Neidio i'r cynnwys

Y Ddau Frawd (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Y Ddau Frawd (testun cyfansawdd)

gan Nel Wyn

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Y Ddau Frawd
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llew Tegid / Nel Wyn
ar Wicipedia




CYFRES "CHWEDL A GWERS."—2.

Y Ddau Frawd.



GAN
NEL WYN.



CAERNARFON:
CWMNI Y WASG GENEDLAETHOL GYMREIG, CYF.



At y Plant Da.

YR wyf wedi bod yn chwilota cryn lawer am chwedl neu ddwy i chwi; chwedlau tebyg i'r rhai a garwn i flynyddoedd yn ol. Cofiais am hen wr caredig fyddai yn arfer eistedd ar fainc tu allan i ddrws ei fwthyn a dweyd hanesion difyr iawn wrth ŵyr ac wyres iddo. Ni fyddai dim mor hoff gan y brawd a'r chwaer a myned i dy eu taid i wrando yr hanesion a adroddai. Rhai o chwedlau yr hen ŵr hwnnw a gewch yn y llyfr hwn.

Darllenwch y chwedlau ac edrychwch ar y darluniau, ond cofiwch ddod o hyd i'r gwersi, dysgwch a gwnewch y rheiny.

NEL WYN.

CHWEDLAU TAID.

Y Ddau Frawd.

BLYNYDDOEDD lawer yn ol, yr oedd yn eistedd ar orsedd gwlad bell yn y dwyrain frenin o'r enw Alnareschin. Efe oedd y gormeswr mwyaf cre chalon galed a wel y wlad honno erioed. Yr oedd ei yn hollol dan ei lywodraeth, ac yntau yn eu trin fel caethion, ac rhywun neu gilydd i farwolaeth am y trosedd lleiaf, a'r rhan a iddynt droseddu o gwbl. Yr oedd y brenin mor ddrwg ei hunan fel yr amheuai bawb arall. Credai weithiau fod rhai o'i weision am ei wenwyno, ac er na byddent hwy yn meddwl am y fath beth, rhoddai y brenin orchymyn i'w filwyr i'w rhoddi i farwolaeth, yn aml heb iddynt hwy wybod am ba beth. Tybiai weithiau fod ei wragedd yn ceisio am ei fywyd, a dywedir iddo ladd pymtheg-ar-hugain o frenhin- esau. Bryd arall amheuai ei blant, a rhoddodd amryw o honynt i farwolaeth. Bu iddo lawer o feibion, ond gorchymyn- odd eu lladd oll ond dau. Enw y ddau fab a adawyd oedd Ibrahim ac Abdallah. Yr oedd y ddau fab yn rhy ieuanc eto iddo amheu dim drwg am danynt, ac yr oedd y ddau frawd yn hoff iawn o'u gilydd.

Yr oedd gan y brenin yn ei Lŷs feddyg o'r enw Helim. Byddai yn arferiad gan frenhinoedd y gwledydd a'r oesoedd hynny i gadw meddyg yn y Llys. Byddai y

HELIM A'I WAS.

meddyg yn swyddog uchel a phwysig ym Mhalas y brenin. Rhaid oedd iddo fod yn wr dysgedig, yn deall meddygiaeth, rhinwedd planhigion, arferion anifeiliaid, chwyldroad y sêr, a'u dylanwad a'r ddyn- ion, fel y tybient hwy. Byddai y physig- wr hefyd yn deall dewiniaeth, ac yn gallu gwneud pethau rhyfedd iawn weithiau. Yr oedd y bobl yn anwybodus ac yn barod i gredu pob peth a ddywedai y dewin. Yr oedd y brenin mor anwybodus ac ofer- goelus a'r bobl yn aml, a byddai gan y physigwr fwy o ddylanwad arno na neb arall.

Dyn dysgedig, craff a medrus iawn oedd Helim, ac yr oedd gan y brenin feddwl mawr o hono. Y physigwr oedd yr unig un yn y deyrnas y gallai ymddiried ynddo, ac wrtho ef y dywedai fwyaf o'i feddwl. Yr oedd Helim yn dal amryw swyddau dan y brenin, un o ba rai oedd Ceidwad y Palas Du.

Adeilad anferth, oedd hwn, wedi ei wneud o farmor du. Yr oedd ynddo bum mil o lampau na byddent byth yn diffoddi na dydd na nos. Yr oedd iddo gant o ddrysau o eboni, ac wrth bob un o honynt yr oedd cant o wylwyr o negroaid cyn ddued a'r drysau, yn gwylio yn barhaus nad elai neb i fewn i'r palas ond y Ceidwaid yn unig. Y palas hwn oedd lle beddrod teulu brenhinol y wlad honno. Byddent yn cymeryd cyrff y teulu brenhinol i'r Palas Du yn ddirgelaidd, a byddai y physigwr yn eu perarogli am hir amser ar ol eu cymeryd i fewn. Pe buasai i'r gwylwyr ollwng rhywun arall i fewn, buasai y brenin yn gorchymyn eu lladd bob un.

Ar ol i Alnareschin ddifa ei feibion oll ond Ibrahim ac Abdallah, yr oedd yn dechreu ofni y gwnai ben am ei deulu ei hun yn llwyr, ac na byddai neb o'r teulu i ddod i'r orsedd ar ol ei farw ef.

Un diwrnod anfonodd genad at Helim yn gorchymyn iddo ddod i'r Llys. Ni wyddai y physigwr pa beth oedd arno eisiau, ac ofnai ei fod yn meddwl rhyw ddrwg am dano. Ffarweliodd a'i wraig a chusanodd ei ferch fach, wrth adael ei balas, heb wybod a gaffai efe eu gweled byth wedyn ai peidio. Gwyddai, os oedd y brenin yn ei ddrwgdybio am rywbeth, y byddai wedi ei ddienyddio cyn machlud haul.

Pan gyrhaeddodd Helim balas y brenin, cafodd ef yn eistedd ar ei gader ifori, a'i gleddyf yn ei law, a'i ddagr yn ei wregys, fel y byddai bob amser; am ei fod yn wastad yn ofni fod rhywun yn barod i gymeryd ei fywyd. Ac nid oedd hynny yn rhyfedd pan oedd efe wedi cymeryd cymaint o fywydau yn ddi-achos. Pobl ddrwg bob amser sydd yn credu drwg am bobl eraill, fel y dywed yr hen ddiareb

"Drwg ei hun a dybia arall."

