Y Ddau Frawd/Simmons, Y Bachgen Du
| ← Y Ddau Frawd | Y Ddau Frawd gan Nel Wyn |
→ |
SIMMONS,
Y BACHGEN DU.

Y NEGRO.


Fel yr oeddynt yn dod i wybod ychwaneg am y wlad, codai awydd ynddynt am wybod mwy, ac yr oedd llawer o bobl ddewr yn mentro i ganol yr anwariaid; deuai rhai yn ol yn fyw, ond fel rheol lleddid hwy gan y bobl neu gan yr hinsawdd.
Pan oedd Mungo Park allan yno cafodd lawer o hanes y wlad a'r bobl, ac yn enwedig cafodd lawer o wybodaeth am yr afon Niger. Gwyddai am enau afon fawr yn mynd i'r mor yn nes i'r de, o'r enw Zaire neu Congo, a thybiai ef mai genau yr afon Niger. oedd hwnnw. Yr oedd yn bur awyddus am gael dilyn yr afon i'w genau, er mwyn bod yn sicr ai felly yr oedd. Ar ol cyrraedd yr afon ar ei ail daith, ymhell i fyny yn y wlad, cafodd ef a'i gyfeillion gychod a hwyliasant i lawr ar hyd yr afon, gan ddisgwyl cael dyfod allan i'r mor yn ei genau.
Ni chawsant gyrraedd y mor. Ymosodwyd arnynt gan yr anwariaid, mae'n debyg, yn rhywle ar ei ffordd i lawr; collasant eu bywydau oll, ni ddaeth gair o'u hanes byth mwy, ac nid oes sicrwydd hyd y dydd heddyw ymha le y bu farw Mungo Park a'i gyfeillion gwrol. Ac ni chafwyd allan y pryd hwnnw pa un a oedd y Congo yn enau y Niger ai peidio.
Dechreu y flwyddyn 1816, fel y dywedasom, anfonwyd llong allan o'r wlad hon i wneud ymchwiliad, ac i fyned mor bell i fyny yr afon Congo ag y gellid. Enw y llong oedd "Congo," a'r llywydd oedd Capten Tuckey, o'r Llynges Brydeinig. Aeth allan gyda'r llong amryw wŷr dysgedig, gyda'r amcan o archwilio y wlad, er mwyn cael mwy o wybodaeth ynghylch y trigolion, yr anifeiliaid a chynyrch y tir. Cynwysai y criw, y prif swyddog Fitzmaurice, pedwar o is-swyddogion, a thrigain ond tri o forwyr profedig.
Gyda chogydd y llong, fel cynorthwywr iddo, yr oedd dyn du o'r enw Simmons: dyn ieuanc, dymunol dros ben, diwyd, manwl, ac o dymer naturiol a'i gwnai yn ffafryn gan bawb ar y bwrdd. Yr oedd wedi teithio llawer ac wedi gweled cwrs ar y byd, ac yr oedd wedi dysgu rhywbeth ymhob man lle bu. Yr oedd siarad gwahanol ieithoedd mor naturiol iddo ag anadlu, medrai ieithoedd Ewrop, Asia ac Affrig. Arluniai gyda medrusrwydd a chywreinrwydd mawr: meddai lais soniarus a mwyn, a swynai y rhai oedd ar fwrdd y "Congo" yn aml gyda'i ganeuon.
Difyrai y morwyr, a swyddogion y llong, drwy adrodd hanesion am yr hyn. a welsai ac a brofasai ar ei deithiau.. Yr oedd mor fanwl, cyson a diymhon- gar gyda'r chwedlau hyn fel y teimlai pawb wrth eu gwrando mai nid rhig- ymau morwr oedd ei hanesion, ond profiad syml dyn geirwir. Yr oedd mor ufudd a gostyngedig wrth gyflawni ei ddyledswyddau a'r un o'r morwyr, ac eto yr oedd rhyw urddas yn perthyn iddo nad oedd neb yn gallu ei esbonio. Er cymaint o chwedlau a adroddai am ei deithiau, ni ddywedai un amser ddim o'i hanes ei hun. Byddai y morwyr yn ei holi, ambell waith, ond oedd Simmons yn dra medrus i droi y stori i ryw gyfeiriad arall, a byddai wedi eu harwain yn ddigon pell oddi wrth y pwnc gyda rhyw chwedl ddifyr, cyn iddynt amgyffred ei fwriad. Yr oll a wyddid o'i hanes ef ar fwrdd y llong oedd fod Syr Home Popham, wedi dod ag ef at Capten Tuckey a gofyn iddo roddi rhyw swydd iddo ar y "Congo" er mwyn iddo gael gweithio ei ffordd allan. Dywedai Syr Home fod iddo berthynasau ar yr afon Zaire a'i fod yn dymuno myned atynt. Rhoddwyd lle iddo gyda'r Cogydd, ond gwelwyd yn fuan nad oedd yr un swydd

Y NEGRO.
ar fwrdd y llong nad oedd efe yn berffaith gyfarwydd a hi a galluog i'w chyflawni.
