Y Drws Agored/Mynd adre i wella
Gwedd
| ← Cwsg, fy maban | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Hiraethog → |
MYND ADRE I WELLA.
'ROEDD nodau angeu ar ei wedd—
Y gruddiau gwelw, gwelw.
Yr ysgwydd gul, y peswch blin,
A'r llygad gloyw, gloyw.
Dychwelyd 'roedd o'r ddinas draw
I'w gartre'n Nghymru dirion;
"Ewch yno," meddai'r meddyg mwyn,
"Chwi wellwch ar eich union;"
(Y nef faddeuo lawer gair
Ddywedir gan feddygon).
Cadd siwrne flin i Gymru'n ol;
Cadd siomiant, dyna'r gwaetha'.
Cyrhaeddodd adre, digon gwir,
Ond nid mynd adre i wella.
Mi'i gwelaf ar ei daith drachefn—
Dim siom y siwrne yma;
Drwy'r twnel du i'r goleu gwyn,
Ac wedyn—adre i wella.