Ni chymerodd Alnareschin sylw o Helim pan ddaeth i fewn. Cafodd y physigwr

ALNARESCHIN.


hamdden i graffu arno ef yn fanwl. Ofnai ei gael yn llidiog, a golwg digofus ar ei wynebpryd, gwyddai y buasai hynny yn golygu angeu i rywun, ac ni wyddai pa mor fuan y deuai ei dro ef ei hun. Ond ymddangosai y brenin mewn pryder a dryswch, ac yr oedd golwg lled bruddaidd ar ei wedd. O'r diwedd trôdd ei olwg a chanfyddodd y physigwr ger ei fron. Archodd iddo ddynesu ato. Daeth yntau, gan gyffwrdd y llawr wrth draed y brenin, a'i dalcen. Cyffyrddodd y brenin ef a'i droed, a gorchymynodd iddo godi ar unwaith, fod ganddo beth pwysig i'w fynegi iddo. Cyfododd Helim ac eisteddodd i wrando y genadwri.

"Helim," meddai y brenin, "yr wyf yn mawr edmygu dy ddoethineb a'th wybodaeth, a dy ddull tawel a dirodres o fyw. Yr wyf yn awr yn mynd i ddangos iti mor llwyr yr wyf yn ymddiried ynot. Gwyddost nad oes gennyf yn awr ond dau fab, y rhai sydd yn eu babandod. Fy mwriad yw ar iti eu cymeryd adref gyda thi, a'u dwyn i fyny a'u haddysgu fel yr eiddot dy hun. Dysg iddynt ddilyn ffyrdd gwybodaeth, a lladd ynddynt hadau uchelgais. Felly y cedwir yn fyw fy llinach, ac felly y daw fy mhlant i'm gorsedd ar fy ol, heb iddynt ei chwenych tra fyddwyf byw."

"Gair fy arglwydd yw fy neddf," meddai Helim, "a gwneud ei ewyllys yw fy hyfrydwch; angeu yn unig a'm hatal i gario allan ei orchymyn."

Yna cymerodd y physigwr y ddau fab i'w dy ei hun, ac a'u haddysgodd mewn gwybodaeth a rhinwedd. Edrychent hwy arno ef fel eu tad, a mawr hoffent ef; ac yr oedd cariad Helim yn fawr at y ddau lanc. Ymroddodd y ddau gyda'u gwersi nes meistroli holl ddoethineb y dwyrain erbyn eu bod yn un-ar-hugain oed. Trigai y ddau mewn hapusrwydd yng nghartref eu hathraw, ac yr oedd eu cariad at eu gilydd mor fawr nes y daeth eu cyfeillgarwch yn ddiareb yn y wlad. Pan sonid am rai yn gyfeillgar, dywedid eu bod "yn gymaint cyfeillion ag Ibrahim ac Abdallah."

Yr oedd i Helim un plentyn, sef merch o'r enw Balsora. Yr oedd Balsora yn nodedig am ei rhinwedd a'i phrydferthwch. Dan ofal ei thad daeth yn hynod, hefyd, am ei dysg a'i gwybodaeth drwy'r holl wlad. Gan fod y ddau dywysog ieuanc fel wedi eu cyfyngu i deulu Helim, ac wedi eu cau allan o Lys eu tad, cyfeillachent lawer gyda'r forwynig brydferth a dysgedig hon, ac ymddiddant lawer am y gwybodaethau a ddysgid i'r tri gan y physigwr.

Yr oedd tuedd naturiol Abdallah yn fwy tyner a charuaidd nag eiddo ei frawd, a daeth ef yn fuan i ymserchu mwy-fwy yng nghwmni Balsora, a theimlai nas gallasai fyw pe gwahanesid ef oddi wrthi. Aeth son am lendid a phrydferthwch y ferch, yn fuan, drwy'r wlad. Clywodd y brenin am dani. Un diwrnod, dan yr esgus o ddod i edrych am ei ddau fab, daeth i balas Helim, a gofynnodd iddo am gael gweled ei ferch.

Cafodd prydferthwch Balsora y fath ddylanwad ar y brenin fel yr anfonodd am Helim i'r Llys, y boreu canlynol. Dywedodd wrtho ei fod yn bwriadu talu iddo am ei garedigrwydd tuagat ei feibion, trwy wneud ei ferch yn frenhines y wlad. Cofiai y physigwr am yr hyn oedd wedi digwydd i'r brenhinesau eraill, oeddynt wedi colli eu bywyd drwy greulondeb Alnareschin, ac ofnai am gysur a bywyd ei blentyn. "Pell fyddo o feddwl y brenin," meddai, "i ddarostwng urddas yr orsedd drwy ddyrchafu merch ei physigwr i eistedd arni." Ond nid oedd dim a ddywedai yn newid gronyn ar feddwl y brenin. Gorchmynodd ddwyn Balsora i'w bresenoldeb. Pan ddaeth hi ger ei fron a chlywed ei genadwri, yr oedd ei eiriau mor sydyn ac mor ddieithr iddi fel y cwympodd mewn llewyg, megis yn farw wrth ei draed.

Wylai Helim mewn gofid. Ar ol ei dadebru o'r llewyg, dywedodd wrth y brenin fod y newydd yn fwy nag a allai ddal ar unwaith, ac os caniatai y byddai iddo ef ei pharotoi ar gyfer yr anrhydedd a'i harosai. Drwy gydsyniad y brenin cymerwyd hi yn ol i dy ei thad. Ond yr oedd yr ergyd mor drom iddi fel yn fuan iawn yr oedd mewn clefyd poeth. Anfonai y brenin swyddogion i holi ei helynt, a hysbysid ef am ei chyflwr peryglus.

