Y Ddau Adda/Y Ddau Adda
| ← Rhagdraeth | Y Ddau Adda gan Dafydd Rhys Williams (Index) |
→ |
Y DDAU ADDA
Y Dyn Anianol a'r Ysbrydol

Y DDAU ADDA
Y swyn sydd mewn rhai geiriau—
Er engraifft, Eden Ardd;
O ddechreu'r drafferth ddynol,
Y rhai'n a huda'r bardd;
Dechreuwyd byd mor uchel—
Addawai uchder mawr;
Ond sydyn fu y Codwm
A ddaeth a'r byd i lawr!
"Fe gofiaf," ebe'r prydydd,
"Mi gofiaf Eden fyth;
Bendithion yno gollais—
Fendithion rhif y gwlith";
A oes air o'i gyffelyb,
Er mai ond bychan yw,
A saif am gymaint colled
I deulu dynol ryw?
Jehofa fu am wythnos
Yn creu holl ddae'r a ne';
A'r Sadwrn ai o amgylch
Gan 'sbio i bob lle;
'Roedd yno lu o bethau—
Bob math ar dir a mor;
Ond nid oedd un wnai gymhar
I'r creadigol Ior.
Er mor a thir ac wybren,
A maes, a chwm, a bryn,
A gwynt, a gwawr, ac awel
Olynol gyda hyn,
Nid dedwydd oedd yr Arglwydd
Yn rhodio wrtho'i hun:
Rhyw fyd go ddi gymdeithas
Yw byd heb gwrdd a dyn!
Ac ebai Duw yn ebrwydd,
"Mae gen i ddwr a chlai";
Ac ar Ei lun a'i ddelw
Gwnaeth ddyn yn fod di fai;
Anadlodd iddo'i ysbryd,
Ac aeth yn enaid byw;
A'r dysgwyl oedd y byddai
Yn gyfaill da i Dduw.
Aeth yntau yn anniddig
(Y dyn sydd gen i'n awr);
Efe yr unig ddynyn
Oedd ar y ddaear fawr;
Ond nid oedd Duw'n gydymaith
I fod mor sal ei serch;
Edrychai ef o amgylch
Am gwmni mwynder merch!
Siomedig oedd yr Arglwydd.
O greu anfoddog ddyn;
'Roedd mewn rhyw ystyr hefyd
Yn mron bod wrtho'i hun;
Ond un trugarog ydyw—
Ac felly mae erio'd:
Mae'n dda i bechaduriaid
Ein teulu ni Ei fod!
Ac ebe Fe yn gyfrin,
'Rwyf Fi'n rhy fawr i ddyn;
Rhaid iddo gael yn gydmar
Un tebyg iddo'i hun;
O lun cyffelyb iddo
O wrthgymharol fryd;
Yn Adda am ryw raddau,
Ond nid yn Adda i gyd.
Pa fodd i roi'r annhebyg
A'r tebyg mewn un bod?
Pa fodd i wneyd o Adda
Yr Efa berta 'rio'd?
Pa fodd i foddio'n foddus
Yr anfoddoca'n fyw?
Nid gorchwyl oedd i angel—
Yr oedd yn gamp i Dduw!
O wefr fe gawn fod deufath;
Yn un ac eto'n ddau;
Yn tynu a gwrthdynu
Ac felly'n agoshau;
Y pegwn sy'n gwrthdynu
Gan dynu'r pegwn dyn;
Ac felly yr oedd Adda
Ac Efa'n ddeubeth syn!
Ac wedi dwys ystyried.
Y ddyfais pro and con—
A gorchest o orchestol
Yw creu camp newydd spon;
Fe welai Adda'n cysgu
Gan wenu ynddo'i hun,
A chanfu Duw mai Efa.
A welai'r difyr ddyn.
A chloddiodd idd ei galon
Lle tybiai fod rhyw lun;
Ac wedi'i photograffu
Y gwelai gariad dyn;
Fe'i tynodd fel meddylddrych;
Fe'i trodd yn sylwedd byw;
A dyna un o'r campau
Rhyfeddaf greodd Duw!
Gwell gen i'r syniad yna
(A chreda'i fod yn iawn);
Mae Moses yn fwy cnawdol—
Cryn ddadleu erddo gawn;
Ni wnaethpwyd bod fel Efa.
O asgwrn ac o gnawd:
Fe'i crewyd o feddylddrych,
Ac nid rhwng bys a bawd.
"Yn wir, 'rwyt yn ddyddorol
Yn trin pen bynciau'r byd;
A phynciau fyth i bara
Yn bynciau dygn o hyd;
'Rwy'n hoff o'th ddifyr syniad
(Mae'n dangos campus ddawn):
Mae goleu claer meddylddrych
Yn oleu swynol iawn.
Fe fu rhyw Siol[1] er's talwm.
Yn son o'i wawdus ffydd
Am gamsyniadau Moses
Am bethau cyn ei ddydd;
Lled lymrig yw'r darluniad.
Oricio ochr y dyn
A gwneyd ei gydmar bywyd.
O'i asgwrn ef ei hun!
Ond bynag fo am hyny
Mae'r ddynes gyda ni;
Pa fodd y daeth i'r Teulu—
Dyw'n fawr o bwys gen i;
'Mae yma' sydd yn bwysig,
A'i cholli fyddai'n serth—
O golli pethau diwerth
Y down i wel'd eu gwerth!
Peth gwych yw ymddyhead
Yn meddwl awen bardd;
Cadd Newton ddeddf Dysgyrchiant
Drwy afal—gwymp mewn gardd;
A 'ro'wn i heddyw'n sylwi
A'r wrysgen gwydden flydd.
I fyny yn ymestyn
Fel a rhyw gyfrin ffydd;
Yn chwilio am gynaliaeth.
I afael ynddi'n dyn;
A deigryn ddaeth i'm llygad.
Wrth feddwl ystyr hyn;
Fe goffai i mi'r enaid
(O fendigedig ryw)
Yn chwilio ac yn chwilio
Am afael yn ei Dduw!
A choffai im' Murillo,
'R arlunydd claer ei fryd,
A aeth am lun y Forwyn.
Yn holl wynebau'r byd;
Ond nid oedd merch a'i boddiai,
Na gwraig a wnaethai Fair;
Ni welai neb a feddai
Ar wyneb Mam y Gair!
Un noson aeth i orphwys
A'u hiraeth lon'd ei fryd,
Ac yn ei gwsg y gwelodd
Na welsai yn y byd;
Fe welodd wyneb Morwyn
Na fu ei bath ar goedd:
Ai tybed mai y Forwyn
A fagodd Iesu oedd?"
