awr ar lawr glyn!
Trist uthr y daith i'm henaid weithian,
Clywed oergri mewn llwyni llonydd,
A gweld erlid o gil y dorlan
Y truan gwyllt i oerni gelltydd.
Gweld ei ddwyn gan anfwyn haid
O wyll llwyn i wyll enaid,
Ei gael o fyd mwynbryd Men
I dŷ alaeth diheulwen;
Gweld ei ddwyn mewn cadwyni
Hyd orallt ei heurwallt hi,
A'i droi, cyn wynned â'r ôd,
I le'r dolur diwaelod ;
Troi ei wae i dduach trig
Na mynwent y Cwm Unig.
Y BWTHYN UNCORN.
Un tân oedd dan ei gronglwyd,
A ninnau'n gylch cytun.
Fe ddaliai'r bwthyn uncorn
Gynghanedd yn ei lun.
Gwn heddiw beth a gollais i
Lle'r aeth y tân yn ddau neu dri.
Daeth bwlch i'r hen gyfeillach
Fu dan y cwrlid cawn;
Ac eofn yw'r mieri
Ar lwch y tanllwyth mawn;
Alle bu twll y simnai fawr
Rhy aml y sêr i'w rhifo'n awr.
Ymffrostied Cymru heddiw
Fod iddi lanach tai,
Tan amlder ei simneiau
Aeth undeb gwlad yn llai.
Gŵyr hithau beth a gollodd hi
Lle'r aeth y tân yn ddau neu dri.
RHYWUN.
Nid oeddwn fardd hyd oni ddaeth
A'm gado ym magl ei thlysni'n gaeth.
Awen ni roed erioed i'm bron
Namyn fy loes o golli hon,—
Y Rhywun hardd.
Dros wddf fel gloywder lili wen,
Disgynnai rhaeadr aur o'i phen;
Ac asur nef yn nwfn y lli
Oedd glesni mwyn ei llygaid hi—
Y Rhywun hardd.
I'r glesni tawel syllais i,
A deffro mellt ei dicter hi.
Edrychais eilwaith, a daeth gwawr
I ddofi llid y ddrycin fawr,—
Y Rhywun hardd.
Fel deilen rydd ar afon gref,
Hi aeth ar goll ym merw y dref;
A'm calon innau'n brwydro'n ffôl
A thwrf y tonnau ar ei hôl,―
Y Rhywun hardd.
Nid oeddwn fardd hyd oni ddaeth
A'm gado ym magl ei thlysni'n gaeth ;
A'r unig dant a feddaf i
Yw'r hiraeth am ei thegwch hi,-
Y Rhywun hardd.
CARREG FEDD.
Pwy safodd yn dy ymyl,
A phasio yn ei flaen?
Ni thynnaist ef i wrando
Dy lafar, wlithog faen.
Mi wn nad byddar ydoedd,
Os araf oedd ei droed.
Safodd i wrando bronfraith
Yn cathlu yn y coed.
Aed yn ei flaen yn llawen
O dref yr hiraeth drud.
Mi garwn innau basio
A'th gael yn garreg fud.
MIN Y LLWYN.
Mi dariaf wrth hen dyddyn briw
A'm noddodd rhag tymhestloedd maith.
Mae llonder gwanwyn yn y coed
A hiraeth ar fy ngrudd yn llaith.
Isel yw'r nenbren ger y mur,
A'r drain yn gwawdio'r uchaf faen,
A hithau'r dderwen braff gerllaw
Yn dal i ddringo yn ei blaen.
Isel yw'r coediwr erbyn hyn,
A'i wely'n lâs dan lesni'r nef,
Ac utgyrn Mai yn deffro'r haf
Ym mrigau'r coed a blannodd ef.
ERYRI.
(Gyda'r hwyr, Mawrth 11eg, 1930).
Dduw anian, dy ddaioni-a welaf
Ar foelydd Eryri.
Os anfwyn yw'r clogwyni,
Daw yno dân dy wên di.
Gwelaf odidog olud-dy law fawr
Ar dalfeydd y machlud,
Mireinder trumau'r hendud,
Aruthredd eu mawredd mud.
Eurwawr yr uchelderau-a erys
Ar geyrydd diflodau,
Lliwiau perl ar gestyll pau,
Gemau haul ar gymylau.
Caf weithion dystion distaw-i'th allu
A'th ewyllys ddifraw,
Dy anferth nerth dan orthaw,
Dy rym yn ddilafar draw.
Addfwyn y deil lliw'r gwyddfid—ar eu gwedd
Dy dragwyddol ienctid;
A darn o'th fawr gadernid
Yw'r uchel lethr a chwâl lid.
Rhwysg aneirif ganrifoedd—a giliodd
O'r golwg i'r niwloedd;
Eithr uwch dyfnfor yno'r oedd.
Diofn wedd dy fynyddoedd.
YR ALLTUD.
Draw, draw mae cribog fro a gerais i,
Hen fro'r bugeiliaid a'r tyddynnod mân.
Mawrygais gysgod ei mynyddoedd hi,
A'u balchder difraw yn y twrf a'r tân;
A chenais, cyn im' brofi siom a chlwy,
Am gewri a naddwyd o'u cadernid hwy.
Yno y clywais i hyfrydlais mam,
Yno daeth syndod gynta' i'r llygaid hyn;
Yno y crwydrais i yn fyr fy ngham
I'm dychryn gan y rhaeadr yn y glyn.
Bum ganwaith wedyn uwch ei wynder broch,
A staen y llus a'r syfi ar fy moch.
Yno bu breuddwyd hardd fy mebyd mwyn
A sibrwd y cyfrinion tlysa' erioed;
Yno bu clychau'r lloer ar gangau'r llwyn,
A'r tylwyth teg yn dawnsio yn y coed.
Yno y llemais gyda'r ŵyn a'r myllt,
A'r nant yn chwerthin gyda'r rhosyn gwyllt.
Mi welais Ionor hy, â'i ddwrn o ia,
Yn taro'r dyfroedd â mudandod oer;
Gwelais ei farrug ar delynau'r ha',
A hithau'r nant yn fudan dan y lloer ;
Ond miwsig gwell na cherddi'r haf, bryd hyn,
Oedd miri'r llithro llawen ar y llyn.
Cofiaf yr hedd ddilynai gyda'r hwyr,
A'r fflam yn datod cân hen foncyff crin;
Cofiaf fy mlinder yn diflannu'n llwyr
Lle llifai'r chwedlau difyr megis gwin.
Dihunai'r fflam hen leisiau'r llwyn a'r ddôl,
A'r chwedl yn galw yr oesoedd pell yn ol.
Dychwelai Arthur Fawr o'i ogof gudd,
A mellt ei enaid tanbaid ar ei gledd ;
Dychwelai'r dirgel heliwr Gwyn ap Nudd,
Ag olion nosau geirwon ar ei wedd.
Dychwelai Olwen, bun y bardd erioed,
A gwynder meillion lle bu sang ei throed.
Cofiaf y pader bach a'i ddwyfol swyn,
A mam yn sôn am ryw Baradwys fry.
Lle plygem yng ngoleuni'r gannwyll frwyn,
Mor agos oedd y Nefoedd at y tŷ !
Mi gredwn, pan ddôi chwarae'r dydd i ben
Mai Gwalia arall oedd y Nefoedd Wen.
Cofiaf y cusan mwyn ar derfyn dydd,
A'm cloi mewn clydwch dan y cwrlid trwm;
Cofiaf y chwiban nwydus yn y gwŷdd,
A'r twrf carlamus obry yn y cwm.
Meddyliwn am yr heliwr Gwyn ap Nudd,
Y glew ag ôl y ddrycin ar ei rudd.
A mi mewn nyth o wlân yn gwrando 'n syn,
A'r chwedl yn trechu cwsg am ennyd awr,
Melys oedd nodau'r corwynt yn y glyn,
A chri'r llifogydd ar y mynydd mawr.
Ap Nudd oedd obry'n chwiban yn y glaw,
A'i gŵn yn ateb ar y llechwedd draw!
Cyn hir, a'r blin amrannau'n mynnu cau,
Gwelwn yr helgwn chwim yn croesi'r lli,
Yntau Ap Nudd o'r fforest yn neshau,
A'i law yn estyn bwa mawr i mi.
Dychwelais yn y bore lawer gwaith
O hela gydag ef drwy'r ddunos faith!