Gwaethygai Balsora o ddydd i ddydd, ac er gwaethaf cyffeiriau a medrusrwydd ei thad a gofal pawb am dani yr oedd ei nerth yn pallu yn raddol a phob gobaith am ei hadferiad yn diflannu. Un diwrnod. daeth Helim i bresenoldeb y brenin mewn galar a dywedodd fod ei ferch wedi marw. Ni chymerodd Alnareschin fawr ato am hynny, nid oedd pethau felly yn poeni ond ychydig ar ei galon galed ef, ond dy- wedodd, gan ei bod wedi marw ar ol iddo ef ei chyhoeddi yn frenhines, ei fod yn bwr- iadu iddi yr anrhydedd o gael ei chladdu gyda'r brenhinesau eraill yn y Palas Du.

Buasai yn well gan Helim heb yr anrhydedd hwnnw iddi, ond rhaid oedd ufuddhau i orchymyn y brenin.

Yn y cyfamser clafychodd Abdallah, a gwaethygodd mor gyflym fel yr anfonwyd gair at y brenin un diwrnod fod ei adferiad yn amhosibl, ei fod ym mîn marw. Ni effeithiodd hyn ddim ar deimladau y tad creulon, ac ni chymerodd y drafferth i fynd i edrych am dano. Ymhen ychydig ddyddiau anfonwyd at y brenin fod ei fab wedi marw. Cludwyd ef i'r Palas Du yn ddirgelaidd, yn ol defod y wlad, a chladd- wyd ef gyda'i frodyr oeddynt wedi dioddef digofaint creulawn eu tad.

Hir a chwerw a fu galar Ibrahim, a dwys oedd ei hiraeth ar ol ei frawd. Yr oedd cariad y ddau frawd tuag at eu gilydd yn ddwfn ac angherddol, a bu agos i Ibrahim dorri ei galon. Cwynai na chawsai farw yn lle ei frawd, a phryd arall blinai ar y byd a hiraethai am gael marw a mynd at ei frawd i'r gwynfyd yr esgynodd iddo ar noson y llawn lloer ym mis Tizpa. Teimlai Helim yn fawr drosto, ac yr oedd ei alar yn effeithio rhyw ychydig ar deimlad ei dad er mor ddideimlad ydoedd. Cymerwyd ef i'r Llys ar ol marwolaeth ei frawd, ac ymddygid tuag ato yn dirion a charedig gan bawb, a chymerai ei dad ofalmawr o hono, oblegid efe, bellach, oedd yr unig un o deulu y brenin i feddiannu yr orsedd ar ei ol. Ceisid ei ddifyru â chwareuon ac â gwleddoedd, ond prudd ei ysbryd a thrwm ei galon oedd efe drwy'r cyfan, a threuliai lawer o'i amser yn rhodio drwy'r gerddi wrtho ei hunan. Esgynai weithiau i ben y bryn tu ol i Lys ei dad, a syllai am oriau ar y Palas Du fel pe yn hiraethu am y dydd i fyned iddo. Yr oedd yn fwyn a charedig bob amser, ac yr oedd deiliaid ei dad yn ei hanner addoli, ac yn dyheu am yr amser y ceid un mor


IBRAHIM.


hoff ac anwyl i eistedd ar orsedd y wlad.

Ymhen tua deng mlynedd ar ol claddu Abdallah, bu farw y brenin Alnareschin, ac ychydig o alar a fu ar ei ol, a boddwyd yr ychydig hwnnw yn y llawenydd o ddyrchafu Ibrahim i'r orsedd. Yr oedd efe yn ddyn ieuanc hardd a dysgedig iawn, ac er mor hoff oedd ganddo unigedd a thawelwch, pan ddaeth galwad arno at ei ddyledswydd efe a ymaflodd yn ei waith o ddifrif.

Dechreuodd ei deyrnasiad mewn tiriondeb a haelioni tuag at ei ddeiliaid, ac yr oedd eu cariad hwythau ato yntau, a'u parch iddo yn gymaint ag a fuasai eu hofn a'u harswyd yn amser ei dad. Nid oedd ond un peth yn ol, na buasai y brenin yn berffaith ddedwydd, a hynny oedd absenoldeb ei frawd Abdallah. Cwynai yn fynych na buasai efe yn cael byw i weled teyrnas mor ddedwydd ac i gael rhan o honi.

Un diwrnod aeth y brenin ieuanc allan gyda'i swyddogion i hela. Yn ystod y dydd wrth ddilyn ar ol yr helwriaeth gwahanwyd ef oddi wrth y cwmni, a chafodd ei hun yn y prydnawn, yn flin a newynog ar lechwedd mynydd Khakan, a gwelai balas gwych a gerddi blodeuog o'i gylch heb fod ym mhell. Sylwai mor ffrwythlon oedd llechweddau y mynydd, a synnai mor brydferth oedd pob peth o'i gwmpas. Gwyddai mai y physigwr Helim oedd perchennog y mynydd, a bod ganddo balas yno yn rhywle. Daeth at y palas a welai o'i flaen, a thybiai ei fod yn llawer mwy dymunol i fyw ynddo na'r brenhinllys.

Fel y dynesai at borth y palas arafai yn reddfol, gan mor ddymunol oedd arogl y blodau, a'r dyfroedd persawrus a dreiglent drwy y prysgwydd, neu a fedyddient gangau y coedydd bythwyrdd lle y pynciai ac y telorai côr yr adar, uwch ei ben. Ocheneidiodd yng nghanol y baradwys. hon, a sibrydodd wrtho ei hun, "O, Abdallah, fy mrawd, nis gall Ibrahim fwynhau y pethau hyn hebot ti! Buasai diffaethwch yn dy gwmni yn well na pharadwys hebot."

Aeth y brenin i fewn i'r palas a gofynnodd am luniaeth. Arweiniwyd ef i ystafell eang a phrydferth, a chyn pen ychydig amser daeth Helim i fewn i'w groesawu. Llonnodd y brenin wrth weled ei hen athraw, a'i gyfaill ffyddlon. Dywedodd y physigwr mai efe oedd piau y palas a bod pob peth oedd ynddo at wasanaeth y brenin. Dygwyd lluniaeth ger eu bron. Canmolai y brenin brydferthwch y lle ac adroddai wrth Helim gymaint ei hiraeth am Abdallah. Dywedai mor ddedwydd fuasai pe buasai ei frawd gydagef yn mwynhau y golygfeydd, ond yn awr fod angeu wedi ei ysbeilio o hanner ei hapusrwydd.

