Y Drws Agored/Bwthynod gwynnion Cymru
| ← Gyda'r nos | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Rhy fach o ganmol → |
BWTHYNOD GWYNNION CYMRU.
NID canu molawd llawnder,
Neu folawd moeth a phleser—
Nid dyna yw fy ngwaith;
Mil hawddach ydyw moli
Y sawl ynghanol tlodi
Sy'n canu ar y daith.
Fwthynod anwyl Cymru,
'Does eisiau mo'ch gwyngalchu
Er mwyn eich gwneud yn wyn;
Mae'r galon wrth anwylo,
O hyd yn gallu lliwio
Gwrthddrychau fel y mynn.
Fwthynod gwlad fy mebyd,
Byth, byth na feiddier newid
Y gwyn oddiar eich mur;
Sibryda'r gwyn am gariad,
Am dlysni mewn cymeriad,
Am hoffter at y pur.
Mae llawer palas ceinwych
Newidiai'i le yn fynych
A bwthyn gwyn y wlad.
Pa fudd yw cyfoeth lawer?
Pa elw geir mewn llawnder,
Os na fydd gwir fwynhad?

"Fwthynod anwyl Cymru,
'Does eisiau mo'ch gwyngalchu
Er mwyn eich gwneud yn wyn;"
Ond ble yr â'r bwthynod?
A yw eu dyddiau'n darfod?
Ai tewi mae eu cân?
Beth bynnag gwrdd â Chymru,
Mae'i llwyddiant hi'n dibynnu
Ar gadw'i thŷ yn lân.