Neidio i'r cynnwys

Y Ddeddf Uno 1536 (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Y Ddeddf Uno 1536 (testun cyfansawdd)


golygwyd gan William Ambrose Bebb
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Y Ddeddf Uno 1536
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Ambrose Bebb
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542
ar Wicipedia

Y DDEDDF UNO 1536

Y DDEDDF UNO, 1536
(Y Cefndir a'r Canlyniadau)



(Golygwyd gan W. Ambrose Bebb)



PLAID GENEDLAETHOL CYMRU,
CAERNARFON
1937

Argraffiad Cyntaf, Awst, 1937.



Argraffwyd yng Ngwasg Gee, Dinbych,
rhwymwyd yng Nghymru.



RHAGAIR

CYNNWYS y llyfryn hwn ydyw'r anerchiadau a ddarllenwyd yn Ysgol Haf y Blaid Genedlaethol fis Awst diwethaf; a chyhoeddir hwy gyda'i gilydd yma oherwydd tybied y gallant fod o werth a diddordeb nid yn unig i aelodau'r Blaid, ond hefyd i bob Cymro sy'n ymhyfrydu yn hanes ei wlad. Y flwyddyn llynedd ydoedd pedwar can mlwyddiant y Ddeddf Uno a basiwyd gan Harri'r Wythfed, a theimlid mai buddiol iawn fyddai gwneuthur y Ddeddf honno yn bwnc astudiaeth un Ysgol Haf, ar ben y bedwaredd ganrif wedi ei dyfod i rym.

"O bu a fu, och o'i fod." Felly y teimla haneswyr heddiw am y ddeddf uchod. Ac oherwydd hynny aeth llawer un byrbwyll i ddadlau ac i daeru ddarfod dileu'r ddeddf amryw flynyddoedd yn ôl, ac nad yw bellach mewn grym. Yr oedd colyn y ddeddf, meddid, sef yr adran a waharddai ddefnyddio Cymraeg gan unrhyw swyddog yng Nghymru, wedi ei dynnu a'i ddiddymu gan y Statute Law Repeal Act, 1887. Aeth hyd yn oed y Barnwr Ivor Bowen mor bell â mynegi hynny yn blwmp ac yn blaen mewn llythyr i'r Times; ac ef oedd y gŵr a gasglodd at ei gilydd, drwy drafferth a gofal nid bychan, bob cyfraith a deddf ar ddeddflyfr Prydain Fawr sy'n cyfeirio at Gymru. Pwy, gan hynny, a feiddiai ddatgan bod y ddeddf yn aros, a'r colyn yn pigo? Eto i gyd, y gwir noeth ydoedd mai aros a wnâi. Ie, heddiw hi a erys.

Pa fodd, ynteu, y bu'r fath amryfusedd? Rhodd- wyd eglurhad boddhaol ar y pwnc gan y Barnwr Artemus Jones mewn ysgrif yn Y Llenor, Gaeaf 1936. Mewn byr eiriau, dyma'r hyn a ddigwyddodd. Gwir yw'r gair i'r Statute Law Repeal Act ddiddymu un adran o'r Ddeddf Uno, sef adran yr ugeinfed. Trowch i lyfr y Barnwr Bowen, ac fe welwch mai'r adran honno ydyw'r adran a gynnwys y gorchymyn yn erbyn yr iaith Gymraeg. A dyna'r modd y twyllwyd Bowen. Anghofiodd ef ddau beth o bwys terfynol. Anghofiodd, i ddechrau, nad oedd Deddf 1536 wedi ei rhannu yn adrannau o gwbl, ond mai yn ddiweddarach y gwnaed hynny wrth gyhoeddi cyfreithiau'r wlad. Yna, yn ail, anghofiodd feddwl y gallasai rhif yr adrannau amrywio o un argraffiad i'r llall. "Nid oes dim amheuaeth," meddai'r Barnwr Artemus Jones, "mai oddi wrth lyfr Ruffhead y cymerodd Bowen destun deddf Harri VIII yn y Statutes of Wales." Ond yr oedd argraffiad arall, argraffiad swyddogol 1829 (a 1897); ac yn hwnnw, ymddengys yr erthygl sy'n erlid y Gymraeg fel rhif 17. A'r adran a ddiddymwyd yn 1887 ydoedd yr ugeinfed: h.y., NID yr adran ynghylch yr iaith.

Rhag ofn yr erys rhyw rithyn bach o amheuaeth ym meddwl neb bynnag, cofiwn hefyd fod yna ddeddf arall eto sy'n rhwystro defnyddio'r Gymraeg yn swyddogol. Yn 1707 unwyd yr Alban wrth Loegr fel yr unwyd Cymru wrthi yn 1536. A dyma ddeddfu yn union deg—yn 1730—am yr Alban mai Saesneg yn unig a fyddai iaith ei llysoedd hithau. Rhag ofn y gallai'r pryf ddianc eto drwy chwarae mig, wele ddeddfu'n derfynol yn 1746, ac ordeinio bod y gair "Lloegr" yn Neddf 1730 yn cynnwys "Cymru" bob tro. Nid oedd fodd bellach i'r dall fethu â gweled na cheid defnyddio'r Gymraeg yn y llysoedd yng Nghymru. Cyn y gellir ei defnyddio yn swyddogol yno, rhaid a fydd dileu y ddwy ddeddf, deddf 1536 a deddf 1746. Gwelsom yn ddiweddar, yn achos y tri llanc yng Nghaernarfon, mor greulon o fyw ydyw'r deddfau hyn pan welodd y Barnwr yn dda alw'r ymgais i gael rheithwyr Cymraeg yn "farce." Ym mis Mai cafwyd achos cyffelyb ym Mhenybont-ar-Ogwr pan wrthododd Mr. Trevor David siarad yn Saesneg, gan ddadlau mai drwy Gymraeg yn unig y gallai gael tegwch a chyfiawnder. Chwarddwyd am ei ben, a galw ei ymddygiad yn "some of the foolishness of Caernarvon, a'i ddirwyo heb iddo gael ei amddiffyn ei hun. Dyna negyddiad llwyr o bob rhyw ronyn o gyfiawnder a all fod yn y gyfraith.

A gawn ni yma adrodd ei eiriau ei hun yr hyn a ddigwyddodd i Emrys ap Iwan wedi iddo yntau wrthod yn lân â rhoddi tystiolaeth yn Saesneg? Fe ddichon agor llygaid llawer. "Fe ymgododd holl newyddiaduron Lloegr, oddieithr y Truth, yn erbyn y fath 'ynfydrwydd a'r fath 'hyfdra.' Heb law hynny, fe ddanfonwyd imi lythyrau di enw, yn llawn o regfeydd a difriaeth, mewn rhyddiaith a phrydyddiaith, o bob parth o Loegr, a hyd yn oed oddiwrth Saeson yn Ffrainc a'r Almaen. Pan fyddai enw drwg yn pallu, fe ddanfonid imi gacen o dom gwartheg, neu bibell lawn o bylor, gan ddisgwyl iddi ymddryllio yn fy nwylo; ac fe ysgrifennodd un arall y buasai efô, pe yn fy ymyl, yn plannu ei gyllell yn fy nghalon ddu."

Dyna'r Ddeddf Uno yn gweithredu yn 1889, 1936, ac yn 1937. Ac felly ar hyd y daith hir o 1536 hyd heddiw. Gwelwyd yr annhegwch a gyd-redai â hi yn fuan wedi ei phasio, hyd yn oed gan Gymry llugoer cyfnod y Tuduriaid. Deugain mlynedd union wedi ei gwneuthur yn ddeddf gwlad, ysgrifennodd Dr. David Lewis at Walsingham mai buddiol iawn a fyddai peri bod o leiaf un o'r Barnwyr yng Nghymru yn deall Cymraeg, gan awgrymu'n amlwg fod canlyniadau drwg i weini'r ddeddf yn llythrennol. Ond ni wnaed dim; ac yr ydym heddiw eto yn gorfod dadlau fel cynt dros ddiddymu'n llwyr yr erthygl sy'n diswyddo'r Gymraeg, ac yn ei hysgymuno o lysoedd ei bro ei hun.[1]

Y mae o leiaf ddau bwysigrwydd i'r Ddeddf Uno. Yn gyntaf, hi a roddodd y ddyrnod fwyaf marwol a roddwyd erioed i'r holl ddiwylliant Cymreig; ac am hynny y traethir yn y penodau sy'n dilyn. Ac yn ail, hi hefyd ydyw sylfaen yr adeilad aml-gellog hwnnw a elwir yr Ymerodraeth Brydeinig; a'i lluniwr hi oedd cyntaf pensaer yr Ymerodraeth honno"the father of modern imperialism," fel y geilw Pollard ef. Y mae'n gyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn mai'r Senedd a basiodd y Ddeddf Uno oedd yr un un ag a dorrodd undeb milflwydd oed gwledydd Cred; ac mai yn y flwyddyn y diddymwyd Cymru'n swyddogol y cyhoeddodd confocasiwn Eglwys Loegr fod Lloegr bellach yn "imperial See of itself." Yn ddiamau, yn hanes Cymru ac Ewrop, blwyddyn enbyd ydoedd 1536. Symuda fel drychiolaeth drwy fywyd ein gwlad ni o hyd, gan daflu ei malltod ar ein hiaith a'n diwylliant bob dydd o'n bywyd. Cyhuddaf yr erthygl yn erbyn yr iaith Gymraeg o fod y gelyn mwyaf a adnabu hi yn ei holl hanes.

Gair arall. Wrth ddarllen y penodau sy'n dilyn fe ganfyddir weithiau fod yr awduron yn cerdded dros yr un darn maes. Yr oedd hynny'n anochel, ac ni feiddiais i, fel Golygydd, dorri allan ddim, am fod y cwbl a ddywedir yn hanfodol i ddatblygiad ymresymiad y gwahanol ddarlithwyr. Yn wir, yr unig beth a wneuthum i ydoedd rhannu'r papurau dan amrywiol benawdau, a darllen y proflenni mor ofalus ag y gallwn. Yn Saesneg yr ysgrifennwyd tair o'r anerchiadau hyn i ddechrau, sef eiddo Mr. Arthur Price, Mr. Alun Pugh a Dr. D. J. Davies, a llawen gennyf ddiolch i Mr. R. E. Jones, Llanrwst, am drosi'r gyntaf, ac i Miss Matilda Pritchard, Llanberis, am drosi'r ddwy arall. Gwelir bod anerchiad yr Athro W. J. Gruffydd yn fyrrach gryn dipyn na'r lleill, ac y mae hynny'n resyn. Ymddengys nad ysgrifennodd ef mo'i ddarlith, ond siarad fwy na heb "o'r frest"; a phan aethpwyd i ofyn iddo amdani, nid oedd ganddo'r un! Yn ffodus iawn, gwnaethai'r Parch. J. P. Davies, Porthmadog, nodiadau ohoni ar y pryd, a'r nodiadau hynny a gyhoeddir yma. Rhaid inni faddau i'r Athro Gruffydd—a diolch i'r Parch. J. P. Davies am gadw o leiaf yr esgyrn. Os oes gan y darllenydd y ddawn i chwythu anadl einioes arnynt, yna fe atgyfodant yn fyw iddo, fel y buont i ninnau.

W. AMBROSE BEBB.

CYNNWYS




I'R
TRI HYN:
SAUNDERS LEWIS
LEWIS VALENTINE
D. J. WILLIAMS



CEFNDIR Y DDEDDF UNO, 1536

1. Gwaith Edward I: Cymru ddwy-rannog

I DDEALL cefndir Deddfau'r Uno rhaid edrych yn ôl rai blynyddoedd; yn wir, rai canrifoedd. Rhaid mynd yn ôl o leiaf at y flwyddyn y collodd Cymru ei hannibyniaeth gyda marw Llywelyn, ein Llyw Olaf. O dro i dro, collwyd llawer o dir Cymru i'r Normaniaid, ond yr adeg honno am y tro cyntaf yr aeth rhan helaeth iawn o Gymru yn llwyr o ddwylo'r tywysogion a'i creodd hi. Aeth Gwynedd i gyd i ddwylo brenin Lloegr, ac aeth rhan bwysig o'r Deheubarth hefyd. Mewn geiriau eraill, aeth y rhannau a gyfetyb heddiw i Siroedd Môn, Caernarfon, Meirionnydd yn y Gogledd, a'r ddwy Sir, Ceredigion a Chaerfyrddin, heblaw Sir y Fflint, i afael Edward y Cyntaf. Ac ef, wrth reswm, a'u ffurfiodd yn Siroedd. Dyma'r pryd y dechreuodd darn da o Gymru ddirwyn i mewn i sistem wleidyddol Lloegr, ac y sefydlwyd yn ein gwlad ni y swyddogaeth Seisnig—Ustusiaid, Siryfon, Rhingyll, Rhaglaw, a Chrwner. Saeson oedd yr Ustusiaid bob amser, a Saeson oedd y Siryfon am y blynyddoedd cyntaf; ond Cymry a lanwai'r swyddi lleiaf a lleol swyddi Rhingyll a Rhaglaw—o'r blynyddoedd cyntaf, a swydd y Crwner gan amlaf. Canys delfryd Edward ydoedd cael Saeson yn swyddogion canolog, a Chymry 'n swyddogion lleol.

Dyna'r newid a wnaed gan y brenin hwnnw, ac fe welwch nad aeth yn ddwfn iawn. Ni newidiodd yr un iod na thipyn ar yr hen ddull Cymreig o etifeddu tir—er mai dirywio a fyddai rhan honno bellach. Heblaw hynny, gadawodd un hanner o Gymru heb ei chyffwrdd yn y mymryn lleiaf. Er ys dwy ganrif cyn ei ddyfod ef, yr oedd yr Arglwyddi Normanaidd wedi bwyta mwy na mwy o Gymru oedd nesaf at ffiniau Lloegr. Felly, pan laddwyd Llywelyn ein Llyw Olaf yr oedd mwy na hanner Cymru yn nwylo'r rhain. Gadawodd Edward yr hanner honno eto yn eu gafael hwy; a hwynthwy, gan hynny, sy'n llywodraethu yno, ac nid brenin Lloegr. Yr oeddynt hwy wedi prifio mor braff ar y tir a ladratasent oddi wrth y Cymry fel na fedrai Edward eu di-orseddu; a daliant i lywodraethu fel brenhinoedd bychain am ddwy ganrif arall. Taclau difyr i'w gwylio ydyw'r rhain, rheibwyr a lladron, adar brithion o bob lliw a llun—cant a hanner ohonynt yn damsang ar draed ei gilydd, yn rhuo ac yn rhyfela byth a beunydd.

Dyna'r Gymru, ynteu, a adawodd Edward I ar ei ôl—Cymru ddwy-rannog, Cymru'r Sir a Chymru'r Mars, Cymru brenin Lloegr a Chymru'r Arglwyddi castellog. Yr oedd y naill yn weddol reolaidd a threfnus. Yr oedd y llall yn afreolaidd i'r eithaf, yn nyth cacwn cynddeiriog. Yn y naill a'r llall, gweision bychain a gorchfygedigion ydoedd y Cymry, cenedl o bobl ddi freiniau yn eu gwlad eu hunain, yn byw bywyd bugeiliaid a thyddynwyr bychain oddi allan i drefi breiniol eu gorchfygwyr.

2. Gwrthryfel y Cymry yn erbyn hynny: Owain Glyn Dŵr

Ond nid heb arweinwyr. Ac nid heb ysbryd anturus, a digonedd o ddewrder. O ganlyniad, codasant lawer tro yn erbyn y drefn newydd, a gwnaed rhyw bedair neu bum ymdrech ar raddfa genedlaethol i ddatod ac i ddistrywio gwaith Edward I. Er enghraifft, llosgodd Rhys ap Maredudd, o Ddyffryn Tywi, yr holl wlad o gwmpas dref hon,[2] hyd at ei phyrth hithau. A'r un modd amryw eraill, gan gynnwys yn bennaf Llywelyn Bren ac Owain Lawgoch.

Eithr o bob ymdrech, y bwysicaf o ddigon ydoedd ymdrech Owain Glyn Dŵr ym mlynyddoedd cynnar y bymthegfed ganrif. Yn awr, fe ddigwyddaf i gredu bod Owain Glyn Dŵr nid yn unig yn un o'r dynion dewraf a doethaf a gododd Cymru erioed, ond hefyd ei fod yn un o'r rhai a welai bellaf ac a gynlluniai'n ddisgleiriaf. Yn ben ar y cwbl yr oedd ganddo'r delfrydau gloywaf—rhai a gyd-weddai'n fwyaf naturiol i holl Hanes Cymru, ac sy'n rhaid iddynt fod tra byddo bywyd yng Nghymru. Fe'u henwaf hwythau:

1. Eglwys Rydd i Gymru yn annibynnol ar Gaer Gaint.
2. Dwy Brifysgol—i baratoi offeiriaid at wasanaeth yr Eglwys honno.
3. Ac yn ben-congl-faen ar yr holl adeilad Gwladwriaeth Gymreig, wedi ei chyfangysylltu â gwareiddiad Gorllewin Ewrop.

Rhaid inni aros am ychydig gydag Owain Glyn Dŵr, gan mor bwysig ydyw ef yn hanes Cymru, nid yn unig yn ei oes ei hun ond am flynyddoedd wedyn. Pe buasai ef wedi llwyddo, buasai ein holl Hanes ni yn dra gwahanol i'r hyn a fu. Buasai cymaint â hyn o leiaf wedi digwydd:

1 Sefydlu Gwladwriaeth Gymreig a fedrai ddiogelu datblygiad gwleidyddol, cymdeithasol, a chrefyddol y genedl;
2 Adeiladu Eglwys Gymreig, annibynnol ar Gaer Gaint, a'i hoffeiriaid wedi eu hyfforddi a'u disgyblu yn y Prifysgolion Cymreig;
3 Ac yna, yn o debyg, Ddadeni gwleidyddol a diwylliannol a warchadwai'r genedl rhag y machlud mawr a ddaeth yn fuan dros Gatholigiaeth y Gorllewin.

Yr unig beth a gafwyd ydoedd Dadeni Llenyddol, sydd yn amlwg ddigon yng ngwaith beirdd y Bymthegfed Ganrif.

3. Methiant Owain—Canlyniadau

Yn awr, wedi ymdrechu'n galed am dros ddeng mlynedd, a bod am y dim a dim ag ennill, methu a wnaeth Glyn Dŵr yn y diwedd. Ac yr oedd i hynny hefyd ei ganlyniadau:

1. Aeth yr holl ganrif yn eiddo i Owain. Fel y dywedais mewn lle arall, "Owain biau'r Ganrif," ac y mae Mr. R. T. Jenkins yn cytuno. Aeth y genedl gyfan, bron, i ail-fyw anturiaethau Owain, ac i freuddwydio eilwaith ei ddelfrydau ef. A'i enw ef—Owain—a roddir ar unrhyw arwr o Gymro a gyfyd i'w harwain. Ymchwydd balchter y Cymro, ei ddigter at Sais a'i ddirmyg ohono, sydd i'w ganfod yn barhaus yng ngwaith y beirdd hyn—Lewis Glyn Cothi, Guto'r Glyn, Hywel Swrdwal, Hywel Dafi a Dafydd ab Edmwnd. A phan ddaeth canol y ganrif â Rhyfeloedd y Rhosynnau gyda hi, daeth ag ail gyfle i'r Cymry o draddodiad Owain, barhau ei ymdrech ef. Iddynt hwy, dyna ydoedd Rhyfeloedd y Rhosynnau, parhâd brwydr "Owain y Glyn," a rhyfel agored rhwng y Cymro a'r Sais.

2. Canlyniad arall ydoedd hwn: Gan i Owain fethu, nid oedd cyfundrefn wleidyddol gan Gymru, na bywyd canolog i hel ei chortynnau hi at ei gilydd. Felly, fe ddenwyd Cymru ac fe'i hyrddiwyd hi bendramwnwgl i ferw ac i gawdel Rhyfeloedd y Rhosynnau. Gan na fedrai'r Cymry edrych ar eu hôl eu hunain, fe'u llarpiwyd hwy gan y Rhyfeloedd hyn, a chymerasant ran amlwg a phwysig, a therfynol ynddynt. Hwynthwy yn ddigon aml a benderfynodd dynged y naill Rosyn a'r llall. Yn y rhyfeloedd hyn yr afradwyd nerth ac egni y Cymry; ac ynddynt y dysgwyd llawer Cymro medrus ac uchelgeisiol i edrych ar Gymru, ei wlad ef, fel cefndir i'w orchestion yn Lloegr, neu fel esgynlawr i neidio oddi arno i bwysigrwydd a chlod a dylanwad yn Lloegr—yr unig wlad lle'r oedd rhyw fath o lywodraeth ganolog, a'r lle yr oedd uchelgais wleidyddol yn bosibl. Dyna hanes dynion oedd ar lawer cyfrif yn Gymry da—Owain Tudur, Mathew Goch a Wiliam Herbert, ac eraill.

Ac yn ddigrif iawn, gallai hyn oll ymddangos i'r Cymry fel buddugoliaeth ar y Saeson, fel y gwelir yn amlwg oddi wrth fawl y beirdd i'r gwŷr uchod.

Nad trwy Wynedd blant Ronwen,
Na phlant Hors yn y Fflint hen,


meddai Guto'r Glyn wrth Wiliam Herbert. Ac eto:

Na ad, Arglwydd, swydd i Sais,
Na'i bardwn i un bwrdais.


Ac yna, erfyn arno uno Cymru oll yn un genedl:

Dwg Forgannwg a Gwynedd,
Gwna ni'n un o Gonwy i Nedd.


Ond fe wyddom ni erbyn hyn mai camgymryd oeddynt. Ar yr wyneb gellid tybied mai Cymry oedd yn rheoli, ac yn tra-awdurdodi ar wleidyddiaeth Lloegr, tra, mewn gwirionedd, yr oedd Cymry blaenllaw yn cael eu dysgu i edrych tua Lloegr am ddyrchafiad, ac am fodloni eu huchelgais naturiol. Canlyniad drwg digymysg.

3. Y mae un canlyniad arall i fethiant ymgyrch Owain Glyn Dŵr. Gadawodd ei aflwyddiant broblem trefn a rheol heb ei datrys. Pe llwyddasai ef, buasai nid yn unig wedi sefydlu gwladwriaeth Gymreig. Buasai hefyd wedi tocio a chwtogi awdurdod Arglwyddi'r Goror, a dwyn trefn i'r holl fro afreolus honno. Dywed yr holl lyfrau hanes mai buddugoliaeth i drefn a llywodraeth ydoedd methiant Glyn Dŵr. Y gwrthwyneb hollol sy'n gywir. Ei aflwyddiant ef a barodd i broblem trefn ar Dir y Mars fynd yn anos, anos i'w datrys. Ac, yn wir, arhosodd yn broblem heb ei datrys nes dyfod y Tuduriaid.

4. Harri Tudur yn medi ar Faes Bosworth

4 Ond o holl ganlyniadau methiant Owain Glyn Dŵr, y rhyfeddaf o lawer iawn ydoedd buddugoliaeth y Tuduriaid. Canys ar frig uchaf y don genedlaethol a adawodd Glyn Dŵr ar ei ôl, y marchogodd Harri Tudur yn llwyddiannus drwy Gymru, i Faes Bosworth, ac yn ei flaen i Lundain. Mewn geiriau eraill, Owain y Glyn a enillodd Frwydr Bosworth. Ganddo ef, ac erddo ef—er ei farw drigain a deg o flynyddoedd cyn hynny—y cafodd Harri Tudur ardderchog Goron Llundain. Nid oedd neb a wyddai hynny yn well na Harri Tudur ei hun, a aeth ati i ddysgu i'r Cymry mai ef—nid Owain Glyn Dŵr—ydoedd y gwir Owain. Fe'i hyfforddodd hi mor dda nes dyfod ohoni i'w gredu. Dyma, er enghraifft, yr unig hanesydd cyfoes yng Nghymru, Elis Gruffydd, y milwr o Galais, yn dweud wrth adrodd y stori honno am Owain Glyn Dŵr ag Abad Llanegwestl, "nad efô ydoedd yr Owain yr ydoedd ef yn amcanu i fod, i'r hwn yr ydoedd y brudion yn addo dwyn coron Loegr." Yna, am Harri'r Seithfed ysgrifenna fel hyn: . . . bod ymrafel a siarad mawr yng nghylch henw brenin: canys rhai a ddywedai mai Owain ydoedd i henw ef, yn ôl yr henw a roddesid arno ef wrth y maen bedydd, yr henw yr ydoedd y brud yn dangos y gwnâi ef lawer o ddaioni i wyr Cymru."

Dyna brawf fod Cymry cyfoes wedi dyfod i gredu yn Harri Tudur fel y gwir Owain. Ac ar ôl ei fuddugoliaeth yn enw Owain, a thrwy rym yr ysbryd cenedlaethol yng Nghymru, fe'i coronwyd ef (i ddefnyddio geiriau Elis Gruffydd) "o wir etifeddiaeth megis o'r gwaed brenhinol o'r hen Frutaniaid." Ac felly y collodd Cymru ei gwaredwr disgwyliedig, ac yr enillodd Lloegr y teulu brenhinol disgleiriaf a fu yn ei holl hanes y teulu a unodd Gymru wrth Loegr, ac a roddodd sylfaen i'r adeilad aml—ystafellog hwnnw a elwir yr Ymerodraeth Brydeinig.