"Onid yw fy arglwydd yn frenin ar yr holl wlad," meddai Helim, "ac onid yw ei holl ddedwyddwch yn eiddo iddo ef ei hun? Onid oes mwy o ddedwyddwch mewn gorsedd gyfan na phe rhennid hi rhwng dau?"

"Na, na," atebai Ibrahim, yn drist, pe buasai Abdallah gyda mi buasai gan bob un o honom ddwy orsedd a dwy goron a phob un yn llawn dedwyddwch, ond nid oes gennyf fi ond un, a honno yn llawn of alar."

"Gŵyr fy arglwydd," meddai y physigwr, "i hir nychdod eich tad gael ei wella yn y mynydd hwn. Credaf fod yn y ty hwn gyffair a iachâ glefyd calon fy arglwydd Ibrahim."

"Gwn am dy fedr fel physigwr," meddai y brenin, "ac am dy ddysg, ond nid oes na dysg na chyffair a wella fy hiraeth am Abdallah, nes y cawn gydgyfarfod a chydfwynhau yr un golygfeydd."

Tra yr oeddynt yn ymddiddan fel hyn daeth dyn ieuanc hardd i fewn i'r ystafell. Syllodd y brenin arno am eiliad, edrychodd yn amheus ar Helim, ac yna ar y dyn ieuanc, a gwaeddodd bron a cholli ei anadl, "Ie, yn wir, fy mrawd, fy anwyl Abdallah!" Rhuthrodd y ddau i freichiau eu gilydd, ac ymgymysgai eu dagrau, dagrau llawenydd, a dagrau hiraeth, am beth amser mewn distawrwydd. Teimlodd y brenin yr hwn oedd yn ei freichiau a chusanodd ef, fel ag i gael sicrwydd nad drychiolaeth ydoedd, edrychodd yn ymofynol at Helim am esboniad, ac heb aros am dano cofleidiodd ef drachefn. Gafaelai yn dyn ynddo rhag iddo ddianc oddi arno. "Ie," meddai wrtho ei hun, "efe yw." Yna trodd at Helim, fel un wedi ei syfrdanu, a gofynnodd iddo, "A gaiff efe aros gyda ni mwy?"

"Caiff," meddai yr hen wr, a'r dagrau yn ffrydio ar hyd ei ddwyrudd wrth weled engraifft o gariad mor bur.

"O, gyflawnder fy llawenydd," ocheneidiai y brenin gan arwain ei frawd erbyn ei law i'w sedd.

"Ond," meddai Helim, "nid ydyw fy arglwydd wedi gweled eto ond yr hanner."

"Ah," meddai y brenin, yn dechreu adfeddiannu cyneddfau ei feddwl, "yr wyf yn tybio na buasai Abdallah yn foddlon gadael paradwys heb ddod a Balsora gydag ef.

"Pa le y mae hi? A thrwy ba ddewiniaeth y bu hyn?"

Ar ol cyrchu a chroesawu Balsora, yr oedd y brenin yn anesmwyth o eisiau cael yr hanes gan Helim, yr hwn a'i hadroddodd iddo i'r perwyl a ganlyn.

Nid oedd yr un o'r ddau wedi marw fel y tybiai y bobl. Pan welodd Helim fwriad Alnareschin eglurodd ei gynllun i Balsora. Yna rhoddodd iddi ddogn o gyffair i beri iddi gysgu am amryw oriau, dywedwyd ei bod wedi marw, a chladdwyd hi yn y Deml Ddu.

Yna clafychodd Abdallah, ac heb esbonio dim iddo rhoddodd y physigwr ddogn o'r cwsgbair iddo yntau, a chladdwyd ef yn yr un lle. Teimlai Helim mai dyna yr unig gynllun a ddiogelai y ddau o ddwylaw y brenin creulon.

Gan fod rhyddid i Helim, ac iddo ef yn unig, i fynd i'r Palas Du, yr oedd efe yno mewn pryd i dderbyn ei ferch pan ddeffrôdd o'i chwsg. Bu hithau yn gwylio i Abdallah ddeffro. Nid oedd efe yn gwybod dim am gynlluniau Helim, a phan aeth effeithiau y cyffair ymaith, ac iddo ddeffro, a gweled Balsora yn ei wylio, mawr oedd ei syndod, ac nid oedd yn gallu sylweddoli ar unwaith ymha un o'r ddau fyd yr oedd. Tybiai ef pan roed ef i gysgu fod Balsora wedi marw, a meddyliai yn awr mai cyfarfod ei hysbryd ym myd yr ysbrydoedd yr oedd.

Daeth Helim i fewn ac eglurodd iddo yr hyn oedd wedi digwydd, ac ymha le yr ydoedd. Rhaid oedd i'r ddau lechu yn y Palas Du dros amser, nes y ceid rhyw ffordd ddirgelaidd i'w cael allan. Hyn oedd anhawster mawr Helim gan fod cynifer o wylwyr o gwmpas y pyrth. Bu y ddau yn ymguddio yno yn hir ond yr oeddynt yn teimlo yn eithaf hapus gan eu bod yn fyw, ac nas gallai y brenin gormesol eu gwahanu, er bod ym Mhalas y Meirw. Yr oedd Helim yn mynd i fewn ac allan beunydd dan yr esgus o berarogli y cyrff fel y tybiai y gwylwyr.

Yr oedd traddodiad yn y wlad honno fod ysbrydoedd y teulu brenhinol a gleddid yn y Palas Du, ar y llawn lloer cyntaf ar ol eu claddu, yn dod allan drwy y porth dwyreiniol, yr hwn a elwid porth paradwys, ac yn esgyn i'r gwynfyd. Yn awr, yr oedd nos gyntaf llawn lloer mis Tizpa ger llaw, a meddyliodd Helim am ddefnyddio yr amgylchiad hwnnw i ryddhau y carcharorion. Gwnaeth bob parotoad ar gyfer y noson hon. Gwisgodd ei ferch a'r tywysog ieuanc mewn sidan o liw'r awyr, gyda llaeswisg o lian main, gwynach na'r eira, yn llusgo ar eu holau. Ar ben Abdallah gosododd goron o ddail myrtwydd, ac ar ael Balsora dododd arland o rosynnau. Peraroglodd eu gwisgoedd gyda pherarogl puraf Arabia.

