Neidio i'r cynnwys

Y Drws Agored/Rhoi a gwrthod

Oddi ar Wicidestun
Toriad y wawr Y Drws Agored

gan Robert Hughes Jones

Pen y bryn

RHOI A GWRTHOD

Y PLENTYN erfyniai am ffafr gan ei fam;
Erfyniai yn daer mewn anwybod;
A hithau o gariad wrthodai ei gais:
Trugaredd â'r bach oedd ei wrthod;
"Ni wiw i ti gael yr hyn geisi, yn awr,
Ond dichon y cei ar ol mynd yn fawr.'

Bum innau yn deisyf rhyw bethau cyn hyn;
A'u deisyf yn daer mewn anwybod;
A'r nefoedd o gariad yn gwrthod eu rhoi :
Rhagorach na'u rhoi oedd eu gwrthod;
"Ni wiw i ti gael yr hyn geisi, yn awr,
Ond dichon y cei ar ol mynd yn fawr."


Nodiadau

[golygu]