Neidio i'r cynnwys

Y Ddau Adda/Rhagdraeth

Oddi ar Wicidestun
Cynwysiad Y Ddau Adda

gan Dafydd Rhys Williams (Index)

Y Ddau Adda

RHAGDRAETH

Amcan y llyfryn bychan hwn yw chwilio i fewn i ddau ddull o feddwl a ffynodd oddiar gychwyniad y teulu dynol. Bydd a fyno'r drafodaeth a natur y meddwl, a darganfyddiad gwirionedd. Pan yn son am "wirionedd, " daw y ddau ddull hwn yn mlaen yn ddioed i gynyg eu gwasanaeth, fel y gwnaethant yn mhob oes. Pa fodd i ddod o hyd i'r gwirionedd? Ai drwy ddadguddiad ai drwy sylwadaeth? Ac a y ddau ddull o feddwl yn reddfol i gynal bob un ei athrawiaeth. Y gred hynaf yw mai dadguddiad yw; y ddiweddaraf mai sylwadaeth.

Ebe R. Browning, "Knowledge stands on my experience"; ac ebe Shakespeare, "Experience is by industry achieved"; ac eto ebe dysgawdwr arall:

"To Truth's house there is a single door Which is Experience."

Y tu allan i gylch profiad y ffyna tybion o bob math, ac fel y dywed Longfellow:

"Never man pursuing his own fancies Can satisfy our nobler deeds."

Y mae yn werth sylwi mai cynyrch profiad yw y gallu i werthfawrogi profiad. Bu y byd am lawer o oesau heb ganfod gwerth profiad, a hyn ganfyddir heddyw gan yr ystyriol pan yn tramwyo yn mhlith dynion. Cenfydd na roddir hyd yn nod heddyw ei le i brofiad. Tybion a dychymygion gant y sylw a'r parch. Adeiladwyd crefydd ac athroniaeth ar draddodiad, sef tybion a dychymygion y tadau o ddechreu amser, neu oesau y byd. Dylynid y tybion hyn i bob cyfeiriad, a chyfrifid y tybion hyn gan mwyaf yn ddadguddiadau oddi uchod. Y mae yn ddyddorol sylwi fel y coelid fod y tybion hyn o darddiad goruwch ddynol, am y tybid mai Duw oedd yn meddwl yn y meddwl dynol. Dyna dybid am ddyn gwybodus ( yn ol ansawdd ei wybodaeth ), ei fod yn cael ei feddyliau oddiwrth Dduw neu oddi wrth ddiafol, ac yn rhy fynych, tybid mai dysgybl y diafol oedd y dyn a'r wybodaeth newydd, a sail golygiad o'r fath oedd diffyg gwybodaeth a phrofiad. Cythraul feddianai bawb a addysgent rywbeth newydd i'r byd!

Y rheswm am hyn oedd y seilid gwybodaeth ar dybion yn lle ar brofiad. Wedi dyfodiad Cristionogaeth i Ewrop, aeth tybion Paganiaeth dan anmharch, a daeth rhai fawr gwell Pabyddiaeth i fri; priodolid tybion y paganiaid i ysbrydion drwg; yn ddiweddarach, priodolai y Protestaniaid dybion y Pabyddion i ysbrydion tebyg; ac eto, y gwahanol enwadau dybion hereticaidd eu gilydd i gyffelyb achosion. Drwy holl gyfnodau tybion, yr oedd yn berygl meddwl o newydd; tybio oedd yn iawn, ond tybio yn gyson a'r hen dybion dybid oeddynt yn iawn; ac yr oedd tybio yn iawn-dybiol mor boblogaidd ag ymresymu.

Anwybodaeth ac anmhrofiad oedd maes cnydiol tybio; ond gyda chynydd gwybodaeth daeth y gyneddf o sylwi, ac yn raddol daeth y meddwl ystyriol a phwyllog i ' werthfawrogi profiad, sef chwilio i fewn i bethau a ydynt fel y tybid eu bod. Yr oedd yr hen dybwyr a rhagfarn gref a ffyrnig yn erbyn chwilio. Adroddir wedi i Galileo ddyfeisio y pellwydr ei fod yn cymell dysgawdwyr eglwysig—offeiriaid a mynachod ei oes i edrych drwyddo er iddynt gael gweled drostynt eu hunain, ond ni wnaent, eithr ymgynddeiriogi yn fwy, am fod arnynt ofn y gwrthbrofid eu tybion cysegredig.

Peth diweddar yw seilio gwybodaeth ar brofiad. I fyny hyd ddyddiau Arglwydd Bacon, ar dybion ac ar resymeg seiliedig ar dybion yr adeiledid athroniaeth a duwinyddiaeth, ac ysgrifenodd efe ddau lyfr gwerthfawr i ddangos y perygl a'r oferedd o dybio, a'r budd o chwilio drwy brofiad a gofal am seiliau cedyrn i wybodaeth, ac o'i ddyddiau ef hyd heddyw, y mae profiad wedi dod i fri, ac aeth traddodiad yn dra di-barch oddigerth yn nghyngorau y tybiaethwyr.