Ar ol cael pob peth yn barod disgwylient yn bryderus am ymddangosiad y lloer. Pan ddaeth i'r golwg, agorodd "porth paradwys," megis o hono ei hun, yn ol trefniad y physigwr medrus; cerddodd y ferch a'r tywysog ieuanc allan yn araf deg drwy ganol y gwylwyr duon, a chaeodd y porth yn ddistaw o'u hôl. Pan welodd negroaid ddau mor brydferth yn dod allan o'r porth, a'r lleuad lawn yn ariannu eu gwisgoedd heirdd, a'r awyr yn cael ei llanw a'r perarogl swynol a ymledai o'u gwisgoedd, tybiasant ar unwaith mai ysbryd y ddau oedd yno ar eu ffordd i baradwys. Disgynnodd pob gwyliwr ar ei wyneb ar y llawr, ac felly yr arhosasant nes oedd y ddau wedi cilio yn llwyr o'r golwg. Dywedasant drannoeth pa beth a welsent, ond edrychai y brenin, a phawb arall, ar hyn fel arwydd o barch ychwanegol i'r teulu brenhinol, ac yr oeddynt wedi clywed chwedlau tebyg, lawer gwaith o'r blaen.

Yr oedd Helim wedi trefnu bod dau asyn yn barod mewn lle neillduol. Yn y lle hwn cyfarfu efe hwynt, ac arweiniodd y ddau i un o'i balasau ef ei hun, yr hwn oedd ar lechwedd mynydd Khakan, bellder mawr o'r lle.

Yr oedd hinsawdd y mynydd hwn mor iachus, fel y daethai Helim â'r brenin yma unwaith i'w adfer o afiechyd maith a blin. Llwyddodd yr ymweliad mor dda fel y rhoddodd y brenin yr holl fynydd, ynghŷd a phalas godidog a gerddi ar ei lechwedd, yn anrheg i'r physigwr. I'r palas hwn y cludodd Helim ei ferch a'r tywysog, ac yma y buont yn trigiannu mewn neillduaeth a dedwyddwch am flynyddoedd. Mwynhai y ddau yr addysg werthfawr a gyfrannodd Helim iddynt, a dysgent rywbeth newydd bob dydd. Eisteddai Balsora yn aml ymysg ei morwynion i fwynhau y miwsig mwyaf swynol. Canent donau melus-brudd, ambell waith, am bobl dda y gwroniaid oedd wedi marw: am hen frenhinoedd tirion a thywysogion hael. Pryd arall llenwid y palas a sain cerdd a dawns.

Treuliai Abdallah lawer o'i amser i ddiwyllio y mynydd, a gwnaeth ei holl wyneb fel gardd flodau. Yr oedd Helim yn gofalu na byddai arnynt eisiau dim yn eu neillduaeth, a llwyddai i gadw eu cuddfa yn hollol ddirgelaidd oddi wrth y brenin a'r holl swyddogion, ac hyd yn oed oddi

"Canent Donau Melus-brudd."-Tudalen. 38.

wrth Ibrahim. Nis gallai ymddiried y

gyfrinach hyd yn oed iddo ef.

Gwrandawai y brenin yn syn ar yr hanes, canfyddai graffder a medrusrwydd ei hen athraw, a chydnabyddai ei fod wedi gwneud y peth goreu i sicrhau hoedl a chysuron y ddau, ond nis gallai ymatal rhag rhoi cerydd i Helim am beri cymaint poen iddo, a'i amddifadu o gwmni y fath frawd am cyhyd o amser. Cofleidiodd ei frawd yn serchog a'i wraig, Balsora, a dywedodd wrthi y byddai yn frenhines yn awr mewn gwirionedd, ei fod yn bwriadu rhannu y deyrnas yn ddwy a gwneud ei frawd yn frenin ar y tu dwyreiniol i'r afon. Ond llawer gwell oedd gan y ddau aros yn y lle yr oeddynt mewn heddwch a dedwyddwch. Newidiodd y brenin ei fwriad, caniataodd iddynt aros yn eu palas, a rhoddodd iddynt yn anrheg gymaint o'r wlad wastad ag a allent weled o gopal mynydd Khakan. Diwylliodd Abdallah yr holl wlad, plannodd hi â pherllannau, a gerddi, nes ei gwneud y llecyn mwyaf dymunol yn yr holl ymerodraeth, a gelwir y lle hyd heddyw yn "Ardd y Dwyrain."

Bu farw y brenin Ibrahim yn ddi-blant ar ol teyrnasiad maith a dedwydd, a dilynwyd ef ar yr orsedd gan Abdallah, mab Abdallah a Balsora. Hwn oedd y brenin Abdallah a sefydlodd, ar ol hynny, y Llys Ymerodrol ar fynydd Khakan, yr hwn a erys fel hoff drigle brenin y wlad hyd y dydd hwn.




SIMMONS,
Y BACHGEN DU.





Y NEGRO.


UA dechreu'r flwyddyn 1816 cychwynodd llong allan o'r wlad hon i lannau gorllewinol Affrig. Ugain mlynedd cyn hynny yr oedd y teithiwr dewr, Mungo Park, wedi bod allan yn chwilio i darddiad a rhediad yr afon Niger; a deng mlynedd yn ddiweddarach collodd ei fywyd, ar ei ail daith, wrth geisio dilyn yr afon honno i'w genau. Nid oedd neb o Ewrop wedi bod yn y parthau hynny o'r blaen, ac ni wyddid ond ychydig iawn yn Lloegr am y wlad a'r bobl. Yr oedd Ewropeaid yn gwybod cryn lawer am lannau y mor, ac yn arfer mynd yno yn eu llongau ers tua phedwar can' mlynedd.

