Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Bob tro bwy'n gwasgu'th law

Oddi ar Wicidestun
Rhanna dy bethau gore Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Y darlun

BOB TRO BWY'N GWASGU'TH LAW.

CYDGERDDAI ef a minnau,
Yn araf bob yn gam;
A mawr fy ngofal drosto—
Fy mhlentyn bach di-nam.

Fy llaw ro'wn iddo'n fynych;
Ymaflai yntau'n dynn;
(Pwy byth all draethu mwyniant
Y serch—wasgiadau hyn?)

Amherffaith oedd ei eiriau;
Ond gwenai yn ddi-fraw,
Gan sibrwd iaith ei galon
Heb ddim ond gwasgu'm llaw.
*****
Fy Nuw, mae'm golwg arnat;
Paid troi Dy wyneb draw.
I ddangos maint fy nghariad,
Gad imi wasgu'th law.

A phan fo geiriau'n methu
Mynegu maint fy mraw,
Ti wyddost beth wy'n feddwl
Bob tro 'bwy'n gwasgu'th law.


Nodiadau

[golygu]