Hen fro fy mebyd, hendre'r neint a'r twyni!
Os hwyliais ymaith o'i chynteddoedd hi,
Mae llanw pell fy ngwanwyn yn ei llwyni
Yn murmur eto yn fy enaid i.
Pêr oedd y pibau arian yn ei choed,
A santaidd oedd ei daear dan fy nhroed.
Clywais yn fore am yr eira glân
A wridodd ar ei bryniau yn y nos;
A chlywais hefyd fod y defaid mân,
Yn tramwy llwch ei dewrion ar y rhos.
Mi synnwn, lanc breuddwydiol, at y stori
Wrth wylio'r praidd yn nhangnef hon yn pori.
Lle'r oedai'r glasniwl ar yr hesg a'r brwyn,
Deallwn lafar ei gwylltineb hi;
A rhyw beroriaeth uwch peroriaeth llwyn
Oedd lleisiau'r gweundir yn fy nghalon i.
Ni chriai edn wrth ddianc dros y ffin
Nad oedd ei enw yn ebrwydd ar fy min.
Mi hoffwn ado'r afon yn y coed,
A'i chwrddyd fry ym mrwyn y rhostir maith.
Chwimwth y codai'r giach dan fy nhroed,
A gwibio draw fel saeth drwy'r niwlen laith.
Araf y trôi'r cornicyll yn y nudd,
A thrymder ffarwel yn ei chwiban prudd.
Cofiaf y petris uwch yr annedd wen
Yn ffoi ar drystiog ffrwst o gŵysi'r yd,
A'r hebog craff yn hofran yn y nen,
A'i lygad ar y g'lomen wen o hyd.
Druan o honi, obry'n goch ei bron,
Rhoed creulon doll ar ddiniweidrwydd hon.
Cofiaf y deri'n gwegian yn y cwm,
Ac ysbryd gwae yn hedfan drwy'r wybrennau;
Cofiaf y bryniau'n gwatwar cystwy trwm
Y dymestl fawr, a'r mellt yn wallt i'w pennau'
A'r gwyddau gwylltion fry yn entrych nef
Yn brysio ymaith rhag y ddrycin gref.
Hir syllwn ar y clogwyn uwch y marian
Yn hyrddio'r don yn drochion hyd y nen,
A hithau'n syrthio'n ôl yn gawod arian,
A'i gladdu dan y lluwch o'i wadn i'w ben;
Yntau'n ymnoethi eilwaith megis cawr,
Wawdiwr godidog y rhyferthwy fawr.
Cofiaf ei fynwes gan friallu'n frith,—
Gwobrwyon Olwen wedi'r twrf a'r tân,
A'r rhwydi gwawn yn hongian dan y gwlith
Fel brodwaith arian dros yr egin mân;
A phwy oedd obry'n gynnar gyda'r wawr
Yn arogldarthu yn y fforest fawr?
Hyfryd oedd gweld y gaeaf draw ar ffo,
A'r claf yn gwenu wedi'r gorthrwm hir,
A gwrando'r utgyrn aur yng nghoed y fro
Yn galw'r fyddin werdd yn ôl i'r tir,
A'r milfil blagur, wedi'r brwydro maith,
Yn cychwyn fel concwerwyr ar eu taith.
Cofiaf y chwa yn canu clychau'r grawn,
A'r hedydd uwch y gwenith yn caroli,
A minnau'r bugail bach ar falmaidd nawn
Yn gwylio'r fro, a'm henaid arni'n ffoli.
Ym mangre'r cymun pêr mi wylwn bron
Gan lawnder swyn: "Pa wlad mor deg â hon?"
Yno bu'r Awen, ferch y dibris ennill,
Yn hudo'r bugail ar ddisberod llwyr ;
A hyfryd oedd corlannu yn ei bennill
Y suon ddôi i'w enaid gyda'r hwyr ;
Ond nid mor hyfryd, wedi'r sobri syn,
Oedd chwilio'r defaid coll o fryn i fryn.
Cofiaf y graig yn pefrio yn y gwres,
A thawch y mintys gwyllt yn cymell cwsg,
A'r gwenyn yn llesmeirio yn y tes
Gan lawnder mêl yng ngerddi'r mill a'r mwsg,
A'r gôg, fel hoeden wamal ar ei thro,
Yn taeru ei bod hithau yn y fro.
II.
Cynnar y syllais ar ei thegwch hi,
Y ferch a'r annhrefn ddifai yn ei gwallt,
Y ferch a lamai'r dorlan gyda mi,
A'i deufin fel y syfi yn yr allt.
Hi chwarddai gyda'r nentydd, a pha dafod
Na soniai am brydferthwch Gwen yr Hafod?
Gwynnach na blodau'r drain oedd mwnwgl hon,
Cochach na'r crawel oedd ei deurudd hardd ;
Glasach na'r crinllys oedd eu llygaid llon,
Mwynach ei llais na'r awel yn yr ardd;
A phylai eurlliw hwyrddydd ar y lli
Yn ymyl pelydr ei llywethau hi.
Cofiaf y dydd y rhoddes dirgel glefyd
Ryw glo helbulus ar fy llafar i;
Cofiaf y dydd yr anfodlonais hefyd
Fod cymaint chwerthin ar ei gwefus hi;
A thybiais dro, heb wybod sut i'w thrafod,
Mai callestr ydoedd calon Gwen yr Hafod.
Syllwn i'r llygaid glas, ymbiliwr tawel,
Heb ganfod ateb yn eu llonder hwy;
A chenfigennwn beunydd wrth yr awel
A chwythai'r rhaffau aur" i ddryswch mwy.
A wyddai'r greulon fod yr awel ffri
Yn plethu'r rhaffau am fy enaid i?
Sawl gwaith y trois i'r buarth gyda hon
Ar derfyn dydd a'm mynwes megis pair?
Yr eisiau mawr yn llefain yn fy mron,
A'm genau ffôl yn gwrthod llunio gair!
Hi lamai at y tŷ âg ysgafn droed,
A'i chwerthin yn greulonach nag erioed.
Cofiaf y dydd, a hwnnw yn ddydd cymylau,
Y cefais gorn yr aradr dan fy llaw.
O, falched oeddwn i o'm par ceffylau,
A balchach fyth fod llygaid Gwen gerllaw!
Chwibanwn gyda'r gwynt wrth greithio'r ddôl,
A gosgordd o wylanod ar fy ôl.
Dringwn i'r braenar beunydd gyda'r wawr
Heb glywed llef y gwynt na thwrf y don.
Ofer y curai oerni'r mynydd mawr
Ar wres y cariad cyfrin yn fy mron;
A chywir oedd fy nghŵys mewn gwynt a glaw
O deimlo'r llygaid glas yn canlyn draw.
Hi giliodd dymor byr i'r ddinas fawr,
A chiliodd tlysni'r henfro yr un pryd.
Ar estron wlad y syllwn gyda'r wawr,
Ac ymbalfalu mewn rhyw ddieithr fyd;
A dyna'r pryd y gwybu f'enaid i
Nad oedd fy mro ond ffrâm o'i chwmpas hi.
Eithr wedi hyn datododd sêl fy serch,
A thafod rhwym y mudan a lefarodd.
Gwelais fy Ngwen yn gorffwys, rwyfus ferch,
Yn fodlon iawn ar fron y llanc alarodd.
Mi brofais hefyd, wedi'r syched hir,
Fod ffrwythau gwell na'r syfi yn y tir.
Finfin â'n gilydd obry yn yr allt,
Ba wynfyd mwyach fel ein gwynfyd ni?
Cleddais fy wyneb droeon yn ei gwallt,
Drechtiais o newydd win ei gwyrfdod hi.
Daeth hithau'r lloer (hen arfer hon erioed)
I wrando'r mwyn gyfamod yn y coed.
*******
Fe gofir yn y pentref amser hir
Y dydd y'n hunwyd wrth yr allor lân.
Gorffwysai'r ôg a'r aradr ar y tir,
A safai'r efail heb na thinc na thân.
Ni chwyrnai rhôd y felin is y llyn,
Ac ni chwibanai hwsmon ar y bryn.
I ffwrdd â'r offer gwaith, i lawr â'r pwn!
Rhoed yntau'r crydd ei ffedog heibio dro!