Fel yr oeddynt yn dod i wybod ychwaneg am y wlad, codai awydd ynddynt am wybod mwy, ac yr oedd llawer o bobl ddewr yn mentro i ganol yr anwariaid; deuai rhai yn ol yn fyw, ond fel rheol lleddid hwy gan y bobl neu gan yr hinsawdd.

Pan oedd Mungo Park allan yno cafodd lawer o hanes y wlad a'r bobl, ac yn enwedig cafodd lawer o wybodaeth am yr afon Niger. Gwyddai am enau afon fawr yn mynd i'r mor yn nes i'r de, o'r enw Zaire neu Congo, a thybiai ef mai genau yr afon Niger. oedd hwnnw. Yr oedd yn bur awyddus am gael dilyn yr afon i'w genau, er mwyn bod yn sicr ai felly yr oedd. Ar ol cyrraedd yr afon ar ei ail daith, ymhell i fyny yn y wlad, cafodd ef a'i gyfeillion gychod a hwyliasant i lawr ar hyd yr afon, gan ddisgwyl cael dyfod allan i'r mor yn ei genau.

Ni chawsant gyrraedd y mor. Ymosodwyd arnynt gan yr anwariaid, mae'n debyg, yn rhywle ar ei ffordd i lawr; collasant eu bywydau oll, ni ddaeth gair o'u hanes byth mwy, ac nid oes sicrwydd hyd y dydd heddyw ymha le y bu farw Mungo Park a'i gyfeillion gwrol. Ac ni chafwyd allan y pryd hwnnw pa un a oedd y Congo yn enau y Niger ai peidio.

Dechreu y flwyddyn 1816, fel y dywedasom, anfonwyd llong allan o'r wlad hon i wneud ymchwiliad, ac i fyned mor bell i fyny yr afon Congo ag y gellid. Enw y llong oedd "Congo," a'r llywydd oedd Capten Tuckey, o'r Llynges Brydeinig. Aeth allan gyda'r llong amryw wŷr dysgedig, gyda'r amcan o archwilio y wlad, er mwyn cael mwy o wybodaeth ynghylch y trigolion, yr anifeiliaid a chynyrch y tir. Cynwysai y criw, y prif swyddog Fitzmaurice, pedwar o is-swyddogion, a thrigain ond tri o forwyr profedig.

Gyda chogydd y llong, fel cynorthwywr iddo, yr oedd dyn du o'r enw Simmons: dyn ieuanc, dymunol dros ben, diwyd, manwl, ac o dymer naturiol a'i gwnai yn ffafryn gan bawb ar y bwrdd. Yr oedd wedi teithio llawer ac wedi gweled cwrs ar y byd, ac yr oedd wedi dysgu rhywbeth ymhob man lle bu. Yr oedd siarad gwahanol ieithoedd mor naturiol iddo ag anadlu, medrai ieithoedd Ewrop, Asia ac Affrig. Arluniai gyda medrusrwydd a chywreinrwydd mawr: meddai lais soniarus a mwyn, a swynai y rhai oedd ar fwrdd y "Congo" yn aml gyda'i ganeuon.

Difyrai y morwyr, a swyddogion y llong, drwy adrodd hanesion am yr hyn. a welsai ac a brofasai ar ei deithiau.. Yr oedd mor fanwl, cyson a diymhon- gar gyda'r chwedlau hyn fel y teimlai pawb wrth eu gwrando mai nid rhig- ymau morwr oedd ei hanesion, ond profiad syml dyn geirwir. Yr oedd mor ufudd a gostyngedig wrth gyflawni ei ddyledswyddau a'r un o'r morwyr, ac eto yr oedd rhyw urddas yn perthyn iddo nad oedd neb yn gallu ei esbonio. Er cymaint o chwedlau a adroddai am ei deithiau, ni ddywedai un amser ddim o'i hanes ei hun. Byddai y morwyr yn ei holi, ambell waith, ond oedd Simmons yn dra medrus i droi y stori i ryw gyfeiriad arall, a byddai wedi eu harwain yn ddigon pell oddi wrth y pwnc gyda rhyw chwedl ddifyr, cyn iddynt amgyffred ei fwriad. Yr oll a wyddid o'i hanes ef ar fwrdd y llong oedd fod Syr Home Popham, wedi dod ag ef at Capten Tuckey a gofyn iddo roddi rhyw swydd iddo ar y "Congo" er mwyn iddo gael gweithio ei ffordd allan. Dywedai Syr Home fod iddo berthynasau ar yr afon Zaire a'i fod yn dymuno myned atynt. Rhoddwyd lle iddo gyda'r Cogydd, ond gwelwyd yn fuan nad oedd yr un swydd

Y NEGRO.


ar fwrdd y llong nad oedd efe yn berffaith gyfarwydd a hi a galluog i'w chyflawni.

Ar ol mordaith o rywfaint dros dri mis cyrhaeddodd y "Congo" dueddau gorllewin Affrig: ac ar y 30ain o Fehefin, y flwyddyn honno, bwriwyd angor ger Pwynt Malemba ychydig i'r de i Fau Loango. Arosodd y llong yma tuag wythnos, ac aeth y swyddogion i'r lan i brynu bwyd.

Yr Ewropeaid cyntaf i ddod i'r parthau hyn oedd y Portugeaid tua'r flwyddyn 1484. Cawsant yn y wlad liaws mawr o drefi a phentrefi, a'r bobl mor aml a locustiaid. Negroaid oedd y trigolion, gyda gwallt a llygaid duon, ond nid oedd eu trwyn mor llydan, na'u gwefusau mor dewion a rhai o'r llwythau negroaidd. Yr oeddynt yn garedig a hynaws, ond yn falch a dialgar iawn. Credent mewn llawer o dduwiau, a bod un duw mawr yn ben ar y lleill i gyd. Credent mai y duw mawr hwnnw oedd wedi creu eu gwlad hwy, ac mai y mân dduwiau oedd wedi creu pob gwlad arall.

Meddai rhai o'r prif bobl wisgoedd tebyg i eiddo Ewropeaid, ond yr oedd y bobl gyffredin yn fwy na hanner-noethion, pan ymwelwyd a'r lle gan Capten Tuckey. Prif fasnach y lle oedd caethion, a dywedir y byddai yn agos i ugain mil yn cael eu hanfon oddi yno i'r Amerig, bob blwyddyn, cyn i'r wlad hon roi terfyn ar y fasnach greulon honno. Eto cerrid hi ymlaen gan y Spaeniaid a'r Portugeaid, yr adeg honno, a byddai ambell i Brydeiniwr anonest yn cymeryd rhan ynddi os gallai, heb gael ei ddal.