Mae swyn mawr mewn eidea—
(Ac ysbryd ydyw Duw)
Mae'n siwr mai o feddylddrych
Y gwnaeth E' Fam ein rhyw;
Dyn sydd yn trin materion
A'u troi rhwng bys a bawd;
Mae Duw yn fwy o gelfwr—
Ysbrydol yw Ei nawd.
Ac felly crewyd Iesu,
O freuddwyd dynol ryw;
'Roedd yn y galon ddynol
Er's talwm iawn yn byw;
Yn tyfu fel meddylddrych
O oes i oes o hyd;
A'r ach a Duw'n cydweithio
I'w barotoi i'r byd.
Ni fuasai'n Geidwad addas
Pe deusai lawr o'r ne;
I lawr drwy ein naturiaeth
O'r cwymp y daeth Efe;
Etifedd ein holl brofiad.
A'n loesion oedd y Gair;
Yn aer i'r Adda Cyntaf,
Yn wyr i'r Gyntaf Fair.
"Wel, wn i erioed a fu Eden
Yn gyn-ardd yn nechreu y byd;
A chreu dyn o glai a'r cyffelyb
Ac Efa yn briod yn nghyd;
'Rwy'n ameu a fu Pren y Bywyd
Yn unman yn tyfu mewn gardd;
Fy marn yw, yn wir, nad yw'r cyfan
Yn ddim ond dychymyg rhyw fardd!
Go serth iawn i mi ydyw credu
Fod ffrwythau r'ont ddeall i ddyn;
I Dduw greu'r dyn Adda y Sadwrn
I syrthio mor llip cyn y Llun;
I'r Diafol mor fawr fyn'd i wiber—
I filyn mor fain ag yw hi;
'Rwy'n foddlon i undyn ei lyncu—
Mae'n ormod o damaid i fi!
Fe ddwedir mai Adda ddaeth gyntaf—
Ond beth am ei dad gyda'i fam?
Fe ddywed plant Darwin yn feiddgar
Am natur na rydd hi fyth lam;
Feallai mai'n swil oedd i arddel
Ei ach o'r hon wael roes e' naid;
Feallai o chwilio'n fanylach
Mai epa yn wir oedd ei Daid!"
Ha, frawd, nid yw'n werth ymrafaelio.
Yn nghylch pynciau dyrys ein byd;
Ni ddeillia fawr goleu o ddadleu
A choeg ymresymu o hyd;
Ni wyddom ni fawr am Ardd Eden
Na'r ffordd y daeth Adda i'r llawr;
Mi wni i rywbeth drwg ddygwydd
I'n tynu fel Teulu i lawr!
Gwaith ofer yw dadleu am bobpeth—
Ein profiad yw'n dysg oreu i ni;
Fe rowd ar ryw wag ddychymygu
Drwy'r oesau lawn gormod o fri;
Fy Adda i, gyfaill, bob amser.
Wyf fi a fy natur fy hun—
Ni phrisiaf un botwm am lyfrau—
'Rwy'n gyfrol ar bobpeth am Ddyn.
Na theimlai pawb swyn meddylddrychau,
A gadael hen lygredd y cnawd;
Na chodem i fyny i fanlawr
Egwyddor ysbrydol ein Brawd;
Na wywai hen chwantau'r cyn—Adda
A blysiau hen deyrnas y clai;
Fe fyddai cryn das lai o bechu—
Fe fyddai cyn dwysg lai o fai!
"Mae'n dda gen i gwrdd a thi, gyfaill,
A'th seiliau ar brofion mor gryf;
Mae'th glywed yn siarad mor ddwysgall
Yn gofyn i m' ofyn yn hyf
Dy farn di am Dduw—
A oes; pa fath yw?
Mae gan bob rhyw ddyn
Ei feddwl ei hun;
Ond ni wnaeth athronydd
Ychwaith na duwinydd
Ei ddangos yn llawn
Na'i ddelwi yn iawn."
Ni welodd neb Dduw o'r dechreuad,
Er cymaint o'i ddangos a wnaed;
Er cymaint yr ymgais amrywiol
Hyd yma, ei wir lun ni chaed;
Pwy bynag a'i dwed,
Fath bynag ei gred:
Mae gan bob rhyw ddyn
Ei goel—gred ei hun.
Os clywir athronydd
Neu iawngred dduwinydd.
Yn haeru beth yw,
Nid hyny yw Duw.
Am dano ei hun gwyr dyn lawer,
Ond 'chydig iawn iawn wyr am Dduw;
A phan y tyn ddarlun o'r Dwyfol
Rhyw ddarlun o'i hunan bach yw:
Fu syniad erio'd
Am Dduw'r nef yn bod.
Na byddai yn ddyn
Wedi mawrhau ei hun.
A Duw yr athronydd,
A Duw y duwinydd,—
Pwy bynag dyn Dduw
Nid eilun Duw yw.
Gwell ydyw cael profiad na choeg-ddysg—
Mae profiad yn ffrwyth rhyw ymwneyd;
Mae llu mawr o gyfrin brofiadau
Nas gellir mewn geiriau eu dweyd:
Mi wn i am Dduw;
Mi wn i beth yw
Os wyt am i'm ddweyd
Nid wyf fi am wneyd:
Nid wyf fi athronydd,
Ychwaith na duwinydd;
'Dall neb ddangos Duw—
Ond gwn i beth yw.
Mae Duw yn iawndebyg i fywyd,
Efe ydyw Bywyd pob byw;
'Dall neb ddweyd a geiriau beth ydyw
Fwy na gall ddweyd beth ydyw Duw.
Mae bywyd yn fyw
Ymwybyddiaeth o Dduw—
Ni wedir yn gall
Y naill fwy na'r llall.
Nid wyf fi athronydd,
Na iawngred dduwinydd;
Ond gwn 'mod i'n fyw,
A gwn beth yw Duw.
Pob darlun a gaed nid yw'n gywir—
Mae Duw yn anfeidrol—pa lun
All dyn wneyd o fod sy'n anfeidrol
Heb roi arno'i agwedd ei hun?
Rhyw gymaint yw llun
Ac felly bob un;
Ond ysbryd yw Duw,
A meidrol nid yw.
Os clywir athronydd
Neu iawngred dduwinydd
Yn haeru beth yw—
Nid hyny yw Duw!
Pa lun sydd ar Fod sy'n ddi—derfyn?
Mae hyd, lled ac ochrau i lun;
Fe ellir rhoi ystram am ddarlun—
Y dyb o roi ystram am Dduw!
Pa fodd y baidd dyn
Ar Dduw roi'r un llun?
I'w weled nid yw—
I'w deimlo mae Duw;
'Does eisieu athronydd
Ychwaith na duwinydd,
Na llygad na chlyw—
Y teimlad wel Dduw!
A glywaist erioed am Spinoza
A chwiliai am Dduw drosto'i hun?
