Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Lleisiau anian

Oddi ar Wicidestun
O, arwain fi Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Mae'n rhaid fy mod mewn cariad

LLEISIAU ANIAN.

MAE lleisiau fyrdd o'n hamgylch
(Gwyn fyd y sawl a'u clyw),
A chredu'r ym mai amcan
Holl gyfrin leisiau anian
Yw dysgu gwersi Duw.

Os caret ddeall ystyr
Y rhosyn wrth dy ddrws,
Y ffordd i wneuthur hynny
Yw gwrando'i genadwri,
A dysgu byw yn dlws.


Nodiadau

[golygu]