Aeth y Capten à Simmons i'r lan gydag ef, fel cyfieithydd, ac yr oedd yn hollol gyfarwydd yn eu hiaith. Y gofyniad cyntaf a roddodd brenin Malemba i'r Capten oedd, a wnai efe brynu caethion. Pan ddeallodd na wnai Capten Tuckey brynu caethion teimlai yn anfoddog iawn, am fod ganddo lu o garcharorion ar werth.



Yr oedd yn y lle hwn negro, yn gyfieithydd i'r brenin, ac yn medru peth Saesneg. Dywedai wrth y Capten ei fod yn "foneddwr o waed," ac mai ei enw oedd "Twm Lerpwl." Yr oedd gan Twm well gwisg na'r gweddill o swyddogion y brenin, ac ystyriai ei hun yn ddyn pwysig iawn. Dywedai fod teyrnas Malemba yn perchen cyfoeth mawr gynt, ond fod y deddfau i atal caethwasiaeth wedi ei dwyn i dlodi.

Ar y 12fed o Orffennaf cychwynwyd i fyny yr afon Zaire, gyda'r bwriad of gyrraedd Emboma, tref fawr a phoblog, gryn bellder i fyny yr afon, lle trigai y brenin. Gwneid masnach helaeth mewn caethion yma, a dywed y Capten, mor bell ag y gallai efe gael allan, fod tua dwy fil o negroaid wedi eu gwerthu o'r lle hwn yn y flwyddyn 1816.



Arhosodd y llong wrth un o'r pentrefi ar lan yr afon, ar ei ffordd i fyny, a gwelwyd yno y ddefod o gladdu. Yr oedd y person oedd i gael ei gladdu mewn bwthyn o wiail a chlai, a wnelsid o bwrpas i'w gadw. Yr arferiad oedd cadw y meirw cyhyd ag y gellid heb eu claddu, wedi eu rhwymo mewn bratiau a chadachau. Po mwyaf enwog fyddai y person, hiraf yn y byd y cedwid ef; a byddai swm y carpiau fyddai o'i gwmpas yn anferth erbyn y byddai yn barod i'w roddi yn y bedd.

Yr oedd llu o bobl o gwmpas y lle yn galaru, ac yn gwneud y swn mwyaf anaearol. Torrid y bedd yn hamddenol gan nifer o ddynion, gyda'r arfau mwyaf anghelfydd. Mesurai tua naw troedfedd o ddyfnder, ond dywedai y brodorion y byddai ei ddyfnder gymaint a hyd y balmwydden dàlaf cyn y byddai wedi ei orffen.

Ychydig yn nes ymlaen ar eu taith, ar y 25ain o Gorffennaf, arhosodd y llong drachefn wrth bentref o tua chant o aneddau, ar ochr ogleddol yr afon. Yn fuan ar ol i'r llong angori daeth nifer o'r trigolion i lan yr afon, rhai gyda nwyddau i'w gwerthu, a rhai o o gywreinrwydd. Cyn hir gwelent brif swyddog brenin Emboma yn cael ei ddwyn mewn hamog at y lan, ac yn cael ei ddilyn gan lu o swyddogion. Yr oedd y prif swyddog wedi ei addurno yn holl wychder ei swydd a'i sefyllfa, Gwyddai Capten Tuckey yn dda pa beth oedd ei neges. Gofynnid yr un cwestiynau ymhob man yr arhosai: a oedd ef yn dod i gyhoeddi rhyfel, ac os nad oedd, a oedd efe yn dod i fasnachu; ac ystyr hynny fynychaf oedd, i brynu caethion. Pan geisiai esbonio i'r brodorion nad oedd ei neges na'r naill na'r llall; dim ond dod i archwilio yr afon, nid oeddynt yn gallu deall y fath neges, ac anhawdd oedd eu cael i gredu ei chwedl. Tra yr oedd efe, ar fwrdd y llong yn gosod ei resymau wrth eu gilydd, yr oedd y prif swyddog wedi dod mewn canŵ i ymyl y "Congo," ac yn prysur ddringo gyda chymorth rhai o'r swyddogion, i'r bwrdd ato. Gwnaed sêdd gysurus i'r hen wr, a thaenwyd un o faneri y llong drosti, am nas gellid cael un glustog esmwythach na mwy ei lliwiau ar y pryd.

Dechreuodd prwyad y brenin dywallt ffrydlif o hyawdledd nes hanner foddi clyw y capten, ond gan nad oedd y naill yn deall iaith y llall, yr oedd y cwbl yn ofer ar y ddau tu. Pan gafodd Capten Tuckey funud o hamdden, anfonodd un o'r dwylaw i geisio Simmons. i gyfieithu. Daeth y negro ieuanc yno a safodd ger bron y ddau. Edrychodd swyddog y brenin arno yn syn am rai munudau, fel pe yn ei fesur, a'i bwyso, a'i ddarllen. Yna dywedodd rywbeth yn ei iaith ei hun, nad oedd neb ond Simmons yn ei ddeall, a neidiodd oddi ar ei sêdd fel dyn wedi gwallgofi. Anghofiodd ei urddas, ei swydd a'i neges, cofleidiai y dyn ieuanc, ac wylai fel plentyn; wylai y ddau, ac yr oedd pawb o'u cwmpas yn barod i wylo gyda hwynt, er nad oedd swyddogion y llong yn deall ystyr yr hyn a welent.

Gorchmynodd yr hen wr i'w swyddogion gael y cwch yn barod a llusgodd Simmons i lawr iddo gyda'r fath frŷs nes yr ofnai y capten am ei ddiogelwch. Aethant i'r lan heb gymaint ag edrych yn ol dodwyd Simmons yn hamog y prif swyddog, a chariwyd ef i'r pentref ar ffrwst. Ar ol iddynt gyrraedd y pentref clywid y cynhwrf a'r twrw mwyaf byddarol. Curid tabyrddau, gollyngid ergydion, a chenid pob offeryn cerdd yn y lle. Cerddai y trigolion yn ol a blaen, a chadwyd y rhialtwch mwyaf soniarus drwy y nos honno.