5. Sefyllfa ryfedd yn 1485

Wedi Bosworth, ynteu, dyma sefyllfa newydd sbon, na bu erioed mo'i bath na chynt na chwedyn—sefyllfa gymhleth, dwyll-addawol, a chwbl beryglus. Sylwch arni am funud.

I. Ar y naill law, dyma Harri Tudur, cynrychiolydd a simbol y traddodiad Cymreig, wedi ennill buddugoliaeth sicr ac amlwg a disglair ar y Sais; a dyma un o obeithion pennaf yr holl bymthegfed ganrif wedi ei sylweddoli.

2. Ar y llaw arall, y mae simbol gweledig y fuddugoliaeth hon yn gwisgo Coron Lloegr—yn Llundain; yn dewis neu yn gorfod etifeddu polisi'r goron honno, ac anghofio'r genedl a'i rhoddodd iddo.

Dyna oedd y sefyllfa mewn gwirionedd, ond ni welodd neb yng Nghymru mai felly yr oedd. Ni welodd neb y perygl—na Syr Rhys ap Tomas, na Thudur Aled, na Lewis Glyn Cothi, na neb arall. Aeth pawb adre dan gredu'n ddiogel fod popeth o'r gorau, fod y Saeson wedi eu trechu, fod y Cymry'n ben, fod y proffwydoliaethau oll wedi eu gwireddu, ac mai Cymry oedd piau holl lywodraeth yr Ynys.

Llyma'r Saeson llon a'u llid yn methu,
Llyma holl Gymru yn gwenu i gyd,


meddai Lewis Glyn Cothi wrth Syr Rhys ap Tomas. Felly yr ymddangosai ar yr wyneb, hyd yn oed i estroniaid o'r Cyfandir. Dyma frawddeg, er enghraifft, gan

Eidalwr a ysgrifennodd lyfryn yn 1500, A Relation of the Island of England: "They may now, however [y Cymry] be said to have received their former independence, for the wise and fortunate Henry VII is a Welshman." Cytuna pob bardd a hanesydd yng Nghymru a Lloegr â'r dyfarniad hwn—Tudur Aled, Lewis Glyn Cothi ac Elis Gruffydd yn rhan gyntaf y ganrif, Hiraethog, Simwnt Fychan, Siôn Tudur, Dafydd Powel yr Hanesydd, a George Owen, etc., ar ei diwedd.

6. Y Cymry'n cam-ddeall y sefyllfa

Collodd y Cymry eu pennau yn lân, ac yr oedd eu meddyliau yn llawn cymysgedd. Parhaent i ymresymu yn nhermau "Ardderchog Goron Llundain" heb ddeall am funud fod y Saeson wedi cipio'r goron honno oddi arnynt. Breuddwydiant am weled Prydain oll yn un genedl—neu yn un iaith. Dyma gwpled gan Dudur Aled i Syr Rhys ap Tomas:

Oni wnewch chwi ni'n un iaith[3] Ni wn neb yn un obaith.

Yr oedd Robin Ddu Ddewin wedi mynegi'r un syniad yn union pan fu farw Owain Tudur:

A gŵr glew, gwyarog lain,
A gawn ni, ag enw Owain;
A phen a gorffen y gwaith
A'n ynys[4] oll yn uniaith.


I Siôn Tudur, a ysgrifennai tua diwedd y ganrif, yr Iesu a roes inni Harri Saith,

Harri lân, hir lawenydd,
Yr un a'n rhoes ninnau'n rhydd,


ac ef a wnaeth "yn un Normanwyr â ni"!! Harri'r Seithfed, nid Harri'r Wythfed. Brwydr Bosworth, nid y Deddfau Uno!

Canlyniad hyn ydoedd i Harri'r Seithfed gael llwyr ymroddiad ac ymlyniad y genedl Gymreig. A'r un modd Harri'r Wythfed.

Yn holl fryd a'n llyfr a aeth It, Harri . . . . . . . . .

meddai Lewys Morgannwg wrth hwnnw, gan ei alw'n "ddaroganwr."

Parhaodd y serch hwnnw drwy holl gyfnewidiadau igam-ogam a holl chwyldroadau'r ganrif. Yr oedd y genedl gyfan wedi ei swyno a'i dallu gan ryfeddol ysblander teyrnwialen y Tuduriaid. Cas ganddynt y Saeson megis cynt, a dywedir hynny'n groyw mewn cywydd serch ac mewn cywydd mawl. Ond am eu brenhinoedd, nid oedd na bai na bryntni ynddynt.

7. Cyflwr Cymru-wrth yr Eidal, Lloegr, etc.

Dyna, ynteu, oedd y cefndir meddyliol a gwleidyddol. Rhaid dweud gair neu ddau am aflywodraeth y cyfnod. Awgrymais gynnau fod llawer ohono i'w gael, ac mai un o ganlyniadau methiant Glyn Dŵr ydoedd cynhyddu ohono lawer iawn. Ni thâl gwadu nad oedd afreoleidd-dra yng Nghymru, yn enwedig ar y Gororau cythryblus. Gwelir hynny'n amlwg yng ngwaith beirdd y Bymthegfed Ganrif. Ac yn wir, ni fedrai lai na bod felly, gan gofio bod cant a hanner o Arglwyddi'n llywodraethu fel brenhinoedd annibynnol yno. Ond gwneir cam dybryd â'r sefyllfa yno drwy ddyfynnu'n unig y cyfeiriadau at yr annhrefn—yn union yr un fath â phe ceisiai rhywun ddisgrifio bywyd Cymru heddiw oddi wrth ystadegau lladdedigion y ffordd fawr. Gellid profi, yn y dull hwnnw, mai anwariaid yn eu llarpio ei gilydd sydd yn byw yma heddiw. Rhaid, ynteu, geisio gweled y sefyllfa yn ei phriod ffrâm a'i chyfnod ei hun. Os gwnawn hynny, fe ddeallwn ar unwaith nad oedd pethau yng Nghymru—hyd yn oed yn y rhannau gwaethaf ohoni—nemor ronyn gwaeth nag yn holl wledydd y Gorllewin.

Dyma ichwi ddisgrifiad o Rufain yn y flwyddyn 1500 gan awdur cyfoes—Rodocanachi: "Nid yn unig yr oedd pawb yn byw gan wybod bod ei fywyd a'i dda mewn perygl beunydd, ond gorfodid pawb i gredu yr ymosodid arnynt yn slei bach, a rhuthro arnynt yn eu cefn." Ac eto: "ogof lladron," meddai Giustinian amdani; ac ychwanega Machiavelli na fedrid beiddio cerdded ynddi o gwbl wedi'r dechreunos—geiriau mor ddrwg, os nad gwaeth, na dim a ddywedir gan Syr John Wynn o Wydir, yr Arglwydd Herbert, George Owen, a'r beirdd am Gymru'r un dyddiau. Cymerwn Loegr eto, y wlad y mae ei haneswyr mor barod i amlhau geiriau am afreol Gororau Cymru. Yn y flwyddyn 1500 yr oedd Eidalwr yn byw am gyfnod go faith yno, ac yn ysgrifennu fel hyn yn y llyfr y cyfeiriais ato o'r blaen—sef A Relation of the Island of England:

"Nid oes wlad yn y byd lle y mae cymaint o ladron a rheibwyr â Lloegr; yn gymaint ag mai ychydig iawn a feiddia fynd ar eu pennau eu hunain yn y wlad, ag eithrio ar ganol dydd golau, a llai fyth yn y trefi gyda'r nos, a lleiaf oll yn Llundain."

Yn y flwyddyn 1522, dywed Iarll Surrey wrth Harri'r Wythfed fod dengwaith fwy o angen trefn yng Ngogledd Lloegr nag yng Nghymru.

Dyna, ynteu, ddigon o brawf nad oedd anllywodraeth Cymru—hyd yn oed ar y Goror—ddim gwaeth nag yn Lloegr, neu'r Eidal, neu unrhyw wlad arall; er bod haneswyr Cymru, druain bach, wedi cymryd y gwrthwyneb yn ganiataol, a'u paratoi eu hunain felly i edrych ar Ddeddfau'r Uno fel bendith raslon, dynghedfennol, a di-ysgoi.

8. Cymwynasau Harri VII i Gymru: yn clymu'r Cymry wrth ei orsedd ef a'i holl deulu

Ond wedi caffael ohono "Ardderchog Goron Llundain," pa beth a wnaeth Harri'r Seithfed i Gymru? Yn fyr, hyn:

1. Gwneud yn fawr o'i achau Cymreig, parchu'r Ddraig Goch a Gŵyl Ddewi, a rhoddi mân swyddi ac anrhegion i Gymry yn ei lys yn Llundain, enwi ei fab—Arthur, a rhoi swydd i Siôn, soeg i Siac, castell fan yma, crwstyn fan draw.

2. Penodi Cymry o bwys i awdurdod yng Nghymru—megis y Salbriaid a'r Gruffyddiaid yn y Gogledd, yr Herbertiaid a'r Cradogiaid yn y De ond yn bennaf o lawer Syr Rhys ap Tomas, a oedd i bob pwrpas yn rheoli Cymru gyfan.

3. Ail-sefydlu Cyngor y Gororau, a danfon ei fab Arthur yma i'w lywyddu.

4. Rhoddi chwech neu saith o Siartrau digon gwerthfawr i amryw ardaloedd a thrigolion yng Ngogledd Cymru, e.e.: i Faelor Gymraeg a Iâl (1505), i Swydd y Waun (1506), i Arglwyddiaeth Rhuthyn (1508), i Gaernarfon a Meirionnydd (1505), i Ddinbych (1506), i Geri a Chydewain ac i Ogledd Cymru (1507). Mewn byr eiriau, estynnai'r siartrau hyn hawl i'r trigolion

(a) brynu tir yn Lloegr a'r trefi Seisnig yng Nghymru;
(b) i ddal swyddi Siryf, Maer, Cwnstabl, Beili, etc.;
(c) i etifeddu tir yn ôl y dull Seisnig, yn lle rhannu fel cynt;
(ch) eu rhyddhau oddi wrth bob dreth ormes.

Mân gymwynasau, yn ddiau. Ond drwy'r rhain fe ddenodd galon y Cymry, a'u clymu wrth ei orsedd. A chawn hyd yn oed waith Tudur Aled yn llawn o'r awgrym y dylai uchelwyr Cymru fod, yn ei eiriau ef, "yn blaid i'r Goron," ac anturio "yn rhaid Harri," a mynd i'w "iau" ef, a mynd i Loegr "i ennill gradd," a bod yn "gowrtiwr."

Erbyn marw Harri, gan hynny, yr oedd Cymru, yn feddyliol a seicolegol, wedi ei huno wrth Loegr. I raddau helaeth, ynteu, Brwydr Bosworth—oherwydd cam-ddeall ei hystyr gan y Cymry—a unodd Gymru wrth Loegr. Gorffen yr hyn a ddechreuasid a wnaeth Deddfau'r Uno.

9. Harri VIII yn newid polisi ei dad
(a) Dienyddio Rhys Gruffydd, 1531

I frysio. Wedi marw Harri'r Seithfed, fe barhaodd Syr Rhys ap Tomas i lywodraethu Cymru am bymtheng mlynedd arall—hyd ei angau yntau yn 1525. Yn awr, am y tro cyntaf er Bosworth, y daw'r sefyllfa'n eglur. Yn awr y dad-dwyllir y Cymry, ac y tynnir y cen oddi ar eu llygaid. Yn awr y daw bwriad y Tuduriaid yn amlwg. Gydag un ergyd try Harri'r Wythfed oddi wrth draddodiad ei dad. Yn lle penodi Rhys Gruffydd—ŵyr Syr Rhys ap Tomas—i awdurdod Syr Rhys, apwyntia ddieithr ddyn, yr Arglwydd Ferrers, i gymryd ei le. A phum mlynedd yn ddiweddarach, cymer afael yn Rhys Gruffydd, yng Nghaerfyrddin yma, a'i daflu i garchar. Wedi ei gadw yno'n ddigon hir, a mingamu tystiolaeth yn ei erbyn, a gadael i "broses y gyfraith gerdded arno ef," chwedl yr Hanesydd Elis Gruffydd, torrwyd ei ben "ar y bryn gerllaw y Tŵr" yn Llundain.

Y mae'n amlwg i ddienyddiad "Rhys Ifanc," fel y geilw Lewys Morgannwg ef, greu teimladau gwyllt a digus iawn yng Nghymru, a sonia un o lysgenhadon yr Ymherawdr am wrthryfel yma. A gwelir hyd yn oed gan Lewys Morgannwg—gŵr a ganmolai Harri'r Wythfed i'r cymylau—mor chwerw oedd y Cymry. "North Wales is entirely alienated from the King's allegiance" ydyw brawddeg Martin de Coronca. Dyma adlais arall o'r un cyffro yn y State Papers eto: And what think ye of Wales. Their noble and gentle Ap Ryce so cruelly put to death, and he innocent, as they say, in the cause."

Yn Lloegr, fel yng Nghymru, ni chredai neb fod Rhys Gruffydd yn euog o frad; ac y mae hyd yn oed Elis Gruffydd yn cyfaddef na fedrodd yntau "glywed pa ra frad yr oedd ef wedi amcanu i wneuthud." Ond, ym meddwl miniog a chreulon Harri'r Wythfed, yr oedd amcan i'r peth, fel y deëllir oddi wrth yr ymadrodd cywrain hwn gan Elis Gruffydd: "Yn yr amser y bwrid edliwiaeth fawr ohonaw ef ar ddannedd y Cymry, drwy erchi iddynt hwy edrych ar draeturiaid i gwlad yn hedeg ym mhenne y cigfrain yn amgylch y ddinas."

10. (b) Penodi Rowland Lee yn Llywydd, 1534

Dyna'r eglurhad diamheuol. Eisiau rhoddi gwers i'r Cymry oedd ar Harri, eisiau dangos ei ddannedd, eisiau eu dychrynu drwy gymryd gwaed y mwyaf bonheddig yn eu plith—a'u gadael yna yn ddiarweinydd erbyn dyfod y cam nesaf. A'r cam nesaf hwnnw ydoedd danfon yr Esgob Rowland Lee i ysgythru ei ffordd o waed drwy'r wlad—pathew o Esgob tew, blonegog, na bu erioed mewn pulpud, ond a oedd yn feistr godidog ar holl ddulliau cyfrwys, troellog, cignoeth y wleidyddiaeth Faciafelaidd newydd—"an earthly beast, a mole, and an enemy to all godly learning into the office of the damnation," fel y dywed cyfoeswr amdano. Dyma'r "pagan praff" a fu'n llywodraethu Cymru yn y cefndir tra'r oedd Harri a Chromwel yn Llundain yn llunio Deddfau'r Uno. Ac y mae Elis Gruffydd yn dywedyd "grogi ohonaw ef ynghwaneg i bum mil o wyr o fewn llai na chwe blynedd." Rhagymadrodd anhepgor a gweddus i'r Deddfau Uno. Ni fedrai'r meiru eu gwrthwynebu.

Gallwn deimlo, gan hynny, yr ias sydd yn y geiriau hyn gan Chapuys, llysgennad yr Ymherawdr: "As to the indisposition of the people of Wales," meddai. "I understand they are very angry . . . and it is said the people only wait for a chief to take the field." Disgwyl. . . am y marw.

11. Y Senedd a basiodd Ddeddfau 1536

Ar ôl bod yn hir grwydro, dyma ni bellach wedi cyrraedd at drothwy'r Senedd a basiodd y Deddfau Uno—y Senedd a ddaeth ynghyd yn 1529 ac a eisteddodd hyd 1536. Amdani hi y llefodd Syr Thomas More: "A Duw a ŵyr pa fath un ydoedd." Yr oedd, i bob pwrpas, wedi ei llenwi gan bigion Cromwell a Harri, â dynion a fyddai'n farw ufudd, neu'n llygoer wrthwynebus, i dderbyn eu polisi cwbl chwyldroadol hwy mewn byd ac eglwys.

Y mae un peth yn drawiadol dros ben. Y Senedd hon, y Senedd a ganiataodd i'r brenin Harri ysgar ei wraig gyntaf, y Senedd a rwyddhaodd y ffordd iddo ddileu'r holl Fynachlogydd gyda'i gilydd, a'i gyfenwi ei hun "Pen Eglwys d' Ynys" fel y dywed Lewys Morgannwg—y Senedd a ddatododd Undeb Cred am y tro cyntaf erioed, ac a ddatgymalodd unoliaeth mil a hanner o flynyddoedd rhwng gwledydd cred—dyna'r Senedd a basiodd y Ddeddf Uno gyntaf, ac wedi datod y rhwymyn a glymai Gymru'n foddog a Christnogol wrth wareiddiad y Gorllewin, a'i rhwymodd hi â rhaff haearn wrth y wlad annhebycaf iddi o'r cwbl oll.

Fe wyddom, bellach, pam na wrthwynebodd Cymru ddim, a pham na wrthryfelodd. Ni fedrai. Yr un pryd, rhaid pwysleisio nad o'i bodd y llyncwyd hi, mwy na Jonah. Gwneir hynny'n berffaith amlwg yn llythyrau Chapuys i'r Ymherawdr. Yn 1534, ddwy flynedd cyn pasio'r Ddeddf Uno gyntaf, pasiwyd nifer o gyfreithiau i ddial ar y Cymry am herwa ar Saeson ym Marsdir Lloegr, a dwyn oddi arnynt aml arfer henllwyd, megis cymortha ac arddel. Yn union wedyn, cawn Chapuys yn ysgrifennu fel hyn: "The distress of the people is incredible... especially the Welsh, from whom, by Act of Parliament, the King has just taken away their native laws, customs and privileges, which is the very thing they can endure least patiently."

Ac yn awr, craffwch:

Ym mis Gorffennaf y flwyddyn ddilynol—1535— edrydd ef eto "fod mil neu ddwy o filwyr i'w danfon i Ororau Cymru" rhag ofn gwrthryfel yno. yr un mis yn union dengys llythyr gan Rowland Lee fod y brenin ei hun ar ororau Cymru. Paham yr oedd yno sydd bwnc arall, ond yno yr arhosodd hyd ganol mis Awst o leiaf, fel y gwelir oddi wrth lythyr gan Chapuys unwaith eto. Ac nid ofna ef roddi eglurhad. Dyma a ddywed: "Y mae'r brenin o hyd ar gyffiniau Cymru, yn hela ac yn ymweled a'r Dywysogaeth honno, gyda'r amcan o ennill poblogrwydd gyda'i ddeiliaid."

Ar ddechrau'r flwyddyn 1536, ychydig bach cyn cyflwyno'r Ddeddf Uno gyntaf, y mae llythyr yn cyrraedd at Gromwell o Sir Benfro. John Barlow a'i ysgrifennodd, brawd i'r Esgob Barlow bondigrybwyll a ddaeth yno'n union deg wedyn. Yn ei lythyr dywed Barlow wrth Gromwell i rai o wŷr bonheddig y Sir "gynorthwyo'r gwrthryfel diweddar yn Iwerddon, ac nad oedd ofn arnynt ddywedyd yn agored y gobeithient weled cyfnewid y drefn ddieithr oedd y brenin newydd ei sefydlu" mewn byd ac eglwys. Gwyddai Chapuys, yntau, am gyd-ymdeimlad Cymru ag Iwerddon, a sonia am Gymru y tro hwn fel "y wlad gryfaf yn Lloegr," ymadrodd pur awgrymiadol, er mor llawn o ormodiaith.

12. Deddf yn rhoddi Ustusiaid i Gymru

Wele ni o'r diwedd ar gyrraedd pen ein taith.

Cyn cyflwyno'r Ddeddf Uno i Senedd Loegr, pasiwyd un ddeddf arall bwysig iawn i newid pethau yng Nghymru, honno a elwir An Act for making of Justices of Peace in Wales. Gwnaeth y Prifathro J. F. Rees gamgymeriad yn ei lyfryn bychan ef, Tudor Policy in Wales, wrth osod hon yn y flwyddyn 1535, a'r Ddeddf Uno yn y flwyddyn ganlynol. Mewn gwirionedd, perthyn i'r un Sesiwn y mae'r naill a'r llall, ac i'r un flwyddyn, 1536, yn ôl ein Calendr diwygiedig ni.

Yr hyn a wna'r ddeddf hon ydyw penodi Ustusiaid Heddwch am y tro cyntaf erioed yn y Siroedd oedd eisoes yn bod yng Nghymru, gan roddi iddynt yr unrhyw awdurdod ag a feddai Ustusiaid Heddwch Lloegr ers canrifoedd. Ystyr hyn ydyw bod y Siroedd Cymreig bellach yn dyfod ar unwaith i gydymffurfio'n llwyr â Siroedd Lloegr; a bod gweinyddiad llywodraeth leol yn myned i ddwylo'r dosbarth bonheddig o Gymry a arhosai gartref yn eu gwlad eu hunain. Cam peryglus iawn ydoedd hwn, oblegid golygai

1. ddenu a chyflogi yr uchelwyr Cymreig, arweinwyr traddodiadol a naturiol y genedl, i wasnaethu sistem wleidyddol Lloegr; ac er mwyn llwyddo golygai hefyd
2. lunio'r boneddigion Cymreig ar yr un patrwm â'r rhai Seisnig, a'u dysgu i adael eu glyniad Cymreig wrth "fonedd" a'i gyfrifoldeb, ac i ymroddi i gyfoeth a meddiannu tir. Mewn gair, dinistrio'r uchelwyr fel dosbarth, a'u troi'n landlordiaid Seisnig.

13. Yna, y Ddeddf Uno

Yr oedd y tir yn barod i'r Ddeddf Uno. Dodi Ustusiaid Heddwch yn y Siroedd ydoedd y cam cyntaf i gyfeiriad unoliaeth ac undeb rhwng y ddwy wlad. Ar ôl dechrau yn y Siroedd, a chwblhau gwaith Edward I yno, nid oedd aros i fod heb ymdrin â'r parthau eraill o'r wlad, a chyhoeddi'r cwbl oll yn gyfan-gysylltiedig wrth Loegr. Dyna a wnaeth y Deddfau Uno, 1536 a 1542, a greodd yn fuan chwyldro gwirioneddol hyd yn oed ym meddwl beirdd. Er enghraifft: cyn hynny dymunent weled uno Cymru a Lloegr, fel y gwelwyd, yn "un iaith" neu'n un genedl, ond gyda'r Cymry a'u hiaith yn ben. Wedi hynny saif y ddelfryd o undeb o hyd, ond gyda'r gwahaniaeth ofnadwy y cydnabyddir bellach Saeson a Saesneg yn ben. Yr enghraifft gyntaf a wn i o hynny ydyw cywydd Gruffydd Hiraethog i Wiliam Salesbury, lle yr enwir y "pumiaith union" a wyddai Salesbury, ac yr ychwanegir hyn:

A'r iaith sydd i'r ynys hon.

Ac y mae'n amlwg fel y dydd mai Saesneg ydyw honno, canys enwir y Gymraeg ymysg y pump arall. Dyna feddwl y caethwas, a ymddigrifa yn ei gaethiwed, wedi cyrraedd am y tro cyntaf i Gymru.

DEDDF UNO, 1536

1. Senedd 1536

CHWEFROR 4ydd, 1536, cyfarfu Senedd Lloegr am dymor newydd yn Westminster, ac ymhen ychydig amser pasio deddf a honnai "ymgorffori, uno, a chysylltu" "tywysogaeth, talaith a dominiwn" Cymru am byth,—mewn geiriau eraill, diddymu Cymru fel pe na buasai erioed, yn union fel yr honna'r Eidal iddi ddiddymu Abysinia. Pe gallai datgan noeth ddiddymu gwledydd, diflanasai Cymru oddiar dudalennau Hanes Tachwedd 1af, 1536, gan i'r Ddeddf ddod i rym ar Wyl y Saint y flwyddyn honno. Llwyddodd y ddeddf, beth bynnag, i rwbio allan enw Cymru oddiar fap Ewrop. Peth amheuthun iawn yw cwrdd ag Ewropead heddiw a glywodd am Gymru. Os bu iddo glywed, tyb nad yw namyn enw ar ranbarth fynyddig o Loegr. Mwy amheuthun fyth cwrdd â neb o'r cyfandir a ŵyr ein bod yn siarad iaith briod i ni ein hunain. Cwyd yr anwybodaeth ddeublyg hon, nid o ddiffyg hyfforddiant ar ran yr estron dwl, ys tyb cymaint o Gymry; effaith uniongyrchol Deddf Uno 1536 ydyw.