Y mae sylwi a phrofi wedi cymeryd lle tybio a dychymygu, ac felly daeth yn naturiol yn faes hynod o ddifyr a dyddorol, am mai yr agosaf a welir oreu. Ond nid y pethau gweledig yn unig a brofir, eithr profir drwy sylwadaeth fanwl a gofalus bethau y meddwl a'r ysbryd. Nid tybio yn unig wneir mwy, eithr sylwi hefyd. Nid creu gwybodaeth drwy dybio wneir mwyach, eithr casglu drwy sylwadaeth a phrofiad. Gallai tyb eistedd yn ei dy, a chymeryd taith o gylch y byd, a chofnodi y cyfan a dyb-welodd ac a dyb-ddygwyddodd, ond nid daearyddiaeth na gwybodaeth fyddai hyny, eithr tybiaeth. Rhaid i ddyn adael a'i bentan er cael gwybodaeth drwy brofiad.

Dyma fel yr ymddygai y meddwl yn y cyfnodau cynbrofiadol. Eisteddai yr athronydd neu y dyn hysbys (beth bynag y'i gelwid) i lawr a nyddai a gweai y cyfan o'i ddysgeidiaeth allan o'i ben ei hun heb fawr neu ddim profiad. Feallai y byddai ychydig o brofiad yn y gwaith, ond byddai pwys yr athrawiaeth neu y ddysgeidiaeth yn dybion a dychymygion, a rhoddai safle y dyn hysbys yn ei oes awdurdod i'r cyfan gan y ffynai y goel yn o gyffredinol ei fod yn nghyfrinach ysbrydion, neu ei fod mewn cyfathrach a Duw neu y duwiau, ac mai drwyddynt hwy a thrwy gyfryngau cyfriniol y cai ei ddysg a'i wybodaeth.

Yr oedd y goel yn dra chyffredinol yn yr oesau gynt mai yn gyfriniol ac yn wyrthiol y cai y proffwyd, y dysgawdwr, y dyn hysbys, y dewin a'r "medicine man" eu gwybodaeth, a rhoddai y ffaith hon yn unig awdurdod i'r wybodaeth a feddent. Nid oedd ameu arni; yr oedd yn berygl ei hameu; ond daeth gormod i ameu, ac yna y dechreuodd profiad gymeryd lle tybio. Yn oesau tyb, tyb oedd y cyfan, ac ai pob tyb arall yn ddystaw yn ngwydd y dyb a wnaed yn iawn-dyb.

Yn ein hoes ni, yr ydym heb ein rhyddhau eto o faglau tybion a dychymygion, pan y meddyliom am dybion y pasiffistiaid, y cydwybodiaid, y Sosialiaid, yr I. W. W., ac eraill o wrthwynebwyr y llywodraeth yn ei hymdrech a Germani a'i hunbendod creulon a digydwybod. Rhagwelai y proffwyd gynt heddwch yn y dyfodol dysglaer, ond heddwch dwyochrog oedd: Y blaidd a drig gyda'r oen; y llo hefyd a chenau y llew; y fuwch hefyd a'r arth a borant yn nghyd; eu llydnod a gydorweddant, a'r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asp," &c. "Ni ddrygant ac ni ddyfethant," &c.; y blaidd, yr arth, y llew, yr asp, mwyach wedi eu newid yn eu naturiaeth. Ond ni all fod heddwch gyhyd ag y pery y blaidd yn flaidd, yr arth yn arth, ac felly yn y blaen. Gwel y doeth hyn yn y man. Ni all Ewrop gael heddwch tra y pery y German yn flaidd, arth, llewpard, llew ac asp. Y mae hyny yn brofiad; nid tyb yw.

Testyn rhagorol cyfrol neu ddwy fyddai hanes tybion yr oesau, a chymerai i fewn lawer o oesau, a chymerai i fewn lawer o oesau Cristionogaeth yn estyn i fyny hyd yn nod i'n dyddiau ni, oblegid y mae llawer o dybion yn ein hoes oleu ni. Nid yw profiad eto wedi dod i'w barch dyledus. Nodwn rai o honynt yma—rhai digon dyddorol i alw am sylw ac ystyriaeth y darllenydd.

Tyb fu ac sydd mewn bri heddyw yw y parch ga henafiaeth, yr hyn o'i ystyried a brofa beth mor hudol yw tyb. Y mae henafiaeth wedi bod mewn parch ac awdurdod annghyffredin iawn; ar y sail ei fod yn hen, yr hyn nid yw! Deuai golygiadau ac athrawiaethau yr amser gynt i lawr i ni fel pethau i'w parchu a'u hanrhydeddu ar gyfrif eu hender; fel y perchir henaduriaid o herwydd eu profiad. Credir fod yr hen yn fwy profiadol ac yn ddoethach na'r ieuainc, ac felly ystyrir hwy yn awdurdod ar bethau. Cyfrifid oesau diweddarach yn ieuengach a mwy di-brofiad, ac felly yn ffol a rhyfygus i ddwyn eu golygiadau a'u barnau eu hunain i'w rhoi yn lle eiddo henafiaeth. O herwydd hyn, ceid yr oesau gynt yn geidwadol iawn; yn ymlynu o oes i oes wrth ddysg y tadau; pob gwlad o'r braidd yn gwrthwynebu pob newydd-deb mewn dysg ac athrawiaeth. Henafiaeth oedd yn iawn; y goel oedd mai y tadau gynt oeddynt y doethaf; ac ar y goel hon y seilid y golygiad dyeithr fod y byd yn gwaethygu ac yn ymddirywio o oes i oes; fod gwybodaeth yn myned waeth waeth; y dylem ni gredu ein bod lawer yn ffolach na'r tadau; na ddylid cymeryd dim a gynygir i ni o newydd, ac fod pob ffasiwn newydd yn beryglus a phechadurus (ac y mae rhai hefyd).