Annghofiai yr oll o'i fywiolaeth
Er dysgu yr oll allai dyn;
Fe chwiliodd e' Dduw.
A threm dynol ryw;
Rhyw ysbryd mor fawr.
Yn lletach na'r llawr.
Y neb a'i darlunio
Gwna ond ei lurgunio.
A ddwed beth yw Duw
Fe dwed beth nad yw!
Gwyn fyd y rhai gloewon eu calon
Can's hwy yw'r rhai welant eu Duw;
A'r llygad y gwelir byd—bethau—
A ffydd y rhai dwyfol eu rhyw.
Un dall yw'r di—ffydd
A'i foes nid yw'n ddydd;
Gweledydd go dlawd
Yw llygad o gnawd.
Os clywir athronydd
Neu iawngred dduwinydd
Yn haeru beth yw:
Nis gwelir drwy weled.
Nis clywir drwy glywed
Heb iawn ddawn i fyw
'N yr un byd a Duw!
"Athronydd go ddigrif wyt ti;
Ni welais dy fath di erioed.
Lle cefaist dy addysg, hen frawd;
Pwy wyt ti, a pheth yw dy oed?
Gad i ni gael rhagor o'th ddysg,
A'th brofiad mor ddifyr ei flas?
Beth deimli am ddyn ac am Dduw
Am drefn mor rhagorol Ei ras?"
Mi ddweda' i ti hyn ar fyr dro;
Mi gaf fi fy nysg o'r fan hon;[2]
Fy ngholeg, a'm llyfrau a'm holl
Yw'r ysgol sy'n gudd dan fy mron;
Fe synet fath gosmos wyf fi;
Crynodeb o bethau'r holl fyd;
Fan yma cei bob peth yn fyr
O fewn fy hen gorpws yn nghyd!
Myfi, a thydi, a phob dyn,
Yn natur sut bynag un yw,
Mae Eden, a'r diafol, a'r sarff
(Fath gwmni!), a gyda hwy, Duw;
A'r pechod a'n drygodd mor fawr,
A'r drwg—da ddaw'n don ar ol ton;
Mae'r oll yma'n nghadw gen i
I'w deimlo o hyd dan fy mron!
I'r dwyrain ni aethym erioed
I chwilio am Eden y Dyn;
Cyfleusach yw pob peth gen i
Yn gryno fe'u caf hwy bob un;
Ni chwiliaf mewn llyfrau am dim,
Fan hon y mae'r holl ddynol ryw:
Gardd Eden o hyd dan fy ngrys,
A phrofiad o ddiafol a Duw.
Ni chodaf fy llygad i'r nef
I chwilio am gymorth fy Nuw;
Yn nes na'r afagddu mae'r drwg—
Mor agos bob amser im' yw;
Mae amnaid yn alwad i'r fall—
Dymuniad yn weddi i Dduw;
Ac felly'n fy Eden bob dydd
A bob nos 'rwyf beunydd yn byw!
Mae teyrnas yr Iesu o'n mewn
Ac felly yw uffern 'r un wedd;
I fyned i'r naill fel y llall
'Does eisieu i ni fyned drwy'r bedd;
Mae pob drwg a da y fan hon;
Mae'i dynged i gyd o fewn dyn:
Fe ddeuai yn ddoethach bob pen
Pe'i ceid i efrydu ei hun!
"Mae'th eiriau yn rhyfeddol ddysg
Na cheir un amser yn ein mysg;
Mi garwn ddeall mwy am Dduw
A fydd o fudd i ddynol ryw,
A all dyn ato agoshau
(Yn ddystaw rhyngom ni ein dau)?"
Nid dysg i'w rhoi mewn llyfrau yw
Y gyfrin ddysg am ddirgel Dduw.
Ni ellir gweled Bod mor gudd;
Ni all y dall fyth wel'd y dydd.
Ni all y byddar glywed clyw-
Pa fodd y meidrol ganfod Duw?
Y teimlad yw'r hyfrytaf ddawn,
A hwn y teimlwn Dduw yn iawn.
Rhy fawr i'w weled ydyw Ef;
Rhy fwyn i'w chlywed yw ei lef;
Ni welodd trem, ni chlywodd clust
Y Duw sy'n mhobman, ac yn ust!
Pa fodd i agoshau, onte,
At Fod sy' bobpryd yn mhob lle?
Pa fodd mae agoshau at Un
Sydd yr Agosaf at bob dyn?
Beth dyr ymwybod dyn yn ddau,
Fod rhaid i'r Agos agoshau?
Yr anfodd a andwyodd ddyn;
A'r gwirfodd a wna'r ddau yn un;
Yr agos deimla'r Agos fu
Yn agos didol ar bob tu;
Daw un ymwybod lle'r oedd dau
A'r Agos deimla'n agoshau.
"Dwed fwy, frawd, am bethau'r ymwybod
Lle mae'r gwir ddadguddiad yn byw?"
Pwy wel Dduw? a'i clyw? nid yw'n ddichon;
Y teimlad ddadguddia i'n' Dduw;
Rhyw ofer yw son am ei weled
A'i glywed-mae'n ofer i gyd:
Mae son am ei gael drwy ymwybod
Yn rhywfodd yn taro fy mryd.
Y teimlad yw canwyll y cyfan,
Ymwybod yw dechreu pob dawn;
Pan fyddo yn dor gwawr ar bethau,
Yn agos yr haul mawr a gawn;
Ni ddaeth dim i feddu ymwybod
Ond drwy yr Ymwybod ei hun;
O'r amser daeth dyn gynta'n ddynol
Ei Dduw a fu car goreu dyn.
Nid ysbryd y dyn yw ei oleu—
Dywedodd y Doeth yn ei le;
Ni fai ond tywyllwch yn mhobman
Yn ddilys pe na bae Efe;
A glywaist erioed enwi Pascal
Coeth enaid a'r mwynaf ei ryw:
'Be fe, "Nid oes neb yn Ei geisio
Nad yw'n cael ei geisio gan Dduw."
O, Dduw, yn rhy fawr wyt i'th weled,
Lleferi, ond neb un a glyw;
Mawr agos i bawb wyt ac eto,
Ac eto mor bell y'm yn byw;
Ti roddi in' bob peth sydd genym,
A ninau a'u hawliwn i gyd;
Drwy falchder y "ni" yw y cyfan
A Thithau o bawb yn ddim byd!
Tydi sy'n goleuo ein goleu,
Tydi sydd yn donio ein dawn;
Dy gariad a'n gwna ni'n garedig
A'i iawn Ef a'n gwna ni yn iawn;
Pan deimlwn Dduw, teimlwn ddaioni,
Pan deimlwn ddrwg, ni sy'n ei fyw;
Yn ameu, nyni sydd yn credu;
Yn euog, nyni sy'n ddi Dduw.