Rhaid cyrchu'r llan bob un ar ddydd fel hwn,
Rhaid gweld priodas geneth lana'r fro;
Rhaid gweld y bugail, heriwr craig a thon,
Mewn dryswch yng nghadwyni tegwch hon.
Mewn cwmwl o wynebau cerddwn i,
A hithau'n gwrido'n fwyn ar fraich ei gwr.
Disgleiriai'r heulwen ar ei modrwy hi,
A'r gloch yn dawnsio'n wallgof yn y twr;
Ac yn y fynwent werdd lle clywsom wylo,
Clywn londer mawr, a'r coed yn curo'u dwylo.
Estynnwyd i'm hanwylyd bwysi hardd,
A darlun oedd o burdeb ei blynyddoedd.
Rhoed ynddo flodyn pêr o lawer gardd,
Ac ambell flodyn gwyllt o'r pell fynyddoedd ;
Ond tystiai'r hen fugeiliaid yn gytun
Mai'r blodyn harddaf ydoedd Gwen ei hun.
III.
Fry ar y fawnog beunydd gyda hi,
A'r hedydd uwch ein cartref yn telori,
Fy nefoedd oedd y tyddyn uwch y lli,
A'r defaid mân o gylch ei furiau'n pori.
Dedwyddach oeddwn i na gwr y plas,
A chwbl ei enaid yn ei ddoldir bras.
Dringwn fel cynt i'r dalar gyda'r wawr,
A'r wylan yn fy nilyn draw o'r traeth.
Gollyngwn innau'n rhydd i'r gwynt yn awr
Y serch a gelwyd fel aderyn caeth.
Telorai yntau yn ei newydd fyd,
A chanai'r hen fynyddoedd yr un pryd.
Prysurwn adre'n sionc ar derfyn dydd
Heb deimlo briw na chofio'r oriau maith.
Croeswn y ceunant dwfn tan ddryswch gwŷdd,
A'm henaid yn caroli ar y daith.
Ni allai fod na draenen yn y coed
Na charreg erwin chwaith o dan fy nhroed.
Ni allai fod na nam na cham na chŵyn,
Na phall na syrffed chwaith lle canwn i,
Dim ond prydferthwch Gwen ar ddôl a thwyn,
A minnau'n frenin ar ei chalon hi,
Dim ond gorfoledd serch o hyd, o hyd,
A hithau'r fawnog yn baradwys byd.
Rhyfeddais wedi hyn, a'm gwar yn grwm,
Mor hurt y gwas na theimlai bwys yr iau.
Ni chreffais, pan ymrwystrais yn y cwm,
I'r ffordd erwino am i serch bellhau;
Yn unig teimlo drysi yn y coed,
A theimlo cerrig llymion dan fy nhroed.
IV.
Creulon fu'r deffro a'r ymwybod drud,
Gweled mai breuddwyd oedd fy ngwynfyd oll,
Gweled fy nhreulio megis ysgrubl mud,
A'm troi i furddun fy mharadwys goll,
A gweled bro fy mebyd gyda'r hwyr
Yn araf hacru a mynd ar goll yn llwyr.
Ba hwyr oedd hwn? Nid hwyr y ffarwel hir
A'm galwodd ymaith i wynebu'r drin.
Anwylach y pryd hwnnw oedd y tir
Lle'r wylai Gwen, a'm henw ar ei min;
A hawdd oedd diolch obry yn y glyn
Fod golau yn yr annedd ar y bryn.
Ni'th flinaf heddiw, ffrind, â stori'r ffos,
A'r cyrff a fathrwyd megis gwellt dan draed.
Digon am byth fu'r gwae a chwerwai'r nos,
A'r llaid a droes cyn hir yn gorbwll gwaed;
Ond trymach gwae i filwr, barna di,
Fu'r llythyr dienw a ddaeth i'm dwylo i.
Darllenais ef, a'r llaid o'm cylch yn tasgu
Gan hwrdd a gorddwy chwyrn yr erydr tân;
Darllenais ef, a rhywbeth poeth yn gwasgu
Fy llwnc fel gefyn dur, a'm tagu'n lân.
Darllenais lawer gwaith, a'm gruddiau'n lli,
"Nid ffyddlon mwyach ydyw Gwen i ti.
Dychwelais wedi'r drin i hedd fy ngwlad,
A dyna'r hwyr a'm canfu'n wael fy llun.
Ba ennill ydoedd trechu yn y gâd,
A cholli'r cyfan yn fy mro fy hun?
Nid oedd na chri croesawus yn y glyn
Na golau yn yr annedd ar y bryn.
Er hyn, mi fentrais amau'r llythyr hy,
A throi i ganu obry yn y glyn.
Os na ddôi llewych o'r hen dyddyn fry,
'Roedd llusern fach fy ngobaith eto 'n nghynn;
A thyngais ganwaith ar hen lwybr y rhos
Y llamai Gwen i'm cwrddyd ar y clôs.
Llefais ei henw rhwng y muriau llaith,
Ond ni ddôi ateb namyn llef y gwynt.
Chwiliais am dani hyd y rhostir maith,
Cwynais, "Ai dyma'r wlad a gerais gynt?
O, na chawn heno oddef bryntni'r gelyn
Rhag gorfod goddef sawr yr eithin melyn!"
Trist, trist y pwysais drannoeth ar y ddôr,
A thwymyn o ddychmygion yn fy mhen.
Tlws, tlws, dan rosliw'r wawr, y gwridai'r môr,
A'r bryniau'n fflamio'n oddaith hyd y nen;
Ond yn yr annedd wâg uwch hedd y lli,
Hen ffrâm heb ddarlun oedd fy ngwlad i mi.
Weithian, fel gwr a wêl ddinoethi twyll
Dewines ffals a'i meddwodd ef â'i swyn,
Y sobrais i, a phrofi chwerwedd pwyll
Lle bu'r gyfaredd a'r gwirioni mwyn.
Dechreuais guro ar y fro lle'm ganed,
A synnu im' ei gweld erioed cyn laned.
Mwyach, lle darfu'r serch a'm dallodd c'yd,
Mor hawdd oedd rhifo'r creithiau yn fy nghnawd!
Mor hawdd oedd llidio a rhifo 'mlaen o hyd,
A thaeru, "Hyn yw tâl y Werin dlawd!
Os hi sy'n trin y maes dan ffrewyll gaeaf,
Nid hi sy'n medi golud y cynhaeaf.
"Heued fy Ngwerin ddwl ei chwŷs a'i gwaed,
Ymgrymed dan yr iau o fore hyd nawn;
Sathred y gwinwydd beunydd dan ei thraed,
Ond nad ymgrymed byth i brofi'r grawn.
Os hi sy'n gwasgar gyda'r briw ryfelwyr,
Nid hi sy'n casglu gyda'r llon fedelwyr.
"Os hi sy'n cynnal tân yr hen allorau,
Ewinedd hon sy'n teimlo min y rhew;
Os hi sy'n gyrru'r gân i'r pell ororau,
Gwae hon sydd drymaf pan lueddo'r glew.
Gwelais ei gwaed yn rhuddo'r rhiwiau geirwon,
Gwelais yr ych yn sarnu llwch ei meirwon.
"Clywais ei mawl i'r Ffydd nad yw'n diffoddi,
Ac unais innau'n gynnar yn y gân;
Gwelais yr hen gadwyni dur yn toddi,
Fel tresi cŵyr, yng ngwres y dwyfol dân;
Ond trannoeth wele'r iau yn deffro'r cur,
Ac oerni'r anial yn caledu'r dur."
Dihunais, do, a gweld, a'm gruddiau'n llaith,
Mor hurt fu'r crymu heb na chŵyn na chri;
Ond caredicach oedd fy nellni maith
Na'r golau tanbaid ddaeth i'm llygaid i.
Mi fynnwn chwerthin yn y gwyll bob awr
Rhag gorfod wylo yn y golau mawr.
Mi welwn gleisiau dwfn fy nhad o'm blaen,
A'r prinder oer fu'n gwawdio'i hawl i fyw,
A'i fedd rhy gynnar obry fel ystaen
Rhyfygus ar santeiddrwydd erw Duw.
Bu raid im' syllu'n ol dros lwch ei fedd
Cyn gweld fod olion gorthrwm ar ei wedd.
Odid y cariad sydd yn esmwythau
A'i cadwodd mor ddi-gŵyn dan iau'r caethiwed.
