Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Mair a Martha

Oddi ar Wicidestun
Afon Alwen Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Blodau'r nef

MAIR A MARTHA.

Pwy roddai groeso i Fab y Dyn?
Mair a Martha;
Pob un a'i croesawai'n ei ffordd ei hun—
Mair a Martha;
Y naill wrth Ei draed a'i llygaid yn llaith;
Y llall a'i haddolai o ganol ei gwaith.

Pwy sy'n rhoi croeso i'r Iesu o hyd?
Mair a Martha;
Pwy sydd yn hoff gan Waredwr y byd?
Mair a Martha;
Gofalwn rhag beio ar gynllun yr un;
Mae'r ddwy yn rhoi croeso i Fab y Dyn.


Nodiadau

[golygu]