Y Drws Agored/Nef y nef
Gwedd
| ← Llwybrau'r defaid | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Nid digon dysg → |
NEF Y NEF.
RHо heibio'th or—bryderon
Am nef ar ben y daith,
Mae'r nefoedd yn dy ymyl—
Y nefoedd yn ei gwaith;
Mae hon wrth law; ond cofia di
Mai "treiswyr sy'n ei chipio hi."
Rhyw ddwyfol rôdd yw'r nefoedd
(Diolchwn am y ffaith);
Ond nefoedd fach yw honno;
Mae'r nefoedd fawr mewn gwaith;
Cynhygir nefoedd fawr i ti;
Ond nid am ddim cynhygir hi.