Mi wn nad treth ar ofal rhadlon ddau
Oedd celu'r pryder rhag eu plant diniwed;
Ond pan ddaeth yntau'r mab i brofi'r clwy,
Mor hawdd oedd gweld y llen yn syrthio'n ddwy!
Gwelwn y faenor draw yng nghoed y cwm,
Gwelwn fy nhad yn ddeiliad megis cynt;
Gwelwn y truan tlawd, a'i war yn grwm,
Yn trin y maes dan waetha'r glaw a'r gwynt.
Gwelwn mor ddrud cedd erwau'r doldir bras,
Gwelwn mor rhad oedd chwŷs a gwaed y gwas.
Sawl gwaith y llwybrodd hyd y gweundir oer
Heb lewych dydd i'w dywys ar ei daith?
Sawl gwaith y dringodd heb oleuni'r lloer
I'w arwain adref wedi'r llafur maith?
Sawl nos a'i canfu'n gado'r faenor draw,
A'i bymtheg ceiniog yn ei greithiog law?
Gwelwn fy mam yn tolio'i thamaid sych
Er cadw'r newyn oer rhag cwrdd â'i phlant ;
Gwelwn y brithyll mwyth yn llamu'r crych,
A'r crëyr obry'n glythu yn y pant;
Ond beth pe cerddai deiliad llwm y plas
I fedi'r dyfroedd gyda'r creyr glâs?
V.
Gwneuthum ddiofryd weithian wrth fy nôr
Y dygwn boen fy neffro chwerw i ben.
Mi gyrchwn decach gwlad tu hwnt i'r môr,
Yfwn o'i gwinoedd nes anghofio Gwen;
Ond cyn fy mynd, un peth a fynnwn i:
Cael cwrdd â'r adyn ffals a'i llithiodd hi.
Holais o faes i faes, o ddôr i ddôr,
Ffroenais bob hollt ac agen fel bytheiad.
Cwrddasom ar y clogwyn uwch y môr,
Safasom drem wrth drem yng ngolau'r lleuad.
Dechreuais, "Lwynog aflan, gwêl dy dâl,
Y dyfnder isod heno fydd dy wâl."
Bachodd fy mysedd yn ei fwnwgl main,
A grym gwallgofrwydd yn fy ngafael den;
Gwesgais ei ben i lawr i wely'r drain,
Syllais i'w lygaid gyda'r lleuad wen.
Llefais, "A oes it' heno ddadl neu gri
Namyn y celwydd sydd i'th enaid di?"
"Hyn," beichiai ef, "na roddais ennyd awr
I galon Gwen y gwin sy'n llawenhau.
Ni'm mynnai ond i ddofi'r hiraeth mawr,
Diwair ei henaid, er i'w chnawd lescau;
A gwybydd hyn O ffrwyth dy lwynau di
Y sugnai wrth ymollwng gyda mi."
Llewygodd. Rhywfodd, gwelwn innau'r sêr
Yn troi o'm cwmpas yn filiynau mân.
Ymgollwn wedyn mewn rhyw freuddwyd pêr,
A chlywed canu'n llenwi'r nefoedd lân.
Dadebrais, eithr ni fynnwn oedi'n hwy,-
Pa les dialedd ond i chwerwi clwy?
Dadebrodd yntau'n awr âg oerllyd gri,
A deffro'r morfrain yn y graig islaw;
Syllodd o'i gylch nes cwrdd â'm llygaid i,
Llithrodd yn ôl a'i wedd yn wyn gan fraw;
A chlywn ei gorff yn dal i dreiglo i lawr,
A gorffen rywle yn y gwagle mawr.
Sefais yn hurt a syfrdan uwch y lli,
A'r tonnau'n ocheneidio ar y marian.
Edrychai'r lleuad ar fy mhenbleth i,
A'r môr fel mynwent dan ei blodau arian;
Ac fel ysbrydion gwae yn tramwy'r nos,
Criai gwylanod gwynion uwch y rhos.
Obry, lle duai'r gwymon lesni'r dwr,
Mi welwn weithian lafn o wynder oer,
Llafn crwn o ewyn, ynte wyneb gwr
Yn rhythu'n welw yng ngoleuni'r lloer.
Yna daeth gwaedd, "O ffrwyth dy lwynau di
Y sugnai wrth ymollwng gyda mi."
Ni wyddwn yn fy nychryn pwy lefarodd,
Ai f'enaid chwil, ai llais o'r dwfn islaw;
Ond gwyddwn, er fy mhenbleth, pwy alarodd
Wrth frysio ymaith dros y gweundir draw:
"O, fro fy mebyd! Gwel fy aethus hynt!
Ai dyma fangre'r mwyn gyfamod gynt?"
Mi lechais hyd y bore yn yr hesg,
A chyrchu'r dibyn eilwaith gyda'r wawr ;
A gwelwn ef, fy ngelyn briw a llesg,
Yn dringo'n araf hyd y clogwyn mawr.
Mi wyddwn bellach, wrth ei ddilyn draw,
Nad oedd ei waed yn aros ar fy llaw.
VI.
Mi drois fy nghefn ar henfro'r hesg a'r cawn,
A llefain yn fy medd-dod ar y don :
"Byth na'm dilyned mwy na mwg dy fawn
Na'r serch a'm llonnodd ennyd ar dy fron!"
Ond gwybu f'enaid sobr yn nharth y lli
Mor anodd ydoedd ffoi o'i golwg hi.
Os pawr y ddafad ar ei bryniau tawel
Heb grwydro gyda mi i'r allfro draw,
Hi glyw hen glychau pêr y nant a'r awel
Heb fodd i'w phoeni ganddynt ddydd a ddaw.
Trois innau i ffwrdd tan sôn i'm cariad oeri,
A'r clychau'n dal i ddilyn heb ddistewi !
Yng ngherddi'r môr dilynai su'r afonydd,
Dilynai hefyd lais fel llais y Nef;
Ac ymhob storm mi glywn hen aelwyd lonydd
Yn galw yr alltud dwys yn ôl i dref.
Gwn heddiw nad oes bellter ar y blaned
All ddal yn ôl hen leisiau'r fro lle'm ganed.
O'm ceir mewn cornel yn rhy hen a blin
I gofio'r filltir olaf yn y byd,
Bydd stori'r filltir gyntaf ar fy min,
Ac oriau mebyd fydd yr oriau i gyd.
Adwedd plentyndod fydd yr olaf wên
A welir yn fy llygaid, druan hen.
Ni chofiaf yno rym y ddrycin fawr
A'm chwythodd draw o dref fel deilen grin.
Caf ddrachtio'r serch a gollais ennyd awr,
Ac ni bydd blas y wermod ar y gwin;
A mynnwn, pan ddirwyno f'oes i ben,
Fy nwyn yn ôl i'r fan lle gorwedd Gwen.
Mi glywais iddi grwydro'r mynydd mawr,
A chrio f'enw ganwaith hyd y rhos;
A chlywais fod ei chwerthin gyda'r wawr
Yn ddycnach fil na'i llefain yn y nos.
Daeth Amwyll, feddyg rhad, i ddofi'r clwy,
Hi chwarddai am na fedrai grio mwy.
Tawodd ei chwerthin gwallgof, fel ei chri,
Tawodd fy enw ar ei gwefus dlos.
Deil clo tragywydd ei chyfrinach hi,
A bydd yr allwedd mwy yng nghadw'r nos.
Mae'r barrug heno dros ei gwely'n drwch,
Ai osteg oer ar wefus sydd yn llwch.
Casgler fy esgyrn blin i'w hymyl hi,
Darfydded pob ymryson yn y llan;
Ac yn y fro a wybu'n gwynfyd ni,
Boed inni ail-briodas yn y man;
Ac o bydd ddistaw'r gloch a ganodd gynt,
Telored clychau'r nant a phibau'r gwynt.
Syrthied y crinddail ar ein trigfa'n drwch,
Malled y fodrwy wedi'r pall a'r clwy,
Cawn yno gylch yr enfys am ein llwch
Yn rhwym cyfamod nas datodir mwy;
Ac ni ddaw chwerwedd siom na dannod bai
I darfu hedd ein holaf dŷ o glai.
GOFUNED.
O na chawn dy esgyll di,
Fronfraith lon,
Ffown yn ebrwydd ati hi
Dros y don.
