Y Drws Agored/Glan y môr
| ← Yr hen a'r newydd | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Rhanna dy bethau gore → |
GLAN Y MOR.
TYRD gyda mi, gyfaill, i làn y môr.
Awn yno a hi yn dyddhau;
Yn oedfa y bore
Ceir Duw ar ei ore;
Awn yno yn brydlon ein dau.
Mae acen y dwyfol ym miwsig y môr
(Nid stwr yr ystorm wy'n olygu);
Po fwynaf yr eigion
Bydd uchaf sibrydion
Y dwyfol sy'n cyfrin lefaru.
Mae'r dòn wrth ymdaflu ar dywod y làn
Yn son am ryw draethau pellenig;
A gwrando di'n astud,
Fe sonia hon hefyd
Am eurdraeth y byd anweledig.
Tyrd gyda mi, gyfaill, i làn y môr.
Mae'r awel yn chwythu o'r de;
Cawn fwyniant, cawn lonydd,
Cawn yfed llawenydd
Ac iechyd dan fendith y ne'.
Mae'r cychod yn dawnsio ar donnau y traeth,
Yn union fel plant fo'n aflonydd,
Wrth weled y llongau
Yn hwylio i'w teithiau,
A hwythau yn gaeth wrth y glennydd.

Tyrd gyda mi, gyfaill, i làn y môr,
Mae'n ferw gan nerth y rhyferthwy;
Yng nghrochlef y weilgi
Mae ochain a gweddi:
O, Dduw, y mae'r storm yn ofnadwy!
Awn eto i'r oedfa ar làn y môr;
Mae'r Duw—ddyn yn annerch y miloedd;
Mae murmur y tonnau,
Ac adsain Ei eiriau
Yn fiwsig yng nghlustiau y nefoedd.