Y Drws Agored/Plant yr ysgol
Gwedd
| ← Mae'n rhaid fy mod mewn cariad | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Yr Iesu yn y wledd → |
PLANT YR YSGOL.
'Rwy'n caru mynd yn ol,
Hyd lwybrau'r meddwl,
I fryniau bore oes,
A'u nen ddigwmwl.
'Rwyf yno'r funud hon
Yn nhrwst yr Ysgol,
A'r afon wrth y drws
Yn llifo'n raddol.
Dychmygaf weld fy hun
Ymhlith cyfoedion,
Yn poeni gyda'r wers,
A'r iawn atebion.
Os byth b'ai neb yn glaf,
Cai ado'n brydlon;
Ai adre wrth ei bwys,
Hyd lan yr afon.
Mae mebyd wedi mynd,
A'i ddyddiau dedwydd;
A ninnau gyda'r wers
Mewn ysgol newydd.
Ond collwyd aml un—
Aeth adre'n brydlon;
'Rwy'n cofio'i weld yn mynd
Hyd lan yr afon.

"Yr ysgol,
A'r afon wrth y drws
Yn llifo'n raddol."
Ac er mor egwan oedd,
Cadd nerth o rywle;
'Does neb o'r plant rhy lesg
I gyrraedd adre.