Y Drws Agored/Dy siomi gei
Gwedd
| ← Y ddwy ddinas | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Y gweithiwr → |
DY SIOMI GEI.
PAID edrych cymaint ar i lawr;
Nid dyna'r ffordd i'r nefoedd.
I fyny'r rhiwiau serthaf gaed,
A gwlith y wawr yn golchi'th draed:
Ffordd yna mae y nefoedd.
Nid wrth ei cheisio mae ei chael;
Nid dyna'r ffordd i'r nefoedd.
Wrth geisio nef i arall un,
Gan lwyr anghofio'th nef dy hun;
Ffordd yna ceir y nefoedd.
Dos, caria'th groes i ben y bryn;
Mae'r nef ffordd hyn yn rhywle.
A phan ei goddiweddyd wnei,
'Rwy'n credu mai dy siomi gei—
Dy siomi'r ochr ore.