Os na fydd Duw yma'n[3] lletya,
Waeth i ni pa goel na pha gred;
Pa les yw i ni'r gwael gredoau
A'r dogmau a daenir ar led?
Pa les enw Duw oddiallan?
Pa fudd yw y gras sy'n ddi waith?
Pa elw yw dim na ddefnyddir?
Pa werth ydyw ffydd nad yw'n ffaith?
Rhesymeg fu'n mron ag andwyo
Y profiad yn enaid y dyn;
Gwnaed crefydd yn gynyrch pob credo
Ond profiad y Cristion ei hun;
Fe grwydrodd dyn allan o'i hunan
Fel gwnaeth yr Afradlon mor ffol;
Ni cha dyn fyth afael ar reswm
Na gras hyd nes dychwel yn ol.
Aeth cred yn bwysicach na chariad,
A dogmau'n bwysicach na Duw;
Aeth enwad yn gryfach na chrefydd,
A phroffes yn drymach na byw;
Aeth allor yn gyff i fragaldian,
A'r gangell yn gellfa ddi ras;
Y nef aeth i'n byd ni yn forwyn,
A Duw wnaed gan ddyn bach yn was.
"Er's talwm pan o'wn i'n grefyddol―
'N enwadol ddylaswn ni ddweyd;
Ymdrechwn yn fawr a'r llythyren'—
'R un modd ag oedd eraill yn gwneyd;
'Roedd Adda i mi'n ffaig Chineaidd―
Y plentyn di dad cynta'r ddae'r;
A chwiliwn, olrheiniwn a heliwn—
Ond dim ddoi i'm pen er mor daer.
Ac yna creu Efa o asen,
A dynsid o ystlys y gwr;
Fe'i trown i yn ol ac yn wrthol,
Nes im' gael rhyw bendro yn siwr!
pren oedd yn nghanol y berllan,
A'r pren wyddai dda 'nghyd a drwg:
Mae'n syn iddynt fwyta o hwnw
A chreu'r fath glwm llinglwm o wg!
A dyna y wiber gyfrwysddrwg,
Glaer brwyes gythrymffalst y Ddraig,
Yn dod yn ei gwisg o satanau
I dreulio'r prydnawn gyda'r wraig;
Ac yna'n ei chym'ryd drwy'r berllan
Gan gomio am rin ffrwythau'r coed,
Gan gymeradwyo'r cythrymffrwyth—
Ni fu y fath waew erioed!
Peth drwg yw lletya dyeithriaid
Heb wybod eu honiad a'u hach:
'N enwedig, hen widdan o wiber—
Y diawl wedi'i wisgo fel gwrach;
Mi fuaswn i'n rhifo rhyw ddeugant,
'N ystyried a chosi fy mhen,
Cyn buaswn i'n coelio'r un wiber,
Na chredu yn nysg yr un pren!
A dyna wisg dail y ffigysbren—
Pa wisgo gwisg ellir o ddail?
O b'le cadd y ddau eu nodwyddau—
Yr oll oedd i mi mor ddi sail.
A chodai syn wen i fy ngwyneb
I'w gweled mewn dillad mor chwith!
Yr hanes oll oedd i mi'n ddigrif,
Ni allwn ei goelio ef byth.
A dyna'r canlyniad mor echrys
A ddeilliodd o wenwyn y pren;
Rhyw lynclyn o uffern yn agor
A'n cau o aur risiau y nen;
A phawb o hil Adda'n gyfrifol
Am anffawd gwael dro yr Hen Ddyn!
Myrddiynau o'n hil ni a'i credodd;
A bum bron a'i gredu fy hun!"
Pa les myn'd i gwrddyd a gofid
Dros oesau i Genesis gynt?
Ni ddaw in' fawr wawr o'r gorphenol
I neb i'r dyfodol ar hynt;
'Nawr cymer un wers gen i, gyfaill;
Efryda o'th fewn bethau byw:
'Does dim sydd o bwys y tu allan-
O'th fewn y mae'r deyrnas a Duw.
Mae'r oll yn gyfleus yn dy galon;
Holl helynt gardd Eden yn fyw,
O fewn dy gudd brofiad yn aros
Yn dyst o hen brofiad dy ryw;
Mae gen i'r holl drafferth fan yma,
A'r holl grwn grynodeb am ddyn;
Pan fyddaf am ddeall y cyfan,
'Rwy'n troi i efrydu fy hun.
Gardd Eden yw'm natur fy hunan,
A mi yw y gras roed i'w thrin;
A'r prenau a'r ffrwythau i'w bwyta
Yw'r chwantau amrywiol eu rhin;
A'r pren wyddai dda yn nghyd a'i gontra
Yw'r chwant gais wneyd gorddyn o ddyn;
Y chwant sy'n andwyo ei ddyndod
Drwy wneyd dyn yn fwy nag e'i hun.
Y felldith yn nglyn a phechadur—
Fe geir ynddo ddau yn lle un;
Y dyn a wnaeth Duw yn ei gariad,
A'r dyn wnaed o'i gariad ei hun;
A hwnw a demtia y Cythrwm.
Gan addaw ei wneyd yn rhyw gawr;
A phan y cwymp ef fe gwymp hefyd
Ddyn Duw, sef yw Adda, i'r llawr.
Yr asen yw awydd ac ymgais,
Hen gydmar oesoesol y dyn;
Yn Eden nis crewyd hi'n unig—
Fe'i creir bob oes yn mhob un;
I ddyn hon yw asgwrn ei asgwrn
Ac irai'n ei gnawd ydyw hi;
A'r ateb i bob "Pam y'i gwnaethost?"
Yw'r gorgais a roddaist i mi!
Ac felly mae'r Duw-ddyn a'r dyn-ddyn
Mewn cyfrin ymrafael o hyd;
Rhwng ceisio am fwy ac ymwadu
Mae'n ymdrech barhaus rhwng dau fryd;
Mae Duw yn y naill yn cudd weithio,
Mae drwg yn y llall yn troi'r dyn;
A'u tynged drwy'r oesau hyd yma
Yw'r ddedfryd, "Hwy fyddant yn un!"
Mae'r "ddau ddyn" yn anysgaradwy—
Priodas dragwyddol yw hon;
Mi deimlaf, fel Paul, yr ymdrechfa
Ofnadwy bob dydd dan fy mron;
O'm mewn mi a deimlaf yr Adda
Yn crynu a synu'n ddi sail,
A chlywaf, "Pa le'r wyt ti, Adda?"
Yn llais cyfrin Adda yr Ail.