Casglai Capten Tuckey a'i gydswyddogion fod Simmons wedi dod i blith ei bobl, ond nid oeddynt yn deall y derbyniad mawreddog a roddid iddo. Teimlai pawb erbyn hyn yn awyddus i gael ychwaneg o'i hanes.

Yn ystod y dydd drannoeth, daeth y swyddog yn ol i orffen y gwaith oedd wedi cael ei ddyrysu mor ddirybudd y diwrnod cynt. Dygid Simmons mewn hamog, yn ochr y prif swyddog, wedi ei wisgo yn niwyg mwyaf mawreddog tywysog Affricanaidd, gyda gosgordd o wyr arfog o'i gylch, a thabyrddau yn cael eu curo o'i flaen.

Pan ddygwyd hwy i fwrdd y "Congo," dechreuodd y swyddogion holi am esboniad. Rhoddwyd ef i'r perwyl canlynol gan yr hen ŵr, ac y mae yn warth bythol ar enw a hanes y cenhedloedd Ewropeaidd a gefnogent gaethwasiaeth, ac yn gywilydd oesol i'r adyn anynol a gyflawnodd y trosedd. Buasai yn anhawdd credu yr hanes oni bai fod swyddog cyfrifol o Lynges Prydain wedi ei gofnodi fel gwirionedd syml.

Pan ddaeth y swyddog i fwrdd y "Congo" i weinyddu ei swydd dros y brenin nid oedd ganddo ddim dirnadaeth fod y dyn ieuanc yn y llong. Ond pan alwodd y capten arno fel cyfieithydd, canfu yr hen wr ei fab ei hun. Yr oedd y tad yn dywysog o waedoliaeth, yn ben cynghorwr i frenin Emboma, ac yn wr o awdurdod a phwysigrwydd yn y deyrnas.

Yr oedd wedi clywed llawer am allu, dysg, a chyfoeth Prydain. Flynyddoedd cyn y digwyddiad uchod daeth llong of Lerpwl i'r parthau hynny. Gwnaeth y tad gytundeb gyda chapten y llong honno i gymeryd ei fab oedd yn ddeg neu ddeuddeg oed, i Loegr i gael ei addysgu, a rhoddodd swm digonol o nwyddau iddo i ddwyn yr holl draul, gan addaw mwy os byddai raid. Ym- rwymodd y capten i gymeryd gofal y llanc, ei roddi dan addysg yn y wlad hon, a'i ddwyn yn ol yn ddiogel i'w dad ymhen rhyw gymaint o amser. Felly y gollyngwyd y llanc diamddiffyn oddicartref, a'i rieni yn ymddiried yn ffyddlondeb a chywirdeb ei noddwr.

Buwyd am flynyddoedd yn disgwyl y tywysog ieuanc yn ol. Dyfal holid pob. llong o Ewrop a ddeuai i'r gororau, ond i ddim pwrpas. Nid oedd dim o'i hanes i'w gael gan neb, ac yr oedd ei rieni wedi rhoddi heibio bob gobaith am ei weled byth mwy. Nid rhyfedd, felly, fod llawenydd ei dad wedi peri iddo anghofio ei hun ar fwrdd y "Congo." Ond yr oedd rhan fwyaf pruddaidd yr hanes i ddilyn. Ymddengys i'r capten a'i cymerodd ymaith, yn fuan ar ol gadael yr afon, werthu y plentyn yn, gaethwas a chymerwyd ef mewn llong arall, gyda channoedd o negroaid truain i ynysoedd India Orllewinol, bu yno, mewn caethiwed, o dan y triniaethau mwyaf creulon, am beth amser, ond drwy ryw ffawd gallodd ddianc o afael ei boenydwyr, i un o longau rhyfel Lloegr. Bu ar y llong honno yn ystod y rhyfel rhwng y wlad hon a Ffrainc. Crwydrodd gyda'r llynges o le i le, cafodd ffafr y swyddogion, a dyrchafwyd ef mor bell ag y gallai negro ddringo. Yr oedd o allu meddyliol cryf a phrofodd ei hun yn swyddog dewr a ffyddlon. Ar ol gorffen o'r rhyfel glaniwyd ef yn Lloegr, a chafodd gyfeillion mwy cywir na'r adyn a'i gwerthodd; cafodd gwrs o addysg cyn troi yn ol i'w wlad, a manteisiodd yn helaeth arno.

Bu Simmons o wasanaeth pellach i gapten y "Congo," yn ei daith i fyny yr afon, fel cyfieithydd, fel cyfaill, ac fel gwr o ddylanwad ac awdurdod ymhlith y brodorion. Pa beth a ddaeth o hono wedyn, nid oes gwybodaeth, bu Capten Tuckey, a bron yr oll o'i swyddogion farw cyn cyrraedd adref o'r daith honno.

Pa ryfedd fod y dyn du yn amheu, yn ofni, ac yn casau y dyn gwyn? Pwy a ŵyr pa faint o niwed a wnaeth yr un weithred dywyllodrus hon, a pha nifer o fywydau diniwed a aberthwyd i gynddaredd anwariaid a ddysgwyd drwy weithredoedd anfad a thywyllodrus fel eiddo y capten uchod, mai creadur perygl, bradwrus, a chreulon yw y dyn gwyn. Y mae Ewropeaid, yn enwedig Prydeinwyr, ac aml Gymro yn eu mysg, wedi gwneud llawer tro caredig â'r dyn du ar ol yr anfadrwydd uchod, ond nid ydym yn sicr nad oes rhai pethau yn cael eu gwneud gan Brydeinwyr yn Affrig y dyddiau hyn sydd yn peri i'r negro feddwl yn bur isel o hono. Cymer lawer Livingstone, a llawer Moffat i symud ymaith o feddwl y dyn du adgofion am weithredoedd iselwael anynol a thywyllodrus, masnachwyr anonest, a milwyr creulon.


Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.