Bid a fo am hynny, nid fy ngwaith i yma yw disgrifio effeithiau'r hyn a alwn yn Ddeddf Uno. Y mae eraill a wna hynny. Fy nyletswydd i yw disgrifio, mor ofalus ag y gallaf, y ddeddf ei hun, ac effeithiau ei deuddeg-ar-hugain o ddosrannau. Yng nghwrs hynny, fodd bynnag, bydd yn rhaid imi ddisgrifio'r amcan y tu ôl i'r Ddeddf, a pha fodd y daethpwyd i amgyffred amdani.

Ac yn gyntaf dim, ychydig o eiriau am y Senedd oedd yn gyfrifol am y Ddeddf. Cydnebydd hyd yn oed yr haneswyr hynny y mae i Harri'r VIII le cynnes yn eu calon, mai Senedd wedi ei "fframio" ydoedd, a chasgliad o "weision a chynffonwyr ffals" oedd disgrifiad eu cyfoed amdanynt. Y mae ar gof a chadw i'r brenin ei hun apwyntio'r aelodau dros Nottingham, Derby, Bedford, Buckingham a Hampshire, ac i bob gwŷs gael ei gyrru gyda llythyr preifat oddiwrth un o Gyngor Cyfrin y brenin yn rhoi cyfarwyddyd pwy i'w ethol.

2. Y Ddeddf yn Ddi-alw amdani

Cyhoeddwyd y gwysion yn galw'r Senedd yma ar Awst 9, 1529, ryw ddeufis ar ôl gwysio Harri i Rufain i ateb am ei ymddygiad ynglŷn â'i ysgariad â Chathrin o Aragon. At Wolsey dlawd y troes Harri anterth ei lid oherwydd i'w wraig ymbil â'r Pab, a phenderfynasai fynnu'r ysgariad, beth bynnag y draul, hyd yn oed pe golygai ddileu awdurdod y Pab yn Lloegr. Buasai'n caru'n anghyfreithlon âg Ann Boleyn am dair blynedd yn barod, yn union fel y buasai â'i chwaer, Mary Boleyn, chwe blynedd cyn hynny. Y gwahaniaeth rhwng ei berthynas âg Ann a'r lleill a'i rhagflaenasai fel gwrthrychau ei serch, oedd y dymunai i Ann fod yn fam i fab a allai etifeddu'r goron. Esiampl finiog o watwareg Hanes yw'r ffaith i'r greadures anffortunus, yn y flwyddyn y daeth y ddeddf i rym, esgor ar ferch, ac felly cafodd ei dienyddio. Ar yr un pryd, 'roedd Harri'n chwilio am ystrywiau newydd i wneud incwm, gan iddo fod yn afradu'n arswydus. 'Roedd awch mawr arno am arian, ac awch mawr am wraig; a chan ei fod yn ddyn a arferasai gael a fynnai, a gwneud a fynnai ar hyd ei oes, 'roedd pethau braidd yn anghyfforddus. Fe gafodd ei arian ac fe gafodd ei wraig, ond bu'n euog o fwrdwr, amlwreiciaeth a lladrad cyn eu cael, ac wrth fynd ar drywydd yr amcan dyblyg yma, rhoes ddyrnod ddychrynllyd i Gymru, ac nid yw heddiw, ymhen pedwar can mlynedd, ond prin ddechrau ymadfer o'i heffeithiau. Datblygodd haneswyr Saesneg y bedwaredd ganrif ar bymtheg y ddamcaniaeth o deyrn tadol yn meddu ar alluoedd rhyfeddol,—dyn a allodd fforddio'r amser i ail-drefnu Cymru benbaladr er ei fod at ei wddwg yn helyntion mawr y deyrnas (ei brysurdeb mawr, er enghraifft, yn ceisio ysgariad â Chathrin cyn i Ann fynd yn feichiog ohono). Y mae'n berffaith glir bellach nad hynny mo'r gwir os astudiwn ddeddfau eraill ei deyrnasiad y mae a wnelont â Chymru ac a basiwyd cyn 1536: ac fe gawn weld ymhellach ymlaen, o ddadansoddi Deddf 1536 ei hun, na weithiwyd hi allan o gwbl yn ofalus ymlaen llaw, bod yr iaith yn ddifrifol aflêr, ac ymhell o fod yn ddarn o ddeddfwriaeth dadol, mai cynnyrch ofn ydoedd ar ran dynion nad oeddynt gymwys i ddelio â thynged gwlad arall. Ymdrin deddfau Harri, cyn 1536, â gwahanol welliannau yng Nghymru yr oedd angen mawr a diamheuol amdanynt, fel y gwelliannau ynglŷn â deddfau anghyfiawn y coedwigoedd, a deddf bwysig 1534 a amcanai glirio i fyny'r anhrefn ymhlith Arglwyddi'r Gororau. Nid oes arwydd o gwbl yn y deddfau cynarach hyn, nad oedd Cymru'n barod yn gwbl gaeth i awdurdod y brenin a'i senedd yn Sant Steffan. Ni welwn unrhyw awgrym yn unman am unrhyw angen cyfreithiol i basio deddf 1536. Cymerai Llywodraeth Loegr ei hawl i basio deddfau dros Gymru yn ganiataol, ac yn wir fe'i cymerasai yn ddifwlch er 1284. Ac ymhellach, cyfeiria'r ddeddf a basiwyd gan 1536 ynglŷn âg ymestyn cyfundrefn yr Ynadon Heddwch i gynnwys Cymru, at ein gwlad ni fel "rhan o'r deyrnas hon." A pham lai? Cyhoeddasai Edward gysylltu Cymru â Lloegr yn ddifloesgni yn 1284.

Gwrandewch ar eiriau agoriadol y "Statute of Wales" ys gelwid hi:

"Edward, by the grace of God, King of England, Lord of Ireland, and Duke of Aquitaine, to all his subjects of his land of Snowdon and of others his lands in Wales, greeting in the Lord. The divine providence, which is unerring in its own government, among other gifts of dispensation, wherewith it has vouchsafed to distinguish Us and Our realm of England, hath now of its favours, wholly and entirely transferred under Our proper dominion, the land of Wales with its inhabitants, heretofore subject unto Us in feudal right, all obstacles whatsoever ceasing, and hath annexed and united the same unto the Crown of the aforesaid realm as a member of the same body."

3. Anawsterau Harri VIII

Gwelir felly y gwnaethpwyd y cwbl oedd yn angenrheidiol yn 1284, a hynny unwaith ac am byth. Pam felly na adawyd i Gymru ar ôl 1536 barhau ymlaen fel yr Alban? Gallasai Cymru warchod ei nodweddion arbennig a'i chyfundrefn gyfreithiol ei hun er gwaetha'r ffaith y tynnid hi i mewn yn naturiol i gylch Lloegr oedd yn fwy ei maint a'i phoblogaeth, ac yn ychwanegol at hynny, gallasai warchod yr hyn na feddodd yr Alban erioed,—ei hiaith ei hun, a siaredid gan ei phobl. Ni chaniatawyd hynny iddi am reswm syml. Fel canlyniad i'r nwyd am Ann a'i nwyd am arian, 'roedd Harri wedi mabwysiadu polisi yr wfftiai'r Saeson eu hunain ato, a bu'n achos gwrthryfeloedd enbyd iawn yn ei wlad ei hun. Fel mater o ffaith, torrodd gwrthryfela gwyllt allan drwy swydd Lincoln a Swydd Efrog ym mlwyddyn pasio'r ddeddf. Unben yn unig a allai gario allan gynllun Pabaeth newydd, a wnai frenin Lloegr yn awdurdod diamod ar Eglwys Seisnig. Ond rhaid i bob unbennaeth wrth ddeiliaid unffurf. Rhaid bod un pennaeth, un "Duce," un "Fuhrer," ac, yn gweithio i alwad y pennaeth hwnnw, un fyddin gref o ysgrifenyddion, clercod, a gweision, y cwbl yn dibynnu ar y pennaeth, i gyd o darddiad amwys, a'r cwbl wedi eu cysegru i'w achos ef. Gwelwn yr un nodweddion dro ar ôl tro mewn Hanes,—yn yr Eidal yn amser Augustus fel yn amser Mwsolini. Pan ddelo'r angen, cwyd y llechgwn fel pe o'r ddaear. Pan fu i Harri chwiban arnynt wedi cwymp Wolsey, yr oedd Thomas Cromwell, Rowland Lee, a'r gweddill ohonynt i gyd yn barod i ateb i'w alwad. Dynion abl, gweithgar, diegwyddor, heb amgyffred pethau mwyaf bywyd, ond yn barod i wario eu hamser a'u bywydau hyd yn oed er mwyn eu heilun a'u harweinydd—yma yn 1529 yr ydym wyneb yn wyneb â sylfaenwyr Gwasanaeth Sifil Lloegr, gelynion digymrodedd Cymru a'r iaith Gymraeg. Os ydym Saeson neu Gymry wedi ein Seisnigeiddio, fe alwn hil ysbrydol Cromwell yn "wasanaethyddion ffyddlona'r wladwriaeth."

4. Pennaf Rhwystr-Cymru

Yr oedd Senedd Lloegr a eisteddasai gyntaf yn 1529 wedi dwyn i fod lu o ddeddfau dinistriol yn erbyn yr Eglwys cyn 1536; neu, i fod yn fanwl gywir, yr oedd Whitehall wedi paratoi a'r Senedd yn wasaidd wedi pasio, rhestr o reolau a wnâi Harri yn unben hollalluog ar bopeth a berthynai i'r Eglwys, ac eisoes dechreuasid lladrata eiddo'r eglwys i lenwi pwrs y brenin. 'Roedd Fisher a Thomas More wedi eu mwrdro'n barod, neu ys dywed rhai yn awr wedi eu merthyru. Yr ydych yn gofyn—Beth sydd a wnelo hyn oll â Chymru? Y gwir oedd bod Cymru'n codi iasau ar y gweision ffyddlon yma. Pan ymosododd Harri o Lancaster ar frenin cyfreithlon Lloegr, i Gymru y troisai Rhisiart am swcwr. O Gymru y daethai'r gwrth—ymosodiad ym mherson Owain Glyndŵr. Ac eto, pan gydiodd Rhisiart III yn yr afwynau yn anghyfiawn, o Gymru drachefn y daeth y gwrthymosodiad ym mherson Harri Tudur. Dim rhagor o ymosodiadau o'r hen ferbwll peryglus yma! Os oedd y Pab am ymosod ar Harri, doedd wiw gadael siawns mwstwr yng Nghymru na'r Gororau. Felly, rhaid dileu Cymru a'r Gororau fel pe na buasent erioed. Dyna sut y daeth Deddf 1536 yn rhan o ddeddfwriaeth y Senedd hon, a dyna pam y pasiwyd hi y flwyddyn y gwnawd. Fe'i pasiwyd i gwrdd ag ofn y Gwasanaeth Sifil ifanc, diasgwrn-cefn. Teg dweud nad diachos yr ofn hwnnw, gan y dywed Strype yr hynafiaethydd yn ei gofiant bod y Cymry, er a wnaethai Harri'r VIII yn erbyn gallu'r Pab, ar ddiwedd y cyfnod Tuduraidd o hyd yn hoff eithriadol o'u seintiau eu hunain. Aethai rhai ohonynt mor bell â chyhoeddi'r un maddeuant a breintiau a roddwyd gan y Pab gynt i'w hoff bleidwyr.

5. Y Ddeddf yn waith y Gwasanaeth Sifil

Na foed unrhyw gamddealltwriaeth parthed y cyfrifoldeb am y Ddeddf. Nid pobl Lloegr fel cyfangorff oedd yn gyfrifol amdani. Nid deddf ydoedd i'r un Sais gymryd dim diddordeb ynddi, ac eithrio trigolion y Gororau. Gwaith y Gwasanaeth Sifil ydoedd. Ni chymerai'r Tŷ Cyffredin Seisnig ddiddordeb ynddi chwaith. Nid rhyfedd hyn, canys nid oedd hwnnw wedi'r cwbl ond delw i Reichstag Hitler, ei aelodau yn saliwtio, dweud "ie," saliwtio, ac ymdeithio allan drachefn. Nid oes bosibl bod y casgliad yma o "weision a chynffonwyr ffals" wedi rhoi eiliad o ystyriaeth ofalus i'r braslun o'r ddeddf a baratowyd yn Whitehall. Ond nid yw senedd wedi ei "framio" hyd yn oed yn ddigon i egluro'r ffaith i'r Ddeddf Uno yma, ys teitlwyd hi, gael ei phasio heb yr un siffrwd. Yr oedd digon o amser rhwng Chwefror a Thachwedd i Gymru a'r Gororau fynd yn ferw, ond ni bu berw.

6. Cymru'n Wasaidd a heb Arweinydd

Dylai deddfau mor anghyffredin â hon achosi stŵr yn y wlad sydd i deimlo oddi wrthi, ac ni achosodd hon stŵr o gwbl. Sut mae egluro hyn? Mae'r eglurhad yn anhyfryd. Yn y dyddiau hynny, cyn geni democratiaeth, ni ellid codi stŵr yng Nghymru onid oedd arweinydd i fod yn ben arno. Yn 1536 nid oedd arweinwyr. Yr oedd y tirfeddianwyr Cymreig eisiau lle i roi het ar yr hoel iddynt eu hunain, ac eisiau dyfodol i'w meibion. Er bod 250 o flynyddoedd er deddf Edward I, estroniaid oeddynt o hyd yn Llundain, a chwarae teg i'r trueiniaid bach, nid oeddynt yn hoffi hynny. Yr oeddynt fel Cymry'r 19 ganrif, a ddeuai i Lundain i werthu llaeth a brethyn ac a gymerai arnynt fod wedi anghofio ers talwm sut i siarad eu mamiaith. Chwarddai Saeson cyfnod y Tuduriaid yn rhadlon am ben eu hacen (oni welwn hyn yn Shakespeare?), ac o ganlyniad yr oedd yr hen Gymry yma ar dân eisiau troi'n Saeson. Dysgasai 250 o flynyddoedd o gaethiwed hwy i anghofio mai'r ffordd i dalu'n ôl oedd aros yn Gymreig a chwerthin yr un mor rhadlon am ben y Saeson, a hefyd am eu pennau eu hunain. Dyna wnaeth yr Albanwr bob amser. Heb help y dynion yma, ni buasai llygedyn o lwyddiant yn aros Deddf 1536; ond yn union fel y bu i'w cyndadau drwy gweryla'n ddibaid adael i'r Normaniaid oresgyn Cymru, felly'n union y bu iddynt hwythau yn awr ddygymod â dinistr eu gwlad yn eu bychander slafaidd. Disgynyddion y rhain eto oedd i fod yn ben dynion dri chan mlynedd yn ddiweddarach ar y gwaith o ddiwreiddio gweddill olaf bywyd annibynnol yng Nghymru, pan ddilewyd y "Great Session" yng Nghymru yn 1830. Ai rhyfedd i ail-ddeffro'n gwlad ddyfod o chwareli Arfon, o bulpudau, o ysgolion Cymru? Ai rhyfedd mai plaid yn credu mewn tyddyn bychan, mewn ffermwyr bychain, ac mewn cydweithrediad ymhob diwydiant, ydym?

7. Rhagair y Ddeddf ei Hun

Yn awr, y mae'n hen bryd troi at eiriad y ddeddf ei hun. Mae'r rhagdraeth yn rhy rodresgar i fod yn wir, ac ni cheir ynddo'r cymhleth hwnnw o urddas pendefigaidd a'r gostyngeiddrwydd yn wyneb Rhagluniaeth a geir yn y rhagdraeth i'r Statute of Wales. Dyma fo:

"Albeit the dominion, principality and country of Wales justly and righteously is, and ever hath been, incorporated, annexed, united and subject to and under the Imperial Crown of this realm, as a very member and joint of the same, whereof the King's most royal majesty of mere droit and very right is very Head, King, Lord and Ruler."

Tuedda dyn wrth basio i bendroni uwchben yr anghysondeb a'r oferedd o gysylltu drachefn yr hyn a gysylltwyd eisoes. Deliaf â'r mater yna yn nes ymlaen. A'r rhagair ymlaen:

"Yet notwithstanding because that in the same country, principality and dominion divers rights, usages, laws and customs be far discrepant from the laws and customs of this realm and also because that the people of the same dominion have and do daily use a speech nothing like, nor consonant to, the natural mother tongue used within this realm."

Anodd darllen cyn belled â hynyna heb i'r gwaed ferwi. Y mae rhywbeth mor bryfoclyd o hunangyfiawn a rhwysgfawr drwyddo i gyd, y rhyfeddod poenus bod dynion yn siarad arall iaith na Saesneg, a byw yn ôl cyfundrefn cyfraith oedd yn wahanol i gyfraith gyffredin Lloegr. Ni chlaeara rhywun wrth gofio mai dyna safbwynt Whitehall hyd yn oed heddiw. Nid amgen na thrasiedi yw'r ffaith bod ysbryd yr hen glercod deillion hynny o'r gorffennol wedi disgyn ar fwyafrif mawr y Saeson heddiw. Ni ellir osgoi'r ffaith bod Saeson yn gyffredinol heddiw yn edrych ar y Cymry fel pobl isradd, am eu bod yn siarad iaith arall na'r Saesneg, ac yn ddistaw bach fe syniant fod rhyw hen bengaledwch bychan, mulaidd, ynom am fod yr iaith yn cymryd cymaint o amser i drengi.

Yma, am y tro cyntaf yn hanes Lloegr, rhoddir mynegiant o ddiffyg amynedd y swyddog Seisnig hefo iaith arall sy'n meiddio ffynnu yn swyddogol yn yr ynysoedd yma, a'r hyn oedd ganmil ffolach yn ei olwg oedd fod yn rhaid iddo ef fedru'r ddwy os am wneud ei waith yn iawn. Pe na ddaethai'r ddeddf yma i rym, buasai Prydain heddiw'n swyddogol yn wlad ddwy-ieithog fel Belgium a'r Yswisdir. Rhoes y geiriau a ddarllenais Gymraeg ar lefel is am byth, ac ni chododd ohono eto. Yn ddyfal a dygn gweithiodd Gwasanaeth Sifil Lloegr i geisio lladd yr iaith, ac aiff ymlaen gyda'r un dycnwch didroi'n-ôl oni chodir hi i dir swyddogol unwaith eto. A'r rhagair ymlaen, ar ôl datgan yn y geiriau a ddarllenais bod cyfreithiau ac iaith Cymru'n wahanol i Loegr: "Some rude and ignorant people have made distinction and diversity between the King's subjects of this realm and his subjects of the said dominion and principality of Wales, whereby great discord, variance, debate, division, murmur and sedition hath grown between his said subjects." Dyna frawddeg amwys ryfeddol. O'r dydd hwnnw hyd yn awr, nid oes neb wedi medru dirnad pwy oedd y "rude and ignorant people" y cyfeirir atynt. Un ffordd o'i esbonio ydyw mai'r Saeson eu hunain oedd y bobl ddigywilydd ac anwybodus hyn a boenai gymaint ar y bonedd Cymreig drwy eu trin fel estroniaid isradd. Ffordd arall yw edrych arno fel dull cwmpasog o ddweud na allai dwy genedl yn siarad iaith wahanol a chyda chyfundrefn gyfraith wahanol, ddim byw ochr-yn-ochr mewn heddwch dan yr un brenin. Yn bersonol, credaf mai lol bostfawr oedd wedi ei ddyfeisio gan Cromwell a'i glercod i gyfiawnhau'r gwaith anfad sydd yn y Ddeddf, oedd yn fwriadol am ddifodi'r iaith Gymraeg unwaith ac am byth. Nid cas at yr iaith ei hun wrth gwrs oedd y tu ôl i hyn, ond gorawydd dall y Gwas Sifil i gael ei beiriant i weithio mor esmwyth ag yr oedd modd. Y peth diwetha a fyn Gwas Sifil ei wneud yw delio â bodau dynol. Y math hwnnw o ddeall na all ddisgleirio ond wrth ymdrin â phrint moel yw'r eiddo ef.

"His highness, therefore, of a singular Zeal, Love and Favour that he beareth towards his subjects of his said Dominion of Wales, minding and intending to reduce them to the perfect Order Notice and Knowledge of his Laws of this his Realm, and utterly to extirp all and singular the sinister Usages and Customs differing from the same, and to bring the said Subjects of this his Realm, and of his said Dominion of Wales, to an amicable concord and unity, hath by the deliberate Advice Consent and Agreement of the Lords Spiritual and Temporal and the Commons in this present Parliament assembled and by the Authority of the same, ordained, enacted and established, . . ." Ni chredaf fod a wnelo'i Fawrhydi fawr â'r peth. Gwaith clercod, mae'n amlwg, oedd y rhagair. Nid oes dim i ddangos bod Harri wedi cymryd y diddordeb lleiaf yn y wlad a roisai ei dad ar yr orsedd. Cymerai Elisabeth ei ferch fwy o ddiddordeb o lawer. Bid a fo, dywedir i'w Fawrhydi goledd cariad, rhadlonrwydd, a ffafr anghyffredin at y Cymry, ac yn ddilys, ffordd ryfedd a gymerth y cariad, rhadlonrwydd a'r ffafr yma o'i ddangos ei hun. Fe'i mynegir â dymuniad i ddileu'r holl arferion a chyfundrefnau a wahaniaethai oddiwrth eiddo Lloegr. Yr oedd y ffaith foel eu bod yn wahanol yn ddigon i'w gwneud yn ysgeler. A fu rywdro gliriach esiampl o anwadalwch y meddwl swyddogol? Yn ôl cyfraith gwlad, yn Lloegr, cydnabyddid er cyn co' y dylid derbyn unrhyw arferiad y gwyddid ei ffynnu mewn gwlad, i gyfraith y wlad honno fel rhan briod o fywyd ei phobl. Mewn gwirionedd, nifer o farnwyr Ffrengig athrylithgar a aeth o gylch y wlad yn nheyrnasiad Harri II, gan gasglu arferion a defodau a'u toddi i'w gilydd i'w harfer drwy'r wlad benbwygilydd, a osododd garreg sylfaen yr hyn a alwn ni'n Gyfraith Gwlad yn Lloegr. Ac eto yma, ag un ddyrnod megis, amddifadir ein cenedl adfydus ni o'i chyfundrefn gyfraith leol a atebai orau o bob un i'w hangenion arbennig hi yn ôl barn cyfreithwyr Seisnig. Odid na wna i'r saint dyngu.

8. Yr Adran Gyntaf—Troi Cymro'n Sais

Yn awr, deuwn i'r Adran Gyntaf:

"That his said Country or Dominion of Wales shall be, stand and continue for ever from henceforth incorporated, united and annexed to and with this his Realm of England; and that all and singular Persons and Persons, born or to be born in the said Principality, Country or Dominion of Wales, shall have, enjoy and inherit all and singular Freedoms, Liberties, Rights, Privileges and Laws within this his Realm, and other the King's Dominions, as other the King's subjects naturally born the same have, enjoy and inherit."

Y mae dau beth i sylwi arnynt yma.

Yn gyntaf, cysylltesid Cymru'n barod â Choron Lloegr, ac ar yr olwg gyntaf 'roedd y ddeddf newydd yma'n afreidiol. Ond os rhoi'r sylw manwl i'r ddwy ddeddf, y mae'n berffaith glir mai ei gwir amcan oedd difodi safle'r Cymry am byth, fel na bai mwyach Gymro—dim ond Sais. Mewn geiriau eraill, nid oedd Gymro mwy, ond Cymro Seisnig. Gallai ei alw ei hun yn Gymro, fel y geilw brodor o Lydaw ei hun yn Llydawr, a gŵyr y rhai hynny ohonoch sy'n gyfarwydd â llyfrau Mr. Bebb fel y dywed y Llydawr cyffredin, "Ie, Llydawr wyf, ond Ffrancwr hefyd." Prun bynnag, methu'n ei hamcan a wnaeth y frawddeg yna. Ni chwrddais eto â Chymro, pa mor slafaidd ac esgymun bynnag ei gyflwr, yn barod i'w alw ei hun yn Sais mewn unrhyw ystyr.

Yr ail bwynt yw na ddywedir dim am ddyletswyddau. Caiff y Cymry ryddid, hawliau, breintiau a deddfau y Saeson, ond ni chânt lyffethair na baich dyletswydd. Y syniad yw ei bod yn ddyrchafiad i droi'n Sais, ac nid yw dyletswyddau'n werth sôn amdanynt â'r un gwynt â gogoniant myned ymlaen yn y byd. O'r rhan yma y tarddodd yr athrawiaeth lwgr a bery mewn bri hyd heddiw, bod y Cymry'n cael y fraint o droi mewn byd mwy bonheddig o lawer wrth droi'n grach-Saeson mewn byd mawr, eang, a adawodd bob bychander o'i ôl. Hen syniad twp, ond fe gred naw Cymro allan o bob deg ynddo heddiw. Tybed a syniai Daniad heddiw ei fod yn mynd ymlaen yn y byd o adael iddo droi'n Almaenwr?