Ar ol mordaith o rywfaint dros dri mis cyrhaeddodd y "Congo" dueddau gorllewin Affrig: ac ar y 30ain o Fehefin, y flwyddyn honno, bwriwyd angor ger Pwynt Malemba ychydig i'r de i Fau Loango. Arosodd y llong yma tuag wythnos, ac aeth y swyddogion i'r lan i brynu bwyd.
Yr Ewropeaid cyntaf i ddod i'r parthau hyn oedd y Portugeaid tua'r flwyddyn 1484. Cawsant yn y wlad liaws mawr o drefi a phentrefi, a'r bobl mor aml a locustiaid. Negroaid oedd y trigolion, gyda gwallt a llygaid duon, ond nid oedd eu trwyn mor llydan, na'u gwefusau mor dewion a rhai o'r llwythau negroaidd. Yr oeddynt yn garedig a hynaws, ond yn falch a dialgar iawn. Credent mewn llawer o dduwiau, a bod un duw mawr yn ben ar y lleill i gyd. Credent mai y duw mawr hwnnw oedd wedi creu eu gwlad hwy, ac mai y mân dduwiau oedd wedi creu pob gwlad arall.
Meddai rhai o'r prif bobl wisgoedd tebyg i eiddo Ewropeaid, ond yr oedd y bobl gyffredin yn fwy na hanner-noethion, pan ymwelwyd a'r lle gan Capten Tuckey. Prif fasnach y lle oedd caethion, a dywedir y byddai yn agos i ugain mil yn cael eu hanfon oddi yno i'r Amerig, bob blwyddyn, cyn i'r wlad hon roi terfyn ar y fasnach greulon honno. Eto cerrid hi ymlaen gan y Spaeniaid a'r Portugeaid, yr adeg honno, a byddai ambell i Brydeiniwr anonest yn cymeryd rhan ynddi os gallai, heb gael ei ddal.
Aeth y Capten à Simmons i'r lan gydag ef, fel cyfieithydd, ac yr oedd yn hollol gyfarwydd yn eu hiaith. Y gofyniad cyntaf a roddodd brenin Malemba i'r Capten oedd, a wnai efe brynu caethion. Pan ddeallodd na wnai Capten Tuckey brynu caethion teimlai yn anfoddog iawn, am fod ganddo lu o garcharorion ar werth.

Yr oedd yn y lle hwn negro, yn gyfieithydd i'r brenin, ac yn medru peth Saesneg. Dywedai wrth y Capten ei fod yn "foneddwr o waed," ac mai ei enw oedd "Twm Lerpwl." Yr oedd gan Twm well gwisg na'r gweddill o swyddogion y brenin, ac ystyriai ei hun yn ddyn pwysig iawn. Dywedai fod teyrnas Malemba yn perchen cyfoeth mawr gynt, ond fod y deddfau i atal caethwasiaeth wedi ei dwyn i dlodi.
Ar y 12fed o Orffennaf cychwynwyd i fyny yr afon Zaire, gyda'r bwriad of gyrraedd Emboma, tref fawr a phoblog, gryn bellder i fyny yr afon, lle trigai y brenin. Gwneid masnach helaeth mewn caethion yma, a dywed y Capten, mor bell ag y gallai efe gael allan, fod tua dwy fil o negroaid wedi eu gwerthu o'r lle hwn yn y flwyddyn 1816.

Arhosodd y llong wrth un o'r pentrefi ar lan yr afon, ar ei ffordd i fyny, a gwelwyd yno y ddefod o gladdu. Yr oedd y person oedd i gael ei gladdu mewn bwthyn o wiail a chlai, a wnelsid o bwrpas i'w gadw. Yr arferiad oedd cadw y meirw cyhyd ag y gellid heb eu claddu, wedi eu rhwymo mewn bratiau a chadachau. Po mwyaf enwog fyddai y person, hiraf yn y byd y cedwid ef; a byddai swm y carpiau fyddai o'i gwmpas yn anferth erbyn y byddai yn barod i'w roddi yn y bedd.
Yr oedd llu o bobl o gwmpas y lle yn galaru, ac yn gwneud y swn mwyaf anaearol. Torrid y bedd yn hamddenol gan nifer o ddynion, gyda'r arfau mwyaf anghelfydd. Mesurai tua naw troedfedd o ddyfnder, ond dywedai y brodorion y byddai ei ddyfnder gymaint a hyd y balmwydden dàlaf cyn y byddai wedi ei orffen.