Lle ceid rhyngof â'r un fwyn
Bellter maith,
Trwy'r wybrennydd rhedai swyn
Pen y daith.
Gwn na ddenai gwinllan fras
F'enaid blin;
Uwch pob perllan cofiwn flas
Addfed fin.
O na chawn dy esgyll di,
Fronfraith lon,
Ffown yn ebrwydd ati hi
Dros y don.
HIRAETH.
Dadwrdd traed ar balmant llydan,
Twrf olwynion ar y stryd,
Minnau heb na ffrind na chymar
Yno'n crwydro'n fyddar, fyddar,
Drwy y berw i gyd.
Rhai yn chwerthin, rhai yn canu,
Cochliw'r clared ar eu min,
Minnau'n methu dirnad ennyd
Pam na fedrwn foddi 'nhristyd
Lle 'roedd cymaint gwin.
Pam na fedrwn innau ganu?
Pam na fedrwn lawenhau?
Dysgais yno yn fy nghyni
Na bu torf erioed yn gwmni
Pan wahaner dau.
NOSON LOERGAN.
Rhoir tegwch awen heno
I greigdir a bryndir bro.
Gwynion yw llwybrau gweunydd,
A llawr dôl ail lleuer dydd.
Ail Eden yw cae gwladwr,
Wedi brad blodeua dwr;
A hud enaid ei hunan
Yw'r lloer uwch meindwr y llan.
Rhyw ddarlun hardd ar len nos
Yw'r waun addoer, anniddos.
Gwea lloer â'i gweill ariant
Firain we yn nwfr y nant;
A phrydferth ym mro'r perthi
Y llunir llwyn ar y lli.
Lle rhodiaf mi gaf gyfoeth,
Caf arian mewn ydlan noeth;
Miliynau o sylltau sydd
Ar y llyn oer a llonydd.
Rhoir golud hardd i'r ardd grin,
A gemwaith i'r hen gomin;
A daw'n bêr yn nyfnder nos
O wern draw nodau'r eos.
Yn y boen, ei hawen bur
Lunia delyn o'i dolur.
Harddwch a wisg hen furddun,
A dileu ei nychlyd lun.
Gwên lloer yw ei gannwyll o,
A'i haddurnwaith sydd arno.
I'w dyrau hadl dyry hon
Ogoniant ceyrydd gwynion;
Ond eiddo'r nos a'r corwynt
Yw'r llonder a'r gwychder gynt.
RHAGFYR.
Mae'r haf dan amdo gwyn,
A'i ffliwtiau'n dawel,
A Rhagfyr yn y glyn
Yn chwerwi'r awel.
Fe dry at wely'r gwan
Yn herodr angau,
A gwawd ei flagur can
År noethni'r cangau.
Mae temlau'r pluog gôr
O'm deutu'n gwegian,
A'r frongoch at fy nôr
Yn troi i fegian.
Lle dawns yr eira mân
Yn filmil tlysau,
Rhaid gwasgu at y tân
A chau y drysau.
Gwae'r neb a ddringo'n flin
I'r moelydd meithion;
Ni cheir na llwybr na ffin
Ar fynydd weithion.
Lle teifl y nyf ei wawd,
Gwyn fyd a weno;
Bydd rhyw bererin tlawd
Heb gysgod heno.
LLEF O'R LOFA.
Fy mrodyr carnog uwch fy mhen,
A'ch llwybrau'n glir dan heulog nen!
Hiraeth yw'r ffenestr sydd i mi
Lle syllaf heddiw arnoch chwi,
A'ch dulliau fel ysbrydion pell
Yn mynd a dyfod trwy fy nghell:
Rhai'n trotian draw ar wastad ffyrdd,
Eraill yn pori'r llechwedd gwyrdd;
Rhai'n llyfnu'r maes dan awyr glir,
A llonder gwanwyn yn y tir;
Rhai'n llamu'r nant ar frysiog hynt,
A miwsig helgwn yn y gwynt;
Rhai'n araf dynnu cerbyd du
I'r fan lle cwsg fforddolion lu;
Rhai'n llusgo coed hyd lawr y cwm,
Rhai'n dringo'r allt dan lwythi trwm;
Rhai'n cywain ffrwythau'r wlad i'r dref,
Rhai'n dwyn i'r wlad genhadau'r nef;
Rhai'n gado cylch rhedegfa lem,
A balchder concwest yn eu trem;
Un balchach fyth ar heol lefn,
A marchog arfog ar ei gefn,
A hwylus gyrn y seindorf hoyw
Yn ennyn dawns ei garnau gloyw,
Ei fyclau'n fflam dan haul y nen,
A thorf o ddeutu'r heol wen;
Minnau'n dihoeni dan y ffos
Lle nad yw'r dydd ond darn o'r nos.
Na chŵyned neb o honoch dro
Cyn profi myllni'r pyllau glo,
A chwithau oll, wrth fwth a phlas,
Yn yfed ffresni'r bore glas.
Cofiwch na chyfyd gwlithyn llon
I loywi nos yr uffern hon.
Pe cawn ond dracht o'ch awyr chwi,
Ni ffrwynid fy ngorfoledd i.
Carlamwn draw hyd gyrion bro
Yn ddigon pell o dawch y glo.
Na ffromwch dan yr wybren deg
Rhag blas y chwip ac ambell reg.
Pa un o honoch chwi a grŷn
Dan ddyrnod diawl ar ddelw dŷn?
Lle disgyn lach eich gyrrwr gwaethaf,
A chwi'n egnio hyd yr eithaf,
A welsoch chwi erioed eich gwaed
Yn rhuddo'r hoelion dan ei draed?
A ffoes o'ch pennau lun y ffordd
Dan ergyd megis ergyd gordd?
Cofiwch nad gwiail main a ffyn
A geir hyd ochrau'r "hewlydd" hyn.
Mynych dros bymtheg awr o'r bron
Y gweithiaf yn y fallgyrch hon.
Pan dry fy ngyrrwr tua thre,
A minnau'n gorffwys yn fy lle,
Daw halier arall at ei waith,
Ai fryd ar ladd yr wythawr faith.
Prin y caf brofi blas y gwair
Cyn dilyn hwn heb yngan gair;
Ac nid yn aml yr hola'r gwr
Pa bryd y cefais ddracht o ddwr ;
Ond gŵyr yn dda wrth gyrchu'r ffâs
Y tynnaf i fy ngorau glas.
Gwobrwy yr ufudd was o hyd
Yw goddef beichiau tryma'r byd.
Sawl gwaith y syrthiais dan y cam,
Fy nghorff yn friw, a'm genau'n fflam,
A'm tafod, wedi'r syched maith,
Yn chwilio'r llwch am lychyn llaith?
Chwithau dan lesni'r awyr loyw
Yn drachtio rhin yr afon groyw,
A'm gyrrwr dan y fryntaf nen
Yn poeri llwon ar fy mhen,
A'm cnawd lluddedig, megis plwm,
Yn goddef ei ergydion trwm,
A minnau'n ceisio dweud o hyd
Fod teimlad gan greadur mud.
Fan honno yn fy hyd ar lawr,
Fy malm yw marw am ennyd awr.
Ni fynnwn i, y nef a ŵyr,
Feio fy halier ffrom yn llwyr.
Yma yn nhwrf y gwancus frys,
Isel y prisir gwaed a chwŷs;
Ac ofer yr amddiffyn ef
Fy mlinder â thosturiol lef.
Mae iddo yntau yrwyr llym
A grêd mai chwip sy'n ennyn grym.
Bygythiant ef â'r newyn hir
A lŷn wrth ddiwaith blant y tir.
A'r ffordd i safio'i groen ei hun
Yw dyrnu croen ei geffyl blin.
Rhaid iddo halio mwy o lo
Neu lwgu ar foeldiroedd bro;
A'u cyngor iddo ger y ffas
Yw troi a "bwrw f'ened mas";
A minnau'n ceisio dirnad pwy
A wêl fod enaid ganddynt hwy.
Gweddus i'r rhain, pan ddêl y Sul,
Yw sôn am rodio'r "llwybyr cul."
Daw gwyliedyddion ar eu taith
I holi hynt ceffylau'r gwaith;
Ond gŵyr gofalwyr pydew'r glo
Yr awr y deuant ar eu tro.
Fe'm cuddir innau dan fy nghlwy,
A'r caethion iach a welant hwy.
