Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Mae'n rhaid fy mod mewn cariad

Oddi ar Wicidestun
Lleisiau anian Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Plant yr ysgol

MAE'N RHAID FY MOD MEWN CARIAD.
(Adroddiad).

MAE'n rhaid fy mod mewn cariad
Yn fwy na neb erioed;
'Rwy'n hoffi sain ei eiriau,
'Rwy'n caru trwst ei droed.

Pan sonir am ei enw
Gan rywun yn fy nghlyw,
Er ceisio peidio gwrido
'Rwy'n methu yn fy myw.

Pan rof fy mhen i orffwys,
Daw breuddwyd bron bob tro;
A chan nad pwy a welaf
'Rwy'n siwr o'i weled o.

'Rwy'n caru fy anwylyd,
A dyma'r rheswm pam—
'Does faban ar y ddaear
Fel cariad aur ei fam.


Nodiadau

[golygu]