Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Rhanna dy bethau gore

Oddi ar Wicidestun
Glan y môr Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Bob tro bwy'n gwasgu'th law

RHANNA DY BETHAU GORE.

RHOI wnaeth y weddw honno
(Rhoi wna ei rhyw o hyd).
Rhoi 'run fath a'r ffynnon,
Rhoi o waelod ei chalon,
Rhoi—a chael 'run pryd;
Y ffordd i gadw trysor yw
Ei roi yn ol ar allor Duw.

Rhanna dy bethau gore,
Rhanna, a thi yn dylawd,
Rhanna dy wên a'th gariad,
Rhanna dy gydymdeimlad,
Rhanna dy nefoedd, frawd;
Rhyw nefoedd wael yw eiddo'r dyn
Fynn gadw'i nefoedd iddo'i hun.


Nodiadau

[golygu]