Y Drws Agored/Fy nghalon
Gwedd
| ← Nid digon dysg | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Y dychymyg → |
FY NGHALON.
MAE'm calon 'run fath a'r afonig—
Ceir llawnder o ddagrau'n mhob un.
Mae'm calon 'run fath a'r afonig,
Yn siarad â hi ei hun.
Mae'm calon 'run fath a'r cefnfor
A siglir gan ddwylaw cudd.
Brenhines y nos sy'n ei siglo,
Fe'i siglir gan deyrn y dydd.
Mae'm calon 'run fath a'r aderyn
Fynn hedfan i entrych y nef;
Tra'r ddaear yn tynnu, a thynnu.
Nes llaesu ei aden gref.
Mae craig ar lethr Hiraethog
Yn ateb pob llef a glyw;
Ac felly mae'm calon innau
Yn ateb lleferydd Duw.
Mae oriel yn ninas Llundain
Yn adsain pob egwan gri;
Ac felly mae'r nefoedd yn ateb
Murmuron fy nghalon i;
O, diolch i'r nefoedd am wrando
Murmuron fy nghalon i.

"Mae'm calon 'run fath a'r afonig,
Yn siarad â hi ei hun."