9. Dileu'r Gyfundrefn Dir Gymreig

Yna a'r adran ymlaen i ddarnio cyfundrefn dal tir yng Nghymru i gyd yn ulw. Cyhoedda un frawddeg ysgubol yr etifeddir bellach yn ôl cyfraith Lloegr. Mewn geiriau eraill, chwalwyd pob gobaith o weld Cymru'n gartref poblogaeth amaethyddol wedn, gref. Ni rennir tir mwy ymysg y meibion; ar farw diewyllys, y mab hynaf yn unig sy'n etifeddu. 'Roedd dau amcan y tu ôl i hyn,—yn gyntaf, awch gwyllt y Gweision Sifil am undonedd, ac yn ail, uchelgais hunanol y bonedd Cymreig am ystadau mawr. Yn rhyfedd iawn, gwnawd yr adran yma'n ddirym gan yr wythfed adran ar hugain yn yr un Statud,—esiampl wych eto o athrylith arbennig y Sais yn gwneud potes a'i alw'n gyfaddawd. Dywed Adran 28:

"Provided always, That Lands, Tenements and Hereditaments lying in the said Country and Dominion of Wales, which have been used Time out of Mind, by the laudable Customs of the said Country, to be departed and departable among issues and Heirs Males, shall still so continue and be used in like Form, Fashion and Condition, as if this Act had never been had nor made; any thing in this Act to the contrary thereof notwithstanding." Yr oedd yr adran yma felly'n cadw'r hen ddeddfau etifeddi Cymreig, ond, yn anffortunus, chwe blynedd ar ôl hynny, yn Neddf 1542, diddymwyd deddf briodol Cymru ynglŷn âg etifeddu am byth.

10. Arglwyddi'r Goror

Ymesyd yr ail adran ar Arglwyddi'r Gororau. Yr oedd yr Arglwyddiaethau mewn sefyllfa ryfedd iawn, o achos polisi'r brenhinoedd Normanaidd. Gallai unrhyw Norman a lwyddai i ddwyn tamaid o dir yng Nghymru, gymryd meddiant ohono fel teyrn bach, hanner-annibynnol. Felly, yn nhreigl amser, aethai darn eang o dir o'r Gogledd a'r De yn glytiau yma ac acw. Aethai llawer i grafangau'r Goron. Gwahaniaethai cyfraith, arferion, a threthi o'r naill arglwyddiaeth i'r llall, ac yr oedd hawliau hanner-tywysogaidd Arglwyddi'r Gororau yn gwneud y drwg yn waeth. Ond rhaid beio'r Gweision Sifil eto am y dull difeddwl a fabwysiadwyd i rannu'r arglwyddiaethau rhwng Cymru a Lloegr. Gallai rhywun feddwl y byddai graen o synnwyr cyffredin ac o ragofalu wedi datrys y broblem yn unol â thraddodiad Cymreig. Nid felly y bu. Dyma'r drefn yn ôl y braslun yn Adran yr Ail. 'R'oedd yr arglwyddiaethau oedd yn barod yng Nghymru i'w ffurfio'n siroedd o newydd,—Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, Trefaldwyn a Dinbych, siroedd nad oedd iddynt, yn herwydd eu maint a'u henwau, unrhyw fath o gysylltiad â thraddodiad Cymreig, ac eithrio o bosibl Brycheiniog. Am y gweddill, toddwyd rhan yn y siroedd Cymreig newydd yma, a rhan yn y siroedd Seisnig, Shropshire, Hereford a Gloucestershire. Yn ychwanegol, os oedd Arglwyddiaethau ynglŷn wrth siroedd Edward I, 'roeddynt i'w cysylltu â hwy. Felly, ffurfiwyd ein Morgannwg ni heddiw, a'n Caerfyrddin, ein Penfro, Abertifi, a'n Meirionnydd.

11. Y Siroedd

Carwn, wrth fynd heibio, apelio am annheyrngarwch effeithiol yn erbyn cyfundrefn Seisnig y siroedd yng Nghymru. Y mae fel hen anghenfil a lusgwyd yma, heb gartref o gwbl. Er hwyluso gwaith y Blaid, tebyg fod angen rhyw gynllun gweithio yn ôl cylchoedd sirol, pe na bai ond am fod yn rhaid synio am etholiad seneddol yn y cyswllt yma. Ond gadawer inni gofio ar yr un pryd mai rhith annelwig ydynt mewn gwirionedd. Mae hen arferiad draddodiadol ymlith Cymry Llundain o gael dadleuon ar rinweddau cymharol Arfon, dyweder, a Maldwyn. Nid oes sylwedd yn y fath ddadleuon. Mae nifer mawr y cymdeithasau sirol yn gwneud pethau'n waeth. Rhown ben ar y busnes sirol yma, a phen hefyd at Dde a Gogledd. Ymhle mae diwedd Gogledd a dechrau De? Bob tro y soniwn am Ogledd Cymru neu Dde Cymru, torrwn ein gwlad yn ddau hanner. Bob tro y syniwn am sir fel undod, fe'i torrwn i fyny'n ddarnau diytsyr. Y mae Gwynedd, a Dyfed hefyd. Ni bu Brycheiniog erioed ond ym mreuddwydion clerc, ac mor bell ag y gwelaf i, nid oes Gogledd Cymru ychwaith, ac eithrio er mwyn hwylustod y llythyrdy Seisnig.

A'r ail adran ymlaen i roi bod i Sir newydd Mynwy;—fel Sir Gymreig, er mai canlyniad y Statud i gyd yn y pen-draw, canlyniad na ragwelwd mae'n debyg, oedd gadael Mynwy ar y clwt, heb fod na Chymreig na Seisnig. Tua diwedd yr adran, enwir Mynwy fel prif dref y sir newydd, ond yr oedd y Llys Sirol i'w gynnal bob yn ail ym Mynwy a Chasnewydd. Erbyn hyn, wrth gwrs, aeth y Llys Sirol i ebargofiant, ond yr oedd o bwys mawr gynt.

Yr adran nesaf, y Drydedd, yw'r adran a ddatgysyllta Mynwy oddiwrth Gymru a'i gadael yn ei hunigrwydd i ddisgwyl pethau gwych i ddyfod,—disgwyl y mae o hyd. I geisio deall y safle, trown i'r Wythfed Adran. Dyma fel y darllen:

"Forasmuch as the counties and shires of Brecknock, Radnor, Montgomery and Denbigh be far distant from the City of London, where the laws of England be commonly used, ministered, exercised and executed, and for that the inhabitants of the said shires of Brecknock, Radnor, Montgomery and Denbigh be not of substance, power and ability to travel out of their counties to seek the administration of justice,"

Fe ymlaen i ddarparu ar gyfer canolfannau cyfreithiol yng Nghymru ei hun. Yr oedd Chancery Office ac Exchequer i fod yn Aberhonddu, ac un arall yn Ninbych, ac yr oedd pob Sirydd a swyddogion eraill y gyfraith yn y Siroedd newydd i ddod a'u cyfrifon a'u hadroddiadau i'r Swyddfeydd hyn, yn union fel y deuai pob sirydd a swyddog cyfraith Seisnig a'u cyfrifon a'u hadroddiadau i'r Swyddogion yn Westminster. Mewn geiriau eraill, rhyw ail Westminster ar raddfa lai oedd Aberhonddu a Dinbych.

Rhaid agor pob achos cyfreithiol â rhyw fath o ddogfen, gwŷs, neu rywbeth tebyg, yn cyfarch y diffynnydd, a'i hysbysu o'r hyn a hawlir yn ei erbyn. Gwelsai llwynogod Westminster ers talwm bosibiliadau dihysbydd y broses yma fel ffynhonnell incwm dihysbydd i'r Goron. Oni allai achwynydd yn unman agor achos heb wŷs, os oedd yn rhaid tynnu pob gwŷs allan yn Westminster, ac os oedd yn rhaid talu am gyhoeddi pob gwŷs, wel, dyna i chwi ffynhonnell incwm dragwyddol ffrwythlon wrth law.

12. Beth am Fynwy?

Dug y Drydedd adran o'r Ddeddf yma Fynwy, y sir newydd, i mewn i'r gyfundrefn yma o gyhoeddi gwysiau yn Westminster. 'Roedd hyn yn groes i'r rheol yn y siroedd newydd eraill. Yno, yn ôl yr Wythfed-adran-ar-hugain, gallai'r hawlydd dderbyn ei wŷs wedi ei stampio yn y Swyddfa leol. Bellach, 'roedd yn rhaid i'r sawl a âi i gyfraith ym Mynwy ddelio â Westminster. Ar y llaw arall, yr oedd Barnwyr o Lundain, a eisteddai ar y fainc frenhinol, i ddod yma ar eu cylchdaith fel yn Lloegr. Daeth Mynwy, felly, 'n rhan o'r hyn a elwir yn gylchdaith Rhydychen, ac felly y mae heddiw. Gryfed yw gallu'r Gyfraith yn Lloegr nes peri ysgaru Mynwy yn gyfangwbl â Chymru, yng ngolwg Saeson beth bynnag, drwy gyfrwng y frawddeg fach seml yna yn Adran y Drydedd.

Ar yr un pryd, rhaid sylwi na alwyd mo Mynwy yn bendant yn sir Seisnig. Ni ellid hynny ar un ystyr, gan y golygai Deddf 1536 nad oedd y fath beth â Sir Gymreig eto, os golygai rywbeth o gwbl. Cysylltu Cymru i gyd â Lloegr, a Mynwy yn y bwndel. Eto i gyd, yn nhreigl amser, daeth yn arfer cyfeirio at le a enwid "Cymru a Mynwy." Lol yw hyn, a lol anghyson. Un ai cysylltwyd Cymru â Lloegr yn ôl Deddf 1536, ac felly nid oes y fath le a Chymru mewn bod, neu y mae Cymru o hyd. Os yw, y mae'n llachar glir bod Mynwy'n rhan ohoni, ac wedi bod erioed. Ni allai'r ffaith bod trigolion Mynwy yn ystod cyfnod 1536-1830 yn wahanol i'r gweddill o Gymru, yn edrych ar Westminster fel canolfan eu cyfraith, wneud yr un iota o wahaniaeth i ddirwedd pethau. Yr unig sail posibl dros ddadlau bod Mynwy'n rhan o Loegr yw'r darn yma o'r adran:

"And all and every the King's Subjects and Inhabitants within the said County of Monmouth shall be for ever, from and after the said feast of All Saints, obliged and bounded to be obedient and attendant to the Lord Chancellor of England, the King's Justices, and other of the King's most Honourable Council, and unto all laws, customs, ordinances and statutes of this Realm of England in like manner, form and wise as all other the King's subjects within every shire of this Realm of England be obliged and bounden; any Act, Statute, usage, custom, liberty, privilege, or any other thing to the contrary in any wise notwithstanding."

Ond beth a olyga'r geiriau yma? Amcan cynta'r Ddeddf yma oedd diddymu Cymru fel gwlad ar ei phen ei hun. Yn nechrau cynta'r Ddeddf, rhoed ar ddeall bod y Cymry bellach i fyw fel Saeson, i ufuddhau i ddeddfau Lloegr. Nid oes werth na synnwyr felly mewn pwysleisio'r cyfan drosodd eto er mwyn Mynwy'n unig. Ofnaf ei bod yn draed moch arnynt yn y fan yma. Rhaid nad oedd gan y clerc oedd yn gyfrifol am Adran y Drydedd yr un syniad beth oedd yn ei wneud. Ei fwriad, mae'n amlwg, oedd toddi Mynwy yng nghyfundrefn cyfraith Westminster. Ni wyddys beth a olygai ragor na hynny. Heddiw, gall bechgyn Mynwy chwarae Rygbi dros Loegr neu Gymru yn ôl y bo eu mympwy,—dyma ganlyniad nodweddiadol meddyliau niwlog y trueiniaid clercod.

Dyry'r adran nesaf ffurfiau'r Siroedd newydd. Yn ôl adran y Bedwaredd, ffurfir Sir Frycheiniog ac Aberhonddu yn brif dref. Yn ôl y Bumed, Maesyfed, gyda New Radnor yn brif dre, a'r Llys Siriol i'w gynnal yno ac yn Rhaeadr bob yn ail. Yn ôl y Chweched Adran, ffurfir Maldwyn, a Threfaldwyn fel prif dre, a'r Llys Sirol ym Machynlleth a Threfaldwyn bob yn dwrn. Yn y Seithfed, Sir Ddinbych, a Dinbych a Wrecsam i rannu'r anrhydedd o gael y Llys Sirol.

13. Y Gyfundrefn Newydd

Ymdriniais â'r Wythfed Adran yn barod. Yn ôl hon, gwnawd Westminster lleol o Ddinbych a Threfaldwyn. Y mae diweddglo'r adran fodd bynnag yn ddiddorol. Dyma fel y darllen:

"And that justice shall be ministered, used, exercised and executed unto the King's Subjects and Inhabitants in every of the said shires of Brecknock, Radnor, Montgomery and Denbigh according to the laws and statutes of this Realm of England, and according to such other customs and laws now used in Wales aforesaid as the King our sovereign Lord and His Most Honourable Council shall allow and think expedient requisite and necessary by such justicer or justicers as shall be thereunto appointed by our said Sovereign Lord the King and after such form and fashion as justice is used and ministered to the King's subjects within the three shires of North Wales.". Nid Gogledd Cymru'r Llythyrdy, wrth gwrs, oedd Gogledd Cymru yn amser y Tuduriaid. Golygai'r tair sir, Arfon, Môn a Meirion, wedi eu ffurfio o dir Eryri, neu Wynedd, gan Edward. Yr oedd barnwyr wedi eu hapwyntio'n barod i weinyddu cyfraith yn y tair sir, ac yr oedd cyfundrefn cyfraith leol hyd yn oed yn datblygu erbyn hyn. Yr hyn sy'n gwneud y rhan yma o'r adran yn ddiddorol yw ei bod yn cydnabod y gyfraith leol yma a gweld ei chysylltiad â hen gyfraith gwlad yng Nghymru. Felly, y ffaith syml yw bod y proclamasiwn ysgubol yn Rhagair y Ddeddf, a gyhoeddai ddileu yr hen arferion Cymreig i gyd, wedi ei anghofio'n rhyfeddol o hwylus, ac yr oedd un rhan o Gymru, beth bynnag, i bob golwg, i gael gwarchod rhywbeth cydnaws â'i natur. Hyd yn oed os oedd raid torri Cymru i fyny'n ddarnau artiffisial a'u galw'n siroedd, yn sicr ddigon nid rhaid oedd ei beichio â chyfundrefn gyfraith estron. Cydnebydd yr adran yma mai teg gadael i'r bobl fyw yn ôl cyfraith gwlad yng Nghymru, neu eu harferion priod, a phe gadewsid i'r duedd yma ddatblygu'n naturiol, nid oes amheuaeth na fai gennym heddiw gyfundrefn gyfraith gyflawn wedi ei moldio i gyd-fynd â'n natur a'n nodweddion ni ein hunain, yr un fath â'r Albanwyr.

Ond yn anffortunus, arhosodd yr hen ragair melltithiol yna ar Lyfr y Gyfraith, yn dangos fod ym mwriad y Llywodraeth "utterly to extirp all and singular the sinister usages and customs differing from those of England." Dengys y Ddeddf yn glir bod dau duedd yn gweithio yma, un ddynol ac un annynol. Er gofid i Gymru, yr annynol a orfu.

Ychwanega adran y Nawfed rai o Arglwyddiaethau'r Gororau i Shropshire; a'r Ddegfed adran i Swydd Hereford; yr Un-ar-ddegfed rai i swydd Gloucester. Yna Adrannau Deuddegfed hyd yr Unfed-ar-bymtheg, a ychwanega ryw ddarnau yma ac acw at Forgannwg, Caerfyrddin, Penfro, Aberteifi a Meirion. Yma drachefn, daw'r annynol i'r golwg. A Môn, Arfon, Meirion, Brycheiniog, Maesyfed, Maldwyn a Dinbych yn cael glynu wrth gyfraith Gymreig, mae truain drigolion Morgannwg, Caerfyrddin, Penfro ac Aberteifi i ddilyn y Seisnig, "according to the laws, customs and statutes of this realm of England and after no Welsh laws." Ni welaf rith o synnwyr yn y rhannau yna; ac yn wir, dyryswch noeth ydyw, oherwydd, er y dywedir nad oes cyfraith Gymreig yn y pedair sir yma, eto dywed yn bendant ddigon fod cyfraith i'w gweinyddu "in such form and fashion as justice is ministered and used to the King's subjects within the three shires of North Wales." Ond ceidw trigolion y tair sir yma eu hawl i gyfraith leol Gymreig yn berffaith ddiamwys, ys gwelsom uchod,—felly, y mae'r adrannau i gyd yn gwrthddweud ei gilydd.

Y mae'n amlwg ddigon oddiwrth hyn, roddi'r ddeddf wrth ei gilydd rywsut, rywfodd. Mae'n amlwg, hefyd, nad pasio deddf er budd y Cymro'r oeddynt. Y gwir amcan, ys eglurais yn barod, oedd cael crafangau'r llywodraeth ganolog ar wlad a allai, yn ei rhyddid, achosi poen i'r unbennaeth newydd. Yr amcan, yn fyr, oedd gyrru Cymru i'r peiriant; os melid hi, wel, gresyn dros Gymru.

Yr adran ysgeler nesaf, adran yr eilfed-ar-bymtheg, ydyw'r prawf diamheuol o fwriad y Ddeddf. Rhaid i'r unbennaeth wrth unffurfiaeth. Rhaid ei gwneud yn bosibl i'r Gweision Sifil wybod am bopeth a ddigwyddai yng Nghymru, ac wrth gwrs osgoi'r drafferth i ddysgu'r iaith. Rhaid torri'r wlad i fyny yn ddarnau hwylus i weinyddu'r gyfraith ynddynt, a'u galw'n siroedd, ac ymhob sir rhaid wrth swyddogion i gadw llygaid ar bethau,—gwaedgwn Lloegr. Felly, wrth gwrs, rhaid canu cnul y Gymraeg fel iaith swyddogol. Ac felly y down i Adran yr Ail-arbymtheg:

14. Saesneg yn iaith Swyddogol

"Also be it enacted by the authority aforesaid, that all justices, Commissioners, sheriffs, coroners, escheators, stewards and their lieutenants, and all other officers and ministers of the law, shall proclaim and keep the sessions, courts, hundreds, leets, sheriffs' courts and all other courts in the English tongue; and all oaths of officers, juries and inquests, and all other affidavits, verdicts and wagers of law to be given and done in the English tongue; and also that from henceforth no person or persons that use the Welsh speech or language shall have or enjoy any manner office or fees within this realm of England, Wales or other the King's Dominion upon pain of forfeiting the same offices or fees, unless he or they use and exercise the English speech or language."

Dyma weithred ddeublyg,—rhaid gwneud popeth cyfreithiol a swyddogol yng Nghymru yn Saesneg, ac ni allai'r un Cymro uniaith ddal swydd yng Nghymru, nac yn unman arall o ran hynny. Ni raid ymhelaethu ar ganlyniadau damniol yr adran yma. Unwaith tueddid i gredu ddiddymu'r adran yma yn Neddf y Statute Law Revision. Cododd y camgymeriad yma o waith Cyngor Cyfreithwyr Seisnig yn ail-rifo adrannau'r Ddeddf. Cyhoeddasant hwy argraffiad diwygiedig o'r deddfau cynarach, a'r adrannau wedi eu hail-rifo, tua chanol y 19 ganrif. Yn yr hen argraffiad o'r Ddeddf, fel adran 20 yr ymddengys hon; yn yr un diwygiedig, adran 17 ydyw. Nid felly ysywaeth yr oedd. Mae Adran 17 o hyd mewn llawn rym ac effaith. O'r herwydd, ni all yr un ynad arfer Cymraeg yn swyddogol heddiw. Gellir, wrth gwrs, siarad Cymraeg mewn Llys Barn, ond gellir, hefyd, Hindustani neu Sbaeneg. Byth, er pasio'r ddeddf yma, gorfodwyd pob Cymro yng Nghymru yn siarad ei iaith ei hun i gael cyfieithydd i gyfieithu ei dystiolaeth. Dim ond weithiau, a hynny'n ddiweddar iawn, y gwnawd i ffwrdd â chyfieithydd. Ni raid ond myfyrio ar y ffaith ddarostyngol yma i sylweddoli effaith ddifäol, nid yn unig ar ddatblygiad yr iaith, ond hefyd ar ein cymeriad fel cenedl. Wrth gwrs, nid at hyn yr oedd y sawl a luniodd y Ddeddf yn anelu. 'Roedd ef yn hyderus obeithio y byddai'r Gymraeg cyn farwed â'r hoel ar ôl treigl rhyw genhedlaeth neu ddwy, ac na theimlai Cymro fwy o warthrudd na gŵr o Gernyw am mai Saesneg oedd iaith swyddogol pob Llys Barn.

Cyn gadael yr adran ffiaidd yma, 'rwy'n aros i ofyn a ydych chwi i gyd yn sylweddoli mai'r ddeddf yr ydych chwi'n byw dani yw'r un a wahardd unrhyw Gymro uniaith rhag dal unrhyw fath o swydd? A oes unrhyw dystiolaeth i'r ddeddf yma gael ei thorri erioed? Byddai'n ddiddorol gwybod os oes.

15. Manion Gweinyddiaeth

Mae a wnelo gweddill y Ddeddf â gweinyddiaeth; ac nid deddf mohoni mwyach. Ond dylem fwrw golwg drwy'r adrannau i ddeall yn iawn a ddigwyddodd 400 mlynedd yn ôl. Rhydd Adran 18 hawl i'r Sirydd ymhob un o'r pum sir newydd i ofalu am gadw heddwch. A iawndal y mae a wnelo adran 19. Pan rwymid tenant un o arglwyddi'r gororau drosodd ar amod o iawn ymddwyn, ac yntau'n methu cadw'r amod, ai'r arian yn fforffad. Yn ôl Deddf 1536, ai'r arian yma yn gyffredin i'r llywodraeth. Canlyniad adran 19 oedd bod arglwydd y goron yn cadw hanner yr arian yma, ai'r ail hanner wrth gwrs i bwrs y goron.

Gorchmynai adran 20 i'r Arglwydd Ganghellor Seisnig apwyntio Comisiwn i fynd i gylch siroedd Caerfyrddin, Penfro, Aberteifi, Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, Maldwyn, Morgannwg, a Dinbych, ac archwilio "every part and parcel of them; and upon such view and search, to divide them and every of them unto so many Hundreds as they shall think most meet and convenient."

Dyma enghraifft o'r hyn a alwn yn ddeddfwriaeth ddirprwyol, sydd mor annwyl i'r gwas sifil. Caent hwy fynd o amgylch yn eu hamdden, penderfynu sut i ddosrannu'r siroedd yn llai fyth, a rhoi'r canlyniadau i lawr ar gof a chadw. 'Roedd eu dedfryd hwy'n derfynol, a phrotest ac apêl yn gwbl amhosibl. Ni ŵyr neb a apwyntiwyd y fath gomisiwn, ac a aeth o gwmpas i fwrw golwg dros y tir. Ymddengys, yn ôl deddf 1542, iddynt gael eu rhannu'n gantrefi, ond gan bwy, ac ar ba egwyddor y'u gwnaed, ni wyddys.

Adran ryfedd ydyw Adran 21. Ar ôl dangos mai amcan y Ddeddf yn ei chrynswth oedd sicrhau unffurfiaeth perffaith rhwng Cymru a Lloegr, eto i gyd, gadawodd y sawl a'i lluniodd i'r Adran yma snecio i mewn. Yr oedd yr Arglwydd Ganghellor i apwyntio Comisiwn arall:

"to enquire and search out, by all Ways and Means that they can, all and singular Laws, Usages and Customs used within the said Dominion and Country of Wales; and the same shall return and certify to the King's Highness, and his most honourable Council, before the said feast of All Saints next coming; and that upon deliberate Advice thereof had and taken, all such Laws, Usages and Customs as the King's Highness and his said most honourable Council shall think expedient requisite and necessary to be had used or exercised in the before rehearsed Shires, or any of them, or in any other shire of the Dominion or Country of Wales, shall stand and be of full strength, Virtue and Effect, and shall be for ever inviolably observed, had, used and executed in the same shires as if this Act had never been, had, nor made; any thing in the same Act contained to the contrary in any wise notwithstanding."

Yn awr, os golyga'r adran yna rywbeth, golyga sefydlu cyfundrefn gyfraith wedi ei seilio ar nodweddion a hen gyfraith gwlad yng Nghymru. Yr oedd yn gynllun ardderchog. Mae'n wir ei fod yn gyferbyniad hollol uniongyrchol i bwrpas y Ddeddf, ond yr oedd ei lond o sylwedd. Pam y rhoddwyd ef i mewn? Dyma'r ateb i bob golwg. Ni feddyliodd Cyfrin Gyngor y Brenin o gwbl am gadw deddfau defodau ac arferion Cymru, am y rheswm syml na ddeuent a dim elw i mewn. Chwi welwch na apwyntiwyd yr un Comisiwn mewn gwirionedd; mewn geiriau eraill, taflu llwch i lygaid y mae'r adran i gyd, i liniaru pigiadau cydwybod y bonedd Cymreig.