Nid yn unig credid hyn gan y bobl gyffredin anwybodus, eithr defnyddid yr egwyddor hon gan lywodraethau a chyfundrefnau crefyddol paganaidd a Christionogol fel ffordd effeithiol i gadw y werin yn llonydd a diawydd am ddiwygiad. Gelyn penaf henafiaeth oedd y diwygiwr; y rhyddfeddyliwr, y dyn a feddyliai drosto ei hun; y truan a ameuai anffaeledigrwydd henafiaeth, ac a anturiai gyhoeddi rhywbeth newydd i'w oes. Galwn ef yn 'druan' am mai carchar neu angeu oedd ei wobr, yn hwyr neu hwyrach. Dywedai un o ddoethion gwareiddiad Rhufain gynt na ddylid newid dim yn y cylch crefyddol, ac ebe un o'r ymerawdwyr, dylai y mab wisgo dillad ei dad, a'r ferch wisg ei mam. Dyna oedd athrawiaeth anffaeledig henafiaeth. Yr hyn allai diwygiwr ddysgwyl yn mhob gwlad (hyd yn ddiweddar) oedd cortyn am ei wddf neu dan i'w losgi.

Pan yr ystyriom mai ar dyb y seilid cymaint o wybodaeth, a chrefydd henafiaeth, gellid tybio y croesawid dyn a gynygiai rywbeth newydd, gan na ellid dysgwyl gwellhad o unrhyw fath heb ryw gymaint o newidiad. Rhaid newid i wella; ond wedi'n, pa wella ellid ar bethau wedi eu cael i waered oddiuchod, o'r lle y daeth pob daioni a bendith? Y dyb hon safai ar ffordd pob diwygiad. Felly hawdd yw canfod mai y rhwystr i wareiddiad oedd y goel mai dwyfol o darddiad oedd dysg, a chrefydd a sefydliadau y tadau. Ond myned yn ol yn ddigon pell, elid i bresenoldeb Duw neu y duwiau. Yr oedd y gwroniaid a'r enwogion oll a sefydlasant deyrnasoedd y ddaear yn blant y duwiau o dduwiesau neu o fenywod. Gelwir y Mikado o Japan yn Fab y nefoedd, ac y mae "Mich und Gott" y Kaiser wedi dod yn ddiareb. Yn y man y daw dyn i gredu nad oes a fyno Duw a'r Kaiser a'r Swltan, &c., myned fydd rhaid i'r dyhirod creulon ac aflan. Felly pan y codai unrhyw ameuaeth, elid yn ol i ffynonellau cenedliad a sefydliad pethau, a cheid fod pob twyll o benodiad dwyfol, fel y Pab o Rhufain, y gaethfasnach, Brigham Young, hawl ddwyfol breninoedd, a llawer o bethau drwg, aflan a chreulon eraill.

Seiliedig ar dybion oedd y cyfan. Pan yr ystyriom safle henafiaeth, nid yn hen oedd y byd gynt, ond yn ieuanc; ac yn hytrach na'i alw yn henafiaeth, ieuancafiaeth ddylesid ei alw; oblegid nid oedd ond plentyndod y byd. Dyna amlyga ac a gadarnha profiad i ni. Felly arweinia hyn ni yn ddi-oed i ameu doethineb y cynoesau am fod y byd y pryd hwnw a'r meddwl dynol hefyd yn blentynaidd. Y ffaith yw fod y byd heddyw yn henach nag y bu erioed, a henafiaeth y byd yw ein hoes ni, a bydd yr oesau sydd ar ddyfod yn fwy "henafiaethol" eto. Y mae y ffaith y cyfrifid y cynoesau yn "henafiaeth" yn awgrymu arweinydd ac athraw mor beryglus ac anymddiriedol yw tyb.

Gwelir mai tyb oedd "henafiaeth," a dylyna mai tyb oedd yr anffaeledigrwydd a briodolid i'r dyb hono, ac yn anocheladwy syrth yr holl oruchadeiladaeth o bob math o wrthwynebiad i newydd-deb a diwygiad mewn gwybodaeth a gwelliant. Tyb safai drwy yr oesau ar ffordd "diwygiad," a thrwy ddiorseddu tyb yr oedd yn rhaid agor y ffordd i gynydd gwybodaeth a dadblygiad y byd a'i bethau.

