Y Drws Agored/I fyny
Gwedd
| ← Y llwybrau ceimion | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Cwsg, fy maban → |
I FYNY.
TRA'r bore yn agor ei lygad glas,
A'r haf yn faban,
Mi ddringais lethrau gwlithog y bryn
Wrthyf fy hunan.
Gadewais y dref wrth odrau y rhiw;
Fan honno mae dynion, i fyny mae Duw.
Dring dithau i fyny, cei dâl am dy waith;
Dos i fyny.
Mae popeth yn gwella po'r uchaf yr ei
Ar i fyny.
Mae Duw yn llefaru wrth ddynion o hyd—
Y dynion sy'n dringo mynyddau y byd.

"Dos i fyny,
Mae popeth yn gwella po'r uchaf yr eir
Ar i fyny."