Y Drws Agored/I weled y brenin
Gwedd
| ← Ymhlith y dail | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
O, arwain fi → |
I WELED Y BRENIN.
MAE'r brenin i ddod—lledaenir y son—
I ddod yn ei gerbyd agored;
Yng nghanol y dorf mae genethig fach lom
Yn crynnu gan awydd ei weled.
"Hwre, dyna'r brenin!" Hi welodd y meirch,
Ond O, 'roedd y dorf mor anhydrin;
Hi geisiodd ei weled, ond methu a wnaeth,
Hi fethodd a gweled y brenin;
Er sefyll yn hir, a'r dwyreinwynt yn oer,
Hi fethodd a gweled y brenin.
Dewch gyda mi eto at wely y ferch.
Dolefa ym mhoethder y dwymyn,
"Mae'n dod," meddai, "Codwch fi, sefwch o'r ffordd,
Er mwyn i mi weled y brenin."
Tawela, f'anwylyd; llonydda yn awr;
Cest ormod o'r oerfel a'r ddrycin.
Gorffwysa am ennyd hyd doriad y wawr,
Ac yna cei weled y Brenin.