Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Nos a bore

Oddi ar Wicidestun
Pen y bryn Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Yn nwylo'u gilydd

NOS A BORE.

RHAID iti godi'n fore
Os mynni ganu cân.
Y wawr yw'r adeg ore,
Medd cerddi'r adar mân.

Dos allan gyda'r wawrddydd;
Yr awr ryfeddaf yw;
Mae dwndwr dyn heb ddeffro,
A'r fro yn llawn o Dduw.

Yn nrych y gwlithyn gloyw
Mae'r lili'n gweld ei llun,
A chlywir si yr awel
Yn siarad wrthi'i hun.

'Rwy'n caru gwawr y bore;
Mae'n dweyd cyfrinach Duw;
Anghofia son am farw
Gan frys i son am fyw.

Os bydd y nos yn arw,
Os bydd y nos yn brudd,
Boddlonaf os caf farw
A'r bore ar fy ngrudd.


Nodiadau

[golygu]