Na chŵynwch mwy, fy mrodyr ffodus,
Uwch oesol nos hen was trallodus.
Diolchwch am yr heol wen,
Am awyr las a haul uwchben.
Diolchwch am y gwynt a'r glaw
Wrth gofio'r tawch a'r llwch islaw.
Llemwch y nant yng ngolau'r mellt
Pan fflamio'r wybren megis gwellt.
Gwell nos o wae ar foeldir bro
Na'r waedd dragywydd: "Mwy o lo !"
YR ANWYLYD.
Paham y'th hoffais, ddihafal fun?
Gofyn i'r clogwyn ar drothwy'r wawr;
Gofyn i'r eithin ar fin y nant,
Wyt ferch y mynydd a'r oriau mawr.
Saf, fel cynt, ar y palmant pell,
A'r grug yn llaes ar dy fynwes brudd ;
Saf, a'th ddistawrwydd yn freuddwyd serch,
A mi'n ysbeilio'r gyfrinach gudd.
Saf yr awron ym min y rhos,
A glas dy lygaid fel glas y nef;
Saf yng nghorlan murmuron maes,
A'th felltith fythol ar dwrf y dref.
Dehongli suon yr hesg a'r brwyn,
Dëelli lafar y machlud hardd ;
A chlir i'th galon, lle siffrwd llwyn,
Yw'r gân sy'n ddistaw ym mron dy fardd.
Aros, fy Mhrydferth, yn hir, yn hir,
A balm dy wefus yn dofi clwy,
A'th fardd ar goll ym mhellterau hud,
Heb ofyn cysgod magwyrydd mwy.
Paham y'th hoffais, ddihafal fun?
Gofyn i'r clogwyn ar drothwy'r wawr;
Gofyn i'r eithin ar fin y nant,
Wyt ferch y mynydd a'r oriau mawr.
EFA.
Yng ngenau Dafydd ap Gwilym y rhoddir y Cywydd hwn, efe'n edrych ar y ferch fodern, a hyfeddu o ganfod rhywiogaethau na welid mohonynt yn ei ddydd ef.
I.
Ys truan drych y fanon
A chwery serch â'r oes hon!
Gelen heb fawr o'r golwg,
A'i min yn megino mwg;
Llygaid llesg a lliw gwaed llwyd,
Gwallt byr fel gallt a borwyd;
Gwefus gochlyd, graslyd, grin,
Gwêr deifiog ar ei deufin.
I'w gwedd ni fyn rosyn rhudd,
Ond eira ar ei deurudd,
Nid gwrid, ond cwrlid carlwm,
Lliw calch trwch, lliw tristwch trwm.
Hi a ŷf olud drudwin,
A rheg ar ei gwefus grin;
Hi a ddeffry wanc llanciau,
A'i hamrant cilgant yn cau,
A'i chnawd hysb yn cychwyn tân
Heb obaith am ddwyn baban.
Tan oferwaith gwrtaith gau,
Difreiniwyd ei dwyfronnau.
II.
Gwêl arall a'i diwall dwf,
Herlodes wrol, hydwf,
Merch ddifraw gledd ac awel,
A'i bost yn ei phost a'i phêl,
Rhyw daeogen fachgennaidd,
Llafnes ledryw heb ryw braidd,
Llewes gyrliog, wridog, rydd,
Unbennes garsiwn beunydd.
Aeth hoen y fun i'r glun glau,
Ei chariad i'w chyhyrau.
Ar wellt yr âr lle try hon,
Beth am obaith y meibion ?
Tan orthrech y chware chwyrn
Hi a ysgwyd eu hesgyrn.
Ba ryw fab a rwyfai hon
Ar y dwr dan loer dirion?
Ni fyn bôr ond i'w lorio,
Na drud ond i'w sennu dro.
Ba fardd mwyn dan laslwyni
A edrych i'w chwennych hi?
Hi laddai'n rhydd brydydd brau,
Nid â gwên, ond â gynnau.
III.
Pwy yw hon ddaeth i'm poeni
Ag ifanc wên? Hen yw hi,
Ffrâm nychlyd, oerllyd yn dwyn
Miragl gogoniant morwyn.
Rhuddain ei grudd, honni gwres,
Ond manod yw ei mynwes.
Ffei ar y wrach fantach, fain,
Corres y geuddaint cywrain!
Anhygar tân ei gwrid hi,
Cwrel apothecari,
A blawd, ail manllwch blodau,
Yn dofi ei gochni gau.
Diau ofer ei dyfais,
Aeth haint ei henaint i'w hais.
Flawdog, wridog biogen,
A gêl calch ei golwg hen?
Cafod o'r nef a'i cyfwrdd,
A syrth hug ei ffug i ffwrdd;
A gwelir, lle toddir twyll,
Adwedd blynyddoedd didwyll.
Ceir i'w chern hacrwch hirnych,
A derfydd hoen y croen crych.
O anfon ia, a fyn lôr
Liw gwin i olwg Ionor?
Dyfal wrth bob edefyn
Y mesur Duw amser dyn;
Ac wrth ei gyfrif difai
Y daw i'r maes fwynder Mai,
Lladau'r haf, llwydrew hefyd,
Rhin bore aur yn ei bryd ;
A diesgus y disgyn
Y ffela'i air i glai'r glyn.
Ni phrŷn aur na rhadau'r oes
Hen Ddirwynydd yr einioes.
IV.
Wele'n dod ysglôen dysg,
Anweddog gecren addysg,
A thrysor mawr ei thraserch
Mewn llyfrau am hawliau merch.
Rhyw wenwynllyd ysbryd yw,
Hoeden ffroenuchel ydyw,
Borden wastad, gaead, gul,
A mainc goeshir mewn casul,
Abades hollwybodol,
A'i cheg cyn syched â'i chôl,
Dyn ddiachar heb arwr,
A merlen gam ar lun gwr.
Ba wr arab yr awron
A daen hul dan wadnau hon?
Hi ddring lwyfan i'w annerch,
A'i safn yn dychrynu serch.
Hi a boer rew ar wŷr bro,
Herio'u dewrder, a'u dwrdio.
Hi lawia farn ar wael fyd,
Llif oerfel, ufel hefyd,
Tân i waered ar gedyrn
Yn gymysg â chenllysg chwyrn.
Mae deifiol fflam i'w deufin,
Mae llety'r mellt ar ei min.
V.
Ni all nad oes i'r oes hon
Ryw Enid neu Riannon,
Rhyw fun dyner a geri
Rhag mor fwyn ei hymddwyn hi,
Ei min yn diferu mêl,
A'i heurwallt unlliw'r cwrel.
Boed fawr dy angerdd erddi,
Deurudd fy Morfudd i mi.
LLYGAD Y DYDD.
Wenwr dihafal, siriolwr maes,
Gymar fy oriau unig!
Try serch hen fugail i'th gyfarch di
Wrth ddilyn ei breiddiau diddig.
Pan gerddwyf allan ar doriad dydd,
A'r bannau mor goch â'r crawel,
Ail clystrau sêr ar y gwndwn glâs
Y gwelaf dy luoedd tawel.
Fy oriawr ydwyt ar foelydd pell,
A phrydlon dy rybudd yno.
Pan welwyf gau dy amrannau di,
Mae'n bryd i fugail noswylio.
Chwardded rhosynnau ar lawnt y plas
Gan falchder na ddaeth i fynydd,
Digon i fugail y tlysni gŵyl
A symledd y bywyd llonydd.
Cyn hir fe egyr dy lygad llon,
A'r praidd at fy nrws yn crwydro,
Pryd na ddaw atynt y bugail hen,
Bydd ef dan y gwlith yn huno.
Os na cheir yno na thorch na maen
Yn arddel ei fywyd llonydd,
Yng nghongl yr Angof boed fwyn dy wên
Lle gorwedd hen fab y mynydd.
Y BUGAIL COLL.
(Allan o Awdl "Y Nos," Corwen, 1923).
A ni yno'n newynu,—a'r wenlloer
Wanllyd hithau'n pallu,
Gwelwn ar sedd agwedd ddu,
Hen offeiriad yn fferu.
Anwydog grwydryn ydoedd,—a'i wên fwyn
Yn falm i laweroedd.
Yn ei gwymp, bonheddig oedd,
Was anafus y nefoedd.
Yn nuwch y tristwch trwm,—i'w allor
Ddrylliog ni ddôi offrwm.
