Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron/I Sion Eos (a grogwyd yn y Waun)

Oddi ar Wicidestun
Merch Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron
Y Cywyddau
gan Dafydd ab Edmwnd

Y Cywyddau
I ofyn March

I Sion Eos

(a grogwyd yn y Waun)

DAFYDD AB EDMWNT

DRWG i neb a drigo'n ôl
Dau am un cas damweiniol;
A'r drwg lleiaf o'r drygwaith
Yn orau oll yn yr iaith.
O wŷr, pam na bai orau,
O lleddid un na lladd dau ?

Dwyn un gelynwaed a wnaeth,
Dial ein dwy elyniaeth.
Er briwio'r gŵr heb air gwad,
O bu farw, ni bu fwriad.
Oedd oer ladd y ddeuwr lân,
Heb achos ond un bychan.
Yr oedd y diffyg ar rai
Am adladd mewn siawns medlai.
Ymryson am yr oesau,
Rhyw yngu ddaeth rhwng y ddau;
Oddyna lladd y naill ŵr,
A'i ddial, lladd y ddeuwr;
Y corff dros y, corff pes caid,
Yr iawn oedd well i'r enaid.
Oedd, wedi, addewidion —
Ei bwys o aur er byw Siôn.
Sorrais wrth gyfraith sarrug
Swydd y Waun, Eos a ddug, —

Y swydd pan na roid dan sêl
I'th Eos gyfraith Hywel?
A'r hwn pan gafas y rhain
Wrth lawnder cyfraith Lundain,
Ni mynnyn am ei einioes
Noethi crair na thorri croes.
Y gŵr oedd dad i'r gerdd dant
Yn oeswr nis barnasant;
Deuddeg yn un nid oeddyn,
Duw da, am fywyd y dyn.
Aeth y gerdd a'i thai gwyrddion
A'i da'n siêd wedi dwyn Siôn;
Aeth llef o nef yn ei ôl,
A'i ddisgybl yn ddiysgol;
Llyna ddysg i'r llan a ddaeth,
Lle ni chair llun o'ch hiraeth.
Wedi Siôn nid oes synnwyr
Yn y gerdd, na dyn a'i gwyr.
Torres braich tŵr Eos brig,
Torred mesur troed musig,
Torred dysg fal torri tant,
Torred ysgol tŷ'r desgant.
Oes mwy rhwng Euas a Môn
O'i ddysg abl i'w ddisgyblion ?
Rheinallt nis gŵyr ei hunan,
Rhan gŵr er hynny a gân.
Ef aeth ei gymar yn fud,
Yn dortwll, delyn deirtud,
Ac atgas yn y gytgerdd
Eisiau gwawd eos y gerdd.
Ti sydd yn tewi â sôn,
Telyn aur telynorion.

Bu'n dwyn dan bob ewin dant,
A bysedd llais a basant:
Myfyrdawd rhwng bawd a bys,
Mên a threbl mwyn â thribys.
Oes dyn wedi'r Eos teg
Yn gystal a gân gosteg,
A phrofiad neu ganiad gŵr,
A chwlm ger bron uchelwr ?
Pwy'r awron mewn puroriaeth,
Onibai a wnai, a wnaeth ?
Nid oes nad angel na dyn
Nad ŵyl pan glywo'i delyn.
Och heno rhag ei chanu
Wedi'r farn ar awdwr fu!
Eu barn ym mhorth nef ni bydd,
Wŷr y Waun, ar awenydd.
A farno ef a fernir
O'r byd hwn i'r bywyd hir,
Ar un farn arno efô
A rydd Duw farnwr iddo
Efô a gaiff ei fywyd,
Ond o’u barn newidio byd
Oes fy nyn y sy yn nos,
Oes fy Nuw i Siôn Eos.