Ychydig yn nes ymlaen ar eu taith, ar y 25ain o Gorffennaf, arhosodd y llong drachefn wrth bentref o tua chant o aneddau, ar ochr ogleddol yr afon. Yn fuan ar ol i'r llong angori daeth nifer o'r trigolion i lan yr afon, rhai gyda nwyddau i'w gwerthu, a rhai o o gywreinrwydd. Cyn hir gwelent brif swyddog brenin Emboma yn cael ei ddwyn mewn hamog at y lan, ac yn cael ei ddilyn gan lu o swyddogion. Yr oedd y prif swyddog wedi ei addurno yn holl wychder ei swydd a'i sefyllfa, Gwyddai Capten Tuckey yn dda pa beth oedd ei neges. Gofynnid yr un cwestiynau ymhob man yr arhosai: a oedd ef yn dod i gyhoeddi rhyfel, ac os nad oedd, a oedd efe yn dod i fasnachu; ac ystyr hynny fynychaf oedd, i brynu caethion. Pan geisiai esbonio i'r brodorion nad oedd ei neges na'r naill na'r llall; dim ond dod i archwilio yr afon, nid oeddynt yn gallu deall y fath neges, ac anhawdd oedd eu cael i gredu ei chwedl. Tra yr oedd efe, ar fwrdd y llong yn gosod ei resymau wrth eu gilydd, yr oedd y prif swyddog wedi dod mewn canŵ i ymyl y "Congo," ac yn prysur ddringo gyda chymorth rhai o'r swyddogion, i'r bwrdd ato. Gwnaed sêdd gysurus i'r hen wr, a thaenwyd un o faneri y llong drosti, am nas gellid cael un glustog esmwythach na mwy ei lliwiau ar y pryd.
Dechreuodd prwyad y brenin dywallt ffrydlif o hyawdledd nes hanner foddi clyw y capten, ond gan nad oedd y naill yn deall iaith y llall, yr oedd y cwbl yn ofer ar y ddau tu. Pan gafodd Capten Tuckey funud o hamdden, anfonodd un o'r dwylaw i geisio Simmons. i gyfieithu. Daeth y negro ieuanc yno a safodd ger bron y ddau. Edrychodd swyddog y brenin arno yn syn am rai munudau, fel pe yn ei fesur, a'i bwyso, a'i ddarllen. Yna dywedodd rywbeth yn ei iaith ei hun, nad oedd neb ond Simmons yn ei ddeall, a neidiodd oddi ar ei sêdd fel dyn wedi gwallgofi. Anghofiodd ei urddas, ei swydd a'i neges, cofleidiai y dyn ieuanc, ac wylai fel plentyn; wylai y ddau, ac yr oedd pawb o'u cwmpas yn barod i wylo gyda hwynt, er nad oedd swyddogion y llong yn deall ystyr yr hyn a welent.
Gorchmynodd yr hen wr i'w swyddogion gael y cwch yn barod a llusgodd Simmons i lawr iddo gyda'r fath frŷs nes yr ofnai y capten am ei ddiogelwch. Aethant i'r lan heb gymaint ag edrych yn ol dodwyd Simmons yn hamog y prif swyddog, a chariwyd ef i'r pentref ar ffrwst. Ar ol iddynt gyrraedd y pentref clywid y cynhwrf a'r twrw mwyaf byddarol. Curid tabyrddau, gollyngid ergydion, a chenid pob offeryn cerdd yn y lle. Cerddai y trigolion yn ol a blaen, a chadwyd y rhialtwch mwyaf soniarus drwy y nos honno.
Casglai Capten Tuckey a'i gydswyddogion fod Simmons wedi dod i blith ei bobl, ond nid oeddynt yn deall y derbyniad mawreddog a roddid iddo. Teimlai pawb erbyn hyn yn awyddus i gael ychwaneg o'i hanes.
Yn ystod y dydd drannoeth, daeth y swyddog yn ol i orffen y gwaith oedd wedi cael ei ddyrysu mor ddirybudd y diwrnod cynt. Dygid Simmons mewn hamog, yn ochr y prif swyddog, wedi ei wisgo yn niwyg mwyaf mawreddog tywysog Affricanaidd, gyda gosgordd o wyr arfog o'i gylch, a thabyrddau yn cael eu curo o'i flaen.
Pan ddygwyd hwy i fwrdd y "Congo," dechreuodd y swyddogion holi am esboniad. Rhoddwyd ef i'r perwyl canlynol gan yr hen ŵr, ac y mae yn warth bythol ar enw a hanes y cenhedloedd Ewropeaidd a gefnogent gaethwasiaeth, ac yn gywilydd oesol i'r adyn anynol a gyflawnodd y trosedd. Buasai yn anhawdd credu yr hanes oni bai fod swyddog cyfrifol o Lynges Prydain wedi ei gofnodi fel gwirionedd syml.