Ail gwatwareg ei ddegwm,
Arian y lloer, druan llwm!
Aed o'i drallod a'i dlodi—i yfed
Nefoedd plant trueni,
Distawaf, ni farnaf i,
Duw a ŵyr ei bryderi.
Hawdd i wlad yw beirniadu,—ar wen gaer,
Hen gwch a fo'n mallu.
Aed ei feirniaid i'w farnu
Draw i fôr y brwydro a fu.
WEDI'R STORM.
Newynog iawn y pwyswn i
Ar gamfa'r oed, a hi'n hwyrhau,
A mwyalch ffraeth uwch tegwch bro
Yn dal i wawdio cynnen dau.
Pan droes i ffwrdd fy Morfudd hardd,
Gwyddwn na chanfu'r byd ei hail:
Eurlliw ei gwallt uwch tranc y dydd,
A gwlith fy hiraeth ar y dail.
Pa fodd, pa fodd y medrais i
Ddiffeithio awr y cymun pêr?
Danodai'r awel im' fy mai,
Ac uwch fy ngofid chwarddai'r sêr.
Ffrom y ffarweliodd hi fy mun,
A'i gwrid yn dlysach nag erioed,
A minnau'n gweld fy ngobaith hardd
Mor friw â'r crinddail dan fy nhroed.
Obry lle canai clychau'r nant,
Melysach oedd ochenaid merch.
Mi wyddwn drwsio dolen friw,
Mi wyddwn ddarfod storom serch.
MAWRTH.
Od yw'r lôr yn Dad a rif—Ei rai bach
Ym merw byd a'i genllif,
Ei law fo heno ar lif,
A'i ddeheulaw ar ddylif.
Rhoed i'r twyn anadl fwynach—na'r mawrwynt,
Rhoed i'r morwr gilfach,
Hyder hefyd i'r afiach,
A thirion berth i'r oen bach.
POEN.
Wele wanwr calonnau,—a'i golyn
Yn ddirgelwch oesau;
Fflam erwin drwy'r gwythi'n gwau,
Angerdd ing, arwydd angau.
EIRA YN EBRILL.
Daeth i gae ysbryd gaea'—i sobri
Mis Ebrill â'i draha.
Lle gwenodd, rhynnodd yr ha',
A'i gorn aur dan garn eira.
BRIALLEN.
Seren fore'r dadeni—ydyw hon,
Yn brudio haf inni;
A'r hâd fel câd yn codi
Hyd lain noeth i'w dilyn hi.
Y COMIN.
Hen orest lom yw'r comin,—tir mynydd,
Tre manwellt ac eithin,
Hundy blêr trueiniaid blin,
Dôl agored hawl gwerin.
SUT I'W CAEL.
Wedi oerni sawl diwrnod—o rew uthr,
Wrth ffrwd byddwch barod;
Ewch i'r waun drwy luwch yr ôd,
Chwi a gewch y giachod.
GWEN MAM.
Ar ruddiau mam, rhodd i mi—yw ei gwên,
Digynnil dosturi.
Ar lawnt oer wele'n torri
Eigion teg ei henaid hi.
HUD Y RHEW.
Pwy fu'n cerfio llun gloyn—ar y gwydr,
Dulliau'r gwŷdd a'r cregyn,
Ffurf esgyll rhyw gudyll gwyn,
Brodwaith a rhwydwaith rhedyn?
Y CYBYDD.
Gadewch ei wg diachos—i gybydd,
Ei gaban anniddos,
Ei bryder yn nyfnder nos,
A'i geiniogau yn agos.
Y CRWYDRYN.
Mewn bedd anorffen heno—y gorwedd,
A chrug eira drosto.
Heb elor, ac heb wylo,
Angau'i hun a'i hebrwng o.
MEDDYG RHAD.
Pan fwrio dydd trallodion—ei oerfel
Durfin ar y galon,
Hen feddyg rhad ei foddion
Ydyw cwsg yr adeg hon.
BOANERGES.
Pan farnoch, ba les ochi-ac addo
Rhyw dragwyddol gyni?
Ceir eilwaith swn caroli
Uwch gwaedd chwern eich geudduw chwi.
Caf fwyniaith llinos weithian,-amlder mawl
Wedi'r mellt a'r daran.
Gŵyr enaid, a gŵyr anian
Nad ffwrn Duw yw uffern dân.
YR OES OLAU HON.
Oes canu maswedd wedi gwledda,
Oes a'i harwyr yn fyr o fara,
Oes erlid pêl ac elwa-ar ffyliaid,
Oes hurtio enaid â chonsertina.
"TOWYN."
Glew bychan, buan, a bwrlwm bywyd
I'w ysbryd ieuanc a'i asbri diwyd;
Tarian y Werin, a'i chadlef hefyd,
Ei fai na fynnai arafu ennyd.
Enaid byw! Na thystied byd-na maen glas
Fod Towyn eirias yn fud dan weryd.
PWLLDERI.
(Yn nhafodiaith Dyfed).
Fry ar y mwni mae nghatre bach
Gyda'r goferydd a'r awel iach.
'Rwy'n gallid watwar adarn y weunydd,―
Y giach, y nwddwr, y sgrâd a'r hedydd ;
Ond sana i'n gallid neud telineg
Na nwddi pennill yn iaith y coleg;
A 'sdim rhocesi pert o hyd
Yn hala goglish trwyddw'i gyd;
A hinny sy'n y'n hala i feddwl
Na 'sdim o'r awen 'da fi o gwbwl;
Achos ma'r sgwlin yn dala i deiri
Taw rhai fel 'na yw'r prididdion heddi.
'Rown i'n ishte dŵe uwchben Pwllderi,
Hen gatre'r eryr a'r arth a'r bwci.
'Sda'r dinion taliedd fan co'n y dre
Ddim un llefeleth mor wyllt yw'r lle.
'All ffrwlyn y cownter a'r brethin ffansi
Ddim cadw'i drâd uwchben Pwllderi.
'Ry'ch chi'n sefill fry uwchben y dwnshwn,
A drichid lawr i hen grochon dwfwn,
A hwnnw'n berwi rhwng creige llwydon
Fel stwceidi o lâth neu olchon sebon.
Ma' meddwl am dano'r finid hon
Yn hala rhyw isgrid trwy fy mron.
Pert iawn yw 'i wishgodd yr amser hyn,—
Yr eithin yn felyn a'r drisi'n wyn,
A'r blode trâd brain yn batshe mowron
Ar lechwedd gwyrdd, fel cwmwle gleishon;
A lle ma'r gwrug ar y graig yn bwnge,
Fe dingech fod rhywun yn tanu'r llethre.
Yr haf fu ino, fel angel ewn,
A baich o ribane ar ei gewn.
Dim ond fe fuse'n ddigon hâl
I wasto'i gifoth ar le mor wâl,
A sportan wrth hala'r hen gropin eithin
I allwish sofrins lawr dros y dibyn.
Fe bange hen gibidd, a falle boddi
Tae e'n gweld hinny uwchben Pwllderi.
Mae ino rhyw bishyn bach o drâth—
Beth all e' fod? Rhyw drigen llâth.
Mae ino dŵad, ond nid rhyw bŵer,
A hwnnw'n gowir fel hanner llŵer;
Ac fe welwch ino'r crechi glâs
Yn saco'i big i'r pwlle bâs,
A chered bant ar 'i fagle hir
Mor rhonc bob whithrin â mishtir tir;
Ond weles i ddim dyn eriŵed
Yn gadel ino ol 'i drŵed;
Ond ma' nhw'n gweid 'i fod e', Dai Beca,
Yn mentro lawr 'na weithe i wreca.
Ma'n rhaid fod gidag e' drâd gafar,
Neu lwybir ciwt trwy fola'r ddeiar.
Tawn i'n gweld rhywun yn Pwllderi,
Fe redwn gatre pentigili.
Cewch ino ryw filodd o dderinod—
Gwilanod, cirillod a chornicillod ;
Ac mor ombeidus o fowr yw'r creige
A'r hen drwyn hagar lle ma' nhw'n heide,
Fe allech wrio taw clêrs sy'n hedfan
Yn ddifal o bwti rhyw hen garan;
A gallech dingi o'r gribin uwchben
Taw giar fach yr haf yw'r wilan wen.
