Y Drws Agored/Agorwch y drysau
Gwedd
| ← Y dychymyg | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
→ |
AGORWCH Y DRYSAU.
MAE awel y dehau yn tramwy trwy'r ardd,
Agorwch y drysau;
Yn chwilio am danom mae'r tyner a'r hardd,
Agorwch y drysau;
Rhyw ddyfais gan ddynion yw drysau y byd,
Mae'r pyrth greodd Duw yn agored i gyd.
Daw dydd pryd na welir cyfoethog a thlawd,
Agorir y drysau;
(Gofala di ymddwyn yn deilwng, fy mrawd,
Pan egyr y drysau);
Nid trefniant y nef ydyw drysau y byd,
Mae'r pyrth greodd Duw yn agored i gyd.
Mae pyrth gwir ddedwyddwch bob amser ar lêd,
Pwy glywodd am ddrysau?
Mae'r nefoedd i'w chael i bwy bynnag a gred,
'Does yno ddim drysau;
Rhyw ddyfais gan ddynion yw'r drysau o hyd,
Mae'r pyrth greodd Duw yn agored i gyd.