Y Drws Agored/Blodau'r nef
Gwedd
| ← Mair a Martha | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Y blodyn → |
BLODAU'R NEF.
PLENNAIS hedyn yn yr ardd,
Dagrau'r cwmwl du—
Gwenau'r heulwen gu—
A thyfu wnaeth yn flodyn hardd.
Syrthiodd hedyn oddi fry,
Dim ond cosb a gwg—
Tyfu'n fachgen drwg—
Diffyg gwên yr heulwen gu.
Syrthiodd un o hadau Duw,
Dim ond heulddydd poeth—
Tad a mam anoeth—
Gwywodd blodyn teca'i liw.
Dysgwn wersi gerddi'r nef,
Deigryn dros y bai,
Gwên am ufuddhau;
Dyna wersi gerddi'r nef.