Yn ein sylwadau olaf ymwnawn yn fwyaf a'r byd paganaidd, ond eto cawn yr un egwyddor wedi bod ar ffordd dadblygiad y byd Cristionogol drwy y dyb fod y Babaeth o sefydliad dwyfol, ac fod y Pab yn olynydd i Pedr, ac felly fod goruchwyliaeth yr Eglwys yn awdurdod diameuol. Chwareuodd y Babaeth ar hyd yr oesau gyffelyb ran i'r un wnaeth paganiaeth ar sail cyffelyb dyb, a thrwy esgeuluso gwasanaeth rheswm a phrofiad. Aeth yr holl gyfundrefn iachawdwriaethol yn dybiaethol ac ofergoelus, oblegid aeth yr Eglwys i waredu y byd drwy swyngyfaredd a dewiniaeth. Cyraeddodd hyn ei uchafnod yn amser Martin Luther, pan y daeth Tetzel i Germani gyda'i fasnach maddeuant, yr hyn a gynyrfodd yr hen fynach. Daeth rheswm a phrofiad i fwy o fri gyda'r Diwygiad, a dechreuodd ofergoeledd golli tir o hyny allan.

Nid mewn crefydd yn unig y daeth rheswm a dealldwriaeth i fri, eithr yn mhob cylch. Dechreuasai ar ei waith diwygiadol yn y cylch llenyddol, ac aeth yn gyflym i feusydd dysgeidiaeth, cymdeithasoliaeth a'r llywodraeth, a dychrynodd tyb wrth weled profiad a'i lygad craffus, a'i synwyr cyffredin, a'i osgo wrol, a'i lais dylanwadol, a'i gamrau egniol. Dysgwylid mwy oddiwrtho ar y pryd ac mewn oesau i ddod nag a wnaed, ond dadguddiai hyn eto wreiddiau mor ddyfnion a gafaelgar oedd gan dyb ac ofergoel, ac mor anhawdd yw dadwreiddio a llwyr lanhau chwyn o bob math. Os y rhanorchfygwyd Tetzel a'i farchnad drugaredd, coledda yr Eglwysi Protestanaidd heddyw yr un athroniaeth dan aden tyb gyfrwysach. Nid yw dyn yn myned i aberthu trugaredd dybiaethol yn hollol, am ei bod yn hawddach ac yn rhatach, ac yntau eto heb ddyfod i sylweddoli gwasanaeth a gwerth profiad. Y mae llawer o'r drugaredd Brotestanaidd mor rhad a'r un a roddai Tetzel oddiar ei fainc yn y farchnad. Rhaid oedd talu am dani mewn arian, ond gall y crefyddwr heddyw ei chael drwy broffesu ffug edifeirwch, a heb fyned dan unrhyw fath o ddysgyblaeth. Tybiaethol yw hon fel un y Pabydd a'r pagan gynt, ac nid yw yn brofedig ac yn wirioneddol. Y drugaredd dybiaethol oedd ac yw peidio cyfrif y drwg; trugaredd profiad yw ei symudiad ymaith a'i ddifodiad. Nid yw peidio neu annghofio cyfrif drwg yn iachawdwriaeth i'r pechadur fwy nag a fyddai yn iachad i'r claf gael y meddyg i roi tystysgrif ei fod yn iach, ag yntau heb fod. Arddengys hyn y gwahaniaeth hanfodol rhwng tyb a phrofiad; ac y mae yr un gwahaniaeth pwysfawr yn ffynu drwy fywyd. Ebe John Wesla: "Yr wyf yn sal ar dybiau; rhowch i mi fywyd!"

"The supreme vice is shallowness," ebe rhywun; a'r drwg nesaf i'r pechod gwreiddiol yw y meddwl arwynebol, yr hwn yw creawdwr tybion. Y mae mor hawdd tybio, ac mor anhawdd chwilio a phrofi! Cyferfydd tyb a phrofiad a ni ar hyd holl ffyrdd bywyd; yr hyn a eilw yr hen Bunyan yn "Ffair Gwagedd," drwy yr hon yr ai y pererinion heb brynu dim. Ymddengys tyb fel hwylio gyda'r llif hyd nes y deuir wyneb yn wyneb a'r creigiau, lle y cyferfydd profiad a ni, ac y gwelwn ein holl gamgymeriadau. Y mae ein tybion yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'n trallodion a'n gofidiau, a chwareuant ran fawr o fewn cylch ein crefydd, er mai ei phrif ddyben yw ein cael i adael ein tybion a dewis doethineb.

Tyb yw llawer o'r ffydd gyffredin. Y goel yw y gwareda ffydd o ryw fath y pechadur; rhyw fath o dyb-ffydd mewn rhyw fath o dyb-egwyddor neu dyb-olygiad am ryw dyb-waredwr. Nid rhywbeth i'w gael oddiallan yw bywyd, eithr allan o honom ein hunain. Ynom ni y mae y bywyd, gan fod Crist ynom; ac ynom y rhaid i ni gael y ffordd a'r gwirionedd. Nid y tu allan i ni y mae y Gwaredwr, a'i ras, a'i deyrnas, eithr o'n mewn. Hen dyb baganaidd yw hono mai oddiallan i ni y mae Duw; fod y nefoedd uwch ben; fod bywyd yn beth allanol i'w gael oddiallan; fod pobpeth yn estronol i ddyn, pan y mae y cyfan o'i fewn, ond iddo gael y gras o ymwybyddiaeth. Tyb yw y goel allanol; y wir gred yw ymwybyddiaeth; y gwir oleuni yw ymwybyddiaeth; yr unig ras gwerth ei gael yw ymwybyddiaeth, sef Duw ynom. Nid rhywbeth i'w weled a'i glywed a'i gofio yw gwirionedd, eithr ymwybyddiaeth. Dyna olygai yr Iesu wrth y ffynon yn tarddu i fywyd tragwyddol; ffynon o fywyd yn llifo trwy fywyd i fywyd.