Arch Adran 22 i Fynwy yrru dau farchog i Westminster, a phob sir Gymreig arall un. Mae pob prif dref i'w chynrychioli gan un dinesydd, ac eithrio prifdref anffortunus Meirion. Am ryw reswm, roedd Meirion dan warth arbennig drwy'r rhan fwyaf o'r cyfnod Tuduraidd. Gwna'r un adran drefniadau i godi treth at dâlu'r aelodau newydd.

Cadarnheid hawliau Arglwyddi'r Gororau i gasglu amryfal fân daliadau iddynt eu hunain yn Adran 23, er y cyfyngid y cadarnhad yma i Arglwyddi Lleyg. 'Roedd yr Arglwyddi Eglwysig o hyd dan warth, ac felly y buont hyd oni ddaeth Philip a Mari i'r orsedd. Cadarnhai adrannau 25, 26, 31, 32, swyddi amryfal ddosbarthiadau o swyddogion a rhyw bersonau eraill a enwyd, a chadarnhau eu hawl i'r tâl a'r cyflog a arferent ei dderbyn.

Nid oes obaith deall adrannau 24 ac 28. Cadarnhant bob deddf mewn grym ar y pryd yng Nghymru, gan gynnwys (a'i henwi) ddeddf etifeddu, diddymid y rhain i gyd wrth eu teitlau mewn rhannau eraill o'r Ddeddf. Dangosais eisoes i'r Ddeddf gael ei llunio ar frys, heb unrhyw ragofal ar ran y gweision sifil prysur. Nid oes angen gwario amser yn awr i yrru'r hoelen yna adref. Ni wna adran 27 ond cadarnhau canlyniadau achosion yn siroedd Seisnig y gororau, yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd yn y gororau.

Rhydd adran 30 hawl i'r Llywodraeth ganologi sefydlu'r llysoedd angenrheidiol a'u swyddogion o fewn pum mlynedd ar ôl diswyddo'r Senedd oedd yn eistedd ar y pryd. Amlwg bod angen am yr adran yma.

Yn olaf, ystyriwn adran 29, a ddengys hawl hollalluog Whitehall yn y dyddiau hynny. Nid rhyfedd i haneswyr alw'r cyfnod Tuduraidd yn oes aur gwasanaeth sifil Lloegr. Yn ôl termau'r adran ryfeddol yma, gallai Mawrhydi'r Brenin, am gyfnod o dair blynedd wedi diswyddiad y Senedd honno, atal neu ddiddymu'r cyfan o'r ddeddf, neu ran ohoni, yn ôl ei ewyllys dda a'i fympwy ei hun, mor bell a bod sêl yr Arglwydd Ganghellor ar ei orchymyn a bod cyhoeddi'r gorchymyn ymhob un o'r siroedd Cymreig. Cromwell a'i gwmni o olygid wrth Fawrhydi'r Brenin, wrth gwrs. A chodi bys, gallent ddileu deddf o bwys anferth, yn ymwneud â chenedl gyfan, deddf a gawsai sêl a bendith y brenin, yr Arglwyddi, a'r Tŷ Cyffredin, yn Senedd y dydd. Mor bell ag yr oedd eu co' yn y cwestiwn, gwell fuasai ped arferasant y gallu a gymerasant iddynt eu hunain, a dileu o fewn y 3 blynedd hynny y ddeddf i gyd. Mae 400 mlynedd yn hir o amser i ddisgwyl.

CANLYNIADAU GWLEIDYDDOL

1. Paham y pasiwyd y Ddeddf?

WRTH ystyried y seithfed Deddf ar hugain o deyrnasiad Harri VIII, sef deddf "for law and justice to be administered in Wales in like form as it is in this realm" (h.y., Lloegr), y cwestiwn cyntaf sy'n ei awgrymu ei hun yw "Pa beth a gymhellai'r brenin a Llywodraeth y cyfnod i basio statud mor chwyldroadol?"

Awgrymwyd amryw resymau o dro i dro. Fe ddywedwyd bod Harri yn awyddus i dalu'n ôl i Gymru am ei gwasanaeth i deulu'r Tuduriaid. Awgrymodd awdurdod nid llai na'r gwleidydd enwog o Gelt-Edmund Burke-fod Harri VIII a Thomas Cromwell wedi agor eu llygaid i'r "illhusbandry of injustice" a oedd yng Nghymru, ac yn ei lyfr The Making of Modern Wales cefnoga Llywelyn Williams y syniad hwn, gan alw'r ddeddf "a novel, a bold, and a generous experiment."

(a) Nid o gariad at Gymru

Ni allaf i dderbyn y naill reswm na'r llall. Nid oes dim oll yn hanes y Tuduriaid a arddengys unrhyw deimlad o ddiolchgarwch i bobl Cymru. Yn wir, fe ddengys geiriau'r Statud, pa beth bynnag oedd agwedd Harri VII, yr oedd yn atgas gan Harri VIII yr iaith a thraddodiadau a hawliau Cymru. Ynglŷn â'r ail syniad, nid oes nac yn amser y Tuduriaid nac ar ôl hynny unrhyw enghraifft yn hanes Lloegr o unrhyw gyfnewid chwyldroadol yn safle cenhedloedd eraill o dan lywodraeth Lloegr—oddi eithr pan oedd amgylchiadau'n gorfodi'r cyfryw gyfnewid. Polisi arferol gwleidyddion Lloegr ynglŷn â thiroedd estron o dan eu llywodraeth yw gadael llonydd iddynt, wedi unwaith sicrhau eu hawdurdod—oddi eithr pan orfoder hwy gan berygl i wneuthur rhyw gyfnewidiad cyfansoddiadol.

Ceidw Ynys Manaw o hyd ei hen annibyniaeth, a rheolir Ynysoedd y Sianel gan eu Seneddau yn ôl cyfraith Normanaidd Ffrengig.

Pe na buasai Cymru a'i phoblogaeth ar unrhyw adeg yn ddim mwy na Sir Fôn a'i phoblogaeth, y mae'n fwy na thebyg y byddai hi heddiw yn rhydd oddi wrth reolaeth Seisnig. Efallai hyd yn oed y llywodraethid hi gan fersiwn ddiwygiedig o gyfraith Hywel Dda. Yn anffodus iddynt eu hunain, bu Iwerddon, Sgotland a Chymru yn rhy fawr a phwysig i'w trin gan Loegr gyda'r goddefgarwch dirmygus a gadwodd ryddid Ynysoedd Manaw a Guernsey. Er hynny, hyd yn oed yn achos Sgotland ac Iwerddon ni chymerth Lloegr unrhyw gamre oddieithr ar adegau pan ystyriai ei gwleidyddion fod peidio â gweithredu yn beryclach na gweithredu. Cymerer deddf uno Sgotland a Lloegr y ddeddf a ddiddymodd yr hen Senedd Sgotaidd gweithred o ryfel oedd honno—mesur a basiwyd oherwydd teimlo o Loegr fod bodolaeth Senedd Sgotaidd a wrthodai gyfrannu cymorth ariannol yn rhwystr ac yn berygl—yn enwedig ar adeg fel honno—pan oedd Lloegr yng nghanol helynt rhyfel yr olyniaeth Sbaenaidd.

Yr un ffunud pasiwyd deddf uno Iwerddon a Lloegr, am y tybid bod anawsterau Lloegr yn y rhyfel yn erbyn y Chwyldro Ffrengig, a Napoleon, yn cael eu cynyddu trwy fod Senedd annibynnol mewn gwlad mor gythryblus ag Iwerddon.

(b) Ond o reidrwydd—sef, am fod Cymru'n anfodlon ar bolisi'r brenin

Ond fe ellir gofyn, pa reidrwydd a alwai am Ddeddf Uno 1536? Mi hoffwn alw sylw at y dyddiadau a ganlyn. Yn 1533 fe gyhoeddodd Thomas Cranmer, Archesgob Caergaint, briodas Harri VIII a Chatharin o Arragon yn ddirym— datganiad y gwrthodasai'r Pab ei wneuthur. Yn yr un flwyddyn coronwyd Ann Boleyn yn frenhines. Y flwyddyn honno hefyd fe'i cyhoeddodd Harri ei hun yn Ben yr Eglwys. Dedfrydwyd Syr Thomas More a'r Esgob Fisher i farw yn 1535 am wadu ei hawl. Yr oedd yn hysbys fod y Pab newydd yn paratoi "Bull" i esgymuno Harri. Gwyddom ni bellach na bu i'r esgymuno hwnnw ddylanwadu dim ar safle Harri; a gwyddom iddo—er gwaethaf condemniad y Pab—farw yn frenin Lloegr. Ond ar y pryd ni allai neb ragweld pa beth a fyddai'r canlyniadau. Yr oedd yn bosibl yr unai dau deyrn mawr Ewrop—yr Ymherawdr Siarl V a Ffrancis I o Ffrainc â'i gilydd i orfodi'r esgymuniad. Rhaid oedd i Harri a Chromwell ystyried—ped ymosodai'r ddau frenin hyn ar Loegr—a allai Harri ddibynnu ar deyrngarwch ei ddeiliaid. Sicr ydyw eu bod yn pryderu cryn lawer ynglŷn â Chymru. Gwyddent yn dda na chymeradwyai'r Cymry'r modd y triniesid Catherin o Arragon. Yn 1533 ysgrifennodd Chapuys, llys-gennad yr Ymherawdr Siarl V, at ei feistr ynglŷn ag agwedd y Cymry.

"Yr wyf yn cael ar ddeall," meddai, "eu bod wedi cythruddo'n ddirfawr oherwydd camdrin y frenhines (Catherin) a'r dywysoges (Mari), a hefyd oherwydd yr hyn a wneir yn erbyn y ffydd, oblegid buont bob amser yn Gristnogion da.

Mwy na hynny, ni all na wyddai Harri mai Cymru a'r Gororau oedd nythle cynllwynion Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Diau y sylweddolai mai hawdd oedd cyffroi'r Cymry i ryfela, ac ni allai fod yn sicr na byddai'r cynllun oedd ganddo yn ei feddwl i ddadwaddoli'r mynachlogydd yn arwain i wrthryfel yng Nghymru—fel, yn wir, y gwnaeth yng Ngogledd Lloegr.

Diau iddo ystyried y gallai daroganau Myrddin fod yn gymaint cymorth i ddiorseddu'r Tuduriaid ag a fuasent i'w rhoddi ar yr orsedd.

Heblaw hynny, yr oedd y gallu brenhinol a feddai Arglwyddi'r Goror, yn eu tiroedd eu hunain, yn rhwystr difrifol ar ffordd cadw trefn yn rhannau dwyreiniol y dywysogaeth. Tueddaf, gan hynny, i farnu mai'r hyn a amcanai Harri a Chromwell wrth basio'r Ystatud hon oedd gwanychu'r ymdeimlad cenedlaethol Cymreig, dwyn anfri ar yr iaith Gymraeg, a chydio Cymru o safbwynt cyfraith wrth Loegr, ac mai'r hyn a'u cymhellai oedd eu hofn gallai Cymru rydd oddi wrth Loegr ddyfod yn elyn peryglus i'r orsedd Seisnig. Mi dybiaf fod y rhagymadrodd i'r Statud ei hun yn ategu'r ddadl hon.

Dechreua'r rhagymadrodd hwn gyda'r gosodiad anghywir bod Dominiwn, Tywysogaeth a Gwlad Cymru wedi bod yn ddeiliaid bob amser i goron ymerodrol y deyrnas Seisnig "as a very member and joint of the same." Yna a ymlaen fel hyn: "Yet notwithstanding because that in the same country divers Rights, Usages, Laws and Customs be far discrepant from the laws and customs of this Realm, and also because the People of the same Dominion have and do daily use a speech nothing like, nor consonant to, the mother tongue used within this realm, Some rude and ignorant people have made distinction and diversity between the King's subjects of this realm and his subjects of the said dominion and Principality of Wales, whereby great discord, variance, debate, murmur and sedition have grown between his said subjects." Yna fe ddywedir wrthym fod y brenin, o'i fawr serch at ei ddeiliaid, yn bwriadu dwyn Cymru i'r hyn a eilw yn "perfect order and knowledge of the law" (sef cyfraith Lloegr) "and to extirp the sinister usages and customs that differ from the same.

Dyna'r rhesymau a roddir dros basio'r ddeddf; ac fe'u gwnânt yn gwbl eglur mai bwriad y brenin oedd llwyr ddinistrio cenedlaetholdeb Cymru. Cymaint â hyn am y rhesymau a ddug y ddeddf i fod. Cyn ymdrin â darpariaethau'r Statud ei hun byddai'n dda iawn esbonio safle gyfreithiol a chyfansoddiadol Cymru cyn 1536.

2. Safle gyfreithiol Cymru cyn y Ddeddf
(a) Y Llysoedd

Rhaid inni yn awr ystyried safle gyfansoddiadol a chyfreithiol Cymru fel yr oedd cyn pasio Ystatud 1536.

Trown ein sylw'n gyntaf at safle'r rhan honno o Gymru a osodwyd gan y Statutum Walliæ—Ystadud Cymru Edward I (1284) o dan lywodraeth uniongyrchol Coron Lloegr. Cynhwysai'r rhan honno holl Ynys Fôn, Arfon, Meirionnydd i gyd oddi eithr Arglwyddiaeth Dinas Mawddwy, rhanbarth gorllewinol Caerfyrddin, a darnau o siroedd presennol Fflint ac Aberteifi. Mewn theori, llywodraethid y parthau hyn yn ôl cyfraith Hywel, wedi ei newid beth gan Ystatud Cymru. Yn y rhannau hyn fe blannodd y Statutum Walliæ nifer o sefydliadau a chyfreithiau Seisnig. Ducpwyd i Gymru sistem Seisnig y siroedd, a'r swyddogion sir Seisnig, a'r siryfon Seisnig, a'r crwneriaid Seisnig, ynghyd â'r llys sirol Seisnig.

Pwysicach oedd ddarfod i'r hen raniad cenedlaethol Cymreig—y cwmwd—barhau o dan yr enw "hwndrwd," heb newid dim ymron, fel yr oedd cyn y concwest.

Yn Llys yr Hwndrwd neu'r Cwmwd, rhyddddeiliaid (freeholders) y rhanbarth oedd y barnwyr, neu o leiaf y rheithwyr; a'r llys hwnnw oedd biau gweinyddu cyfraith mewn materion fel torri heddwch, atal y priffyrdd, "impounding of cattle." Nid yn unig hynny, ond yno hefyd, fe ymddengys, y rheolid arferion bugeiliaid ynglŷn â phorfeydd defaid yn y gaeaf a'r haf; ac, yn bwysicach fyth, yno y penderfynid pob achos ynglŷn â throsglwyddo tir. Mynegai'r holl reithwyr eu barn trwy bleidlais gyffredinol.

Mae'n amlwg mai llys y Cwmwd yn hytrach na llys y Sir oedd y gwir allu llywodraethol ym mywyd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. A phe llwyddasai ymdrech Owain Glyndŵr yn erbyn brenin Lloegr, diau y sylfaenesid llywodraeth Cymru ar y cwmwd yn hytrach nag ar y sir.

Y mae'n bwysig sylwi yma fod hen reolau llwythol cyfraith Cymru wedi aros yn helaeth iawn o dan Ystatud Cymru. Pan fyddai rhydd-ddeiliad farw nid âi'r tir, fel yn Lloegr, i feddiant y mab hynaf fel yr etifedd, ond fe'i rhennid rhwng yr holl feibion. O dan Statud Cymru rhoddwyd hawl i ferched, lle na byddai etifeddion gwryw, etifeddu tir, ac yr oedd gan ferch hawl i gynysgaeth o dir ei gŵr. Sicr yw fod y gyfundrefn dir Gymreig yn llawer mwy democrataidd na'r eiddo Lloegr yn yr un cyfnod.

(b) Lle'r Gymraeg

Nid ymddengys ddarfod gormesu o gwbl ar yr iaith Gymraeg. Nid oedd ddeddf a waharddai ddefnyddio'r Gymraeg yn y Llysoedd Sir na'r Llysoedd Cwmwd, a diau y defnyddid hi ynddynt yn rheolaidd. Dylid cofio na ddaeth Saesneg ddim yn iaith swyddogol Lloegr am lawer o flynyddoedd ar ôl gorchfygu Cymru. Hyd y cyfnod ar ôl y Marw Du, Ffrangeg-Normanaidd oedd iaith swyddogol Lloegr. A thra mai Cymraeg oedd iaith cefn gwlad yng Nghymru, Ffrangeg ac nid Saesneg oedd iaith Cestyll y Gororau. Cedwid rheolau'r Llysoedd Cymreig yn Lladin.

Am sistem gyfreithiol y Cymry yn y cyfnod hwn ni allaf ond sôn yn fyr. Y pwynt i'w gofio yw hyn: Ni feddai Llysoedd Lloegr unrhyw reolaeth yng Nghymru na'r Gororau; ac nis hawlient. Nid oedd rym yn writ y brenin yng Nghymru. Yr oedd gan Gymru, fel y mae gan Sgotland heddiw, annibyniaeth gyfreithiol lwyr, gyda dau ganolbwynt gweinyddol y naill yng Nghaernarfon a'r llall yng Nghaerfyrddin. Eto ni ddewiswyd Cymro am genedlaethau lawer i fod yn Ustus y Gogledd, nac i ddal swydd uchel—oni chyfrifer Mortimer o'r Waun yn Gymro.

Ac fe Seisnigwyd y gyfraith troseddwyr (criminal law) Gymreig. Pa fodd bynnag, fe arhosodd bywyd lleol y wlad a weinyddid gan y llysoedd Cwmwd yn drwyadl Gymreig. Ni wnaf ond cyfeiriad byr iawn at gyflwr y Gororau. Yr oedd dros gant a deugain o Arglwyddiaethau'r Goror yng Nghymru. Amrywient yn fawr o ran maint—o dywysogaeth fel Powys i arglwyddiaeth ystad fechan fel Dinas Mawddwy.

P'run bynnag, yr oedd yr hawliau a ganlyn yn gyffredin i bob un ohonynt.

(c) Arglwyddi'r Goror

Yr oedd gan Arglwydd Goror "iura regalia"—hynny yw, hawliau brenin—a hawl hefyd i apwyntio swyddogion fel Barnwr, Senesial a Siambrlen. Yn enw'r Arglwydd ac nid yn enw'r brenin yr oedd pob writ o fewn ei oror, ac yr oedd gan yr Arglwydd hawl bywyd a marwolaeth. Yr unig achosion yr oedd gan y brenin hawl i ymyrraeth yn y Goror oedd pan fyddai amheuaeth ynglŷn â theitl yr Arglwyddiaeth, neu pan oedd a wnelai'r Eglwys a'r mater, megis pan oedd eisiau llythyr gan Esgob neu dystysgrif ynglŷn â phriodas. Yn y cyfryw achosion gellid apelio at y brenin.

Ar ôl gorchfygu tywysogaeth y ddau Lywelyn gan Edward I, y mae'n anodd gweld pa fuddioldeb oedd i'r Arglwyddiaethau hyn. Y mae'n wir nad oedd Cestyll Arglwyddi'r Goror (a rhaid oedd i bob Arglwyddiaeth wrth ei chastell) yn ddihidio yn 12fed ganrif o gerdd dafod a chyfarwyddiaid Cymru; ac yng Nghestyll y Gororau y cyfansoddwyd rhai rhannau o'r Mabinogion, megis chwedl "Arglwyddes y Ffynnon." Ond wedi concwest Edward, bychan o les a fu'r cestyll hyn i Gymru. Yr oedd cynifer o fân dywysogion—pawb ohonynt yn hanner-brenin, ac yn aml yn rhyw fân-ryfela gyda'i gymdogion—yn cadw'r wlad mewn cythrwfl ac annhrefn parhaus.

Ni ellir, fodd bynnag, eu cyhuddo o wneuthur unrhyw ymgais arbennig i ddadwreiddio nac iaith nac arferion Cymru. Er iddynt ddwyn i mewn gyfreithiau Seisnig er mwyn eu tenantiaid o Saeson, fe lywodraethid eu tenantiaid Cymreig yn ôl arfer eu cenedl eu hunain.

Yr arfer wreiddiol ym Mrycheiniog oedd bod dau lys, y naill i'r Saeson a'r llall i'r Cymry. Yn rhyfedd iawn, nid y llys Cymreig ond y llys Seisnig a ddilewyd yn 1341. Eto i gyd, yr oedd iau barwniaid y Goror yn drwm ar y Cymry, a phrotest yn erbyn eu gormes hwy oedd gwrthryfel Glyn Dŵr. Pan fethodd y gwrthryfel hwnnw fe ddug y Senedd Seisnig ddeddfau ffyrnig i gosbi'r Cymry.

Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau yr oedd Arglwyddi'r Gororau a phobl Cymru ill dau yn rhanedig rhwng y ddau deulu a ymdrechai am yr oruchafiaeth. Ymddengys bod Edward IV wedi sylweddoli bod y gyfundrefn a godasai Edward I wedi mynd a'i phen iddi, a sefydlodd Gyngor y Gororau yn Llwydlo i reoli'r Cymry ac Arglwyddi'r Goror fel ei gilydd. Ni wnaeth y Cyngor fawr yn ei oes ef; ond bu'n gychwyn cyfnod newydd.

(ch) Dyfod y Tuduriaid Am beth amser, fodd bynnag, cafodd yr hen gyfundrefn estyniad einioes pan unodd y Cymry a'r Arglwyddi dan Syr Rhys ap Tomas i blannu Harri VII ar orsedd Lloegr.

Y mae'n wir anfon o Harri VII ei fab Arthur i Lwydlo a rhoddi yr Esgob Alcott yn llywydd cyntaf Cyngor y Gororau, ond fe adawodd wir lywodraeth y dywysogaeth yn llaw Syr Rhys.

Pan gododd ŵyr Syr Rhys—sef Rhys ap Gruffydd—mewn gwrthryfel a'i ddienyddio yn 1531, sylweddolodd Harri 'n fwy nag erioed gyflwr peryglus Cymru. Yn y cyfamser yr oedd safle Arglwyddi'r Gororau wedi newid yn llwyr. Trwy ddyfod teuluoedd Lancaster a Iorc i'r orsedd—ac am resymau eraill—daethai'r rhan fwyaf o'r Arglwyddiaethau'n eiddo'r goron. Gwaith cymharol hawdd, gan hynny, i'r brenin, pe dymunai, oedd dileu yr holl gyfundrefn a throi Gororau Cymru yn siroedd.

Dyna gyflwr Cymru yn 1534. Yr oedd llawer o anrhaith ac anghyfraith yng Nghymru wir, ac yn y Gororau. Yr oedd Arglwyddiaethau'r Mars ym meddiant y goron. Nid oedd gan Gymru gynrychiolydd yn Nhŷ'r Cyffredin—er bod Arglwyddi'r Goror ac Esgobion Cymreig yn eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi oblegid ni syniasai neb y pryd hwnnw am Gymru fel rhan o Loegr.

Yn 1534 a 1535 pasiodd y Senedd amryw o ddeddfau ynglŷn â Chymru. Un o'r rhai pwysicaf oedd deddf a sefydlodd yng Nghymru swydd Ustus Heddwch am y tro cyntaf.

Yn 1534 gwnaethpwyd yr Esgob Lee yn llywydd Cyngor y Gororau. Bu ei lywodraeth yn greulon a bwystfilaidd. Fe ddywedir iddo beri crogi 5,000 o Gymry mewn chwe blynedd. Wrth gwrs, y mae hynny'n ddywedyd gormod. O leiaf, fe roes derfyn ar ysbeilio, herwriaeth (brigandage) gallai hynny fod mewn rhai achosion yn ddim ond gwladgarwch y Cymry, a dug i fod ryw fath o drefn mewn gwlad gythryblus. Yn ôl un hanes cyfoes, "he brought Wales to Civility." Cwestiwn arall yw a ddiddymodd ef ryddid yr un pryd. Yn yr awyrgylch hwn y daeth Deddf Uno Cymru a Lloegr i fod.

3. Canlyniadau'r Ddeddf
(a) Ynglŷn ag Etifeddu Tir

Y gwahaniaeth ymarferol cyntaf y mae angen i ni ei drafod yw un a wneir gan ail adran y Statud. Deddfa'r adran hon fod tir yng Nghymru i'w etifeddu o hyn allan yn ôl cyfraith Seisnig ynglŷn â dal tir.

