Y Drws Agored/Toriad y wawr
Gwedd
| ← Y darlun | Y Drws Agored gan Robert Hughes Jones |
Rhoi a gwrthod → |
TORIAD Y WAWR.
MAE gerddi y ddaear
Yn swynol dros ben;
Ond cwyd dy olygon,
Gwel erddi y nen.
Mae "llygaid y dydd "
Yn dlws ar y rhos;
Ond gwn am eu tlysach—
Llygaid y nos.
Rhagorach na'r cyfaill
Ddaw ataf liw dydd,
Yw'r cyfaill ddaw ataf
A'r wawr ar ei rudd.
'Dwy'n caru mo'r hydref,
Er llawned ei gôd;
Mae'n well gen i'r gwanwyn,
A'r gore i ddod.
Ar drothwy y wawr
Ceir disgwyliad yn llawn;
Ond trengu wna gobaith
Ar drothwy'r prynhawn.
'Rwy'n caru y nefoedd
Fel heulddydd yn fawr;
Ond caraf hi ore
Fel toriad y wawr.