Rhaid i beth ddechreu yn fywyd cyn y gall fod yn fywyd. Felly nid tyb, na choel, na chred, na gwybodaeth, na dysg (yr oll, feallai, yn dybion), yw bywyd, eithr ymwybyddiaeth, a phrofiad yw a'i cenfydd. Chwyn yw tybion. "Experience is by industry achieved," ebe Shakespeare. Un o gamgymeriadau oesau tyb yw y gellid cael pethau drwy weddio heb weithio, a ffyna llawer o weddio disynwyr yn ein hoes ni." "Tis greatly wise," ebe un, "to talk with our past hours." Ein bywyd blaenorol yw ein hysgol oreu. Y dyn ni sylwa, ni ddysg, ac ofer dysgwyl oddiwrth Dduw bethau o fewn ein cyraedd ni ein hunain.

Y mae yr ofer weddiwr fel y dyn hwnw yr aeth ei wraig o gartref, a phob dydd anfonai lythyrau yn gofyn lle yr oedd y peth hwn a'r peth arall, a phan y daeth hi yn ol, rhoddai bob peth yn ei law. Ni wyddai am ddim, am na sylwai ddim. "Dyma fe, a dyma fe," ebe hi; ac yr oedd pobpeth o'r braidd yn siarad ag ef! Dyna fel y mae myrddiynau o weddiwyr; gofynant gan Dduw am bethau sydd dan y dwylaw!

Sylw yw casglydd gwybodaeth. Hwn wnai ddoethion a phroffwydi o ddynion y cynoesau. Adroddir hanesyn am Syr Walter Scott, yn nglyn a'r defnydd a wnai o sylw, a difyrai efe ei ferch ei hun lawer o amser a'r arferiad. Yr oedd un diwrnod allan yn y wlad gyda Southey, y bardd, ac ebe efe yn ddisymwth: "Yr wyf yn dipyn o broffwyd; bydd genym ymwelydd i giniaw." Wedi cyraedd yn ol i Abbotsford, plas Syr Walter Scott, dyna lle yr oedd cymydog; ac i wneyd y dirgelwch yn fwy fyth, nid oedd y boneddwr wedi meddwl am alw o gwbl hyd y daeth i'w ben yn sydyn. Pan y gofynwyd i Syr Walter ffordd y gwyddai, dywedodd iddo weled ol traed ceffyl y boneddwr ar y ffordd, a gwyddai ei fod yn cyfeirio ei gamrau tuag Abbotsford.

Ychydig o ystyriaeth ofyna i ganfod y gwahaniaeth pwysfawr sydd rhwng "tybio" a "sylwi," yr hyn yw synwyr profiad. Nodweddir yr oll o'r cynoesau gan ddychymygu a thybio yn wrthgyferbyniol i "brofi" ein hoes ni, a gwelir rhagoriaeth profiad yn nghynydd aruthrol yr oes bresenol mewn darganfyddiadau yn ychwanegu at brofiad a gwybodaeth, cyfleustra a chysur bywyd. Ni ellir cyraedd gwybodaeth sylweddol ac ymddiriedol drwy dybio; a'r ffordd iawn ac ymarferol yw sylwi a phrofi. Y mae yn wir ddyddorol sylwi mai pan yn tybio y ffynai y goel o anffaeledigrwydd, ac wedi dechreu sylwi a chwilio a phrofi y dechreuwyd ameu anffaeledigrwydd. Oesau y beirdd oedd oesau y tybio. Dywed Shakespeare fel hyn am y bardd:

"Mae'r lloerig gyda'r carwr claf ei fryd
A'r bardd mewn tybio yn gytun i gyd.
Gwel un o ddiafliaid fwy o hyd nag sy'n
Yr uffern fawr. Efe yw'r gwallgof ddyn,
Y carwr yntau ar ei serchwyllt hynt
Wel yn yr Aifftes lendid Elin gynt;
A'r bardd a'i drem yn chwyldroi yn ei ben,
O'r nen i'r ddae'r ac yna o'r ddae'r i'r nen,
Ac fel y try ei dyb bob peth i lun
A rhith na welodd neb, y bardd ei hun
A'u try i ffurfiau, ac fe rydd efe
I ddim ond tybion enwau'n nghyd a lle."


Ond darlunia Shakespeare brofiad gyda'r un gallu tarawiadol:

"O, pwy a all ddal tan ar dor ei law
Wrth feddwl am yr oer Gaucasus draw?
Neu dori gwancus chwant am fwyd drwy ffydd
Drwy ond dychymygu am ryw wledd nag sydd?"


Dyna feddyliai y gwr profiadol pan y sylwai ar dybion a dychymygion, "Not my thought, not your thought, or somebody else's thought, but thought," sef profiad; a hyn feddylir, yn ddiau, wrth ffydd, sef profiad, a dywed yr Apostol, "Profwch yr ysbrydion."

