Y Ddau Frawd/At y Plant Da
Gwedd
← Y Ddau Frawd | Y Ddau Frawd gan Nel Wyn |
Y Ddau Frawd → |
At y Plant Da.
YR wyf wedi bod yn chwilota cryn lawer am chwedl neu ddwy i chwi; chwedlau tebyg i'r rhai a garwn i flynyddoedd yn ol. Cofiais am hen wr caredig fyddai yn arfer eistedd ar fainc tu allan i ddrws ei fwthyn a dweyd hanesion difyr iawn wrth ŵyr ac wyres iddo. Ni fyddai dim mor hoff gan y brawd a'r chwaer a myned i dy eu taid i wrando yr hanesion a adroddai. Rhai o chwedlau yr hen ŵr hwnnw a gewch yn y llyfr hwn.
Darllenwch y chwedlau ac edrychwch ar y darluniau, ond cofiwch ddod o hyd i'r gwersi, dysgwch a gwnewch y rheiny.
- NEL WYN.
- NEL WYN.

CHWEDLAU TAID.