Mae gormod o sylwi o bellder,
A gwel'd Duw o eithaf pob oes;
Mae holl fewn—brofiadau'r pechadur
Mor agos i'w galon a'i loes;
Ni thal i n' fyn'd draw draw i Eden,
Nac esgyn ychwaith hyd y ne:
Mae Duw yn gyfleus i bechadur—
Mwy agos na'i hunan yw E'.
Beth wyddom am Genesis niwliog,
A'r Hen Dad ryw filoedd cyn hyn;
Pa bwyll yw myn'd oesau o gartref
I chwilio ein hunain—mor syn!
Ai nid oes rhyw gyfle agosach
I ddyn gael rhyw sicrwydd o'i ddrwg?
Ai nid oes rhyw ffordd gyfamserol
I ddiane rhag gafael y gwg?
"Fe seiliai yr hen dduwinyddion
Y cyfan ar Adda a'i goll;
Pan gwympodd e'n swp draw yn Eden—
Fe gwympodd ei epil llip oll;
'Roedd pawb byd o hyny hyd heddyw
Yn lwynau'r Hen Gyndad mawr fri—
Ond wedi efrydu'n fanylach,
Ymddengys fel arall i mi.
Ni theimlais fy hunan yn Adda,
Erioed drwy ymwybod i mi;
A dyna bob pryd fu fy mhrofiad—
Ac felly mae'n debyg, gen ti;
Ni wn i drwy brofiad am Adda;
Ni wn i mi bechu'n ei gnawd;
Ond mae genyf brofiad o Adda—
Mi gefais gryn waddol o'i nawd.
'Rwyf felly yn dymchwel y byrddau,
A threfnu 'nysgeidiaeth o dde;
Fe all Adda fod i mi'n brofiad
Nas gallwn ei gael ynddo fe;
Nid oeddwn i'n bod pan fu'r drafferth,
Ond mae Adda'n bod ynof fi;
Mae hyn i mi'n berffaith resymol—
Nis gwn i pa fodd mae gen ti!"
Rhyw wmbreth o bob esboniadau.
Ddarllenais yn ystod fy oes;
A rhai 'ny'n amrywio yn ddyrys,
A phob dau o'r braidd yn rhyw groes;
A hyn wnaeth i mi anobeithio
A'u taflu i'r domen o'r bron
A thrói am wir ddysg at fy mhrofiad
A chael gwir esboniad fan hon.
Pa les beio neb am ein pechod—
I ni'n etifeddiaeth y daeth;
Ein dyled yw dianc o'i rwymau
A phob hen ddrwg arfer mor gaeth;
Nannedwydd, nyni sydd yn crwydro;
'N ymlygru, ni'n ddi Dduw sy'n byw;
Ni ddaw neb yn ol ato'i hunan.
Hyd nes y dychwelo at Dduw.
Mi wybum i deulu go reidus.
Ac Adda y teulu'n ddi ffawd;
Dilewyrch yn dylyn ei flysiau
Nes gwelodd ei deulu yn dlawd;
'Roedd Efa y teulu'n rhinweddol.
A'i hanian a dreiddiai y plant;
Codasant drwy ymdrech fendigaid
Yn enwog dros fynydd a phant!
"'Roedd pechu'r Hen Dad yn o debyg
I bechu pob aelod o'r hil;
Nid oedd y pryd hwnw'r un Beibl,
Na choleg na sail Ysgol Sul;
'Roedd ganddo Un Drwg yn gymydog,
A'i fryd ar ei dwyllo bob awr;
Yr oedd ei gyneddfau'n ddibrofiad
A'r gudd brofedigaeth yn fawr!
Mi fum i'n dychymygu er's talwm,
A gwnes i yn onest yn nod,
Iawngredu im' bechu yn Adda
Ryw filoedd (pwy wyr?) cyn fy mod:
Fy nghred, os na wnawn, oedd y pechwn,
A dyna oedd pawb yn ei ddweyd;
Ond methu a methu yr oeddwn
Er cymaint a chymaint wnawn wneyd!
Drwy son yr adnabum i Adda;
Drwy son y gwybuais ei ddrwg,
Cyn hyn, i ddim ddygwydd ni wyddwn-
Yn ddifai ni ofnwn un gwg;
Pa fodd gall un dyn fod yn euog
O weithred na wybu y bu?
Pa fai sydd ar glust, os na chlywo,
A dim ond dystawrwydd bob tu?
Nid iawn beio nai am wnaeth ewyrth,
Neu fab am gamweddau ei dad;
Pe gwnelai neb ddeddf i'r fath amcan
A'i ffrwst fe y'i gyrid o'r wlad;
Afiawnach yw son am euogi
'Run dyn am a wnaethpwyd ryw fil—
Ryw ddwy, dair neu bump cyn ei eni—
Neu chwe mil gan ach—dad yr hil!
Rhyw hyll gam yw pechod cyn geni
Neu gamwedd na wna'r dyn ei hun;
Os euog o gyngamwedd Adda
Mae'n euog o gamwedd pob dyn!
Os beio dyn am na chyflawnodd,
Gall hawlio rhyw dda nad yw'n fyw:
Fe ddylai fod gwell dealldwriaeth
Na hyny rhwng dynion a Duw!
Wrth ddisgyn, tro gwael wnaed gan Adda—
Gadawodd ei anian i ni;
A dyna ei holl etifeddiaeth.
Drosglwyddodd i ti ac i fi;
Ni roes ef i un dyn ei feiau,
Ond rhoes ei gynysgaeth o gnawd;
A rhoes f'asai'n well iddo'i chadw―
Nis gwn i ffordd teimli di, frawd!
Fe roed ei wall mawr fel pe rhyngom,
I bob un ei gyfran ei hun;
Rhyw dalent i bawb i'w buddsoddi
Gael gwel'd faint o dda sy'n mhob dyn;
A'r gamp yw gwneyd elw o honi-
Mae'r eiddo yn dda ac yn ddrwg:
Er ymdrech wych gras a gwirionedd
Rhyw log go ddi lewyrch a ddwg!
Fe roes fel rhyw wystl-ddyled rhyngom-
A dyled o gyndyn yw hi;
A thalu'r hen ddyled fyth ydym,
A'i thalu am fyth fyddwn ni;
A dywed y caeth dduwinyddion
I mi gynt lawnodi'r Hen Bla;
Nid wyf am gyfadde'r cytundeb,
Ond talu y dyled mi wna.
Ni wyddwn i ddim am y ddyled
Hyd i m' gael rhyw salwch un tro;
Ac ebe hen frawd duwiolfrydig
"Rhan daliad o'r ddyled yw'th gno";
Ryw chwe mil o flwyddi cyn heddyw
Aeth pawb i gyfamod a Duw;
Cyfamod gweithredoedd y'i gelwir;
A rhwymwyd yr holl ddynol ryw.