Pan ddaeth y swyddog i fwrdd y "Congo" i weinyddu ei swydd dros y brenin nid oedd ganddo ddim dirnadaeth fod y dyn ieuanc yn y llong. Ond pan alwodd y capten arno fel cyfieithydd, canfu yr hen wr ei fab ei hun. Yr oedd y tad yn dywysog o waedoliaeth, yn ben cynghorwr i frenin Emboma, ac yn wr o awdurdod a phwysigrwydd yn y deyrnas.
Yr oedd wedi clywed llawer am allu, dysg, a chyfoeth Prydain. Flynyddoedd cyn y digwyddiad uchod daeth llong of Lerpwl i'r parthau hynny. Gwnaeth y tad gytundeb gyda chapten y llong honno i gymeryd ei fab oedd yn ddeg neu ddeuddeg oed, i Loegr i gael ei addysgu, a rhoddodd swm digonol o nwyddau iddo i ddwyn yr holl draul, gan addaw mwy os byddai raid. Ym- rwymodd y capten i gymeryd gofal y llanc, ei roddi dan addysg yn y wlad hon, a'i ddwyn yn ol yn ddiogel i'w dad ymhen rhyw gymaint o amser. Felly y gollyngwyd y llanc diamddiffyn oddicartref, a'i rieni yn ymddiried yn ffyddlondeb a chywirdeb ei noddwr.
Buwyd am flynyddoedd yn disgwyl y tywysog ieuanc yn ol. Dyfal holid pob. llong o Ewrop a ddeuai i'r gororau, ond i ddim pwrpas. Nid oedd dim o'i hanes i'w gael gan neb, ac yr oedd ei rieni wedi rhoddi heibio bob gobaith am ei weled byth mwy. Nid rhyfedd, felly, fod llawenydd ei dad wedi peri iddo anghofio ei hun ar fwrdd y "Congo." Ond yr oedd rhan fwyaf pruddaidd yr hanes i ddilyn. Ymddengys i'r capten a'i cymerodd ymaith, yn fuan ar ol gadael yr afon, werthu y plentyn yn, gaethwas a chymerwyd ef mewn llong arall, gyda channoedd o negroaid truain i ynysoedd India Orllewinol, bu yno, mewn caethiwed, o dan y triniaethau mwyaf creulon, am beth amser, ond drwy ryw ffawd gallodd ddianc o afael ei boenydwyr, i un o longau rhyfel Lloegr. Bu ar y llong honno yn ystod y rhyfel rhwng y wlad hon a Ffrainc. Crwydrodd gyda'r llynges o le i le, cafodd ffafr y swyddogion, a dyrchafwyd ef mor bell ag y gallai negro ddringo. Yr oedd o allu meddyliol cryf a phrofodd ei hun yn swyddog dewr a ffyddlon. Ar ol gorffen o'r rhyfel glaniwyd ef yn Lloegr, a chafodd gyfeillion mwy cywir na'r adyn a'i gwerthodd; cafodd gwrs o addysg cyn troi yn ol i'w wlad, a manteisiodd yn helaeth arno.
Bu Simmons o wasanaeth pellach i gapten y "Congo," yn ei daith i fyny yr afon, fel cyfieithydd, fel cyfaill, ac fel gwr o ddylanwad ac awdurdod ymhlith y brodorion. Pa beth a ddaeth o hono wedyn, nid oes gwybodaeth, bu Capten Tuckey, a bron yr oll o'i swyddogion farw cyn cyrraedd adref o'r daith honno.
Pa ryfedd fod y dyn du yn amheu, yn ofni, ac yn casau y dyn gwyn? Pwy a ŵyr pa faint o niwed a wnaeth yr un weithred dywyllodrus hon, a pha nifer o fywydau diniwed a aberthwyd i gynddaredd anwariaid a ddysgwyd drwy weithredoedd anfad a thywyllodrus fel eiddo y capten uchod, mai creadur perygl, bradwrus, a chreulon yw y dyn gwyn. Y mae Ewropeaid, yn enwedig Prydeinwyr, ac aml Gymro yn eu mysg, wedi gwneud llawer tro caredig â'r dyn du ar ol yr anfadrwydd uchod, ond nid ydym yn sicr nad oes rhai pethau yn cael eu gwneud gan Brydeinwyr yn Affrig y dyddiau hyn sydd yn peri i'r negro feddwl yn bur isel o hono. Cymer lawer Livingstone, a llawer Moffat i symud ymaith o feddwl y dyn du adgofion am weithredoedd iselwael anynol a thywyllodrus, masnachwyr anonest, a milwyr creulon.