Gellid galw y cynoesau yn oesau y "tybio" a'r "dychymygu."Ychydig o ddim profi a gwyddoni oedd. Yr oedd cylch gwybodaeth sylweddol yn gul iawn; ond ni foddlonid ar hyny, eithr llenwid y diffyg a thybion. Cymerer seryddiaeth, er engraifft; ychydig a wyddid am danynt; eto adeiladwyd cyfundrefn eang a dyrys o seryddiaeth a chwedlau dyddorol. Seilid y cyfan ar dybion a dychymygion. A'r un modd gyda phob dysg a gwybodaeth. Y Groegiaid oedd y rhai cyntaf i dalu sylw i wyddoniaeth i wybodaeth drwy chwilio a phrofi; ond nid oedd y meddwl dynol wedi ymddadblygu yn ddigonol i feddu hoffder o chwilio. Yr oedd eto yn blentynaidd. Cymerer daearyddiaeth y cynoesau a gwybodaeth o'r ddaear heddyw. Yn y cynoesau ni wyddent lun a ffurf gwledydd adnabyddus, ond eto ni ddigalonent, eithr gwnaent ddesgrifiad o honynt, dychymygol gan mwyaf, a gwnaent ddarlun o'r gweddill o honynt na wyddis dim am danynt. I dyb yr oedd y ddaear yn wastad; i brofiad y mae yn gron. Gofynai lawer o brofiad cyn cael allan mai cron yw. Ar sail y meddwl cyntaf, gwastad yw i'r llygad a'r deall cyntefig; i'r meddwl dadblygedig, ac i'r deall o brofiad, cron yw, ac esbonia ei chrynder nifer o ddirgeledigaethau dyrys, a dywedir i'r darganfyddiad syml hwn chwyldroi seiliau athroniaeth a duwinyddiaeth.

Y mae y rhyfel presenol yn awgrymiadol, a gwasga yn drwm iawn ar feddwl y byd y ffaith fod Crist hyd yma wedi bod yn allanol, megys yn sefyll ac yn curo wrth ddrws argyhoeddiad ac ymwybyddiaeth y byd, a saif yn ffaith amlwg a phendant mai peth allanol ac estronol fu Cristionogaeth hyd yma; rhywbeth y clywid ac y sonid am dano, yn hytrach na dim wedi dyfod i fewn i'r bywyd a'r argyhoeddiad. Cristionogaeth allanol yn curo fu un ein heglwysi a'n capeli a'u hathrawiaethau a'u credoau a'u proffesiadau i raddau uchel hyd yma; rhyw genadwri ogoneddus fel rhyw degan mawr a fawrygid ac a edmygid gan y gwledydd, ond na chroesawid i'r galon oedd. Hen, hen hanes oedd a glywsid ac a glywid oedd o fyrddiynau o bwlpudau am Un a aned yn Methlehem Judah, a fu farw ar groesbren, a adgyfodwyd ac a esgynodd, ac addawodd fod yn Ddyddanydd yn y byd, ond drwy yr holl oesau curo wrth ddrws y Byd y mae wedi bod am 19 o ganrifoedd! Ymddengys rhai gwledydd fel pe'n rhyw gilagor i edrych pwy sydd yno; eraill fel pe yn ymgomio ag Ef, ond yn byw heb ei gwmni gwastadol; eraill fel y Germaniaid wedi ei gau allan, hab ddal unrhyw fath o ymgom a chymdeithas ag Ef, os y'u barnwn wrth eu gweithredoedd creulon ac aflan. Cryn aros, onide, am 19 can mlynedd?

Yr ydym mewn perygl o dybio o hyd nes dyfod i dybio mai tybio yr ydym. Y mae perygl i'n crefydd fyned yn dybiaeth. Mae perygl i'n proffes, i'n pwlpudau, i'n cyfeillachau, i'n hoedfaon, i'n gras a'n gwirionedd fyned yn dybion i gyd, sef mai pethau allanol ydynt, ac nad ydynt yn bethau profiad-rhyw gofion, adgofion, ac arferion, a defodau—Crist y tu allan yn curo, a gormod o dwrw gwagedd ac oferedd o fewn i'w glywed; y cyfan o fewn yn efelychiad o grefydd, a'r oll yn amddifad o gymeradwyaeth y gwirionedd!

Yn ein hoes ni daw y bardd i dybio llai a phrofi mwy, ac y mae y fan hon am ddweyd ei deimlad:

Mae oesau er pan wnaed y cam
Drwy ffoledd gau'r Hen Dad a'r Fam
A'u hanystyriaeth oedd y pam-
A heddyw amlwg yw;
Bryd hwnw nid o'ent namyn plant,
Heb eto gael eu synwyr-ddant,
Ac Adda yn ddi-brofiad sant,
Ac Efa'n dechreu byw!