A'r mowcedd! Tina gimisgeth o sŵn!—
Sgrechen hen wrachod ac wben cŵn,
Llefen a whiban a mil o regfeydd,
A'r rheini'n hego trw'r ogofeydd,
A chithe'n meddwl am nosweth ofnadwi,
A'r morwr, druan, o'r graig yn gweiddi,—
Yn gweiddi, gweiddi, a neb yn aped,
A dim ond hen adarn y graig yn clŵed,
A'r hen girillod, fel haid o githreilied,
Yn weito i'r gole fynd mâs o'i liged.
Tina'r meddilie sy'n dŵad ichi
Pan foch chi'n ishte uwchben Pwllderi.
Dim ond un ty sy'n agos ato,
A hwnnw yng nghesel Garn Fowr yn cwato.
Dolgâr yw ei enw, hen orest o le,
Ond man am reso a dished o de,
Neu ffioled o gawl, a thina well bolied,
Yn genin a thato a sêrs ar 'i wmed.
Cewch weld y crochon ar dribe ino,
A'r eithin yn ffaglu'n ffamws dano.
Cewch lond y lletwad, a'i llond hi lweth,
A hwnnw'n ffeinach nag un gimisgeth;
A chewch lwy bren yn y ffiol hefyd
A chwlffyn o gaws o hen gosin hifryd.
Cewch ishte wedyn ar hen sciw dderi
A chlŵed y bigel yn gweid 'i stori.
Wedith e' fowr am y glaish a'r bwen
A gas e' pwy ddwarnod wrth safio'r ŵen;
A wedith e' ddim taw wrth tshain a rhaff
Y tinnwd inte i fancyn saff;
Ond fe wedith, falle, a'i laish yn crini,
Beth halodd e' lawr dros y graig a'r drisi:
Nid gwerth yr ŵen ar ben y farced,
Ond 'i glwed e'n llefen am gal 'i arbed;
Ac fe wedith bŵer am Figel Mwyn
A gollodd 'i fowyd i safio'r ŵyn;
A thina'r meddilie sy'n dwad ichi
Pan foch chi'n ishte uwchben Pwllderi.
Y PROFFWYD.
Pwy sydd yn canu ar y bryniau draw,
A thlysni'r gorwel pell yn llanw ei fryd?
Pwy sydd yn ymdaith trwy ddiffeithwch byd,
A rhosyn Eden newydd yn ei law?
Wyneba wynt gaeafnos, ac ni thaw,
Ond canu a lamp ei ffydd yng nghynn o hyd;
Anturia'r afon heb na phont na rhyd,
A'i hyder yn sarhau ysbrydion braw.
I'w ymbil taer fe egyr pyrth y nef,
A thawdd cadwyni'r wyllnos ar ei rawd;
Holltir y graig â'i deyrnwialen ef,
A gado heol rydd i gaethion tlawd.
Caiff gwsg cyn hir, a'r crinddail drosto'n drwch,
A chlod amhrydlon yn cysegru'i lwch.
HENAINT.
Dilynai yntau gyda'r dyrfa fawr
I frwydro fel yr ifanc am ei sedd ;
Dilynai'n brudd, a'i wyneb tua'r llawr,
Ac olion y blynyddoedd ar ei wedd;
Pan gododd cwrr y llen, hir ddadwrdd fu,
A chrynai'r neuadd eang hyd ei sail ;
Ar wyneb eilun newydd syllai'r llu,
A throi i wylo a chwerthin bob yn ail.
Disgynnodd cwrr y llen, a'i guddio dro,
Y glew a chryfder miloedd ar ei fin;
Eithr at y drws troes gwr daniasai fro,
A'i wefus mwyach megis deilen grin.
Allan yr aeth, efe a'i enaid llwm,
A'r lleuad yn ei weld yn wylo'n drwm.
CASTELL DINAS BRAN.
Ail breuddwyd heddiw ydyw'r gwychder gynt,
Tincial y cawgiau aur a'r gleifiau dur;
Llonder nid erys onid chwerthin gwynt
A thwrf rhialtwch Dyfrdwy dan y mur;
Malltod a orffwys ar y tyrau hen,
Ar ambell ddeilen nychlyd gochliw'r gwin;
Ac ni ddaw marchog mwy i geisio gwên
Yr hon a'i gwnaeth yn arswyd yn y drin.
Ofer y chwiliaf heddiw hyd yr allt
Agen a gelodd draserch prydydd mwyn;
Ffoes bun lygatddu, a gado nos ei gwallt
Yn lledrith cyfrwys ar golfenni'r llwyn;
Eithr cyfyd lleuad i santeiddio'r hud
A lŷn fel hiraeth wrth y castell mud.
SYR OWEN M. EDWARDS.
Ebr Dysg: "Boed falch dy drem, fy nglewddyn i!
Rhoed talaith fy llawryfoedd ar dy ben;
Mae cân dy glod yn tramwy ffyrdd y nen,
A phawb yn arddel dy firaglau di."
Ar hyn, â dengar fysedd, gwthiai Bri
Dinasoedd Lloegr i'w ymyl gyfrol wen,
Gan wybod y blodeuai megis pren
Pe rhedai'i bwyntil dros ei gwynder hi.
Pell, pell ei drem, a'i enaid hael yn awr
Yn syllu draw yng ngolau breuddwyd claer,
A'i Aran hoff, ar goll mewn niwloedd trwm,
Yn hawlio i Werin Cymru loywach gwawr.
O, siom y gyfrol wen! Mae'r pwyntil taer
Yn gyrru cwysi aur dros foeldir llwm.
*******
Ar fron lle rhydd yr awel ddawns i'r brwyn,
Mae'r cwlltwr heddiw'n fud, a'r hwsmon ddaw
At gamfa'r waun lle pwysodd gynt y llaw
A roes i'w feysydd tlawd anniflan swyn;
Mae'r bugail yntau'n holi'n ddwys ei gŵyn
Am gâr a lonnodd yr unigedd draw
A'i eiriau tlws, a thery'r gwynt a'r glaw
Ar lewych nad yw'n diffodd ar y twyn.
Fe ddisgyn plant y mynydd at ei fedd,
Ag iddynt goffa gwell na cholofn hy;
Hyotlach fil ar lwch eu t'wysog hwy
Yw'r grug a'r brwyn a'r banadl gŵyl eu gwedd.
Eilwaith, yn dorf hiraethus, dringant fry
Drwy'r niwl a'r nos; ond clir eu llwybrau mwy.
BABAN.
Perl dinam hen gyfamod—oed traserch,
Trysor deufryd priod,
Eilun byw, y dela'n bod,
Enaid bychan dibechod.
HIRAETH AM GYMRU.
Ymhell o'i ffridd, anniddan—wyf o hyd,
Gofidus ym mhobman;
Haf cyflawnaf cofl anian
Yw golud gwych Gwlad y Gân.
O ddrws Duw i ddyrys daith—yr euthum,
Lle'm brathodd Anobaith ;
Gwybum dlodi ffordd ddiffaith
A niwl mawr yr anial maith.
O, dirion Dad, arwain Di—fy enaid
I'th fwynaf oleuni.
Rho heulwen bro fy ngeni
O'r niwl mawr yn ol i mi.
EMYN GWYL DDEWI.
Benllywydd mawr! O'th orsedd lân
r Wlad y Bryniau edrych Di;
A boed Dy ddeddfau eto'n gân
Ar ffyrdd ei hen allorau hi.
O, cofia'i phlant ymhell o dref,
Bendithia hwy ar dir a môr.
Na chaffer Cymro dan y nef
Heb ffydd ei dadau, Arglwydd Iôr.
Byth na ddiffodded mewn sarhâd
Y gred sy'n addo'r euraid oes.
O nos i nos ar fryniau'n gwlad
Disgleiried golau Bryn y Groes.
Gwna Walia Wyllt yn drigfan hedd
A'i maes o hyd yn aelwyd sant.
Rho goncwest fwy na choncwest cledd
Yn ymffrost ar wefusau'n plant.
Os cawsom y mynyddoedd mawr
Yn nodded rhag ystorm a chlwy',
Dwg ni yng ngolau'r newydd wawr
I gysgod gwell na'u cysgod hwy.
O, Graig yr Oesoedd, atat Ti
Ymwasgwn rhag y ddrycin gref;
Ac yn Dy ymyl cadwer ni
Pan na bo cwmwl yn y nef.

Nodiadau
[golygu]
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.