'Roedd pawb a 'roe'n ninau'n dau yno'n
Llawnodi'r cyfamod mor dyn;
Mae wired a'th eni di, gyfaill,—
Ac ofer it' edrych mr syn;
Nid ydym, feallai, yn cofio
Ddygwyddodd ben boreu ein byd;
Ond eto daw rhyw bla neu gilydd.
I goffa'r cytundeb o hyd!
Ac efe myfinau'n wrthwyneb,
Nid iawn i n' oll feio'r Hen Dad;
Fe'i cloffwyd e'n ddrwg gan y Codwm,
A syrthiodd y cloffni i'w had;
Ond ofnaf fod natur cyn Adda.
A llaw yn ein trethu ryw lun;
Mae rhan gudd wrth wraidd yr hen helynt
Nad yw eto'n hysbys i ddyn."
Ond wedi'n nid Adda yn unig
Yw'r holl etifeddiaeth i ni;
I ddyn gyda'r gwael Adda cyntaf
Daeth Ail Un sy'n harddach ei fri;
Y cyntaf o'r ddae'r yn ddaearol—
Mae yn ein naturiaeth ni ddau;
Y naill yn gamweddol a marwol
A'r llall oddifry yn bywhau.
Fe glywid ei lais gwan yn Eden,
Dylynai glyw Adda i ma's;
Fe ddaeth yntau'n gyfran o'r gyfran
O fewn y gnawd—anian yn ras;
A Hwn wna i'n talent ni dalu;
A wnaeth i'r drafodaeth ddwyn llog;
Fe elsai banc ffydd dyn yn ddrylliau
Pe na bae am inc coch y Grog!
Ac eto nid oedd ond fel Baban
Yn tyfu a thyfu o hyd;
Y cyntaf gnawd-Adda'n heneiddio,
Hyd yma'n rheoli y byd;
Mi teimlaf e'n crynu a honcian,
A gwegian a'i bwys ar ei ffon:
Fe welir y byd hwn mewn galar
O'i golli—a'r nefoedd yn llon!
Y bai a ddisgynodd drwy Adda;
Drwy Efa'r addewid am ras;
Drwy Adda y dyn pechadurus;
Drwy Efa y dwyfol ei dras;
O'i mewn hi 'roedd bru'r ymgnawdoliad
Fe'i daliai ef oes ar ol oes;
A Mair yn nghyflawnder yr amser
Fe'i ganwyd i esgyn ei Groes!
Cenedlwyd Ef gyntaf yn Eden,
Yn Efa y gyntaf o'i rhyw;
Yr Arglwydd a ddigiodd wrth Adda,
Ond Efa gadd ffafr gan ei Duw;
'Doedd Adda ond Joseph i Efa
Fel morwyn oedd Efa o hyd;
Gofynai'r faith Forwyn drwy'r oesau
I eni Iachawdwr y byd.
Ha! dyna lythyren yr hanes,
Ac ofer llythyren pob dysg;
Rhyw ledarwyddluniol yw'r cyfan
Am enaid y gwir megys gwisg;
Mae'r oll y tu allan i'r bywyd;
Ni chyffwrdd a'r ysbryd a'i ddawn;
A rhaid cael a sonir am dano
O'n mewn i'w amgyffred yn iawn.
A ffafr fendigedig oedd hono
A wnaeth Duw ag Efa'r un pryd;
A'i merched, fel hi, drwy yr oesau
I fagu Iachawdwr y byd;
Nid un i'w genedlu mewn blwyddyn,
Na'i ddwyn am ryw fisoedd oedd Ef:
Bu mamau y byd yn hir ddysgwyl
Am eni Tywysog y nef!
Ond nid yn ei eni mae'r cyfan,
Ei eni'n allanol i'r byd,
A'i gael yn y preseb yn Meth'lem
Sydd chwedl huda'r galon o hyd;
Ei weled yn rhodio o amgylch,
A chlywed Ei eiriau mor ddwys;
Mae'r hanes yn glaer ogoneddus—
Mae'r stori'n aruthrol ei phwys!
Ond wedi'n "allanol" yw'r cyfan—
Allanol ei eni a'i fyw;
Rhyw ddynol yw hyny, mi deimlaf,
Ni chyffwrdd a chlwyf dynol ryw;
Pa les a fu geni Iachawdwr?
Pa fudd fu o droi yn ein plith?
Ei weled mewn hanes a'i adrodd
Heb fyned i fewn i ni byth?
Ti glywaist am Grist hanesyddol—
Nid hwnw sy'n achub y byd;
A'r rheswm na cha'r byd ei achub
Yw Crist yn "allanol" o hyd;
Wrth ddrws ein gwael fyd mae yn curo
Ac yno fe'i cadwyd bob oes;
A'r byd ni agorodd ei fynwes
Pan glywodd ei gri ar y Groes!
Ti glywaist am Grist y credoau
A Christ yr Eglwysi bob un;
A Christ yr amrywiol enwadau
A wnaed i foddloni pob dyn;
Maent oll yn fan Gristiau'r allanol,
Man Gristiau ddifyrent bob oes;
Nid ydynt yn Grist gyda'u gilydd―
Fu'r un o nhw farw ar Groes.
A dyna fel mae hi, mi gredaf,
Allanol (yn ormod) fu ffydd;
Mae llawer o wir sy'n allanol
Fel haul sy'n weledig y dydd;
Ond wedi'n mae byd sydd yn fewnol,
A'r mewnol sy'n bwysig i ni;
Rhyw gadw mawr dwrdd wna'r allanol-
Mewn chwilio y mewnol mae bri.
Drwy' oesau "caddugol" (fe'u gelwir)
'Roedd llawer o ffydd yn y byd;
Ei Enw oedd ledled ag Ewrop,
A'r Ffydd oedd y ffwdan o hyd;
Fe lanwyd pob gwlad ag eglwysi,
A'r Ffydd oedd y ffair yn mhob lle;
'Roedd crefydd yn amlwg yn mhobman
Ond llwyr anweledig oedd E'.
'Roedd fel pe'r holl fyd wedi myned
I fewn i'r Lan Eglwys yn llu;
A'r Annghrist yn ben y Sefydliad,
A'i gred au'n blodeuo bob tu;
'Roedd amlder y croesau'n ddiareb
Yn aur, pres a haiarn a phren;
Fe'i gwelid E'n nghrog gwr a chongl—
Ond ni ddeuai bendith o'r nen!
Fe welid y Ffydd mewn esgobion,
Mynachod a chrachod o'u rhyw;
Offeiriaid yn fil ac yn fyrddiwn
A ffugient y grefydd ddi Dduw;
Y deiliaid a wychent y temlau,
A delwau i foddio y ne;
Yr oll fel agofau adseinient—
'R Ail Adda ni aethai i'r lle!
