Y Drws Agored/Cwsg, fy maban
| ← I fyny | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Mynd adre i wella → |
CWSG, FY MABAN.
CWSG yn dawel yn fy mreichiau,
Gariad aur dy fam;
Carwn allu dy anwylo,
Ond mae arnaf ofn dy ddeffro,
Rhag i ti gael cam.
Clywais lawer mam yn moli'i
Baban dinod hi;
Ac os ydoedd honno'n methu
Peidio caru baban felly—
Beth am danaf fi?
Cwsg, fy maban, wrth fy nghalon—
Calon lawn o fraw.
Paid a gwrando ei churiadau,
Meddwl mae am faint y croesau
I dy gwrddyd ddaw.
Methaf beidio dy gusanu;
Gwasgaf di i'm côl;
Dlysed oeddit pan yn huno,
Tlysach ganwaith wedi deffro;
Paid a chysgu'n ol.
Cadw'n effro; paid a chysgu :
Effro—bywyd yw.
Tlysni gau yw'r tlws sy'n huno:
Tlysni gwir yw'r tlws sy'n effro;
Dyna dlysni Duw.
II.
Cwsg, O wagle (ebe'r Duwdod),
Yn dy esmwyth gryd;
Carwn allu dy anwylo,
Ond mae arnaf ofn dy ddeffro;
Cwsg, fy maban mud.
Ond ryw fore fe'i cusanodd—
Cusan "bydded" Duw.
Cododd gwrid i ruddiau'r cread;
Fflachiodd bywyd yn ei lygad;
Baban effro yw.
Paid a chysgu; cadw'n effro;
Effro—bywyd yw;
Tlysni gau yw'r tlws sy'n huno:
Tlysni gwir yw'r tlws sy'n effro;
Bythol dlysni Duw.