Er bod yr hen gyfundrefn lwythol Gymreig ers tro hir yn dirywio ac yn dymchwel, yr oedd o hyd yn ymarferol gywir dweud bod gan y teulu Cymreig (cyn pasio'r Ddeddf Uno) hawliau ar y gyfran honno o dir a berthynai i'w tad. Ond pan gymhwyswyd cyfraith Seisnig cyntaf-enedigaeth (primo-geniture)—hawl y mab hynaf—at dyddynnod Cymru, fe ddarfu am hawliau cyffredin y teulu. Pan fyddai tad farw yr oedd gan ei weddw hawl i gynysgaeth. Ond ar wahân i hynny, onibai ei fod yn trefnu'n wahanol yn ei ewyllys, fe âi ei dir yn gyfangwbl i'w fab hynaf. Pe na bai dim arall, yr oedd y newid hwn yn ddigon i chwyddo'n ddirfawr nifer y bobl yng Nghymru heb feddu tir. Yn ôl yr hen gyfreithiau Cymreig ni allai tad drosglwyddo'i dir gwelyawg i un o'r tu allan i'r teulu, er y gallai—gyda chennad y teulu (yn cynnwys ei gyfyrdyr) a chennad pennaeth y llwyth—drosglwyddo peth o'i dir i arall fel iawn am ddynladdiad. Y mae cryn amheuaeth a allai dyn nad oedd ganddo feibion drosglwyddo eiddo'r teulu mewn unrhyw ddull arall. O leiaf, cyn y gallai wneuthur hynny, byddai'n rhaid iddo gael cennad ei berthnasau. Wedi dwyn i mewn gyfraith Lloegr yr oedd yn bosibl iddo, naill ai trwy werthu neu trwy mortgage, drosglwyddo tir a fuasai yn eiddo i'r teulu. Canlyniad hynny oedd gwneuthur yn hawdd i oludogion brynu tir Cymru. Uniad Mwy na hynny. Pan basiwyd Deddf yr oedd dau ddosbarth o wŷr llwyth—y rhai oedd o'u dechreuad yn wŷr rhyddion, a'r rhai oedd o'u dechreuad yn wŷr caeth. Talai'r dosbarth cyntaf rent i'r pennaeth mewn nwyddau ymborth. Yr oedd y lleill dan orfod, pan elwid arnynt, i roi eu llafur fel caethion ar diroedd y pennaeth. Ond cyn gorchfygu Cymru yr oedd y ddau ddosbarth bron yn gyfangwbl wedi dyfod i dalu arian yn lle nwyddau neu lafur. Cafodd y gwŷr rhyddion eithaf chwarae teg gan y barnwyr a weinyddai gyfraith Harri VIII. Fe gyfrifid bod ganddynt hwy, fel yr oedd gan denantiaid rhydd-ddaliadol y faenol Seisnig, hawl i berchnogaeth lwyr ar eu tiroedd cyhyd ag y talent eu taliadau neu renti arferol. A daeth y rheini yn ddiweddarach yn faich ysgafn iawn pan ddaeth arian yn rhatach.

Am ddisgynyddion y gwŷr caeth, ni buont hwy cystal eu ffawd. Mewn llyfrau cyfraith yn aml fe ddywedir mai o'r braidd fod copyholder yn yr ystyr Seisnig yn bod yng Nghymru o gwbl. Yn awr, yr un yw daliad (tenure) copyhold Seisnig â'r hen ddaliad y daliai'r taeog Seisnig ei dir otano. Mewn theori, Arglwydd y Faenol lle llafuriai'r gŵr caeth oedd biau'r tir, ond am ganrifoedd lawer yr oedd gan y caeth hawl draddodiadol i sicrwydd deiliadaeth ar ei dyddyn cyhyd ag y cyflawnai ei wasnaethau arferol. Fe ddaliai ei dir (meddid) nid yn unig trwy ewyllys yr Arglwydd, eithr hefyd trwy arferiad y faenol. Mewn amser fe ddaeth y copyholder Seisnig i feddu ymron y cwbl o hawliau'r tirfeddiannwr cyffredin, ac y mae Act a basiwyd yn 1922 i bob pwrpas wedi troi ei gopyhold yn eiddo freehold cyffredin. Yr un, mewn gwirionedd, oedd hawliau tenant caeth Cymreig â'r copyholders Seisnig. O dan yr hen gyfreithiau Cymreig yr oedd ganddo'r un sicrwydd yn ei dyddyn â'r tenant copyhold yn Lloegr. Yn wir, fe gydnabyddid ei hawliau droeon mewn siartrau a roesid gan frenhinoedd Lloegr. Ond ni allai'r barnwyr Seisnig a ystyriai ei hawliau wedi'r Ddeddf Uno ddeall mo'i wir safle. Iddynt hwy yr oedd arferion Cymreig yn annealladwy, a phan ddeuai achosion ger eu bron ynglŷn â thiroedd y goron yng Nghymru gwrthodent ddelio â'r tenant Cymreig ar yr un tir â phe bai yn copyholder o Sais.

Eto fe wnaethant ychydig i'w helpu. Canys, er iddynt benderfynu'n anghyfiawn nad oedd ganddo ddim hawl ar y tir, eto fe benderfynasant fod ganddo hawl i brydlesoedd hir am ei hen renti. Fodd bynnag, yr oedd anhawster ynglŷn ag adnewyddu'r prydlesoedd hyn pan ddeuent i ben, oherwydd y gellid codi dirwyon trymion am symud prydles. Yn y diwedd fe ddirywiodd safle disgynyddion y tenantiaid caeth, a oedd cyn pasio'r Ddeddf i bob pwrpas yn berchnogion eu tyddynnod, nes eu dyfod yn ddim ond tenantiaid blynyddol yn talu rhenti cystadleuol am dir a fuasai yn ymarferol yn eiddo i'w cyndadau.

Bu i'r Ddeddf Uno ganlyniadau eraill na ellir ond eu crybwyll yn fyr. Gyda deddf cyntaf-enedigaeth fe dducpwyd i Gymru arfer Seisnig settlement ac entail. Fe'i gwnaethpwyd yn bosibl trwy gyfrwng settlement i wneud tir yn amhosibl i'w drosglwyddo am gyfnodau hir. Y canlyniad oedd fod tyddynnod y gwerinwyr yn diflannu'n gyflym ar y naill law, a stadau mawrion y tirfeddianwyr yn ehangu yr un mor gyflym ar y llaw arall.

Ychwanegwyd ymhellach at gyfoeth y tirfeddianwyr yn yr unfed ganrif ar bymtheg trwy ddadwaddoliad y mynachlogydd, oherwydd fe'i gwnaethpwyd yn bosibl iddynt brynu tiroedd a hawliau maenol y mynachod. Peth arall a chwanegodd at eu golud oedd y cau helaeth ar diroedd diffaith a thir comin yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gwaith anodd yw mesur a phwyso holl effeithiau dyfod â'r deddfau tir Seisnig i Gymru. Ond gellir, mi dybiaf, ddywedyd cymaint â hyn. Onibai am y Ddeddf Uno, y tebyg yw y datblygasai'r gyfundrefn amaethyddol Gymreig ar ddull y cyfandir yn hytrach nag ar ddull Lloegr.

Pe buesid wedi parhau yr hen arfer Gymreig o rannu eiddo tirfeddiannwr, wedi ei farw, rhwng ei holl feibion, neu (yn niffyg meibion) rhwng ei ferched, ni ddaethai'r stadau mawrion a grewyd yng Nghymru mewn amseroedd cymharol ddiweddar erioed i fod. Ni buasai disgynyddion yr hen denantiaid caeth wedi colli hawliau eu tadau. Fe fuasai Arglwyddi'r Faenol o hyd yng Nghymru, y mae'n ddiamau—mân ysgwieriaid gwledig. Ond ni buasai eu hincwm fawr mwy na 500 yn y flwyddyn. Buasai'r rhan fwyaf o lawer o berchnogion tir Cymru yn fân ffermwyr, perchnogion o dyddynwyr, gydag incwm—o'u cymryd gyda'i gilydd heb fod ond ychydig mwy nag a fedd y ffermwyr neu'r tyddynwyr Cymreig heddiw. Mwy na hynny, byddai nifer y proletariat di-eiddo yn llawer iawn llai nag ydyw ar hyn o bryd.

(b) Dileu'r Arglwyddiaethau

Deuwn bellach at adrannau'r Ddeddf sy'n ymwneud ag Arglwyddiaethau'r Gororau. Teg yw addef yma ddarfod i ddileu'r tywysogaethau ffiwdal hynny fod o les diamheuol i Gymru. Yr oedd yn anochel hefyd, yn ôl syniadau'r amseroedd hynny, fod gwneuthur y tiriogaethau hyn yn siroedd. Y gwaethaf ynglŷn â'r trefniant hwn oedd ddarfod cymryd llawer o barthau trwyadl Gymreig, llawer ardal enwog yn hanes a barddoniaeth Cymru, a’u gwneuthur yn rhan o Loegr. Er enghraifft, Castell Wigmore, cartref y Mortimeriaid. Chwanegwyd Ewyas a'i phobl Gymreigiaith at Sir Henffordd. Y Wern hefyd Croesoswallt—a fu unwaith yn rhan o Bowys, sydd o hyd yn dref Gymreig, ac a oedd yr adeg honno, ac am dros ganrif wedyn, yn siarad Cymraeg rhoddwyd y dref honno i Sir Amwythig. Gwaeth na hynny oedd cydio sir newydd, Mynwy, wrth Loegr i bwrpas gweinyddu cyfraith. Mi wn fod Dr. D. J. Davies yn ddiweddar wedi galw sylw at hyn, sef na fwriedid torri Mynwy oddi wrth Gymru ymhob peth, wrth ei chorffori yn y gyfundrefn gyfreithiol Seisnig. A gellir galw i gof bod y Ficer Pritchard yn ail ganrif ar bymtheg yn cyfeirio at dair sir ar ddeg Cymru, a Mynwy yn un ohonynt.

Eto i gyd, effaith ddirywiol ar y bywyd cenedlaethol a gafodd hanner-ysgar Mynwy a llwyr ysgar rhannau eraill oddi wrth y gweddill o Gymru.

(c) Ysgymuno'r Iaith Gymraeg

Deuaf yn awr at yr ugeinfed adran—yr adran fwyaf gwaradwyddus o lawer, a'r bwysicaf hefyd. Gorchymyn yr adran hon i bob Ustusiaid, Comisiwnyddion, Siryfon, Crwneriaid, Escheators, Stiwardiaid a'u Dirprwyon "shall keep the session courts, hundreds, leets, sheriff's courts and all other courts in the English tongue," ac ychwanegid na châi neb ddal swydd oni allai siarad Saesneg. Nid yn unig fe olygai hyn fod gwneuthur Saesneg yn iaith orfodol y llysoedd barn Cymreig arferol, ond fe olygai hefyd fod yn rhaid gweinyddu'r llysoedd Cwmwd, lle'r ymdrinid â phob busnes lleol, yn Saesneg. Gellir dirnad effeithiau hyn oddi wrth ddeddf ddiweddarach "for the translation of the Bible and the Divine Service into the Welsh tongue" (1562). Dywedir yn yr Act honno, a basiwyd 26 mlynedd ar ôl y Ddeddf Uno: "The most and greatest number of all her Majesty's subjects in Wales are not able to understand the English tongue"; a bod y Beibl Saesneg o ganlyniad yn annealladwy i'r rhan fwyaf o bobl Cymru. Onid oedd y Cymry yn medru deall y Beibl Saesneg, pa lesâd iddynt oedd Llys Cwmwd lle y dygid popeth ymlaen yn Saesneg?

Y canlyniad, yn naturiol ddigon, oedd ddarfod i'r lleiafrif bychan ond tra chyfoethog ymhlith pobl Cymru a wyddai Saesneg ac a allai ddefnyddio'r gyfraith Seisnig ennill llwyr arglwyddiaeth ar fywyd gwledig Cymru. A daeth eu harglwyddiaeth yn llethol pan osodwyd y siroedd Cymreig dan lywodraeth yr Ustusiaid Heddwch. O dan ddeddfwriaeth Harri VIII nid oedd ond wyth Ustus i fod i bob sir; ond dan ddeddf ddiweddarach yn nheyrnasiad Wiliam a Mari fe symudwyd y cyfyngiad ar y rhif. Yn raddol fe aeth holl weinyddiad llywodraeth leol, yn ogystal â'r awdurdod cyfreithiol, i ddwylo'r Ustusiaid hyn. Mae'n ddiau i rai o'r Ustusiaid newydd, oedd fel rheol yn Gymry a allai siarad Cymraeg ac a oedd hefyd mewn cyffyrddiad â'r ardal dan eu gofal, roddi i Gymru lywodraeth fwy dynol nag a gafodd gan aelodau Llys y Gororau fel yr Esgob Lee. Ond yr oedd y ffaith mai Saesneg oedd iaith y Petty Sessions a'r Quarter Sessions yn tueddu i ostwng y Gymraeg yn syniad dosbarth llywodraethol Cymru; a thueddai hynny drachefn i'w hysgar hwythau fwyfwy oddi wrth eu cymdogion uniaith Cymraeg. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg siaradai boneddigion Cymreig Gymraeg. Erbyn y ddeunawfed ni ddeallai'r mwyafrif ohonynt iaith eu cydwladwyr a lywodraethent, ac a lywodraethasant wedyn mewn achosion lleol am agos ganrif arall.

(ch) Aelodau Seneddol i Gymru

Awn ymlaen bellach i adrannau 23-29 o'r ddeddf—sef yr adrannau a roddes i Gymru ei chynrychioli yn y Senedd Seisnig. O dan adran 23 cafodd Mynwy ddau aelod dros y sir, ac un cynrychiolydd seneddol dros dref y Sir. Rhoddwyd i'r gweddill o'r Siroedd Cymreig un aelod Sir bob un, a hefyd (gan eithrio Meirionnydd) un aelod dros bob bwrdeisdref a oedd hefyd yn dref Sir (Shire town). Oddi wrth hyn fe welir, tra cynrychiolid Lloegr gan ddau aelod dros bob sir—fe ystyrid un aelod yn ddigon i bob Sir Gymraeg, a lle y caffai Lloegr ddau aelod dros amryw o fwrdeisdrefi dewisedig—ni chai Cymru ond un aelod i bob bwrdeisdref a gynrychiolid. A hyd yn oed wedyn—dim ond bwrdeisdrefi a oedd yn dref Sir a gâi'r hawl i'w cynrychioli. Yn bendifaddau, ni chafodd Cymru ei gosod ar yr un tir â Lloegr yn ei chynrychiolaeth Seneddol.

Y cwestiwn a gyfyd yn awr yw: Pa effaith ar Gymru a gafodd Cynrychiolaeth yn Senedd Loegr. Fe dyrr Burke (ac yn ein dyddiau ni fe'i dilynwyd gan Llewelyn Williams) i orfoledd telynegol wrth sôn am y peth:

"From that moment, as by a charm, the tumult subsided, obedience was restored, peace, order and civilization followed in the train of liberty. When the day-star of the English Constitution had arisen in their hearts, all was harmony, within and without."

Y mae'n syniadau ni yn llai rhosynnog. Mae'n ddiamau fel y gallwn gyfaddef yn rhwydd, ddarfod i gynrychiolwyr aristocrataidd o Gymru yn Westminster rwystro peth anghyfiawnder i Gymru. Protestiadau aelodau Cymru a ataliodd roddi hawliau brenin ymron mewn Sir Gymreig i un o ffafr ddynion tramor Wiliam o Orange.

Mewn amseroedd diweddar, fe wnaethpwyd llawer newid pwysig—gwleidyddol ac addysgol yng Nghymru—trwy ddylanwad Aelodau Cymreig yn y Senedd. Ar y llaw arall, dylanwad Seisnigol a fu i gysylltiad y Cymry a'r gwahanol bleidiau gwleidyddol yn Lloegr—na allant fod, yr un ohonynt, yn Gymreig o ran eu hawyddfryd na'u teimlad.

A bu canlyniadau dwyn y Sistem bleidiol Seisnig i mewn i Gymru yn gwbl anffodus i Gymru.

I symio i fyny—tri phrif ganlyniad a fu i'r Ddeddf Uno. Fe ddug i mewn y gyfundrefn dir Seisnig, fe ddi-swyddogodd yr iaith Gymraeg, ac fe roes gynrychiolaeth i Gymru yn Senedd y Sais. Fe ellir dywedyd i'r ddau beth cyntaf fod yn golled ddigymysg—a'r olaf yn ennill pur amheus.

CANLYNIADAU ECONOMAIDD

1. Cymryd Safbwynt

Y MAE'R ffaith foel ein bod yn Genedlaetholwyr yn rhag dybied bod gennym ddyhead am ddiddymu'r Ddeddf Uno[5] a fu'n foddion "ymgorffori, uno, a chysylltu" Cymru â Lloegr yn 1536. Oddiwrth hyn, fe ddilyn, yn naturiol ddigon, ein bod yn cwbl gredu bod effeithiau'r Ddeddf (y dethlir ei phedwar canmlwydd eleni) yn niweidiol i Gymru. Nid anodd iawn cael eraill a gyfranno o'r argyhoeddiad yma pan ymdriniwn yn unig â'r effeithiau diwylliadol chymdeithasol; y mae parodrwydd cynhyddol, diolch yn bennaf i waith ysgrifenwyr fel yr Athro Gwyn Jones, i addef bod effeithiau'r ddeddf ar Gymru, yn ddiwylliadol a chymdeithasol, yn anfad. Ond o ddechrau trafod ei heffeithiau gwleidyddol, ac, yn fwyaf arbennig, yr effeithiau economaidd—hyrddir y fath gytgan o fawl a diolch ar ein clustiau, am y manteision a ddug i Gymru—cytgan a chwyddir gan ysgrifenwyr Tuduraidd y cyfnod hwnnw, a haneswyr diweddar Cymru—nes ein gorfodi ni i aros, ac ail archwilio'r dystiolaeth mewn dull mor ofalus a gwrthrychol ag y bo modd, i geisio cael allan os oes modd dwyn achos effeithiol yn erbyn y Ddeddf Uno, ar Seiliau economaidd.

Wrth gwrs, hyd yn oed pe gellid profi i'r Ddeddf ddod â bendithion economaidd digymysg i Gymru, ni ddifodai hynny mo'r ddadl genedlaethol yn ei herbyn. Gallwn ddychmygu Cymro Tuduraidd yn ceisio'i argyhoeddi ei hun y gorbwysai'r ennill economaidd a ddeilliai o'r Ddeddf golled ysbrydol a diwylliadol ei gydwladwyr, ac yn dadlau, fel Huw Menai yn y "Western Mail" ynglŷn â sefydlu'r gwersyll bomio ym Mhorth Neigwl: "A all Cymru, yn ei chyflwr economaidd ansicr heddiw, adael i sentiment drechu angen?" ac ail-adrodd, yr un fath ag ef, esgusodion llwfr y cynffonnwr—am y frwydr anghyfartal—"ar un ochr rhyw ddyrnwr didostur ar ffurf y rhaid economaidd a gwleidyddol, ac yn ei erbyn drobwll o alarnadau amleiriog a'u diben yn ddim ond ffroth." Eithr yn ddilys fe atebasai pob gwir Genedlaetholwr yn y cyfnod hwnnw, fel yr atebwn ni Huw Menai heddiw, fod bywyd yn rhywbeth amgen na bodolaeth, ac nad iawn i genedl werthu ei henaid er saig o fwyd. Personoliaeth a sylwedd iddi yw cenedl, ond nid ym ni yn ein hunigoliaeth ond darnau.

Nodyn:''2. Safbwynt Cyfoeswyr'' Nid y ddadl economaidd yw'r ddadl derfynol wrth drafod iechawdwriaeth eithaf cenedl; ond na adawer i ni yma dybied yn ddifeddwl fod y dadleuon economaidd i gyd yn erbyn yr achos Cenedlaethol wrth ymdrin a'r Ddeddf Uno. Gadawer i ni'n gyntaf dim weld beth sydd gan y cwbl o'r tystion o fewn ein cyrraedd i ddweud wrthym am effeithiau economaidd gwirioneddol Deddf 1536, a nithio gwerth eu tystiolaeth, ac wedyn mynd ymlaen i ystyried yr effeithiau economaidd yn fanwl, fesul un.

Crynhoir safbwynt y mwyafrif mawr o Gymry amlwg y cyfnod Tuduraidd tuag at y Ddeddf Uno, yn y dyfyniad a ddilyn o "Breviary of Britayne" Humfrey Lhwyd (cyfieithiad Twyne, 1573):

"Henry the seventh quite delivered all the Welshmen from such lawes of bondage, as in other Kynges dayes they were subject unto. And the most mightie Prince, Kynge Henry the eight, his sonne, delivered them wholy from all servitude, and made them in all poyncts equall to the Englishmen. Whereby it commeth to passe that, laying aside their old manners, they who before were wonte to live most sparingly, are now enritched and do imitate the Englishmen in diet and apparell, howbeit, they be somedeale impatient of labour, and overmuch boastyng of the Nobilitie of their stocke, applying themselves rather to the service of noble men, then geuynge themselves to the learnyng of handycraftes. . . Howbeit also, of late they have very commendably begun to inhabite Townes, to learne occupations, to exercise merchandise, to till the grounds well, and to do all other kindes of publique, and necessary functions, as well as Englishmen."

Rhywbeth yn debyg yw teimlad George Owen, yr hanesydd o Benfro, pan ysgrifenna yn 1594 am i Harri'r Wythfed yn y 27ain flwyddyn o'i deyrnasiad (1536)

"made such beneficiall lawes for the good government of ye cuntrey [Cymru] as that he shewed his affection to be more towards that cuntrey then to any parte of this realme. . . We were emancipated as it were, and made free to trade and trafficke through England, the gentlemen and people in Wales have greatly encreased in learning and civilitye. Besides, the people. have wonderfully thryven by husbandrye, the cuntrey is grown to be much more tilled, and enclosures in most parts full, and the cuntrey people with great diligence apply their labour, many cuntreys heartofore desolate now well inhabited. No other cuntrey in England so flourished in one hundred yeares as Wales hath don . insomuch that if our ffathers were now lyving they would thinke it som straunge cuntrey inhabited with a forran Nation, so altered is the cuntrey and cuntreymen, the people changed in heart within and the land altered in hewe without, from evill to good, and from bad to better."

Y trydydd yn y cytgan moli yma yw'r Dr. David Powell, a ddywed yn ei ragymadrodd i "History of Cambria" gan Humfrey Lhwyd yn 1584, that "there was never anie thing so beneficiall to the common people of Wales, as the uniting of that countrie to the Crowne and Kingdome of England, whereby not only the maladie and hurt of the dissentation that often hapened betweene the Princes of the countrie while they ruled, is now taken awaie, but also an uniformitie of government established whereby all controversies are examined, heard and decided within the countrie: so that now the countrie of Wales (I dare boldly affirme it) is in as good order for quietness and obedience as any countrie in Europe."

Gwelir bod y tri Chymro yma, am uno i gofnodi gwelliant mawr yng nghyflwr Cymru'n gyffredinol yng nghwrs yr 16fed ganrif, ond yn arbennig yn ei chyflwr economaidd, a phriodoli'r gwelliant yma i'r Ddeddf Uno, neu o leiaf i bolisi'r Tuduriaid, yr oedd hon yn goron arno. Ategir manylion eu tystiolaeth gan fwy nag un sylwedydd o Sais: e.e., Thomas Churchyard, sydd yn 1587 yn gwneud sylw o'r cynnydd mewn amaethyddiaeth yng Nghymru, a dweud:

"Wales is this day (behold throughout the sheeres) in better state than 'twas these hundred yeeres," a digonedd yn amlwg "ar bob goror"; a haera Sir Henry Sidney, Llywydd Cyngor y Gororau, a Gerard, Is-Lywydd Llys y Cyngor, nad oes "well pobl i'w llywodraethu na'r Cymry yn Ewrop," a "Drwy Gymru benbaladr y mae'r bobl mor suful ac ufudd i'r gyfraith ag yn Lloegr."

3. Safbwynt Haneswyr Diweddarach

Rhyw nodyn tebyg a dery ysgrifenwyr diweddarach gan mwyaf. Felly cawn Llewelyn Williams yn dyfynnu'r gŵr enwog hwnnw, Edmund Burke, a haerai fod "pob cynnwrf wedi ymdawelu, ufudddod wedi ei edfryd, heddwch, trefn, a gwareiddiad, yn dilyn llwybr rhyddid. Pan gododd seren Cyfansoddiad Seisnig yn eu calonnau, wele fe ddaeth pob cytgord y tu mewn a'r tuallan"—hyn i gyd, yn ôl yr ysgrifennydd, yn ganlyniad uniongyrchol y Ddeddf Uno. Y mae Llewelyn Williams yn cydnabod y drygau a darddodd o'r Ddeddf i ddiwylliant y wlad a'i bywyd cymdeithasol, ond ystyria "yn falch a diolchgar, lwyddiant disglair" y Ddeddf fel cyfanwaith; a chyfeiria'r Dr. E. A. Lewis at y manteision economaidd a ddeilliodd o'r Ddeddf yma, ac eraill o ddeddfau'r Tuduriaid, fel hyn: "Symudodd deddfwriaeth y cyfnod Tuduraidd brif achosion yr 'Anllywodraeth' y cyfeiriwyd ato uchod, ac felly rhoi i Gymru yr undeb tiriogaeth hwnnw oedd yn hanfodol i'w datblygiad economaidd rheolaidd. Symudodd yr un Ddeddf anghyfartaledd breintiau masnachol a chyfleusterau marchnata, a etifeddasai Cymry'r Oesau Canol fel amod eu concwest wleidyddol. Am y tro cyntaf cafodd y Cymry eu pig i mewn i drefi masnach pwysig y dywysogaeth.