Ti glywaist am groes y Pabyddion—
Mae hono'n y golwg o hyd;
Ystumiau gweledig eu crefydd
Sydd beunydd yn swyno y byd;
Fe ddengys y Pabydd ei grefydd
Bob cyfle mewn ystum a gwisg;
Ond ni fu'r Ail Adda o'r dechreu
Yn hoff o'u coeg ddefod a'u dysg.
Mae'n syn mor ychydig o groesaw
A gafodd Efe yn y byd;
Mae llu yn Ei garu ar dafod,
Ond 'chydig o barch ga o hyd;
Cai'i wahodd i wychion eglwysi
I wyl ac i oedfa a chwrdd;
Ychydig agorent eu calon
I fwyta pob pryd wrth ei fwrdd.
A dyna ddywedai ei Hunan,
A dyma Ei eiriau trist Ef:
"Mae gan y llwynogod eu ffeuau
A'u nythod gan adar y nef";
Ond crwydro wnai E' yn feunyddiol—
'Doedd neb a'i lletyai yn iawn;
Mewn tai o waith llaw ni orphwysai—
Mewn calon y teimlai yn iawn.
Gafaelodd rhyw ddwys amryfusedd
Yn nghorpws holl grefydd y byd;
A ffynai y drwg heb ei weled
Gan bawb a'i proffesu o hyd;
Camsynied yr Adda a wnaethant
Gan osod eu camdyb yn sail;
Dwyfolent y brau Adda Cyntaf
Yn lle'r dwyfol Adda yr Ail.
Hwy'i troisent yn benaeth daearol,
A'r mawrion a'i hawlient bob dydd;
A'r drygwyr o'r brenin i'r bawddyn
Yn llu a gofleidient y ffydd;
Yr Adda a bechodd addolent
Fe'i gwnaed e'n waredwr di ras;
A'i lety a gai yn mhlith bleiddiaid,
Mewn breinlys, a chastell a phlas.
Yr hen Adda hwn oedd yr Annghrist
A godwyd yn geidwad mor goeg;
Bu hwn am ganrifoedd ar orsedd
Yn nhemlau gwych Lladin a Groeg;
Mab dyn oedd efe (a dim arall),
Ac ni feddai ddim ond oedd ddyn;
Ond ceidwad dry'n siomiant bob amser
Wna'r gwael ddyn o hono'i hun.
'Roedd Adda yn ddarlun o hunan—
Ei hunan oedd fwya'n ei fryd;
Defnyddiai bob dim er ei ffyniant
A'i fryd ar feddianu'r holl fyd;
Y dydd cynta'i crewyd fe brofwyd
Yr hunan-egwyddor yn ffrwch,
Can's syrthiodd y prawf cicaionaidd
Yn bendramwnwglaidd i'r llwch!
O'r braidd 'roedd ei glai wedi sychu
Na flysiai am fyned yn Dduw;
A'r wiber a wyddai ei wendid—
A gwendid yr holl ddynol ryw;
Camsyniad yw bod yn ddim arall,
I beth fod yn fwy na fe'i hun:
Gall dyn fyn'd yn llai na'i cynlluniwyd,
Ond fyth fod yn fod mwy na dyn.
Uchelgais nodwedda blant dynion;
Iselgais yw cais hardd y nef;
Y naill ddaeth ag Adda i drafferth;
Y llall ddaeth a mawl iddo Ef;
Bu esgyn i'r Cyntaf yn felldith,
Bu disgyn i': Ail o fawr rin;
Gall Duw fod yn llai na Fe'i Hunan,
Ond dyn fyth yn fwy na fe'i hun!
A dyna ei wendid drwy'r oesau,
Sef dringo uwchlaw sydd yn iawn;
Yn degan i'w falchder a'i ffoledd
Er llawer o helbul fe'i cawn;
Ymgeisia am fwy nag sy'n weddus;
Ymwancia am chwyddo ei hun;
Ar lethrau y dwyfol y syrthiodd
Gan lithro i gwm llai na dyn.
Mae'n dda fod ein Duw'n hoff o ddisgyn
Neu byddai ar ben ar bob dyn;
Mae'n dda fod Un mwy na fe'i hunan—
Fod Ceidwad sy'n llai na Fe'i Hun;
Mae'n dda i'n byd gwael, llawn o orthrwm
A balchder a thraha di ras,
Fod genym mewn byd llawn o feistriaid
Ail Adda sy'n Dduw ac yn Was.
Rwy'n teimlo fy hun fel Columbus,
Awyddus am groesi rhyw for;
Draw draw dros arw werydd dadleuaeth
I lanau byd cyfrin yr Ior
I chwilio am fyd sydd yn newydd
Am fyd sydd yn ddwyfol dan gudd;
I fyd sydd yn babell cyfarfod—
I fyd lle cyferfydd pob Ffydd.
"O'n mewn, ebe'r Iesu, mae'r deyrnas"—
Nid rhywbeth tu allan yw gras;
Mae bywyd erioed yn beth mewnol
Nis gwelwyd erioed y tu ma's;
Ac eto cryr gamp fu goleuo
Y byd ar wirionedd mor glaer;
Mae llawer o fas anystyriaeth
A dysg sy'n ddi fudd ar ein dae'r!
Tu mewn mae y bywyd anianol,
Cudd rin y llysieuyn a'r pren;
Tu mewn mae y teimlad a'r deall
Yn nghelfa y calon a'r pen;
Tu mewn mae y gwaed a'r gwythienau
Y giau'r gewynau a'r grym;
I weled mewnolrwydd y deyrnas
Ni ofyn am ddeall mor llym.
'Dyw bwyd o ddim lles y tu allan;
'Dyw torth ar y bwrdd o ddim gwerth
Hyd nes a i'r genau a'r cylla
Yn ymborth tumewnol a nerth;
A diod na yfir ni fuddia,
Ac ni ddisycheda y byd.
Os aros wna'r dwr yn y ffynon,
Yn'r wybren neu'n 'r afon o hyd.
Nid dim byd allanol o gwbl
Sy'n achub pechadur o ddyn;
Mae'r gref udd egwyddor o fywyd
Yn gweithio o fewn dyn ei hun;
Daw Crist fel yn gyffro'n yr enaid
I newid ei feddwl a'i foes;
Fel sudd Duw yn nghangau'r winwydden;
Fel lefain yn eples mewn toes.
Mae gormod o ras y tu allan
I'r grefydd sy'n llanw ein byd;
Y siarad a wneir mewn pwlpudau—
'R gweddio tu allan o hyd!
Yr holl goeg beirianwaith a glywir
Yn chwyrnu'n mhob pentref a thref;
'Dyw oes hir o'r deyrnas allanol
Yn werth awr mewn congl gydag Ef!
