Y Drws Agored/Gyda'r nos
Gwedd
| ← Doli a minnau | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Bwthynod gwynnion Cymru → |
GYDA'R NOS.
Ti haul, goreura fryniau'r fro;
Addurna'r nen yn dlos.
Fe haedda'r gweithiwr groeso teyrn
Pan ddychwel gyda'r nos.
A thithau hwyrol awel fwyn,
Cyhwfan ddail y coed,
I ddangos croeso teulu'r llwyn
I'r gwron gore 'rioed.
O'r diwedd dacw fe yn dod
I lawr hyd lethrau'r bryn,
A baich o ludded ar ei gefn,
Yn hen, a'i wallt yn wyn.
Mae ôl ei lafur ar ei law—
Ceir arni lawer craith;
Ond llawer mwy o ôl ei law
A welir ar ei waith.
Wrth nesu at ei gartref llwm
Mae'n canu'n llon ei lef—
"Ac er mor lleied yw fy ngrym
Mae digon ynddo Ef."
O ddrws ei fwth fe wêl yr haul
Yn machlud yn ei rôd;
Ond dwed y gwlith sydd ar y ddol
Fod bore braf yn dod.