O gymryd y gosodiad ar ei werth arwynebol, fe'n gorfodir i gredu ddwyn Cymru, drwy gyfrwng y Ddeddf Uno, o dryblith barbaraidd i olau llachar gwareiddiad, deddf, a threfn; a hithau, yn sgil hyn, yn derbyn holl fendithion daear ar ei hamaethyddiaeth, ei diwydiannau, ei llongau, a'i bywyd economaidd drwyddo draw. Ond, a allwn ni dderbyn y gosodiad ar ei werth arwynebol? Dengys ymarfer ychydig o synnwyr cyffredin yn bendant na allwn.

4. Diffyg y Safbwynt Hwnnw

Pryd bynnag y mynnwn y gwir am hanes Cymru, un o'r pethau cyntaf y mae'n rhaid i ni ei wneud yw bwrw o'r neilltu y rhagfarn yna y'n trwythwyd ynddo'n ddiarwybod gan gyfundrefn addysg wedi ei Seisnigeiddio, a sylweddoli nad gwiw i ni byth dderbyn ar ei werth arwynebol unrhyw osodiad ynglŷn â Chymru o eiddo ysgrifenwyr Seisnig, nac ychwaith o eiddo'r mwyafrif mawr o Gymry a ysgrifenno yn Saesneg. Mor bell ag y mae a wnelom âg ysgrifenwyr Saesneg, y mae'n berffaith amlwg paham na allwn gymryd eu tystiolaeth yn ddigwestiwn. Ar wahan i'r ffaith na ŵyr y rhan fwyaf ohonynt ddim am yr iaith a gwir fywyd mewnol wlad, y maent i gyd yn gaeth i duedd gyffredinol cenedl neu blaid fuddugoliaethus, i watwar cymeriad y genedl a ddarostyngodd, ei ddifrio a'i bardduo.

Mor gyffredinol y duedd yma oni ymwthio hyd yn oed i gylch crefydd, e.e., awgryma Syr John Daniel yn ei "Philosophy of Ancient Britain" i ddysgeidiaeth y Derwyddon gael ei gam-ddarlunio a'i gondemnio'n annheg gan gynrychiolwyr buddugoliaethus yr eglwys Gristnogol. Ac y mae esiamplau o'r duedd yma ym myd Gwleidyddiaeth yn afrifed. Barbariaid yw'r darostyngedig bob amser, a'r concwerwyr yn genhadon gwareiddiad. Ac y mae'r Saeson, fel propagandwyr swyddogol ac answyddogol, yn hen feistri ar y gelf yma o hunan-dwyll a hunan-ogoneddu. Gellir olrhain yr un dylanwadau Imperialaidd sy'n gwyrdroi'r gwir yng ngweithiau'r cyfnod Tuduraidd ag a welir heddiw yn y wasg Seisnig a'i draddodiad hir o gyd-weithio â'r Swyddfa Dramor. Fe'i ceir hyd yn oed yng ngweithiau haneswyr Seisnig cyfrifol.

Ond beth am ysgrifenwyr o Gymry fel Humfrey Lhwyd, George Owen a David Powell? Oni ellir ymddiried ynddynt hwy i roi darlun cywir o effeithiau'r Ddeddf Uno ar eu gwlad? Yn anffortunus, na ellir. Cawsent addysg Seisnig, ac yn herwydd hynny, yn ymwybodol, neu'n ddiarwybod, ragfarn Seisnig. Y mae'r ffaith syml iddynt ysgrifennu, nid yn Gymraeg, ond yn Saesneg (neu, o sôn am Lhwyd, yn Lladin) yn rhagolygu ysgrifennu ohonynt yn bennaf er mwyn Saeson, y buasai'n rhaid iddynt, heb fod yn ymwybodol o'u rhagrith, hyd yn oed, borthi eu rhagfarn. (Y mae'r un feirniadaeth yn addas heddiw am weithiau amryw byd o athrawon Cymreig a haneswyr.) Ymhellach, yr oedd i'r dynion hyn gysylltiad agos â'r gyfundrefn newydd a ddaeth i fod drwy'r Ddeddf Uno; arni, i raddau helaeth, y dibynnai eu safle swyddogol neu gymdeithasol; pa fodd y gellid disgwyl iddynt wneud arall na'i moli? Yr oedd Humfrey Lhwyd yn un o raddedigion blaenllaw Rhydychen, George Owen yn Sirydd Penfro, ac fel Dirprwy Is-Lyngesydd a Dirprwy Raglaw, noddwr David Powell oedd Syr Henry Sidney "a yrrodd y Frenhines Elisabeth i lywodraethu Cymru (1559-1586) fel Llywydd Cyngor y Gororau." Sut y gallent ysgrifennu ond fel amddiffynnwyr seloca'r drefn newydd? Dywed hanesydd fel Prifathro J. F. Rees—ac, yn ddilys, go brin y gellir ei gyhuddo ef o ragfarn Genedlaethol—yn ei "Tudor Policy in Wales," y dylem "anwybyddu, i ryw raddau, dystiolaeth ysgrifenwyr fel George Owen."

5. Propaganda'r Tuduriaid

Yn y cyswllt yma hefyd dylid cofio bod y Tuduriaid yn feistri cynnar ar gelf propaganda a chyhoeddusrwydd i'w dibenion eu hunain. Nid oedd hawl y brenin i'r orsedd yn gryf o lawer, a cheisio'i gryfhau drwy hawlio'i hanfod o hen frenhinoedd Prydain; yn hyn o beth yr oedd yn falch o gymorth y beirdd Cymreig, a'i cyfarchent fel gwaredwr hir-ddisgwyliedig eu cenedl. Yn yr un modd, gallwn fod yn sicr fod breintiau swyddogol a gwobr lawer yn aros wrth Gymry cenhedlaeth ddiweddarach, a allai gynhyrchu propaganda doeth parthed bendithion amhrisiadwy y Ddeddf Uno, a pholisi'r Tuduriaid yn gyffredinol. Trist meddwl y caed cymaint Cymry disglair yn barod i'w gwerthu eu hunain i'r fath wasanaeth. I ni y mae atsain o'r hen ymdeimlad o israddoldeb Cymreig yr ydym lawer yn rhy gynefin âg ef, ym malchter Lhwyd yn y ffaith bod ei gydwladwyr yn dysgu "gwneuthur pob math ar weithredoedd cyhoeddus a chymdeithasol cystal a Saeson"; ac y mae rhyw eironi trychinebus yng ngeiriau George Owen "pe bai'n tadau'n fyw yn awr, tybient mai rhyw wlad ddieithr a chenedl estron yn byw yma ydyw, gymaint ydyw'r newid yn y wlad a'r bobl."

Rhaid cofio hefyd ei bod yn dilyn yn naturiol, dan y fath amgylchiadau, mai'r duedd yw gwarchod hanes y genedl fuddugoliaethus, a gadael i eiddo'r ddarostyngedig fynd i ebargofiant. Yn wir, un o effeithiau mwyaf trychinebus concro gwlad gan genedl estron yw'r duedd i hanes y wlad honno, ar ôl y concwest, gael ei groniclo yn nhermau hanes cenedl y concwerwyr. Er cael darlun cyflawn o effeithiau'r Ddeddf Uno, byddai'n eisiau nid yn unig y cofnodion a'r sylwadau Seisnig, ond hefyd a ysgrifennodd y Cymry yn eu hiaith eu hunain. Ond o'r rhai sydd ar gael o'r olaf, y mae'r rhan fwyaf mewn llawysgrif, ac allan o afael y darllenydd cyffredin, na allo weld ond gwaith wedi ei gyhoeddi.

Gallai rhyw ŵr gradd o Gymro, yn chwilio am destun ymchwil, roi cymorth mawr i sefydlu hanes Cymru ar seiliau cadarnach drwy gasglu a nithio'r cwbl o'r defnyddiau hylaw, yn Gymraeg a Saesneg, er cael amcangyfrif o effeithiau'r Ddeddf ar genedl y Cymry, a'u hadwaith hwy iddi ar y pryd.

6. Tystiolaeth y Beirdd

Er enghraifft, mewn casgliad o farddoniaeth Gymraeg yn dwyn y teitl "Hen Gwndidau" ceir tystiolaeth a deifl olau clir iawn ar atitiwd y Cymry tuag at rai agweddau economaidd yr Uno. Ysgrifenna Thomas Brwynllys tuag amser Elisabeth, a chwyno'n chwerw oherwydd disodli'r hen fonedd Cymreig dan y gyfundrefn newydd gan grachfoneddwyr nad oes iddynt ddyhead onid elwadygant dir y tlawd, ni chaiff y beirdd y croeso lleiaf ganddynt a phriodola ffynhonnell y trwbwl i gyd, yn berffaith ddiamwys, i'r deddfau newydd ("mor gaith yw'r gyfraith a gaid"). Wele ddyfyniadau o'r cywydd:

"Pa ryw vyd ers ennyd sydd
i roi kwbl i'r cybydd,
Y mae ar vonedd heddiw
y byd yn waeth nag y bu..

llawn travael yw'r dyn haelwych,
a'r okrwr ydyw'r gŵr gwych. . .


Marsiandwr a gwewr gwe
A gawn yn hir eu gyne . . .
gwilad yw ei vwriad vo
tyddyn i ddwyn rent iddo."


Ymdrinia darn diddorol arall o farddoniaeth y cyfnod, gan Siôn Hywel Siôn, â thuedd meddwl newydd y tlodion, oedd yn dod yn amlycach nodwedd beunydd ym mywyd Cymru dan y drefn newydd, ac yn herwydd creulondeb deddfau Tlodion y Tuduriaid (yr ymdriniaf â hwy'n fanylach yn nes ymlaen). Dyma ddyfyniadau:

"F'aeth y kydwybod i'r klawdd, nyd oes un gwawdd wrth angen
i'r tlawd klwyvys digyvoeth, ond aed yn noeth ei gefn.
O bydd efrydd gwann dinerth yn kaiso gwerth y ffauen
fe losgir ei glust a'i law, betfai e naw a thrigen."


Y mae darnau eraill o farddoniaeth—un wedi ei ddyddio yn 1535, ond rhai eraill mor hwyr yn y ganrif ag 1586—yn cwyno o achos amseroedd celyd, cynaeafau sâl, a'r gwenith yn cyrraedd crogbris—y cwbl yn awgrymu na ddaeth y Ddeddf Uno â'r fath hawddfyd aur i amaethyddiaeth Cymru ag a haerir weithiau. Dywed Siôn Siencyn o Benllyn ei bod yn hysbys i bawb mai blwyddi celyd yw'r rhain, ac na ddigonir y bobl; cwyna Harri Bach Brydydd fod yr had ar ôl ei hau yn fethiant, ac na thyf ond chwyn; a rhydd Siôn Dafydd y bai ar y Saeson am lawer o anffodion y cyfnod:

"Dyma'r vlwyddyn mae llawer mewn pryder am eu digon
A'r fath ofal na bu erioed er pan mae oed ar ddynion,
llawer gwann gobaithiol sydd, a meddwl kebydd kreulon,
be kai'r ynys yn ei rhann, hi fydde vychan ddigon . . .
Onyd gras ein Harglwydd dad, fe wnaeth yn brad y Saeson,
Y maen' hwy'n kadw es dyddiau hir ein tai ni a'n tir n anghyvion,
Nyni be kaen gyviawnder a bia lloegr dirion. . ."


Edrych y bardd yma am amddiffyn at yr Arglwydd Herbert o Benfro, a'r frenhines Elisabeth, a dannod erlid y Cymry fel Iddewon cyn ei dyfod hi "ddoeddid kyn ei dyvod hi yn hela ni'n iddewon."

Dywedwyd digon yn barod i ddangos na all Cenedlaetholwyr dderbyn yn ddiwrthwynebiad y farn gonfensiynol am y Ddeddf Uno; ond gellir olrhain rhai effeithiau economaidd pendant ar fywyd Cymru, o dermau'r Ddeddf ei hun, a rhaid i ni'n awr archwilio'r rhain yn fwy manwl. Er hwyluso pethau gellir eu dosbarthu dan chwe phenawd.

7. Y Canlyniadau Amlycaf
(a) Diddymu Arglwyddiaethau'r Gororau

Yng nghwrs y concro daethai'r rhan fwyaf o siroedd y Gororau yng Nghymru i ddwylo arglwyddi ffiwdalaidd o Normaniaid, ac iddynt allu brenhinol ymron y tu fewn i'w tiriogaethau eu hunain—Arglwyddiaethau'r Gororau ys gelwid hwy. Âi'n godiad byth a beunydd rhyngddynt a'i gilydd, ac yr oedd eu mân-gweryla a'r tollau trymion a godent ar nwyddau a yrrid drwy eu ffiniau yn rhwystr enbyd i fasnach, a gwneid teithio yn y rhannau hynny yn anodd a pheryglus i'r eithaf. Bu i Ddeddf Uno 1536 "ymgorffori, uno, a chysylltu" Cymru â Lloegr, roi iddi gynrychiolaeth yn y Senedd, a chreu y siroedd fel y maent heddiw. Bu i'r Ddeddf hefyd ddiddymu llywodraeth leol annibynnol yr Arglwyddi yma, ac felly diddymu'r rhwystrau a barasent i fasnach a thrafnidiaeth. Yr oedd yr effeithiau economaidd uniongyrchol yn dda ynddynt eu hunain; eithr, ys gwyddom ni heddiw drwy brofiad drud, nid budd i Gymru yn y pen draw ei phriodas â Lloegr, a'u gwneud yn undod economaidd. Amser y Chwyldro Diwydiannol, fel y dengys yr Athro Dodd, yn herwydd hwyluso trafnidiaeth rhwng Cymru a Lloegr, gwthiwyd nwyddau Cymreig allan o'r gystadleuaeth gan nwyddau o'r canolfannau Seisnig lle'r oedd cyfalaf yn fwy hylaw; dro ar ôl tro aberthwyd buddiannau economaidd Cymru er mwyn y partner "mawr" yn yr uniad.

(b) Sefydlu Heddwch y tu mewn i'r wlad a Deddf Unffurf

Pwysleisir y bendithion a roes hyn i Gymru gan ymron bob ysgrifennydd ar y Ddeddf Uno. Mae'n wir i'r Tuduriaid ryddhau'r Cymry o'r hualau economaidd creulon yr ymwisgent amdanynt hyd hyn yn eu gwlad eu hunain—e.e., y ddeddf arw a ddilynodd wrthryfel Glyn Dŵr, yn gomedd i Gymry ddinasyddiaeth y bwrdeisdrefi Seisnig (fel y gelwid hwy) yng Nghymru, a gwahardd iddynt breswylio yno (hynny yw, yn y trefi masnachol pwysicaf i gyd). Canlyniad naturiol diddymu'r ddeddf yma oedd "cyfoethogi" 'r Cymry, a dechrau "trigo'n y trefi," fel y cofnoda Humfrey Lhwyd. Ond camgymeriad dybryd a fai bwrw bod Cymru, cyn pasio'r Ddeddf Uno, yn ymdrybaeddu mewn annhrefn a phenrhyddid eithaf, ac i berffaith hedd a chytgord ddilyn yn uniongyrchol wedi hynny fel pe wrth hudlath dewin. Yr oedd cynnwrf cyffredinol drwy Gymru yn ystod y ganrif a ddilynodd wrthryfel Glyn Dŵr, ond yr oedd cynnwrf yn Lloegr yr un pryd—cynnwrf rhyfel cartrefol hirhoedlog Rhyfeloedd y Rhosynnau, ac yr oedd cynnwrf yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Nid canlyniad syml y Ddeddf Uno oedd yr heddwch a gafodd Cymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ond canlyniad tuedd gyffredinol y cyfnod y cyfranogai ymron y cwbl o wledydd Ewrop ohoni. Pan ganwyd cnul y gyfundrefn ffiwdal ciliodd rhyfeloedd cartref i roi lle, i raddau helaeth, i ryfeloedd rhyng-wladol.

Wrth gymharu cyflwr Cymru â chenhedloedd eraill yn y cyfnod yma, er ystyried effeithiau'r ddeddf, meglir ni eto gan brinder tystiolaeth mewn du a gwyn, a hwnnw wedi ei gasglu ar ffurf hygyrch; ond y mae peth tystiolaeth i ddangos, yn gyntaf, fod arwyddion amlwg o'r tangnef a'r llwyddiant cynhyddol yr ydys yn arfer ei briodoli i'r Uno—cyn i'r Ddeddf ddod i fod; ac yn ail, nad oedd y tangnef a'r cytgord a ddaeth wrth gwt y Ddeddf mor gyflawn a sydyn ag yr awgrymir weithiau. Er enghraifft, yn 1528 (wyth mlynedd cyn y Ddeddf Uno) edrydd dociwment a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gororau, wrth gyfeirio at gyflwr Brycheiniog, bod llawer iawn o'r cyffredin yn trin y tir a bod tawelwch yn ffynnu. Ac eto, cyn hwyred â 1575 (39 mlynedd wedi pasio'r Ddeddf) gwelwn Dafydd Lewis (Barnwr Uchel Lys y Llynges a Phrifathro cyntaf Coleg yr Iesu, Rhydychen) yn cwyno oherwydd "the greate dysorders in Wales." Dywed Humfrey Lhwyd wrthym tua'r un adeg fod y Cymry, yn lle ymdrechu mewn rhyfeloedd, yn awr yn ymdrechu drwy fynych gyfreithio "a dadlau oni threulir eu da i gyd"; nid ymddengys felly eu bod fawr iawn gwell allan yn economaidd 'nôl sefydlu teyrnasiad deddf."

Gellid dywedyd llawer ychwaneg ar y pwynt yma; ond, wrth basio, sylwer nad bendith ddigymysg mo sefydlu deddf unffurf rhwng Cymru a Lloegr. "Gormes yw un ddeddf rhwng llew ac ychen," ys dywed y ddihareb. Golygai, er enghraifft, fod Cymru—nad arferai neb gardota ynddi yn nyddiau Giraldus, gan fod "cartrefi pawb yn eiddo i bawb"—yn awr dan iau greulon deddfau Tlodion y Tuduriaid, a gondemniai i'w fflangellu a'u gwarthnodi ddynion a merched Cymru am nad oedd iddynt diroedd, am nad oeddynt wedi ymroddi i unrhyw fasnach gyfreithlon, celf neu ddiwydiant y gallent ennill eu bywoliaeth drwyddi, ac am na allent roddi manylion a hanes eu moddion cynhaliaeth.

(c) Dod â Chymru i fewn i gylch polisi masnachol y Tuduriaid

Pwysleisir yn aml y budd a gafodd Cymru o bolisi masnachol y Tuduriaid, a bwysai'r pwysigrwydd o feithrin masnach allforio a datblygu adnoddau cartref. Yn y cyswllt yma sonnir yn aml am y rhan a chwaraeodd Cymdeithas Frenhinol y Mwnfeydd a'r Gweithfeydd Mwn a "Battery" yn hybu datblygiad mwnfeydd Cymreig a'r diwydiannau metel. Ond anghofir weithiau fod hawliau gorfael (monopoli) y Cwmnïau yma—hawliau a roddwyd gan Elisabeth yn 1568, ac a oedd yn ymestyn hyd a lled y wlad—wedi eu rhoddi i gwmnïau a reolid gan estroniaid (Saeson ac Almaenwyr, gan mwyaf), er y byddent hwy weithiau'n prydlesu eu hawliau mwnfaol yng Nghymry i Gymry fel Syr Huw Middleton. Mewn gwirionedd, gyda chyfundrefn fasnachol Tuduriaid y dechreuwyd rheibio adnoddau priod Cymreig gan estroniaid, a hynny i'w dibenion eu hunain yn hytrach nag er budd y Cymry; ac aeth y rheibio ymlaen yn ddidor nes ei ddyfod yn nodwedd amlycaf bywyd diwydiannol Cymru, fel y mae hyd heddiw.

(c) Meithrin diwydiant llongau yng Nghymru?

Rhoir pwys hefyd ar ddylanwad polisi'r Tuduriaid yn meithrin diwydiant llongau yng Nghymru, a masnach dramor. Eithr dywed y Dr. E. A. Lewis wrthym nad oes fawr "dystiolaeth sylweddol" am "wella'r porthladdoedd yng Nghymru" dan y Tuduriaid cynnar, ac yr oedd yn rhaid i'r porthladdoedd Cymreig yrru eu cyfran "to the special tonnage levy granted by Parliament towards the repair of the Port of Dover." Dioddefent yn arw weithiau, hefyd, gan waith Llywodraeth Loegr yn eu tolli a chyfyngu eu hawliau—e.e., "cyfyngu trafnidiaeth ŷd."

Ag ystyried popeth, mae rhyw draddodiad cyffredinol bod cryn gynnydd ym myd masnach a diwydiant yng Nghymru yng nghyfnod y Tuduriaid. Gellir priodoli peth ohono i bolisi masnachol y Llywodraeth; eithr i ddylanwadau ehangach y mae'n rhaid diolch am y rhan fwyaf ohono—e.e., dygyfor arian yn Ewrop, a geni'r gyfundrefn economaidd fodern ym mhangfeydd ola'r Canol Oesoedd. Ond bid a fo am y manteision economaidd uniongyrchol, golygai dwyn Cymru i mewn i gylch polisi masnachol y Tuduriaid ei rhwymo mwyach wrth gyfundrefn a ddygn-addolai Allu, a chredu'n gyfeiliornus na all un genedl lwyddo ond ar draul y llall, ac mai hyn, yn anad dim, sy'n hollbwysig sicrhau cynnydd parhaus allforio dros i'r dadforio gymryd ei siawns. Dyna berffeithrwydd cytbwysedd masnach iddynt. Felly y llusgwyd Cymru i mewn i gyfundrefn o raib cyfalafol o'r economeg imperialaidd, sydd wedi deor erbyn heddiw ar argyfwng byd-eang. Fe fyddai papur cyfan yn hanfodol i iawn ymdrin â'r testun yma, ac fe gafwyd un mewn Ysgol Haf flaenorol; felly, rhaid bodloni ar y crybwyll byr yna'n unig yma.

(ch) Diddymu'r Dull Cymreig o Rannu'r Tir

A Chymru'n annibynnol daliai gwŷr rhydd y llwythau eu tir yn ôl y gyfundrefn a elwir yn Saesneg gavelkind. Ar farw tad rhennid y tir rhwng y meibion i gyd. Wedi'r concro daethpwyd â'r gyfundrefn a roddai'r tir i gyd i'r cyntaf—anedig i'r rhannau hynny o'r wlad oedd wedi eu Seisnigeiddio; ond yn y rhanbarthau trwyadl Gymreig yr oeddys yn gwarchod yr hen gyfundrefn o rannu'r tir. Ond yn y flwyddyn 1536 diddymwyd yr olaf drwy'r wlad benbwygilydd (gydag eithriadau dros amser), a dod â deddf etifeddu'r Saeson yn ei lle.

Dywed haneswyr economaidd wrthym fod y rhannu a'r ail-rannu didor yma'n llesteirio llawer ar lwyddiant cnydau ac ar ddatblygiad amaethyddol ar raddfa eang; a dyma, medd George Owen, yn ysgrifennu ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, oedd canlyniad diddymu'r hen gyfundrefn o rannu'r tir:

"in many partes the grounde is brought together by purchase and exchanges and headging and enclosures much increased, and now they fall to the tillinge of this wynter corne in greater aboundance then before."

Dengys y cynnydd a ddigwyddodd mewn amaethu a thrin tir ar raddfa ehangach lawer—ochr orau'r newid. Ond yr oedd iddo ochr arall, anfad iawn.

Tuedd yr hen gyfundrefn Gymreig oedd meithrin cenedl o fân-dyddynwyr, lle'r oedd y tir yn agored i bawb, a "nifer fach a gormod ohono, a nifer llai a rhy ychydig." Dichon na fyddai'n addas, yn ei ffurf wreiddiol, i'n gofynion ni heddiw; ond, yn ddilys ddigon, y mae angen arnom ddatblygu cyfundrefn etifeddu a dal tir a gadwai beth o hen ysbryd y gavelkind. O ddisodli'r hen gyfundrefn a rhoi'r tir i'r cyntaf-anedig, aiff mwy a mwy o dir i ddwylo un dyn a difeddiannu'r lleill. Hyn a gynhyrcha unigolyddiaeth a chynnydd yr ystadau mawr. Cryfhawyd y duedd yma yng ngwaith y Ddeddf Uno'n cymryd patrwm Lloegr i roi ffurf newydd i gymdeithas Gymreig ac i gyfundrefn wleidyddol yng Nghymru. Yr oedd i bob sir mwyach ei haelod Seneddol, ac o ddosbarth y tirfeddianwyr mawr y doent bron yn ddi-eithriad. Felly'r ymgiprys parhaus am diroedd, gan mai dyna'n awr y drwydded bendant i enwogrwydd mewn cymdeithas ac amlygrwydd mewn gwleidydda. Daeth y tirfeddianwyr mawr yma'n ddosbarth ar eu pen eu hunain. Aethai eu hystadau'n rhy fawr iddynt fyw ar amaethu'n unig, ac felly elwa ar y rhenti a dalai'r ffermwyr gwirioneddol iddynt. Rhannent drwy'i gilydd swyddi dan y goron ynglŷn â gweinyddu deddf yn y dywysogaeth, a swyddi ynadon ac eraill ynglŷn â llywodraeth leol, a chau i ffwrdd bawb arall (y tu allan i'r bwrdeisdrefi, oedd yn fychain a disylw yng Nghymru) o gyfranogi o gwbl o "faterion sirol" (Rhys a Jones, tud. 441). Felly, bu diddymu'r gavelkind yn foddion cyflwyno i Gymru y "drindod amaethyddol" Seisnig—y meistr tir, y tenant, a'r gwas fferm a datblygu'r gyfundrefn fodern a'i meistr tir a'i gwahanol ddosbarthiadau, a'i hunigolyddiaeth amrwd a ddug dyrfa fawr y bobl gyffredin i weriniaeth noeth drwy eu hamddifadu'n gyfangwbl o ran o dir eu gwlad. Yna y dilyn tlodi, ansicrwydd, twf difaterwch mewn materion gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd ar ran y lliaws mawr, a cholli hunan-hyder ac yn hynny ei alluoedd greddfol, nes ffurfio meddwl di-ddisgyblaeth heddiw a'i gri dragwyddol am hawliau heb y syniad lleiaf am ddyletswyddau.