Y deyrnas allanol yw proffes,
A hon yw y fwya'n y byd;
Ar hon rhoddir bri annghyffredin
A hon ga y sylw i gyd!
A hon garia'r holl addurniadau;
A hon sydd yn swyno pob bron;
Hi fu hi i minau'n o swynol—
Ond heddyw ni swyna mo hon.
Y bardd mawr o Afon gynt ddwedai,
('Roedd ganddo ef lygad mawr clir):
"Y byd o hyd dwyllir gan addurn"—
'Does fawr byd edmyga y gwir;
Defodau a wnaeth i ni grwydro
O symledd Efengyl ein Duw;
A dogmau a ddaeth a'r ymrafael
Annynol i blith dynol ryw.
Beth dal i ni feio ein gilydd,
A dondio'r Hen Dad oddidraw;
Achosion ein holl aml drallodion
A'n drygau ni oll y'nt ger llaw;
Fe'n lluddiwyd gan hen goelgredoau
I wella'n effeithiol ein byd:
Mae'r diffyg o hyd yn nes atom—
Ein drwg yw o hyd ac o hyd.
Rhaid credu mai ynom mae Eden;
Mai ynom mae Adda bob pryd;
Mae ynom rhaid cael yr Ail Adda
I wella a newid ein byd;
Rhaid i ni gael Beth'lem bersonol,
Cael Crist yn y preseb o'n mewn;
Neu ofer yw'n holl sal grefydda—
O'n pechod fyth allan ni ddewn!
A rhaid yw Ei eni'n ein preseb,
Yn nghalon ein nwydau o gnawd;
Y ddwyfol gudd ail enedigaeth
Ar aelwyd ein natur, yn Frawd;
A rhaid i oreuon y meddwl
Offrymu o'u doniau i'w fri;
A rhaid yw i ninau Ei fagu
O'n mewn i'w droi'n eiddo i ni.
Nid rhywbeth fel hyn ac fel arall;
Nid rhywbeth i'w lyncu'n ei faint;
Nid rhywbeth i'w gael yn y capel
Neu eglwys fel coeliai'r hen saint;
Fe'i genir o frù ein naturiaeth
Fel ganwyd Ef gynt o fri Mair;
Fe'i genir yn faban-egwyddor,
I'w fagu o hyd gan y Gair.
Ac yna ein morwyn-naturiaeth,
Fel canodd Mair gynt wrth ei bodd,
A gan am y dwyfol ymweliad
A'r Cariad a roes y fath rodd;
Ac yna yr anian gynydda,
A'r Ysbryd o'n mewn ymgryfha;
A'r gras drwy ymdaenu'n ein natur
Yn rheol ein bywyd a a.
Ar fyr daw ein natur i'w deimlo,
A'i adwaen yn uwch gras na'i hun;
Doctoriaid y blysiau a'r chwantau
Yn gwrando yn astud bob un;
Ac yntau'n eu holi a'u chwilio
A hwythau yn syn wrth Ei ddysg;
Ac unwaith y 'swilia Fe'u balchder
Efe fydd yn allu'n eu mysg.
Ar fyr daw i son am wynfydau,
Mwynderau na edwyn y byd;
Mwynderau na thront yn ofidiau—
Mwynderau yn para o hyd;
Gwynfydau dront alar yn obaith,
A thlodi'n addewid drwy ffydd;
A gorthrwm ac erlid a drygair
(Ar gam) yn llawenydd ryw ddydd!
'Run modd, gyda phobpeth gwir dduwiol,
Uwch dim rhaid ei gael y fan hon;
Rhaid cael y Golgotha'n dumewnol,
A'r Groes oddimewn yn y fron;
Nid digon yw son am Galfaria,
Na chanu bob Sul am y Clwyf:
Mae'r oll yn oferedd, mi gredaf,
Os nad yn brofiadol yr wyf.
Dysgwylia rhai'r deyrnas i ddyfod
O'r nef fel gorymdaith i lawr;
A chadwant eu golwg i fyny
Yn dysgwyl am dani bob awr;
Tra hwy yn syn syllu tu allan
Yn dysgwyl am rywbeth na fydd,
Gwna'r diafol ei waith dan eu trwynau
Gan ddrygu eu hachos bob dydd.
A dyna sydd arnom ei eisieu,
O'n mewn ysbrydolrwydd y Groes;
Ysbrydiaeth pob pechod yw hunan—
Ymwadu yw ystyr pob moes;
Rhyw fyw i siwr farw wnai Adda
Ddaeth gyntaf yn gyff dynol ryw;
Yr Ail ddaeth a bywiach egwyddor—
Sef marw i'r teulu gael byw!
Nid Mab ond i un oedd y Ceidwad,
Ond Mab pob rhyw ddyn yn un Dyn;
Fe'i gwnaed E'n Fab Adda'n Fab Dafydd—
Mab Dyn oedd y galwai ei Hun;
'Roedd E'n Fab i Efa, pob Efa,
O Efa i lawr hyd at Mair;
Yn Alpha yn nghyd ag Omega—
Am hyny fe'i gelwir yn Air.
Nid digon yn Mair fu ei eni;
Mae'n rhaid ei aileni'n mhob bron;
Fe'i ganwyd yn Mair yn bersonol—
Ei fam E'n bersonol oedd hon;
Ond eto yn ddyn yno'i ganwyd
I'w weled gan bawb yn Fab Duw;
I'w deimlo yn Geidwad personol
Ei eni'n y galon rhaid yw.
Y gwir Grist yw'r Crist anweledig
Nas gwelwyd, nas clywyd erioed;
A hwn yw y Crist dry'n Achubwr
Pan welir y byd wrth Ei droed;
Y Crist sydd o fewn dyn yn brofiad;
Y Crist sydd a fewn dyn yn fyw;
Nid proffes, na chredo, na chyffes
Yw'r gras ddyg y byd at ei Dduw.
Rhyw grwydryn yw Crist y tu allan,
Nid Ceidwad, ac ni wna'r un lles;
Mae'n rhaid i bob gras a phob bendith
I'r mewnol er budd ddod yn nes;
'R allanol o hyd sydd yn fethiant
Er llawned y gras fo yn stor;
Nid yw E' ychwaith yn Waredwr
Pan gura Efe wrth dy ddor.
Rhaid yw i ti agor dy ddrysau
I ollwng y deyrnas i'th oes;
Rhaid i ti gael profiad Calfaria
O'th fewn di a rhinwedd y Groes;
Nid teyrnas yw'r deyrnas fo allan,
Nid Crist yw sy'n crwydro y byd;
Rhaid iddo Ef fyw yn dy galon-
O'th fewn mae y deyrnas o hyd!