Ni wyddent am wir natur dim,
Na'r diafol a'i ddichellion llym,
Nac ystyr deddfau Duw na'u grym
Yn nechreu'u gwyrddlas oes;
Y ddoe y'u ganwyd, druain ddau,
Heb wybod dim ond llawenhau,
A'u hewyllysiau gleision brau
A droes yn foreu-loes!
Beth wyddai undydd ddynolryw
Am gyfrifoldeb dechreu byw,
Na'r rhagor sydd rhwng diawl a Duw
Pan ddaeth y wiber fain
A'i geiriau newydd seiniol swyn
A'r gyntaf hud-addewid fwyn-
Pa ryfedd iddi hollol ddwyn.
Y plant-serch feddai'r rhai'n?


Fe gymer amser i wneyd pwyll
A phrofiad i wynebu twyll
Y wiber a'i deniadau mwyll
Ac aml wendidau'r cnawd;
Mae oesau lawer er y dydd.
Y rhoed yn gyntaf waith i ffydd;
A oesau eto cyn y bydd
Gan ddyn orchfygol nawd.

Anhawdd yw rhoddi gras mewn dyn
Fel rhoi mewn llestryn ddwr neu win,
Eithr rhaid fydd cael y llestr ei hun
O nawd yn gymwys iawn;
Ond Copernicaidd reol yw
Yr hon wareda ddynolryw,
Sef ymddarostwng-codi Duw
Yn graidd a phen pob dawn.

A deall llawn a ddaw a hyn,
Ystyriaeth—dawn sy'n hynod brin;
A phrofiad dwfn rhaid feddu cyn
Y gwrthyd dyn ei hun;
Wrth ddylyn Crist mae dod yn fod,
A chyraedd nef-sylweddol glod
A'r unig waredigol nod—
Y benaf gamp i ddyn!


Drwy'r oesau'n ymbalfalu o hyd,
A'i hyder ar orchfygu'r byd,
A'i elyn yw ei lygraidd fryd.
A'i uchel gais ei hun;
Ni fu a'i gais am fod yn dda;
Ei fryd erioed ar remp a thra
A gwobr ei remp a'i dra a ga
Am fod yn llai na dyn.

Mae ganddo ddysgu mwy bob dydd,
Mae ganddo'n fwy ddyfnhau ei ffydd,
Mae ganddo gael ei hun yn rhydd
O rwymau'i filaidd reddf;
Rhaid iddo gofio'i fod yn ddyn;
Rhaid iddo gofio'i werth ei hun,
Yn deilwng fod, o'i ddelw a'i lun
Drwy barchu'r ddwyfol ddeddf.

Fe all fod Duw yn fyw'n y ne,
Fe al! hanfodi yn mhob lle
Yn gyfrin, fel nad yw Efe.
I'w deimlo yn un man;
Ameus yw holl fodolaeth Duw.
A'r gred o hono-ai nid gwyw
Heb i ni deimlo'i fod yn fyw
Yn fewnol fywiol ran?


Ac ebe rhywun, "Gwae y dyn
A'i Dduw'r tu allan iddo'i hun";
Heb ynddo i fywhau ei lun
O fewn ei wisg o gnawd;
A gwae y dyn a'i Dduw'n y ne
Yn llywio'r bydoedd yn mhob lle,
A'r truan ddyn heb gydag e'
Dduw ynddo ar ei rawd!


Crefydd yw buddiant penaf dyn, er nad yw fel elw materol i'w gydmaru a thrafodaeth y byd hwn. Y mae swyn y byd hwn yn agosach ac yn addaw mwyniant buanach i chwant nag addewidion crefydd. Y mae crefydd wedi bod erioed yn gaeth i draddodiad ac i fympwyon bydol dynion; i awdurdod, y rhai a wnaethant lawer o ddrwg i wir grefydd. Elfen fu ac sydd mewn ymrafael feunyddiol ag awdurdod a chredoau arwynebol yw profiad. Gwelwn wrthdarawiad traddodiad a phrofiad drwy yr oesau, ac awdurdod traddodiad gai fwyaf o barch a sylw.

Dadl fawr traddodiad yw fod rhyddid profiad yn creu amrywiaeth enwadau a barnau; ac y mae hyn yn ymddangosiadol wir; eto cefnogir amrywiaeth gan natur. Nid yr un profiad sydd gan bawb nac yn cyfateb pawb, fwy na'r un maint a ffurf esgid wedda draed pawb, ac os yw rhyddid yn aml yn creu barnau a phrofiadau, crea fwy o foddlonrwydd drwy hyny, a chyfeiria bob amser at hyrwyddo tangnefedd yn mhlith dynion. Pe y gwisgai pawb yr un math a'r un maint esgid, byddai yn llawer o annghysur ac anfoddogrwydd, ac ni fyddai heddwch hyd nes y ceid esgidiau yn ateb i fesur traed pawb. Rhaid i ni ddylyn natur.

Ar y llaw arall, y mae awdurdod a'i orthrwm yn lladd profiad personol, ac yn creu unffurfiaeth arwynebol a rhagrithiol. Y mae amrywiaeth yn fwy naturiol nag unffurfiaeth. Byddai yn rhyfedd gweled pob pren yn y goedwig yr un fath yn gywir; neu bob dyn yr un wedd, agwedd, ystum, osgo, gwisg a gwynebpryd! Byddai pawb yn camgymeryd eu gilydd am eraill; ac arweiniai ar fyr i benbleth chwerthinus a difrifol. Y mae natur yn amrywio i amcan a dyben arbenig, ac amrywio wna os y ca lonydd; ac y mae dynion yn amrywio yr un fath, a da eu bod; ac amrywio wnant hwythau yn allanol rhag i'r byd fyned i'r benbleth uchod. Eto credwn y daw gwybodaeth a hwy i gydsyniad golygiad yn hwyr neu'n hwyrach. Anwybodaeth amrywia farn, nid profiad perffaith.