(d) Difodi'r Mynachlogydd

A chyflymu'r datblygiad yma drachefn gan anfadwaith pellach o eiddo'r Tuduriaid—difodi'r mynachlogydd, a wnaed yr un pryd a phasio'r Ddeddf Uno. Aeth cyfran fawr o'u tiroedd i ddwylo hapfasnachwyr a chynffonwyr y llys. Ys dywed Llywelyn Williams: "Mwy ni welir meistri tir caredig y mynachlogydd; yn eu lle daeth anturiaethwyr anghenus, diofal o'r gorffennol, ansicr o'r dyfodol, a'u holl fryd ar wneud y mwyaf o'r presennol." Torrwyd dolen gydiol economaidd arall â hen draddodiadau Cymru; a thorasid un arall hefyd gan y Tuduriaid yn 1534, ddwy flynedd cyn y Ddeddf Uno, gan i Harri VIII ddiddymu'r arfer o gymortha—hen arferiad ymysg y bobl o ddod at ei gilydd i helpu cymydog ag unrhyw waith a fai ganddo ar dro—a'i ddadl oedd eu bod yn esgor ar gyfarfodydd anghyfreithlon a chribddail. Ond, er gwaetha'r gyfraith, pery olion yr hen arfer o hyd yn y cymoedd gwledig Cymreig; hen arferiad bonheddig ac urddasol yn nodweddu'r ysbryd cydweithredol Cymreig. O'i wahardd gwnaed llwybr agored i gynnydd unigolyddiaeth a chystadlu didrugaredd mewn amaethu yn ogystal â diwydiant.

(dd) Anghydfod ynghylch Tir

Canlyniad anorfod diddymu'r gavelkind, ynghyd â "defodau ysgeler ac arferion" y Cymry, oedd yn wahanol i'r gyfundrefn Seisnig, oedd anghydfod terfysglyd cydrhwng y sawl a ddaliai'r tir, ar y naill law, a'r perchnogion cyfreithlon newydd, ar y llaw arall. Medd Syr O. M. Edwards: "Gwelodd y taeog ei fwrw oddi ar y tir yr edrychai arno fel ei eiddo'i hun cyhyd ag y talai'r swm penodedig fel cyfnewid am lafur y dyddiau gynt, neu renti bwyd. Anodd gwybod a feddai ei dir yn ôl y gyfraith, ynteu ai tenant ydoedd y gellid ei fwrw i ffwrdd yn ôl mympwy'r perchennog. Newyn mawr oedd newyn yr Arglwyddi am dir; glynai'r tenant wrth ei dyddyn, a heidiai'r tyrfaoedd i Lwydlo i hawlio cyfiawnder." Nid oedd yr ysbryd cyfreithgar, cynhennus a briodolai Humfrey Lhwyd i'r Cymry yn y cyfnod wedi'r Uno, felly, yn ddim amgen na cheisio iawnderau am anghyfiawnder y gyfundrefn newydd; a gallwn fod yn sicr mai meibion a merched Cymru wedi eu gyrru o'u tiroedd pan ysgubwyd ymaith eu hen ddeddfau ac arferion gan ddeddf cyfraith Lloegr oedd y sawl a orfu ddioddef cosb y chwipio a'r gwarthnodi, am nad oedd iddynt diroedd nac unrhyw foddion cynhaliaeth gweladwy, dan Ddeddfau Tlodion creulon y Tuduriaid.

(e) Cyfyngu ar Arfer yr Iaith Gymraeg Nodwedd amlwg y Ddeddf Uno oedd yr adran a ragofalai na ddefnyddid yr iaith Gymraeg mewn llys mwyach. Pwysigrwydd diwylliadol, yn gyntaf dim, sydd i'r adran yma, ond y mae iddi ei hagwedd economaidd. Nid yn unig bu'n foddion amddifadu Cymry uniaith o gyflog a breiniau economaidd safleoedd swyddogol, ond hefyd (hyd yn oed oni chedwid bob amser at lythyren y gyfraith, ys awgryma Llewelyn Williams) bu'n rhwystr nid bychan i'r Cymro uniaith dan raid dod gerbron y llysoedd mewn achosion ynglŷn â chytundebau masnachol, hawl i dir, neu unrhyw fusnes economaidd arall. Mwy na hynny, yr oedd effeithiau seicolegol gwneuthur y Gymraeg yn iaith isradd yng Nghymru ei hun yn esgor ar adweithiau economaidd anorfod. Ar y naill law, byddai'n sicr o feithrin ymdeimlad yn y Cymry o israddoldeb, ac felly lesteirio eu menter masnachol; ar y llaw arall, cryfhâi duedd y Saeson i edrych ar y Cymry fel cenedl estron, ysgymun. Gwelwyd adladd y duedd yma yng nghyfnod cynnar y Chwyldro Diwydiannol, a hen ddiwydiannau enwog Cymru 'n ei chael hi'n anos gwaith, lawer, cael coel gan ganolfannau'r banciau Seisnig na'r diwydiannau newydd, a reolid gan ddyfodiaid Seisnig. Dyma esiampl o'r unfed ganrif ar bymtheg: Yr oedd Cymro, Thomas Evans, yn awyddus iawn am fynd ar fordaith fasnachol gyda Sais o'r enw Cotton yn 1575. Francis Englefield a'i cymeradwyodd i Cotton, a'i ddisgrifio fel dyn y gellid ymddiried ynddo "er ei fod yn Gymro." Hawdd dychmygu anfanteision economaidd Cymry nad oeddynt yn ddigon ffodus i feddu cyfeillion Seisnig a warantai eu cywirdeb "er eu bod Gymry."

(f) Gwneuthur Llundain yn Dynfaen i Uchelgais Cymreig

Canlyniad "ymgorffori, uno a chysylltu" Cymru â Lloegr oedd gwneud Llundain i bob pwrpas yn brif dref Cymru. Y llywodraeth yn Llundain a reolai dynged Cymru. Yn Llundain yr oedd y llys, lle'r oedd brenin o waed Cymreig yn llywodraethu; yno'n unig y gellid wrth nawdd a chyfle gwych i ymgyfoethogi. Felly, nid rhyfedd gweld ymron bob Cymro uchelgeisiol ac anturiaethus yn troi ei lygaid at Lundain, a throi i ffwrdd oddi wrth ei wlad ei hun. "Ychydig o wŷr bonheddig a welwch yn Lloegr," medd Humfrey Lhwyd, "nad yw eu gosgorddlu'n Gymry"; a haera hefyd mai Cymry yw'r rhan fwyaf o'r cyfreithwyr "yn y deyrnas yma." Felly, amddifadu bywyd economaidd Cymru o'i arweinwyr priod, a chanolbwyntio addysg Cymru yn Lloegr. I ddifancoll glân yr aethai breuddwyd gwych Glyn Dŵr am brifysgol Gymreig; Rhydychen a Chaergrawnt oedd cyrchfan uchelgais, a hwy a luniai feddyliau meibion disgleiriaf Cymru. Ymffrostia Lhwyd nad oes yng Nghymru "neb dloted na yrr ei blant am ryw dalm o amser i'r ysgol, a'r sawl a fanteisio ar ei addysg, ei yrru i'r Prifysgolion. Fe'i gorfodir, ymron yn ddi-eithriad, i astudio'r Ddeddf Wladol." Cofnoda George Owen:

"nowe great numbres of youthes are contynewally brought upp and mayntayned at the Universities of Oxford and Cambridge and in other good schooles in England,"

a "many good grammar schools" (rhai rhagfarnllyd Seisnig, mae'n debyg). Rhoes yr addysg Seisnig yma fod i awch am ddynwared y Sais "yn ei wisgo a'i fwyta," a phopeth arall y sylwodd Humfrey Lhwyd arno, sy'n nodwedd mor amlwg o fywyd Cymru o hyd; ac yn ddilys, gwnaeth y sawl a'i derbyniodd yn gwbl anaddas i gyfrannu dim o werth a budd i'w gwlad yn economaidd nac mewn unrhyw gylch arall chwaith.

Ai Cymry i Loegr nid yn unig i wneud arian, ond hefyd i'w gwario. Hwyrach mai'r esiampl enwocaf o hyn yw Syr Hugh Middleton, gŵr o Ddinbych, a gasglodd ffortiwn anferth o fwnfeydd Aberteifi yn gynnar yn yr ail ganrif ar bymtheg, a gwario'r cwbl i gyflenwi Llundain â dŵr. Nid rhyfedd i Syr John Wynn, perthynas iddo, ei geryddu am gysegru ohono'i athrylith a'i egni i Lundain, a'i wlad ei hun mewn dir angen cyfalaf ac anturiaeth. "Gallaf ddweud wrthych," meddai, "ys dywedodd yr Iddewon wrth Grist—clywsom lawer am dy fawr weithredoedd oddi cartref—gwna rywbeth yn dy wlad dy hun'," ac addas a fai'r un cerydd i lawer gŵr o Gymro o amser y Ddeddf Uno hyd heddiw.

8. Casgliadau

I grynhoi. Wrth fesur effeithiau economaidd y Ddeddf Uno rhaid i ni gofio nad rhywbeth a dderbyniwyd gan Gymru rydd annibynnol mohoni, am fod y manteision economaidd oedd ynglŷn wrthi yn ddigon i orbwyso gwerth aberth annibyniaeth. Yn hytrach, rhywbeth a wthiwyd ar Gymru gaeth ydoedd, a hi ers canrifoedd bellach dan iau trueni, rhyfela, a gorthrwm y Sais. Nid oedd y bendithion economaidd amlycaf a ddug i Gymru—diddymu Arglwyddiaethau'r Gororau a'r deddfau caeth a waharddai i Gymry ddinasyddiaeth yn eu trefi eu hunain—ond ysgafnu hwyrfrydig iawn ar y gorthrwm hwnnw, a rhyw ymgais glaear i wneud iawn am y trwblon economaidd y buasai'r Saeson eu hunain yn gyfrifol amdanynt. Tueddir i fawrygu'r cynnydd a ddaeth gyda'r Ddeddf Uno, am fod pethau wedi mynd i stad mor dorcalonnus cyn ei dyfod i rym. Rhyw gychwyn o ddiddymdra ydoedd, fel cychwyn y Bolshefieiaid ar ôl dymchwel Sariaeth Rwsia. Llywodraeth Loegr a fuasai'n gyfrifol am dryblith economaidd Cymru—ni wnaeth y Ddeddf Uno ond hanner wella niweidiau a dderbyniasid cyn hynny.

Parthed rhai o ddarpariaethau economaidd y Ddeddf—diddymu gavelkind, er enghraifft— gorbwysai'r anfanteision unrhyw ennill a ddeilliai ohoni. Nid oedd rhai o'r canlyniadau eraill—fel y cyfyngu ar arfer y Gymraeg, a chanolbwyntio meddyliau Cymry ar Lundain—ond malltod digyfaddawd ymron. Gallesid mwynhau'r bendithion a ddug polisi masnachol y Tuduriaid i fywyd economaidd Cymru i'r un graddau'n hollol, mae'n debyg, heb yr anfanteision a ddaeth ynglŷn wrthi, pe buasai Cymru 'n rhydd, gan fod gwledydd eraill yn eu mwynhau'n y cyfnod hwnnw ac ar ôl hynny.

Y gwir yw mai'r ffordd decaf i roi llinyn mesur ar y Ddeddf Uno yw dychmygu sut y buasai pethau yng Nghymru pe bai hi'n wlad rydd yn 1536, yn lle bod dan iau estron. Gadewch i ni ddychmygu buddugoliaeth Owain Glyn Dŵr yn nechrau'r bymthegfed ganrif (yn hytrach na gorchest Harri Tudur ar Faes Bosworth ar ei diwedd), a dychmygu i Owain sefydlu teyrnas a oedd mwy'n ddigon cryf i wrthsefyll pob ymosodiad o Loegr. Oni fuasai iddo ddiddymu Arglwyddiaethau'r Gororau ganrif o leiaf cyn ei wneuthur mewn gwirionedd? Oni fuasai i Gymru rydd fynnu hedd ac unffurfiaeth deddf y tu mewn i'w gororau ar fyrder, a hynny heb ddifreinio'i hiaith na chanoli uchelgais ei phobl ar brif dref estron, na gorfodi ei meibion i gyrchu eu haddysg ym mhrifysgolion gwlad arall? A fuasai'r fath ymado sydyn â'r hen ddeddfau etifedd Cymreig a'r hen draddodiad cydweithredol o gymortha? Oni fuasai'n bosibl iddynt ddatblygu'n naturiol i weddu amgylchiadau cyfnewidiol yr amserau?

Dichon y gallwn gredu hefyd y cawsai Cymru rydd, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gyfranogi o'r cynnydd mewn masnach, diwydiant ac amaethu i gymaint graddau, beth bynnag, ag y cafodd dan bolisi masnachol y Tuduriaid. Nid eiddo Lloegr etholedig mo'r cynnydd hwnnw. Cyfranogai gwledydd bychain ohono—gwledydd fel Denmarc a'r IsAlmaen—er cystadlu dibaid cymdogion cryfion o'u cylch. Odid na ddeuai amgylchiadau newydd a phroblemau cymdeithasol ac economaidd newydd; eithr, yn ddilys, ni allasai'r un llywodraeth gartrefol wneud gwaeth potes o'r problemau yma nag a wnaeth llywodraeth estron. Nid oedd Cymru 'n brin o wŷr o athrylith a allasai ei harwain; gwyddoch mai gwaed Cymreig oedd yng ngwythi pennaf enwogion Lloegr yn yr unfed ganrif ar bymtheg—y Tuduriaid, a'r Arglwydd Burleigh, gwleidydd enwog oes Elisabeth.

Yr oedd i Gymru hefyd gyfathrach agos â'r cyfandir yn y Canol Oesoedd, a gallasai Cymru rydd, yn herwydd hynny, fenthyca dyfeisiadau a sefydliadau (e.e., argraffu, ariandai) o lygad y ffynnon, yn lle eu dyfod iddi'n anuniongyrchol drwy Loegr a gwneud Cymru'n gynffon pob mudiad a chynnydd. O fesur a phwyso ffeithiau fel hyn, ymwadu â rhagfarn ein haddysg Seisnig, ac edrych ar y Ddeddf Uno mewn dull mor wrthrychol ag sydd bosibl, credaf y deuwn i'r casgliad anorfod—hyd yn oed wrth ymdrin â'i chanlyniadau economaidd lle mae'r ddadl gryfaf drosti ar yr wyneb—iddi esgor ar golled mor fawr ac ennill mor fychan nad oes y rheswm lleiaf y dylai Cymry ddal eu gafael ynddi erddo.

CANLYNIADAU'R DDEDDF AR FEDDWL CYMRU

Meddwl y cyfieithydd a fu gan Gymro o 1536 hyd 1900

Y MAE meddwl Cymru wedi bod o dan ddylanwad bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r cwestiwn yw: Beth a wnaeth Deddf yr Uno i hyrwyddo'r meddwl hwn ym mywyd Cymru?

I genedl sy'n ddarostyngedig ei meddwl nid yw o bwys mawr pwy sy'n llywodraethu, pa un a fyddant oddi mewn neu oddi allan. Amcan y Blaid Genedlaethol, mi gredaf, yn bennaf yw sicrhau ymreolaeth i Gymru, ac wrth wneuthur hynny ryddhau meddwl y genedl. Pa beth yw nodweddion cenedl ddarostyngedig? Un o erchyllderau cenedl felly yw'r baboo mind, a'r Blaid Genedlaethol yw'r unig blaid sy'n ymdrechu symud y meddwl hwn o fywyd y genedl. Bu gennym obaith y gwnâi'r Blaid Lafur hynny, ond diflannodd y gobaith hwnnw; canys datblygodd honno Fabŵaeth waeth na'r hen Fabŵaeth-canys yr oedd Sahib yn honno. Bai mawr y Sais yw cael cenedl i lawr ac yna chwerthin am ei phen; puteinio cenedl ac yna ei gwatwar.

Y meddwl Babŵaidd yma, sef gwaseidd-dra a llyfu traed, yw nodwedd fawr ein cenedl wedi bod. Hyd 1900 meddwl y cyfieithydd oedd gennym. Bu gennym cyn y Ddeddf Uno feddwl gwreiddiol, ond yna aeth yn feddwl cyfieithydd. Yr unig bethau gwreiddiol yn y cyfnod hwn a fu'r "Bardd Cwsg". a "Llyfr y Tri Aderyn." Ni ddaeth i feddwl Cymru y dylai ysgrifennu yn wreiddiol.

Colli'r Bendefigaeth o Gymru—a magu Snobyddiaeth at bendefigaeth estron

Rhaniadau cenedl gyffredin yw: 1. Y Bendefigaeth; 2. Y Dosbarth Canol; 3. Y Werin.

Y mae tuedd yn yr ail ddosbarth i fod yn snobs. Nid oes gan y trydydd dosbarth amser i fod felly. Y mae gwrthrych a chynulleidfa gan yr ail ddosbarth. Y bendefigaeth yw gwrthrych eu snobyddiaeth, a'r werin yw eu cynulleidfa. Y mae rhywfaint o snobyddiaeth ymhob cenedl—hyd yn oed mewn cenedl annibynnol—a hwnnw, hwyrach, yn snobyddiaeth iach; h.y., nid oes dim yn annaturiol ynddo—dim ond megis y baw sy'n glynu yn yr anifail iach. Gellwch ei olchi i ffwrdd, ond hyd yn oed pe na wnaech hynny ni byddai ddim gwaeth.

Snobyddiaeth at ei phendefigaeth ei hunan yw snobyddiaeth cenedl annibynnol. Peth felly yw snobyddiaeth Lloegr—y snobyddwr a'r snobedig yn credu yn yr un pethau, yr un iaith a'r un diwylliant. Ond yng Nghymru y mae'n wahanol; snobyddiaeth ydyw tuag at bendefigaeth sy'n casáu ein pethau gorau.

Yr hyn a ddigwyddodd i genedl y Cymry oedd iddi golli ei phendefigaeth ei hunan. Rhoed cyfoeth sicr yr Eglwys i ryw grafwyr megis Dr. Elis Prys, Thomas Williams y Faenol, a John Wynn o Wydyr. Pobl oeddent wedi cael blas ar waed yr Eglwys a'r werin. Erbyn hyn, y werin (ac nid y bendefigaeth) sy'n disgyn o waed yr hen bendefigaeth.

Collwyd diddordeb mewn gwleidyddiaeth

Nid yw'r werin fel rheol yn cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Cymerant ddiddordeb mewn economeg. Rhaid cael pendefigaeth â hamdden ac addysg ganddynt i gymryd diddordeb yn athroniaeth gwleidyddiaeth fel hyn. Yr unig Gymro a meddwl gwleidyddol ganddo oedd Morgan Llwyd, ond bychan iawn fu ei ddylanwad ef.

Y mae artistri hefyd ar goll. Rhaid cael amser ac addysg i feithrin hynny.

Nodwedd y snobyddiaeth estron hwn oedd y ffasiwn o edrych ar Gymreigrwydd fel peth i'w gasáu neu fel crair. Nid oes a fynnom â'r dosbarth cyntaf. Y mae'r rhai sy'n edrych arno fel crair yn edrych arno fel peth i'w edmygu ac ysgrifennu amdano, ond nid i gymryd rhan ynddo. Enghraifft o'r meddwl hwn yw Gorsedd yr Eisteddfod. A ellwch chwi ddychmygu am was fferm a chanddo ddawn a thalent arbennig i ddweud stori yn cael ei dderbyn i gylch yr Orsedd? Ond derbynnir Syr o Sais heb unrhyw gymwyster.

Y mae teulu Llanofer yn eithriad yn y bendefigaeth. Eithr yn y llyfr a ysgrifennwyd ar yr Ysweiniaid Cymreig, hwnnw oedd yr unig deulu o ysweiniaid Cymreig y mentrodd yr awdur (Vaughan) ei wawdio.

Seisnigo'r Eglwys yng Nghymru

Edrycher ar ddylanwad yr ysbryd hwn ar Eglwys Loegr yng Nghymru. Cymbarer yr offeiriaid yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg â'r offeiriaid yn ei diwedd. Yn y dechrau medrent Gymraeg, a chymerent ddiddordeb ym mhethau a mudiadau Cymru. Ond yn ei diwedd yr oeddent yn elynion i'r Gymraeg. Ac y mae Eglwys Loegr yng Nghymru y gelyn pennaf sydd gennym hyd heddiw. Pendefigaeth y Boy Scouts yw'r bendefigaeth hon. Ar ol Datgysylltiad ni welläodd pethau; yn hytrach, aethant yn waeth. Cychwynnwyd y mudiad o dan ysbrydoliaeth y Liberation Society o Loegr. Gwleidyddion oeddent. Nid o'r Eglwys ei hunan y cododd yr awydd am ryddid, ond yr Ymneilltuwyr fel gwleidyddion a'i ceisient i'r Eglwys. (Yr oedd yr Athro yn un o'r ychydig a wrthwynebai'r mudiad.)

Fel enghraifft o feddwl yr Eglwys, edrycher ar ei safle ynglŷn â'r Ysgol Fomio. Cymerodd pob papur crefyddol yng Nghymru ran yn yr ymgyrch ond "Yr Haul," ac yn y ddau rifyn diwethaf â'r golygydd ati i'w chyfiawnhau.

Nodwedd amlycaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw diffyg beirniadaeth gan y genedl arni ei hunan. Nid oes enghraifft ar gael yn y ganrif. Nid yw S.R. yn enghraifft o hynny, canys ni fedrodd ef feirniadu ei genedl, a syniadau Ysgol Manceinion oedd ganddo ef am wleidyddiaeth. Yr unig un a feirniadodd ei genedl ei hun ydoedd Emrys ap Iwan, ac ni chafodd ei feirniadaeth ef ddim croeso yng Nghymru. Ond yr oedd ei safbwynt ef yn iach. Y mae'n rhyfedd meddwl na fedrodd Syr O. M. Edwards hyd yn oed feirniadu bywyd Cymru. Ac efallai fod ganddo reswm da am hynny-ofnai y gallai ladd y gwenith wrth dynnu'r efrau. Ac yn sicr ddigon, yr oedd ei feddwl ef yn gwbl iach ac yn Gymreig. Er iddo dderbyn addysg Seisnig, nid yn Lloegr y cafodd ei safonau, a bywyd o frwydro yn erbyn syniadau a sefydliadau Seisnig yng Nghymru ydoedd ei fywyd ar ei hyd. Gydag Emrys ap Iwan a Syr Owen, ynteu, y dechreuodd Cymru drechu'r meddwl darostyngedig, meddwl y cyfieithydd, a ddaeth yma wedi Deddf Uno Cymru â Lloegr.

Nodiadau

[golygu]
  1. Hynny yw: Un erthygl, nid yr holl Ddeddf.
  2. Caerfyrddin. Yno y darllenwyd y papur hwn.
  3. —Gall "iaith" sefyll, ym meddwl y beirdd, am "genedl" neu "iaith." A'r syniad, felly, ydyw y medrai Syr Rhys wneud un genedl o'r Cymry a'r Saeson—h.y., yn ddiau, drwy dreisio'r Saeson.
  4. —Gair aml ei ystyron yw ynys," fel y gwyddys. Nid rhaid iddo olygu darn o dir â dŵr o'i gwmpas; ac yma, yn ddiau, ni chynnwys, mi gredaf, ond Cymru a Lloegr—h.y., nid oedd yr Alban o gwbl yn gynwysedig.
  5. Nage! Nid diddymu'r Ddeddf Uno a fynnwn, gan na wnai hynny ddim ond ail-gyfodi y sefyllfa oedd yma cyn y ddeddf. Yr hyn a geisiwn ni ydyw Safle Dominiwn i Gymru, peth sydd dipyn yn wahanol.—(Gol.).

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.