Gwybodaeth rhywun neu rywrai oedd traddodiad yr amser gynt. Amcana gwyddoniaeth, sef gwybodaeth profiad, am gydsyniad drwy wybodaeth brofedig, ac y mae gwyddoniaeth wedi cyfuno llawer ar dybion y gorphenol; a gan mai gwyddoniaeth fewnol yw profiad crefyddol, dylai fod o fwy o werth i enaid na thraddodiadau y tadau seilid yn benaf ar dybion eu hunain neu eraill. Yr oedd traddodiad yn brofiad anwybodaeth a chwedloniaeth, ond fel y mae y meddwl a'r enaid yn ymddadblygu, gellir dysgwyl iddynt feddu profiad dyfnach a gwirioneddolach. Yr oedd traddodiad gynt yn gynyrch clywed neu ddarllen, tra y mae heddyw yn ffrwyth sylwadaeth ofalus ac arbrofion. Perygl traddodiad yw parhau chwedlau, tra mai tuedd profiad yw cyfuno barnau.

Yn yr ymdriniaeth a ganlyn, gwelir traddodiad a phrofiad yn ymgomio a'u gilydd; yr enaid yn ameu o herwydd annigonolrwydd traddodiad yn ngoleuni oes newydd, a phrofiad yn cymeryd ei le i lonyddu a chadarnhau y meddwl drwy olygiad arall. Ni ellir gwadu ffeithiau dyfnion bywyd; yr oll a ellir wneyd yw eu rhoi mewn goleu gwell. Y profiad yw yr enaid ei hun; a thraddodiad yw pobl eraill.

Gellid cyffelybu traddodiad i'r Adda Cyntaf, a phrofiad i'r Ail. Ai y Cyntaf wrth swn; a'r Ail wrth sylwedd; ac y mae y ddau syniad hwn yn rheoli meddyliau plant dynion heddyw yn ol graddau eu hanwybodaeth a'u gwybodaeth. Y mae dyn o gread cyfrin-sylwedd yw ei sylfaen, a thybiaeth fu ei gwymp. O herwydd ei ddiffyg profiad a'i anwybodaeth, aeth a'r gyfeiliorn gyda'i dybion, ac aeth i dybio ei dybion yn anffaeledig, yr hyn a'i maglodd yn fwy fyth.

Y mae ei fywyd hyd yma wedi bod yn glirio y domen oddiar wyneb y trysorau cuddiedig o'i fewn, a phan y dyfnha ei brofiad yn ddigonol, daw drwy dybion yr Adda Cyntaf i lawr at brofiad Adda yr Ail sydd wrth wraidd ei natur. Hyd yma bu yn crwydro gyda'i ddychymygion; heddyw y mae yn dechreu ymddiried yn ei brofiad. Po fwyaf ei brofiad, mwyaf y daw seiliau ei natur i'r golwg. Y mae coel ac anwybodaeth yn debyg i'r pridd a'r ceryg, a'r dyrysni a'r chwyn ar wyneb y ddaear, yr hyn a ellir alw yn domen y byd; islaw y mae yr haiarn, a'r plwm, y copr, yr arian, yr aur, a'r olew, a thrysorau eraill. Y mae seiliau y natur ddynol yn gedyrn; yn yr oruwchadeiladaeth y mae y drwg. Y profiad yw y ffordd, y gwirionedd a'r bywyd; ac ar hyd y ffordd hon y rhaid i ni deithio yn nghymdeithas Adda yr Ail, a deuwn at Graig yr Oesau. Gwirionedd yw hollolrwydd profiad.

Y profiad yw yr enaid ei hun; a thraddodiad yw pobl eraill; a chredwn y bydd i'r darllenydd pan yn myned drwy y ganlyn deimlo llawer o'i brofiad ei hun, a chyferfydd a phethau, feallai, na ddaeth i'w feddwl erioed. Nid amcan dim o'r llyfr yw creu ameuaeth, na'i magu, eithr cyfarfod ag ameuon, a'u hiawn gyfeirio i awyrgylch arall. Seiliwyd llawer o athrawiaeth erioed ar draddodiadau neu gyffelybiaethau anmherffaith, a chymer profiad y ffaith i bwyso arni, heb ymwneyd a phryderu yn nglyn a'r esboniad y pa ham a'r pa fodd, gan nad yw hyny yn newid fawr arni.

Yn yr ymdriniaeth a ganlyn, gellid tybio fod dau neu dri yn ymgomio a'u gilydd, ond y meddwl ei hun sydd yn ameu a chwilio a chrwydro fel Abraham gynt, heb wybod i ba le yr oedd yn myned, ond a'i fryd ar "ddinas ag iddi sylfeini," saer ac adeiladydd yr hon yw Duw.


Nodiadau

[golygu]